BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001015w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1015 (Cy. 57)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 17 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adrannau 20(2) a 23(1), (3) a (5) o Ddeddf Iechyd 1999[2] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[3] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau)(Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "adolygiad gwasanaeth gwladol" ("national service review") yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(d) o'r Ddeddf;

    ystyr "adolygiad lleol" ("local review") yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(b) o'r Ddeddf neu reoliad 2(c) neu (d) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;

    ystyr "ymchwiliad"("investigation") yw ymchwiliad gan y Comisiwn yn unol ag adran 20(1)(c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(3) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;

    ystyr "Awdurdod Iechyd perthnasol" ("relevant Health Authority") yw'r Awdurdod Iechyd y mae darparydd gwasanaethau yn darparu gwasanaethau yn ei ardal;

    ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw'r cyfnod o 12 mis yn gorffen ar 31 Mawrth;

    ystyr "y Comisiwn Archwilio" ("the Audit Commission") yw'r Comisiwn Archwilio dros Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr;

    ystyr "y Comisiwn" ("the Commission") yw'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlwyd gan adran 19 o'r Ddeddf;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "darparydd gwasanaethau" ("service provider") yw person, heblaw corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd  - 

    ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

    ystyr "Deddf 1997" ("the 1997 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd (Gofal Sylfaenol) 1997[5];

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd 1999;

    mae i "gwasanaethau meddygol personol" ("personal medical services") yr ystyr a roddir i "personal medical services" yn adran 1(8) o Ddeddf 1977;

    ystyr "gwasanaethau Rhan II"("Part II services") yw gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol o dan Ran II o Ddeddf 1977;

    ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("health care professional") yw person sydd wedi'i gofrestru fel aelod o broffesiwn gofal iechyd;

    ystyr "proffesiwn gofal iechyd"("health care profession") yw proffesiwn y mae adran 60(2) o'r Ddeddf yn gymwys iddo;

    ystyr "y Rheoliadau Swyddogaethau" ("the Functions Regulations") yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) 2000[6];

    ystyr "trefniadau llywodraethu clinigol" ("clinical governance arrangements") yw trefniadau gan gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparydd gwasanaethau ar gyfer monitro a gwella ansawdd y gofal iechyd[7] y mae ganddynt gyfrifoldeb drosto;

    ystyr "ymchwiliad gwasanaeth iechyd" ("health service inquiry") yw ymchwiliad a gynhelir neu a sefydlir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i unrhyw fater yngln â rheoli, darparu, ac ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparwyr gwasanaethau yn gyfrifol amdanynt;

    (3) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.



RHAN II

RHAGLEN WAITH FLYNYDDOL

Rhaglen waith flynyddol
     2.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) , rhaid i'r Comisiwn, cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, baratoi rhaglen waith yn nodi'r gweithgareddau y mae'r Comisiwn i ymgymryd â hwy yn y flwyddyn honno wrth arfer ei swyddogaethau.

    (2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi 1 Ebrill 2000 rhaid i'r Comisiwn baratoi rhaglen waith mewn perthynas â gweddill y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw a dehonglir cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at "blwyddyn" a "rhaglen waith" yn unol â hynny.

    (3) Rhaid i bob rhaglen waith, mewn perthynas a'r flwyddyn honno, nodi  - 

    (a) unrhyw faterion penodol y mae'r Comisiwn i ddarparu cyngor neu wybodaeth ar drefniadau llywodraethu clinigol yngln â hwy;

    (b) cynigion o ran y cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae'r Comisiwn i gynnal adolygiadau lleol yngln â hwy;

    (c) unrhyw faterion penodol y mae'r Comisiwn i'w hystyried neu i'w cymryd i ystyriaeth wrth gynnal adolygiad lleol neu adolygiad gwasanaeth gwladol; ac

    (ch) y mathau penodol o ofal iechyd sydd i fod yn destun unrhyw adolygiadau gwasanaeth gwladol ac adroddiadau o dan adran 20(1)(d) o'r Ddeddf.

    (4) Bydd y rhaglen waith yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) Gellir amrywio'r rhaglen waith  - 

    (a) gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol; neu

    (b) fel y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu.

    (6) Yn ddarostyngedig i'r rheoliadau canlynol ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau mewn unrhyw flwyddyn ariannol benodol yn unol â'r rhaglen waith yngln â'r flwyddyn honno.



