BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001030w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1030 (Cy. 65)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 22 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p er a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1] a hynny ar ôl yr ymgynghori y mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gofyn amdano.

Enwi, Cychwyn a Chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "awdurdod gwerth gorau" ("best value authority") yw'r canlynol:

    - mewn perthynas â rhannau 1 a 2 o'r Tabl yn Erthygl 3 - cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, y cynghorau hynny yn gweithredu fel awdurdodau gwaredu gwastraff

    - mewn perthynas â rhan 3 o'r Tabl hwnnw - cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol

    - mewn perthynas â rhan 4 o'r Tabl hwnnw awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.

Dangosyddion Perfformiad
    
3. Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.



TABL

Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt



Rhan 1

Pob swyddogaeth
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 1



Rhan 2

Addysg
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 2

Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 3

Tai
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 4

Gwasanaethau'r Amgylchedd
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 5

Trafnidiaeth
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 6

Gwasanaethau Diwylliannol a Gwasanaethau Cysylltiedig
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 8



Rhan 3

Cynllunio Gwlad a Thref
Pob dangosydd yng ngholofn 1 o Atodlen 7



Rhan 4

Pob swyddogaeth
Y dangosyddion â'r rhifau: BVP1W1, BVP12, BVP15a, BVP15b, BVP18, BVP112, BVP113, BVP114, BVP115, BVP116 a BVP117 yng ngholofn 1 o Atodlen 1



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mawrth 2000



ATODLEN 1
Erthygl 3


DANGOSYDDION PERFFORMIAD CYFFREDINOL


Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd
BVPI 1 Cadarnhad awdurdod gwerth gorau fod "Cynllun Agenda Leol 21" wedi'i fabwysiadu (fel y'i nodir yn yr adroddiad sy'n dwyn y teitl "Sustainable local communities for the 21st Century"[3] erbyn 31 Rhagfyr 2000. Mae "Cynllun Agenda Leol 21" yn ddogfen a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol gyda chyfranogiad y gymuned leol a chan gynnwys y canlynol  - 

    
  • Datganiad o weledigaeth yn nodi materion ar gynaliadwyedd a nodau ar gyfer yr ardal a dangosyddion ar gyfer ansawdd bywyd a chyflwr yr amgylchedd;

  • Cynllun o gamau sydd wedi'u rhoi yn nhrefn blaenoriaeth ac a neilltuwyd i unigolion neu gyrff a enwyd.

  • Mecanweithiau gweithredu gan gynnwys gwerthuso ac adolygu.

  • BVPIW 1 Lefel cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod a gymeradwywyd yn ôl yr adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Lefel gyffredinol cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod a gymeradwywyd fel y'i cadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg:

    Cyflwyno gwasanaethau: da iawn; da; gweddol; gwael

    Rheoli'r cynllun: da iawn; da; gweddol; gwael gellir ychwanegu 'ac/ond yn gwella' neu 'ac/ond yn gwaethygu' at lefel y perfformiad lle bo'n gymwys.

    BVPI 2 Lefel safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. Diffinnir lefelau'r safon ar gyfer llywodraeth leol yn y bennod sy'n dwyn y teitl "Measurements" yn nogfen y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol sy'n dwyn y teitl "Auditing for Equality" ac yn y ddogfen a elwir "Racial Equality means Quality". Dylai awdurdodau gwerth gorau gyflwyno adroddiad fel a ganlyn ar y lefel y maent wedi'i chyrraedd :-

        
  • Lefel 1: Mae'r awdurdod wedi ysgrifennu datganiad polisi ar hiliaeth.

  • Lefel 2: Mae gan yr awdurdod gynllun gweithredu ar gyfer monitro a llwyddo yn ei bolisi cydraddoldeb hiliol.

  • Lefel 3: Canlyniadau monitro ethnig yn erbyn y polisi cydraddoldeb a lefel ymgynghori â chymunedau lleol a ddefnyddir i adolygu polisi cyffredinol yr awdurdod.

  • Lefel 4: Gall gweithlu'r awdurdod ddangos gwelliannau clir yn ei wasanaethau yn sgil monitro, ymgynghori â chymunedau lleol, a gweithredu yn ôl ei bolisïau cyfleoedd cyfartal.

  • Lefel 5: Mae'r cyngor yn enghraifft o ymarfer gorau yn y ffordd y mae'n monitro ac yn darparu gwasanaethau i leiafrifoedd ethnig, ac yn helpu awdurdodau/gweithluoedd eraill i gyrraedd safonau uchel. Rhaid cael cadarnhad bod yr awdurdod wedi cyrraedd y lefel hon gan y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol.

