BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992800w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2800 (Cy. 14)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 31 Awst 1999 
  Yn dod i rym 1 Medi 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 1(9) o Atodlen 10 iddi, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgol newydd yng Nghymru sydd, yn y flwyddyn ysgol y bydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf, i fod yn ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

mae i "ysgol a gynhelir" yr ystyr a roddir i "maintained school" gan adran 84(6) o Ddeddf 1998;

    (2) Ni fydd Rheoliadau 4, 5 a 6 yn gymwys lle bo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd a sefydlwyd fel rhan o gynigion a oedd yn cynnwys terfynu ysgol arall a gynhaliwyd gan awdurdod addysg lleol yn penderfynu y bydd y trefniadau derbyn cychwynnol yr un fath â rhai'r ysgol honno.

Cyfrifoldeb dros y trefniadau derbyn cychwynnol
     3.  - (1) Gwneir y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd a fydd yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir gan  - 

    (2) Gwneir y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd a fydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan  - 

Y weithdrefn ar gyfer penderfynu trefniadau derbyn
    
4.  - (1) Bydd yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd yn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol o leiaf chwe mis cyn dyddiad agor yr ysgol.

    (2) Cyn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol, bydd yr awdurdod derbyn o leiaf naw mis cyn dyddiad agor yr ysgol, yn ymgynghori â'r canlynol ynghylch y trefniadau arfaethedig, sef  - 

    (3) Ym mharagraff (2) "yr ardal berthnasol" fydd  - 

    (4) Dim ond os yw ei phrif fynedfa o fewn yr ardal honno y dylid edrych ar ysgol fel un sydd o fewn yr ardal berthnasol a ragnodir gan baragraff (3)(a).

    (5) O ran y trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig ar gyfer ysgol gynradd, dim ond ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion eraill yn yr ardal berthnasol sy'n ysgolion cynradd y bydd paragraff (2).

    (6) Pan fydd unrhyw ymgynghoriad o'r fath wedi'i wneud, bydd yr awdurdod derbyn  - 

    (2) yngln â'r trefniadau hynny.

    (7) Os bydd awdurdod derbyn  - 

bydd yr awdurdod yn cyfeirio'r amrywiadau arfaethedig at y Cynulliad a bydd (ym mhob achos) yn hysbysu'r cyrff y bu iddynt ymgynghori â hwy o dan is-adran (2) yngln â'r amrywiadau arfaethedig.

    (8) Bydd y Cynulliad yn pwyso a mesur a ddylai'r trefniadau gael effaith gyda'r amrywiadau hynny tan ddiwedd y flwyddyn gychwynnol; ac os bydd yn penderfynu y dylai'r trefniadau gael effaith felly neu y dylent gael effaith felly yn ddarostyngedig i unrhyw addasiad i'r amrywiadau hynny y bydd yn penderfynu arno  - 

ac eithrio na fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad wneud penderfyniad o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

    (9) Os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir, byddant  - 

Cyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad
    
5.  - (1) Lle bo  - 

caiff y corff hwnnw gyfeirio'r gwrthwynebiad at y Cynulliad.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni cheir cyfeirio gwrthwynebiad o dan baragraff (1) oni bai ei fod yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad o fewn 6 wythnos ar ôl i'r awdurdod derbyn sy'n gwrthwynebu dderbyn yr hysbysiad angenrheidiol yn rhinwedd rheoliad 4(6)(b).

    (3) Bernir bod gwrthwynebiad a dderbynnir ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2) wedi ei gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad yn fodlon nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad gael ei dderbyn ynghynt na'r adeg y cafodd ei dderbyn.

    (4) Ar ôl cael cyfeiriad o dan baragraff (1) bydd y Cynulliad yn penderfynu a ddylid cadarnhau'r gwrthwynebiad ac (os felly) i ba raddau, ond ni fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gnweud yn ofynnol i'r Cynulliad gymryd camau o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28 (1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

    (5) Os bydd y Cynulliad yn penderfynu y dylid cadarnhau i unrhyw raddau wrthwynebiad y cyfeiriwyd ato o dan y rheoliad hwn, gall ei benderfyniad ar y gwrthwynebiad bennu'r addasiadau y dylid eu gwneud i'r trefniadau derbyn o dan sylw.

    (6) Cyhoeddir penderfyniadau'r Cynulliad a'r rhesymau drostynt drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i'r cyd-wrthwynebwyr ac i bob corff arall yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy yngln â'r trefniadau derbyn cychywnnol o dan reoliad 4(2).

    (7) Bydd penderfyniad y Cynulliad yngln â'r trefniadau hynny gael ei godi ganddynt o dan baragraff (1); ac os yw'r penderfyniad hwnnw yn benderfyniad i gadarnhau'r gwrthwynebiad i unrhyw raddau, diwygir y trefniadau hynny ar unwaith gan yr awdurdod derbyn yn y fath fodd ag i roi effaith i'r penderfyniad.

