BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 1999 No. 2802 (Cy.15)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992802w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2802 (Cy.15)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 26 Awst 1999
  Yn dod i rym 1af Medi 1999

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 54(1), 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 30 o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, hyd a lled a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

    (2) Dim ond i ysgolion yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Penodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion
     2.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 4 a pharagraff (2), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgol.

    (2) Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y rheoliad hwn rhaid i'r awdurdod ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol y mae'r aelod o staff prydau bwyd yr ysgol dan sylw yn gweithio ynddi i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.

Penodi etc. staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgolion lle mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am brydau bwyd ysgolion ond bod prydau bwyd yn parhau i gael eu darparu gan awdurdod addysg lleol
     >3.  - (1) Pan fydd Gorchymyn adran 512A mewn grym, ond bod corff llywodraethu ysgol y mae'r gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd y paragraffau canlynol o'r rheoliad hwn yn gymwys.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgol yr ysgol.

    (3) Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan baragraff (2) bydd yr awdurdod yn ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.

    (4) Os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu y dylai unrhyw aelod o staff prydau bwyd yr ysgol beidio â gweithio yn yr ysgol rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod o'i benderfyniad a'r rhesymau drosto ac ar hynny bydd yr awdurdod yn mynnu bod y person hwnnw yn peidio â gweithio yn yr ysgol.

Penodi etc. staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgolion lle mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am brydau bwyd yr ysgol
    
4.  - (1) Pan fydd Gorchymyn 512A mewn grym, ond nad yw corff llywodraethu ysgol y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd paragraffau 22 a 24-29 o Atodlen 16 i'r Ddeddf yn gymwys i benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion.


Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26th Awst 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cadw yn eu lle ac yn egluro'r trefniadau presennol a wnaed o dan y ddeddfwriaeth flaenorol a gaiff ei disodli gan y darpariaethau newydd hyn o 1 Medi ymlaen.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer penodi a diswyddo staff a gyflogir i weithio'n unig mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion arbennig cymunedol (ac os cyflogir y staff gan yr AALl) ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac ysgolion arbennig sefydledig. Daw darpariaethau'r Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion sy'n ymwneud â staff ysgolion i rym ar 1 Medi 1999. Pe na bai Rheoliadau sy'n ymwneud â staff prydau bwyd ysgolion yn bod, byddai'r corff llywodraethu yn gyfrifol am eu penodi, eu disgyblu, eu gwahardd dros dro, a'u diswyddo, ni waeth a fyddent yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod addysg lleol ai peidio, a byddai anghysondebau yn codi o hyn.

Dyma effaith ymarferol y Rheoliadau. Os na ddirprwyir corff llywodraethu i ddarparu cinio ysgol, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol. Os dirprwyir y corff llywodraethu ond yr yr awdurdod addysg lleol sy'n darparu'r cinio, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol ond caiff y corff llywodraethu fynnu bod unrhyw berson yn peidio â gweithio yn yr ysgol. Os bydd y corff llywodraethu yn darparu'r cinio ysgol ei hun, caiff fynnu bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi; yn gyfrifol am ddisgyblu a chaiff fynnu bod yr awdurdod yn cymryd camau disgyblu y tu hwnt i bwerau'r corff llywodraethu; a mynnu diswyddo.


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1996 p.56; mewnosodwyd adran 116 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Gwnaethpwyd dau Orchymyn o dan yr adran hon - O.S. 1999/610 ac O.S. 1996/1779.back

[4] Gweler adran 49(7) o'r Ddeddf.back



English version



ISBN 0 11 090002 2


  Prepared 21 October 1999


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992802w.html