BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992862w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2862 (Cy. 22)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 26 Awst 1999 
  Yn dod i rym 1 Medi 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(1) (e) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Cymhwyso
    
2. Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r diffiniad o ffioedd sy'n daladwy i sefydliadau yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf.

Ffioedd a eithrir o'r diffiniad o ffioedd yn adran 28(1) o'r Ddeddf.
    
3. Rhagnodir unrhyw ffi o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn at ddiben adran 28(1)(e) o'r Ddeddf (sy'n darparu bod ffioedd sy'n cael eu rhagnodi wedi'u heithrio o ystyr ffioedd ym Mhennod 1 o Ran II o'r Ddeddf).



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


Dayfdd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Awst 1999



ATODLEN
Rheoliad 3


FFIOEDD A EITHRIR O'R DIFFINIAD O FFIOEDD YN ADRAN 28(1) O'R DDEDDF.


RHAN 1
DEHONGLI

     1. Yn yr Atodlen hon ystyr "darpariaeth graidd" mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau yw darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n ymwneud â chwrs a fwriedir, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr gyrraedd hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle bo mwy nag un radd neu gymhwyster yn gynwysedig mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs).



RHAN II

DISGRIFIAD O'R FFIOEDD

     2. Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu nwyddau i'r myfyriwr (p'un ai drwy werthu neu hurio) heblaw nodiadau ar ddarlithoedd unigol, crynodebau o ddarlithoedd neu ddeunyddiau tebyg  - 

ar yr amod, lle mae nwyddau'n ffurfio rhan o'r ddarpariaeth graidd i'r cwrs a'i bod yn angenrheidiol trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr mewn cysylltiad ag iechyd neu ddiogelwch y myfyriwr wrth fynychu'r cwrs, ni fydd is-baragraff (b) yn gymwys oni fydd y sefydliad hefyd yn trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr (heb i'r nwyddau ddod yn eiddo i'r myfyriwr) heb dâl.

     3. Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau i'r myfyriwr lle nad yw'r gwasanaethau yn rhan o'r ddarpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.

At ddibenion y paragraff hwn ymdrinnir â rhoi llyfrau neu ddeunyddiau eraill ar gadw mewn llyfrgell fel darpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.

     4. Unrhyw ffi sy'n ad-daliad o gost unrhyw ffi neu bris y mae'r sefydliad yn ei dalu i ryw berson arall ac eithrio pris a godir mewn perthynas â darparu nwyddau i'r sefydliad, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs, neu â chwblhau'r cwrs gan y myfyriwr.

     5. Unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu fethiant gan y myfyriwr (gan gynnwys treuliau gweinyddol sy'n deillio o'r ffaith bod y myfyriwr yn ailsefyll arholiad, asesiad o waith cwrs, neu fodiwl cwrs).

     6. Unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio ffioedd penodol o ystyr "ffioedd" ym Mhennod 1 o Ran II o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ("Deddf 1998").

Mae Adran 28 o Ddeddf 1998 yn darparu diffiniad o "ffioedd" at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf honno, sy'n eithrio categorïau penodol o ffioedd a "such other fees as may be prescribed".

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 28 o Ddeddf 1998 ac maent yn rhagnodi categorïau pellach o ffioedd a eithrir. Mae'r rhain wedi'u nodi yn yr Atodlen.

Gwaherddir sefydliadau addysg bellach rhag codi ffioedd "atodol". Mae'r gwaharddiad yn cael ei wneud o dan bwerau a roddir gan Adran 26 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998: gorfodir amod ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo osod amod ar y cyllid y mae'n ei ddyrannu i sefydliadau sy'n darparu addysg uwch.

O dan drefniadau'r Llywodraeth ar gyfer cyllido addysg bellach, mae myfyrwyr sy'n gymwys i gael cymorth yn gwneud cyfraniad personol at eu ffioedd ar sail asesiad o'u hincwm. Mae'n bosibl na fydd hyn yn fwy na œ1,025 am y flwyddyn sy'n dechrau yn hydref 1999.

Er hynny, yn y gorffennol mae prifysgolion a cholegau wedi codi tâl am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn rhan o "ddarpariaeth graidd" cwrs. Byddai'r gwaharddiad yngyn â ffioedd atodol yn atal hynny, felly mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio taliadau penodol o'r fath o'r diffiniad o ffioedd a gwmpesir gan yr amod sydd wedi'i orfodi. Diben y Rheoliadau hyn yw caniatáu i brifysgolion a cholegau barhau i godi tâl am nwyddau neu wasanaethau fel y maent wedi'i wneud yn draddodiadol. Mae'r Rheoliadau felly yn rhoi sail gyfreithiol ar gyfer parhau ag arferiad sy'n bodoli eisoes.

Mae'r Rheoliadau yn diffinio "darpariaeth graidd" i olygu darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n gysylltiedig â chwrs sydd wedi'i fwriadu, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr ennill hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle mae mwy nag un radd neu gymhwyster wedi'i gynnwys mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs).

Bydd y Rheoliadau hyn yn caniatáu codi tâl am nwyddau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd neu lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr; am wasanaethau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd; unrhyw ffi sy'n ad-daliad o unrhyw ffi neu dâl y mae'r sefydliad yn ei dalu i rywun arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs, neu â chwblhau'r cwrs; unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu ddiffyg gan y myfyriwr; unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad.


Notes:

[1] 1998 p.30.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090010 3


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992862w.html