RHAN III

CYNGOR NEU WYBODAETH AM DREFNIADAU LLYWODRAETHU CLINIGOL

Personau y gellir rhoi cyngor neu wybodaeth iddynt
    
3.  - (1) Bydd y Comisiwn yn darparu cyngor neu wybodaeth am drefniadau llywodraethu clinigol i  - 

    (a) y Cynulliad Cenedlaethol;

    (b) cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; a

    (c) darparwyr gwasanaethau.

    (2) Rhaid i'r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu cyngor neu wybodaeth am agweddau penodol ar drefniadau llywodraethu clinigol  - 

    (a) i'r Cynulliad Cenedlaethol;

    (b) i gyrff penodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; ac

    (c) i ddarparwyr gwasanaethau penodol.

    (3) Caiff y Comisiwn ddarparu cyngor neu wybodaeth am drefniadau llywodraethu clinigol i unrhyw berson arall neu gorff arall sy'n gwneud cais am gyngor neu wybodaeth o'r fath.

Arfer swyddogaeth darparu cyngor neu wybodaeth am drefniadau llywodraethu clinigol
    
4. Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20(1)(a) o'r Ddeddf a rheoliad 2(a) a (b) o'r Rheoliadau Swyddogaethau rhaid i'r Comisiwn gymryd i ystyriaeth  - 



RHAN IV

ADOLYGIADAU LLEOL

Effeithiolrwydd a digonolrwydd y trefniadau
    
5. Wrth gynnal adolygiad lleol rhaid i'r Comisiwn asesu effeithiolrwydd trefniadau'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw ac ystyried a yw'r trefniadau hynny'n ddigonol.

Adroddiadau ar adolygiadau lleol
    
6.  - (1) Ar ôl i adolygiad lleol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn nodi  - 

    (a) canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn; a

    (b) unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.

    (2) Rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad o'r fath.

Adroddiadau o ddiddordeb arbennig
    
7.  - (1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad lleol y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, dod ag ef i sylw  - 

    (2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)  - 

    (3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) at y canlynol  - 

    (4) Yn ychwanegol at anfon copïau o'r adroddiad at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o'r adroddiad.

Camau pellach yn dilyn adolygiad lleol
    
8.  - (1) Pan ddaw adolygiad lleol i ben, rhaid i'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.

    (2) Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Cyn penderfynu a gymeradwyir datganiad a baratoir o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.



RHAN V

ADOLYGIADAU GWASANAETH GWLADOL

Adroddiadau ar adolygiadau gwasanaeth gwladol
    
9.  - (1) Pan ddaw adolygiad gwasanaeth gwladol i ben rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn.

    (1) Rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad o'r fath.



RHAN V

YMCHWILIADAU

Ymchwiliadau
    
10.  - (1) Rhaid i'r Comisiwn gynnal ymchwiliad pan wneir cais iddo wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Caiff y Comisiwn gynnal ymchwiliad  - 

    (a) pan gaiff y Comisiwn gais i ymchwilio gan unrhyw berson neu gorff; neu

    (b) pan yw fel arall yn ymddangos i'r Comisiwn ei bod yn briodol gwneud hynny.

    (3) Pan yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid iddo ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o dan adran 20(1) (c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau a gaiff eu pennu yn y cais.

    (4) Pan yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad mewn unrhyw achos arall, caiff ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o dan adran 20(1)(c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau fel y gwêl yn dda.

Hysbysiad o'r ymchwiliad
    
11. Pan yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r Comisiwn roi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i gynnal ymchwiliad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad hwnnw ddechrau  - 

Cynnal ymchwiliad i gorff sy'n destun adolygiad lleol
    
12.  - (1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad lleol y mae'n credu y dylai yn briodol fod yn destun ymchwiliad, caiff y Comisiwn ddechrau ymchwiliad i'r mater hwnnw.

    (2) Os bydd y Comisiwn yn penderfynu dechrau ymchwiliad rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig, lle mae hynny'n rhesymol ymarferol, o'i benderfyniad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad ddechrau  - 

    (3) Pan yw'r Comisiwn yn dechrau ymchwiliad o'r fath, caiff y Comisiwn atal neu barhau â'r adolygiad lleol ac, os yw'r adolygiad lleol wedi'i atal, ailddechrau'r adolygiad ar unrhyw adeg.

