BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 1999 Rhif 2893 (Cy.26)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992893w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2893 (Cy.26)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999

  Wedi'i wneud 31 Awst 1999 
  Yn dod i rym 1 Medi 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad.[2]

Enwi
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999.

Diwrnod Penodedig
    
2. Pennir drwy hyn 1 Medi 1999 fel y dyddiad y daw "Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru"[3] a gyhoeddir yn unol ag adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar 20 Awst 1999 i rym.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Awst 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi Cod Ymarfer yn cynnwys y canllawiau ymarferol y mae'n credu eu bod yn briodol, o ran cyflawni swyddogaeth dderbyn gan awdurdodau addysg yn ôl lleoliad gan awdurdodau addysg, cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a phaneli apelau derbyniadau.

Mae Adran 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cod Ymarfer ar Apelau Derbyniadau ddod i rym drwy Orchymyn.

Mae'r Cod Ymarfer yn gymwys yn bennaf i apelau derbyniadau ar gyfer y nifer a dderbynnir i ysgolion cynradd ac uwchradd o 2000/2001 ymlaen ac mae'n ymdrin â dau gategori ar wahân o apelau derbyn:

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Medi 1999 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Apelau Derbyniadau i rym. Mae Cod sy'n cynnwys canllawiau i awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ar eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag apelau derbyniadau eisoes wedi'i gyhoeddi ar 20 Awst 1999.

Gellir cael copïau o'r ddau God o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Mae modd eu gweld hefyd ar y Rhyngrwyd yn www.cymru.gov.uk.


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] rosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 85(5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] ISBN 0750423528. Dim ond yng Nghymru y mae'r Cod yn gymwys.back

[4] 1998 p.38.back



ISBN 0 11 090009 X


English version



  Prepared 9 November 1999


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992893w.html