Trefniadau arbennig ar gyfer cymeriad crefyddol ysgolion newydd
    
6.  - (1) Mae'r Rheoliad hwn yn darparu ar gyfer cynnwys yn y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol a fydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol iddi drefniadau yngln â derbyn disgyblion i'r ysgol er mwyn diogelu cymeriad crefyddol yr ysgol ("trefniadau arbennig").

    (2) Pan gytunir ar unrhyw drefniadau arbennig a ddymunir gan yr awdurdod derbyn dros ysgol o'r fath gan yr awdurdod addysg lleol  - 



    (3) Pan na chytunir ar unrhyw drefniadau arbennig a ddymunir gan gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd o'r fath gan yr awdurod addysg lleol  - 

    (4) Ar ôl cael cyfeiriad o'r fath, bydd y Cynulliad yn penderfynu (gan roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd ganddo o dan baragraff (3)) a gaiff yr awdurdod derbyn fabwysiadu'r trefniadau drafft, heb eu haddasu neu beidio, ond ni fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gymryd camau o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

    (5) Yn achos unrhyw trefniadau drafft a gyfeirir ato o dan y rheoliad hwn, bydd y Cynulliad yn cyhoeddi ei benderfyniad ar y cyfeiriad a'r rhesymau drosto.

    (6) Dyma'r wybodaeth y dylid ei chyhoeddi o dan baragraff (5)  - 

    (7) Bydd penderfyniad y Cynulliad ar unrhyw gyfeiriad o'r fath yngln â'r trefniadau drafft o dan sylw, yn rhwymo'r corff llywodraethu dros dro a phob person yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 4(2).

    (8) Pan fydd awdurdod derbyn, yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn (a chyhyd ag y bo'n gymwysadwy, rheoliadau 4 a 5), benderfynu y dylai'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer eu hysgol gynnwys unrhyw drefniadau arbennig, bydd y darpariaethau hynny yn gymwys ar unrhyw adeg wedi hynny  - 

Cymhwyso'r deddfiadau
    
7. Bydd darpariaethau'r Deddfau Addysg a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.

Darpariaethau trosiannol
    
8.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i ysgol newydd  - 

    (2) Pan fydd y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi wedi'u gwneud cyn 1 Medi 1999 yn unol ag adran 422 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â blwyddyn ysgol 1999/2000, bydd y trefniadau hynny yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw at ddibenion derbyn disgyblion i'r ysgol yn ystod y flwyddyn honno.

    (3) Bydd adran 422(6) o Ddeddf 1996[
9], a darpariaethau eraill Deddf 1996 y cyfeirir atynt ynddi yn parhau i gael effaith yngln ag ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol) at y dibenion canlynol  - 

    (2) o 423A(2) o Ddeddf 1996 yngln â derbyn plentyn i'r ysgol yn y flwyddyn ysgol 1999/2000 lle cyn y dyddiad hwnnw  - 

    (4) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (3)(a) at gais am dderbyn plentyn i ysgol yn cynnwys cyfeiriad  - 

    (5) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys er gwaethaf  - 


Dafydd Elis Owen
Y Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Awst 1999



ATODLEN
Rheoliad 7


(Darpariaethau Deddf 1996 a Deddf 1998 sy'n gymwys gydag addasiadau i ysgolion newydd)


     1. Bydd darpariaethau canlynol y Deddfau Addysg, sef  - 

yn gymwys yngln ag ysgol newydd, ond yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraffau 2 i 8 isod.

     2. Dehonglir cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 1 at ysgol yn un o'r categorïau canlynol, sef  - 

fel cyfeiriad at ysgol newydd a ddaw'n ysgol o'r categori hwnnw pan fydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf.

     3. Bydd i gyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at gorff llywodraethu ysgol effaith fel petai'n gyfeiriad at y corff llywodraethu dros dro neu (lle bo'r cyd-destun yn caniatáu hynny) at unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am dderbyn disgyblion o dan y trefniadau derbyn cychwynnol.

     4. Dehonglir cyfeiriad yn y darpariaethau hynny at "admission arrangements" fel cyfeiriad at "drefniadau derbyn cychwynnol" fel y'u diffinir yn rheoliad 2 uchod.

     5. Bydd i adran 92(1) a (2) o Ddeddf 1998 effaith fel petai'r geiriau "the year in which pupils are first to be admitted to a new school" wedi'u rhoi yn lle "each school year".