Adroddiadau ar ymchwiliadau
    
13.  - (1) Ar ôl i ymchwiliad y gwnaed cais amdano gan y Cynulliad Cenedlaethol ddod i ben rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ac anfon copi o'r adroddiad  - 

    (2) Ar ôl ymchwiliad y gwnaed cais amdano gan unrhyw berson neu gorff arall ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r person neu'r corff hwnnw ac anfon copi o'r adroddiad  - 

    (3) Ar ôl i ymchwiliad ddod i ben mewn unrhyw achos arall, rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r person neu'r corff a fu'n destun yr ymchwiliad ac yn anfon copi o'r adroddiad  - 

    (4) Rhaid i adroddiad a wneir o dan baragraffau (1), (2) neu (3) nodi  - 

    (5) Rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynododeb o unrhyw adroddiad o'r fath.

Adroddiadau o ddiddordeb arbennig
    
14.  - (1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs ymchwiliad y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, dod ag ef i sylw  - 

caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad a wneir ar ddiwedd yr ymchwiliad.

    (2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)

    (3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) at y canlynol - 

    (4) Yn ychwanegol at anfon copïau o'r adroddiad at y personau y cyfeirir atynt ym mhagraff (3), rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o'r adroddiad.

Camau pellach yn dilyn ymchwiliad
    
15.  - (1) Pan ddaw ymchwiliad i ben, rhaid i unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.

    (2) Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Cyn penderfynu a gymeradwyir datganiad a baratoir o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.



RHAN VII

HAWLIAU MYNEDIAD A CHAEL GAFAEL AR WYBODAETH

Hawliau mynediad
    
16.  - (1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff personau a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y Comisiwn ar unrhyw adeg resymol fynd ac archwilio tir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol[8] er mwyn cynnal adolygiadau lleol, adolygiadau gwasanaeth gwladol neu ymchwiliadau.

    (2) Rhaid rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i bob person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) o awdurdod y person hwnnw ac wrth wneud cais i gael mynediad i dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol at y dibenion a bennir ym mharagraff (1), rhaid iddynt ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddynt gan feddiannydd y tir a'r adeiladau neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y meddiannydd.

    (3) Rhaid i berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) beidio â hawlio mynediad i dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel hawl oni fydd y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n berchen ar y tir a'r adeiladau neu'n eu rheoli wedi cael hysbysiad rhesymol o'r mynediad a fwriedir.

    (4) Ni chaiff neb a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) fynd i unrhyw dir neu adeiladau neu ran o dir ac adeiladau a ddefnyddir fel llety preswyl ar gyfer personau a gyflogir gan unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, heb yn gyntaf gael cydsyniad y swyddogion sy'n preswylio yn y llety hwnnw.

    (5) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff person a awdurdodwyd gan y Comisiwn o dan baragraff (1) sy'n mynd i dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan y rheoliad hwn archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfennau  - 

    (a) y mae'n ymddangos i'r person a awdurdodwyd eu bod yn angenrheidiol at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad o dan sylw; a

    (b) sy'n cael eu cadw ar y tir neu yn yr adeiladau gan  - 

      (i) y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n berchen ar y tir neu'r adeiladau neu sy'n eu rheoli;

      (ii) cadeirydd, aelod, cyfarwyddydd neu gyflogai'r corff hwnnw;

      (iii) unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y corff hwnnw; neu

      (iv) aelod o bwyllgor neu is - bwyllgor o'r corff hwnnw.

Cael gafael ar wybodaeth ac esboniadau
     17.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad lleol neu ymchwiliad gall y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo ddangos unrhyw ddogfennau neu wybodaeth y mae'n ymddangos i'r Comisiwn, neu i'r person a awdurdodwyd, eu bod yn angenrheidiol at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad o dan sylw.

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad lleol neu ymchwiliad, gall y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn, os yw'r Comisiwn neu'r person hwnnw yn credu ei bod yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo roi i'r Comisiwn, neu fel y bo'r digwydd, y person a awdurdodwyd, esboniad am y canlynol  - 

    (3) Caiff y Comisiwn, os yw'n credu ei bod yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae'n ofynnol iddo  - 

fod yn bresennol gerbron y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) yn bersonol i ddangos y dogfennau neu'r wybodaeth neu i roi'r esboniad.

    (4) Ni chaiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn bersonol yn unol â pharagraff (3) oni roddwyd hysbysiad rhesymol o'r dyddiad y bwriedir iddo fod yn bresennol i'r person hwnnw.