    Er mwyn cyflwyno adroddiad ar y lefelau hyn, rhaid bod awdurdod wedi mabwysiadu safon Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol. Os nad yw'r awdurdod wedi mabwysiadu'r safon hon, dylai adrodd fel a ganlyn: "Nid yw'r awdurdod hwn wedi mabwysiadu safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol".

  • BVPI 3 Canran y dinasyddion sy'n fodlon ar y gwasanaeth yn gyffredinol a ddarparwyd gan yr awdurdod. Cynnal arolwg o foddhad y defnyddwyr.
    BVPI 4 Y ganran o'r rhai sy'n cwyno sy'n fodlon ar y ffordd yr ymdrinniwyd â'r cwynion hynny. Mae'r dangosydd hwn yn cyfeirio at gwynion i'r awdurdod yngl n â'r ffordd y mae'n cyflwyno unrhyw ran o'i wasanaeth.

    Cynnal arolwg o foddhad y defnyddwyr.

    BVPI 5a Nifer y cwynion i Ombudsman a ddosberthir fel -

      a) Camweinyddu.

    Nifer yr achosion a gofnodwyd ac yr adroddwyd arnynt i'r awdurdodau gan y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac a ddosberthir fel "camweinyddu'n achosi anghyfiawnder" neu "camweinyddu".
    BVPI 5b Nifer y cwynion i Ombudsman a ddoberthir fel -

      b) Setliad Lleol.

    Nifer yr achosion a gofnodwyd ac yr adroddwyd arnynt i'r awdurdodau gan y Comisiwn dros Weinyddiaeth Leol yng Nghymru ac a ddosberthir fel "cwyn a setlwyd yn lleol".
    BVPI 6 Nifer canrannol y rhai a bledleisiodd mewn etholiadau lleol. Diffinnir "nifer y rhai a bleidleisiodd" fel y gyfran ar y gofrestr etholwyr sy'n pledleisio mewn unrhyw etholiad yn y flwyddyn ac eithrio is-etholiadau unigol. Pan nad oes etholiad yn y flwyddyn honno, dylai'r awdurdodau adrodd nifer y rhai a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddaraf un.
    BVPI 7 Canran y ffurflenni cofrestru etholiadol a ddychwelwyd. Ceir y ganran hon drwy rannu'r nifer ar y ffurflenni cofrestru etholiadol "A" a ddychwelwyd ar ddiwedd y canfasio diweddaraf gan y nifer a anfonwyd yn y canfasio hwnnw a lluosi'r canlyniad â 100.

    Y ffurflen y cyfeirir ati yn Rheoliad 29(2) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 1986 ac a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny yw'r ffurflen gofrestru etholiadol "A".

    BVPI 8 Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn yr anfonebau gan yr awdurdod. Er mwyn cael y ganran hon bydd angen i'r awdurdod gwerth gorau rannu nifer yr holl anfonebau am nwyddau a gwasanaethau masnachol a dalwyd i gontractwyr a chyflenwyr allanol o fewn 30 diwrnod o'u derbyn yn ystod y flwyddyn ariannol, â chyfanswm yr holl anfonebau a dalwyd gan yr awdurdod yn y flwyddyn honno.

    Caiff yr awdurdodau ddiystyru anfonebau a anfonwyd i ysgolion ac a dalwyd o gyllidebau a ddirprwywyd i ysgolion.

    Yn y dangosydd hwn, ac at ddibenion canfod a yw'r awdurdod wedi talu'r anfoneb o fewn y cyfnod o 30 diwrnod, bydd y cyfnod yn dechrau ar yr adeg y cafwyd yr anfoneb gan yr awdurdod (nid adran dalu'r awdurdod). Yna, bydd yr awdurdod yn talu'r anfoneb honno o fewn 30 diwrnod naturiol. Mae talu'n cynnwys -

        
  • Anfon siec neu offeryn talu arall;

  • Hysbysu'r banc ar gyfer taliadau trwy gyfrwng Gwasanaeth Clirio Awtomatig y Bancwyr; neu

  • Prosesu'r taliad gan y banc os yw'r awdurdod yn pennu cyfnod y mae'r banc i wneud y taliadau ar ei ôl cyn gynted ag y mae'n cael tâp Gwasanaeth Clirio Awtomatig y Bancwyr.

