BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn)(Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993084w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3084 (Cy.35)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn)(Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 16 Tachwedd 1999 
  Yn dod i rym 17 Tachwedd 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 79 (2) a (3) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1], a freiniwyd ynddo bellach[2], a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:

Enwi, cychwyn a hyd a lled
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 17 Tachwedd 1999.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dros Gymru'n unig.

Estyn cymorth trwsio cartref
    
2. Estynnir argaeledd cymorth trwsio cartref drwy drin lwfans ceisio gwaith ar sail incwm[3] fel un o'r budd-daliadau a restrir yn is-adran (1)(e) o adran 77 (bod â hawl i gymorth trwsio cartref) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998


Dafydd Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol

16 Tachwedd 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, caiff awdurdod tai lleol gynnig cymorth trwsio cartref ar ffurf naill ai grant neu ddeunydd ar gyfer gwneud gwaith trwsio, gwella neu addasu annedd.

Er mwyn bod â hawl i gymorth trwsio cartref rhaid i awdurdod tai lleol gael ei fodloni fod yr amodau a nodir yn adran 77(1) o'r Ddeddf yn gymwys. Mae'r rhain yn cynnwys yr amod bod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn cael budd-dâl a restrir yn is-adran (1) (e).

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i lwfans ceisio gwaith ar sail incwm gael ei drin fel budd-dâl o fewn yr is-adran honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dros Gymru'n unig.


Notes:

[1] 1996 p.53.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Gweler adran 1(4) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 (p.18).back



English version



ISBN 0 11 090015 4


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993084w.html