    (5) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2)  - 

Gwybodaeth a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur neu mewn unrhyw ffurf electronig arall
    
18.  - (1) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 16 a 17, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur neu mewn unrhyw ffurf electronig arall.

    (2) Pan yw'r Comisiwn neu berson a awdurdodwyd o dan reoliad 16(1) yn arfer  - 

a bod y dogfennau hynny yn cynnwys gwybodaeth a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur neu mewn unrhyw ffurf electronig arall, gall y Comisiwn neu'r person a awdurdodwyd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal, neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithredu'r cyfrifiadur neu'r ddyfais electronig arall sy'n cadw'r wybodaeth honno drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael, neu ddangos yr wybodaeth mewn ffurf weladwy a darllenadwy.

Cyfyngiadau ar ddadlennu gwybodaeth i'r Comisiwn
    
19.  - (1) Rhaid i'r Comisiwn neu'r person a awdurdodwyd o dan reoliad 16(1) beidio ag archwilio na chymryd copïau o ddogfennau o dan reoliad 16(5) i'r graddau  - 

    (a) y mae'r dogfennau hynny yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol[9] sy'n berthnasol i unigolyn byw ac yn dynodi pwy ydyw, oni bai bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu

    (b) bod archwilio neu gopïo'r dogfennau hynny yn golygu datgelu gwybodaeth os gwaharddwyd y datgelu hwnnw gan unrhyw ddeddfiad neu o dan unrhyw ddeddfiad, onid yw paragraff (4) yn gymwys.

    (2) Ni fydd yn ofynnol i berson ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan reoliad 17(1) na rhoi esboniad o dan reoliad 17(2) i'r graddau y mae dangos y dogfennau hynny neu'r wybodaeth honno neu roi'r esboniad hwnnw yn datgelu gwybodaeth  - 

    (a) sy'n gyfrinachol ac sy'n berthnasol i unigolyn byw ac yn dynodi pwy ydyw, oni bai bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu

         (b) y gwaharddwyd y datgelu gan unrhyw ddeddfiad neu o dan unrhyw ddeddfiad, onid yw paragraff (4) yn gymwys.

    (3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a)  - 

    (a) y datgelir yr wybodaeth mewn ffurf lle na ellir adnabod yr unigolyn drwyddi;

    (b) bod yr unigolyn yn cydsynio i ddatgelu'r wybodaeth;

    (c) na ellir olrhain yr unigolyn er cymryd pob cam rhesymol;

    (ch) mewn achos lle mae'r Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 20(1)(c) o'r Ddeddf  - 

      (i) nad yw'n ymarferol i ddatgelu'r wybodaeth mewn ffurf na ellir adnabod yr unigolyn drwyddi;

      (ii) bod y Comisiwn o'r farn bod risg difrifol i iechyd neu ddiogelwch cleifion yn codi o'r materion sy'n destun yr ymchwiliad;a

      (iii) gan ystyried y risg honno a'r brys wrth arfer y swyddogaethau hynny, bod y Comisiwn o'r farn y dylid datgelu'r wybodaeth heb gydsyniad yr unigolyn.

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys  - 

    (a) pan yw'r gwaharddiad ar ddatgelu gwybodaeth yn gweithredu o achos y ffaith bod yr wybodaeth yn gallu dynodi pwy yw unigolyn; a

    (b) pan yw'r wybodaeth o dan sylw mewn ffurf na ellir adnabod yr unigolyn drwyddi.

    (5) Mewn achos lle gwaherddir datgelu'r wybodaeth  - 

    (a) gan baragraff (1); neu

    (b) gan baragraff (2) a bod y gwaharddiad yn gweithredu o achos y ffaith bod yr wybodaeth yn gallu dynodi pwy yw unigolyn,

gall y Comisiwn neu berson a awdurdodwyd gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n cadw'r wybodaeth roi'r wybodaeth mewn ffurf na ellir adnabod pwy yw'r unigolyn o dan sylw drwyddi, er mwyn i'r wybodaeth gael ei datgelu.



RHAN VIII

AMRYWIOL

Cynorthwyo'r Comisiwn Archwilio
     20. Rhaid i'r Comisiwn beidio â chynorthwyo'r Comisiwn Archwilio o dan adran 21(2) o'r Ddeddf heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

Arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ymholiadau gwasanaeth iechyd
    
21.  - (1) Rhaid i'r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaeth o dan reoliad 2(f) o'r Rheoliadau Swyddogaethau mewn perthynas ag ymchwiliad gwasanaeth iechyd penodol neu ymchwiliad gwasanaeth iechyd arfaethedig heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 2(f) o'r Rheoliadau Swyddogaethau rhaid i'r Comisiwn gymryd i ystyriaeth unrhyw gyngor neu ganllawiau yngln ag ymchwiliadau gwasanaeth iechyd a roddir i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan y Cynulliad Cenedlaethol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10].