    Os ceir anfoneb cyn i'r gwasanaethau gael eu darparu neu i'r nwyddau ddod i law, mae'r 30 diwrnod neu'r cyfnod y cytunir arno yn dechrau pan geir y nwyddau'n foddhaol neu pan gwblheir y gwasanaethau'n foddhaol. Pan nad yw'r awdurdod yn cofnodi'r dyddiad y mae'n cael yr anfoneb, dylai ychwanegu dau ddiwrnod at ddyddiad yr anfoneb oni bai ei fod wedi samplu anfonebau yn ystod y flwyddyn honno er mwyn cael cyfnod mwy cywir i'w ychwanegu at y dyddiad.

    Os defnyddir samplu, dylai'r sampl fod yn nodweddiadol yn fras o'r holl anfonebau a geir gan adrannau gwahanol ac ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, a dylai gynnwys oleiaf 500 anfoneb.

  • BVPI 9 Cyfran y Dreth Gyngor a gasglwyd. Bydd angen i'r awdurdodau gael canran o'r dreth gyngor a gafwyd ym mhob blwyddyn ariannol.

    Fel ffurflen CTC99 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Adran A Llinell 3 Colofn C fel canran o Linell 2 Colofn C.

    BVPI 10 Canran yr ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn honno a ddylai fod wedi dod i law ac a gafwyd mewn gwirionedd. Canran yr ardreth fusnes a gafwyd gan yr awdurdod mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Adwaenir hon fel y ganran o'r Dreth Annomestig Genedlaethol a gasglwyd. Fel ffurflen CTC99 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llinell 10 fel canran o ffurflen NNDR3 1998/99 CCC Rhan II Llinellau 1(i)+2(i) llai Llinellau 3(i)+4(i)+6(i)+7(i).
    BVPI 11 Canran swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod. Bydd angen i'r dangosydd hwn adlewyrchu'r sefyllfa ar 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol pan geir y ganran hon.

    Amcangyfrifir y ganran drwy gyfrifo nifer y menywod mewn swydd ar lefel rheolaeth uwch fel canran o'r holl staff mewn swydd ar lefel rheolaeth uwch, lle diffinir "rheolaeth uwch" fel y tair haen uchaf rheolaeth yn yr awdurdod.

    BVPI 12 Cyfran y dyddiau gwaith /sifftiau a gollir o achos absenoldeb drwy salwch. Ceir y gyfran o ddyddiau neu sifftiau a gollir o achos absenoldeb drwy salwch wrth i'r awdurdod gyfrifo'r rhifiadur a'r enwadur fel y diffinnir hwy isod.

    Diffinnir y rhifiadur fel y cyfanswm o'r dyddiau gwaith a gollwyd o achos absenoldeb drwy salwch heb ystyried a ardystiwyd hynny gan y person ei hunan neu drwy dystysgrif ymarferydd cyffredinol neu a yw'n absenoldeb drwy salwch hir-dymor.

    Bydd hyn yn cynnwys y dyddiau a gollwyd o achos salwch gan holl weithwyr parhaol awdurdod lleol, gan gynnwys athrawon, staff a gyflogir mewn ysgolion a staff a gyflogir mewn Cyrff Llafur Uniongyrchol a Chyrff Gwasanaeth Uniongyrchol. Er hynny, at ddibenion y rhifiadur hwn, dylid anwybyddu'r dyddiau a gollwyd o achos salwch gan staff dros dro neu gan staff asantiaeth. Yn ychwanegol, dylid anwybyddu hefyd y dyddiau a gollwyd gan staff ar seibiant mamolaeth neu dadolaeth. Diffinnir yr enwadur fel nifer cyfartalog y staff Cyfwerth ag Amser Llawn sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod o fewn blwyddyn ariannol. Ar gyfer staff sy'n gweithio'n rhan amser, dylai'r awdurdod gyfrifo'r hyn sy'n Gyfwerth ag Amser Llawn ar gyfer y rhifiadur a'r enwadur ar sail gyson.

    BVPI 13 Y rhai sy'n ymadael yn wirfoddol fel canran o'r staff mewn swydd. Amcangyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer y rhai sy'n ymadael yn wirfoddol fesul blwyddyn ariannol â nifer cyfartalog y staff mewn swydd yn ystod y flwyddyn honno a lluosi'r canlyniad â 100.

    Ystyr nifer cyfartalog y staff mewn swydd yn ystod y flwyddyn yw nifer y staff ar ddechrau'r flwyddyn ariannol plws nifer y staff ar ddiwedd y flwyddyn honno a'i rannu â 2.

    Ystyr nifer y staff yw nifer y staff mewn swydd ar yr adeg yr amcangyfrifir y dangosydd. Dylai hyn beidio â chynnwys staff asantiaeth a'r rhai hynny sy'n ymadael ar ddiwedd contract tymor penodol ond dylai gynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

    BVPI 14 Ymddeoliadau cynnar (gan eithrio ymddeoliadau ar sail afiechyd) fel canran o'r gweithlu llawn. 65 oed yw'r "oedran ymddeol normal" pan ddaw budd- daliadau ymddeol yn daladwy oni bai fod caniatâd yn cael ei roi fel arall neu fod gan berson hawliau sydd wedi'u diogelu. Mae ymddeoliad cynnar ar sail diswyddo yn digwydd pan fydd gweithiwr unigol sy'n 50 oed neu drosodd mewn swydd y mae'r cyflogwr yn ardystio nad oes angen amdani bellach. Mae ymddeoliad cynnar ar sail effeithlonrwydd yn digwydd pan fydd gweithiwr 50 oed neu drosodd wedi peidio â bod yn gyflogedig a bod y cyflogwr wedi ardystio mai'r rheswm dros derfynu cyflogaeth ywer mwyn arfer swyddogaethau'r awdurdod yn effeithlon'.

    At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

    BVPI 15 Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o'r gweithlu llawn. Gall "ymddeoliad ar sail afiechyd" ddigwydd ar unrhyw oedran pan fydd ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol â chymhwyster mewn iechyd galwedigaethol wedi ardystio fod y gweithiwr yn barhaol analluog i berfformio dyletswyddau'r gyflogaeth honno neu gyflogaeth mewn awdurdod lleol sydd ar y cyfan yn gyflogaeth y gellir ei chymharu â hi gyda'i awdurdod cyflogi o achos afiechyd neu eiddilwch meddwl neu gorff.

    At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

    BVPI 16 Canran y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 fel canran o'r gweithlu llawn. I gael diffiniad o "anabledd" gweler y diffiniad o "disability" yn Adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50).

    Bydd yr awdurdod yn amcangyfrif y dangosydd hwn drwy rannu nifer. Staff anabl yr awdurdod hwnnw â nifer llawn staff yr awdurdod. Bydd canlyniad y rhaniad hwn wedyn yn cael ei luosi â 100.

    At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

    BVPI 17 Canran y staff o gymunedau ethnig lleiafrifol fel canran o'r gweithlu llawn. Ceir y dangosydd hwn trwy rannu nifer y staff o gymunedau ethnig lleiafrifol â nifer llawn y staff yn yr awdurdod. Bydd canlyniad y rhaniad hwn wedyn yn cael ei luosi â 100.

    At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.




    ATODLEN 2
    Erthygl 3


    DANGOSYDDION ADDYSG


    Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd
    BVPI 31 Cyllideb ysgolion unigol fel canran o gyllideb ysgolion lleol. Diffinnir "cyllideb ysgolion unigol" a "chyllideb ysgolion lleol" yn ôl yr ystyr a roddir i "individual schools budget" a "local schools budget" yn y drefn honno yn Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (OS 1999 Rhif 101) a'r canllawiau statudol cysylltiedig. Mae pob Awdurdod Addysg Lleol (AALl) wedi cyflwyno adroddiadau ar ffigurau cyllideb ar gyfer 1999 - 2000 i'r Cynulliad Cenedlaethol.
    BVPI 32 Gwariant am bob pen ar addysg oedolion drwy ddarpariaeth yr AALl a darpariaeth a sicrhawyd gan yr AALl Cyfrifir fel a ganlyn:

    Ffurflen RO1, llinell 29, colofn 5 llai unrhyw grantiau penodol y tu allan i'r AEF (ni ddylid cynnwys addysg barhaus arall sydd yng ngholofn 6).

    BVPI 33 Gwariant Gwasanaeth Ieuenctid net (h.y. gwariant AALl yn unig) am bob pen o'r boblogaeth o fewn ystod oedran targed y Gwasanaeth Ieuencid. Cyfrifir fel a ganlyn:

    Ffurflen RO1 llinell 29 colofn 7 llai unrhyw grantiau penodol y tu allan i'r AEF.

    BVPI 34a Canran yr ysgolion cynradd a 25% neu fwy (ac o leiaf 30) o'u lleoedd heb eu llenwi. