BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992841w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2841 (Cy.21)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 5 Hydref 1999 
  Yn dod i rym 5 Hydref 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 38(1), (3), (4) a (6), 39, 78, 126(4) a 128(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob p*wcirc;er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio Rheoliadau 1997
     2.  - Ar ddiwedd rheoliad 1 o Reoliadau 1997 mewnosoder y paragraff canlynol  - 

Diwygio Rheoliadau 1986
     3.  - Ar ddiwedd rheoliad 2 o Reoliadau 1986 mewnosoder y paragraff canlynol  - 

Darpariaeth drosiannol
     4.  - (1) Lle'r oedd person, neu aelod o'i deulu, yn union cyn 5 Hydref 1999 yn cael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu, fel y bo'r achos, ni fydd y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 1999, fel y maent yn cael effaith yng Nghymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yn ei achos ef cyhyd a'i fod ef, neu aelod o'i deulu, fel y bo'r achos, yn parhau i gael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu.

    (2) Yn y rheoliad hwn, bydd "lwfans gweithio i'r anabl" a "chredyd teulu" yn parhau gyda'r ystyr a roddir i "disability working allowance" a "family credit" yn Rheoliadau 1997 neu Reoliadau 1986, fel y bo'r achos, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
13].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Hydref 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") sy'n darparu i daliadau gael eu gwneud drwy gyfrwng system dalebau ar gyfer costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â darparu, amnewid a thrwsio offer optegol. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasnaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986") sy'n darparu ar gyfer y trefniadau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr offthalmig yn darparu gwasanaethau offthalmig odanynt.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i Reoliadau 1997 a Rheoliadau 1986, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Offthalmig) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 ac sy'n gymwys i Loegr, gael effaith yng Nghymru.

Mewn perthynas â Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1986 mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o "amount withdrawn" ac yn rhoi diffiniad o "disabled person's tax credit" yn lle'r diffiniad o "disability working allowance" a hefyd yn rhoi diffiniad o "working families' tax credit" yn lle'r diffiniad o "family credit".

Mae Rheoliad 8 o Reoliadau 1997 yn diffinio'r personau sy'n gymwys i gael taliadau i dalu costau sbectol ac offer optegol arall a ddarparwyd iddynt, neu i gyfrannu at y costau hynny. Mae'r diwygiadau i'r rheoliad hwn yn cymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl.Yn yr un modd mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 13 o Reoliadau 1986 sy'n diffinio pwy sy'n gymwys i gael profion golwg rhad ac am ddim.

Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael profion golwg rhad ac am ddim neu daliadau at gostau sbectol ac offer optegol arall yn parhau tra bod credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl yn parhau i gael ei dalu.


Notes:

[1] 1997 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.53) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27. Estynwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1(4), Atodlen 1, Rhan I, paragraff 1 ac Atodlen 8, rhan I; gan O.S. 1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); ac (yngln â Lloegr) gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Disodlwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan I paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1988, adran 13(2) and (3).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38(1), (3), (4) a (6), 39, 78, 126(4) a 128(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 i Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/818; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/609.back

[4] O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1989/395, 1995/558 and 1996/2320.back

[5] O.S. 1999/2562.back

[6] O.S. 1999/2714back

[7] O.S. 1999/2714back

[8] O.S. 1999/2562.back

[9] O.S. 1999/2714back

[10] O.S. 1999/2562.back

[11] O.S. 1999/2562.back

[12] O.S. 1999/2714back

[13] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090014 6


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992841w.html