30 Mawrth 2000


D. Elis Thomas
Llywydd y CynulliadCenedlaethol


EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth yngln ag arfer yng Nghymru swyddogaethau'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlir o dan adran 19 o Ddeddf Iechyd 1999.

Rhoddir ei swyddogaethau craidd i'r Comisiwn gan adran 20 o Ddeddf Iechyd 1999 sy'n darparu bod y Comisiwn  - 

  • yn darparu cyngor a gwybodaeth am drefniadau ar gyfer monitro a gwella'r gofal iechyd a ddarperir gan Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol (lle sefydlir hwy), gan gynnwys trefniadau llywodraethu clinigol;

    • yn cynnal adolygiadau ar weithrediad a digonolrwydd y trefniadau hynny;

    • yn ymchwilio, cynghori ac adrodd ar faterion penodol yngln a chyflwyno a rheoli'r gofal iechyd a ddarperir gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

    • yn cynnal adolygiadau cenedlaethol ar fathau penodol o ofal iechyd a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

    Mae Adran 20(1)(e) o Ddeddf Iechyd 1999 yn darparu i swyddogaethau ychwanegol gael eu rhoi drwy gyfrwng rheoliadau. Mae'r per i wneud rheoliadau o'r fath yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac mae wedi'i arfer drwy ychwanegu'r swyddogaethau ychwanegol canlynol fel y'u nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) 2000 sy'n darllen fel a ganlyn  - 

    Ceir croesgyfeiriadau at reoliad 2 yn Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2000.

    Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer paratoi rhaglen waith flynyddol y Comisiwn (rheoliad 2), i'r Comisiwn ddarparu cyngor neu wybodaeth yngln a threfniadau llywodraethu clinigol i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyrff y gwasanaeth iechyd ac eraill (rheoliadau 3 a 4), cynnal adolygiadau lleol ar y trefniadau hynny, a'r adroddiadau a'r camau sydd i'w cymryd yn sgil yr adolygiadau hynny (rheoliadau 5 i 8), adroddiadau yn dilyn adolygiadau gwasanaeth cenedlaethol o fathau penodol o ofal iechyd (rheoliad 9) a chynnal ymchwiliadau i reolaeth, darpariaeth neu ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyfrifol amdanynt a'r adroddiadau yngln â'r ymchwiliadau hynny (rheoliadau 10 i 15).

    Mae Rheoliadau 16 i 19 yn gwneud darpariaeth i'r Comisiwn a phersonau a awdurdodir ganddo fynd ar dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gael gafael ar ddogfennau, gwybodaeth ac esboniadau.

    Mae Rheoliad 20 yn atal y Comisiwn rhag rhoi cymorth i'r Comisiwn Archwilio wrth arfer rhai o'i swyddogaethau, heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth yngln a rôl y Comisiwn wrth roi cymorth mewn perthynas ag ymchwiliadau'r gwasanaeth iechyd.


    Notes:

    [1] 1977 p.49; amnewidiwyd adran 17 gan adran 12 o Ddeddf 1999; mae adran 126(4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw b er i wneud gorchmynion neu reoliadau a roddir gan Ddeddf 1999 (gweler adran 62(4) o Ddeddf 1999) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).back

    [2] 1999 p.8; gweler adrannau 20(7) a 23(6) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed".back

    [3] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

    [4] Gweler adran 1 o Ddeddf 1997 ar gyfer diffiniad o "pilot scheme".back

    [5] 1997 p.46.back

    [6] O.S. 2000/662back

    [7] Gweler adrannau 18(3) a 20(7) o Ddeddf 1999 ar gyfer y diffiniad o "health care".back

    [8] Gweler adran 23(6) o Ddeddf 1999 ar gyfer y diffiniad o "National Health Service" premises.back

    [9] Gweler adran 23(6) o Ddeddf 1999 ar gyfer y diffiniad o "confidential information".back

    [10] 1998 p.38.back

    [11] Gweler adran 18(3) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999").back

    English version

  • BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001015w.html