     6. Ni fydd adran 99 o Ddeddf 1998 yn gymwys i ysgol newydd sydd i'w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion a derfynwyd ac y mae pob un ohonynt naill ai wedi'i dynodi fel ysgol ramadeg neu y gallai fod wedi'i dynodi felly o dan adran 104 o Ddeddf 1998 ond bydd iddi effaith fel arall fel petai is-adrannau (2)(a) a (4)(a) wedi'u hepgor.

     7. Bydd i adran 101(1) effaith fel petai "the year in which pupils are first to be admitted to a new school" wedi'u rhoi yn lle'r geiriau "any year".

     8. Bydd i adran 103(3) o Ddeddf 1998 effaith fel petai'r geiriau "(whether authorised by section 100 or section101)" wedi'u hepgor.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Adran 422 o Ddeddf Addysg 1996 yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer penderfynu'r trefniadau derbyn i ysgolion newydd. Diddymir y gweithdrefnau hyn o 1af Medi ymlaen gan weithdrefnau derbyn sy'n dod i rym o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Cyn dod yn weithredol, bydd angen ar ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol newydd fod ag awdurdod derbyn a ddiffinnir gan Ddeddf 1998. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer hyn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu yngln â phenderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgolion newydd, a cheisiadau am gael derbyniad iddynt.

Mae Rheoliadau 1 a 2 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli'r Rheoliadau.

Mae Rheoliad 3 yn pennu pwy fydd yr awdurdod derbyn sy'n gyfrifol am benderfynu'r trefniadau i dderbyn disgyblion i'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol y bydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf. Os yw'r ysgol i fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir, yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu dros dro lle bo'r AALl wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb hwn iddynt fydd yr awdurdod derbyn. Lle bydd yr ysgol newydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yr awdurdod derbyn fydd y corff llywodraethu dros dro (neu'r hyrwyddwyr).

Mae Rheoliad 4 yn nodi'r weithdrefn i awdurdod derbyn ymgynghori â'r awdurdodau addysg lleol a'r awdurdodau derbyn eraill yn yr ardal berthnasol cyn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer yr ysgol newydd ac mae'n rhagnodi amserlen i'r ymgynghori hwnnw. Mae yna ddarpariaeth i amrywio'r trefniadau derbyn cychwynnol yn wyneb newid sylweddol mewn amgylchiadau ar ôl iddynt gael eu penderfynu ar yr amod bod yr amrywiad arfaethedig yn cael ei gyfeirio at y Cynulliad.

Ar ôl i'r trefniadau derbyn cychwynnol gael eu penderfynu, mae Rheoliad 5 yn darparu i'r awdurdodau derbyn eraill gyfeirio gwrthwynebiadau at y Cynulliad. Os nad yw'r cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol, y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan Ddeddf 1998, wedi'u cymeradwyo adeg cyfeirio'r gwrthwynebiad at y Cynulliad, nid yw'n ofynnol i'r Cynulliad benderfynu ar y gwrthwynebiad nes bod y cynigion wedi'u cymeradwyo.

Mae Rheoliad 6 yn gymwys os bydd gan ysgol newydd gymeriad crefyddol. Mae'n darparu ar gyfer cynnwys trefniadau arbennig, sy'n adlewyrchu darpariaethau adran 91 o Ddeddf 1998, mewn trefniadau derbyn cychwynnol i ddiogelu cymeriad ysgol.

Mae Rheoliad 7 a'r Atodlen yn caniatáu i ddarpariaethau penodol y Deddfau Addysg fod yn gymwys, gydag addasiadau, i'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion newydd at ddibenion penderfynu (i) y trefniadau derbyn cychwynnol, a (ii) y trefniadau unigol ar gyfer derbyniad i'r ysgol.

Mae Rheoliad 8 yn cynnwys darpariaethau trosiannol yngln â derbyn disgyblion i ysgolion a sefydlwyd yn unol â chynigion a gyhoeddwyd o dan Ran II o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n derbyn disgyblion yn y flwyddyn ysgol 1999/2000 am y tro cyntaf.


Notes:

[1] 1998 p.31. Gweler adran142(1) ar gyfer ystyr "rheoliadau".back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd pob un o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid, mewn perthynas â Chymru, ddehongli cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau perthnasol o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a'r Atodleni iddi fel cyfeiriad, neu gyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad. Gweler adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.back

[4] 1996 p.56.back

[5] 1999/124.back

[6] 1999/125.back

[7] 1999/362.back

[8] 1999/704.back

[9] Diwygiwyd adran 422(6) o Ddeddf 1996 gan baragraff 32 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44).back

[10] Diwygiwyd adran 324(5)(b), a mewnosodwyd adran 325(5A), gan baragraff 77 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Diwygiwyd adran 439 gan baragraff 115 o'r Atodlen honno.back

[11] Diwygiwyd paragraff 3 o Atodlen 27 gan baragraff 186 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back



English version



ISBN 0 11 090008 1


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992800w.html