BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001029w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1029 (Cy. 64)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 22 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(5) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Eithrio rhag y dyletswyddau yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999
    
2. Ni fydd cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999 yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a osodir gan adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 mewn perthynas ag unrhyw un o'u swyddogaethau.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaol yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer (gwerth gorau), i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Mae adrannau 2(5) a 29(1) o'r Ddeddf yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i eithrio awdurdodau penodedig, neu ddisgrifiadau penodedig o awdurdod, rhag y dyletswyddau hynny yngln â swyddogaethau penodedig.

Mae'r Gorchymyn hwn yn eithrio cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999.


Notes:

[1] 1999 p.19.back

[2] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001029w.html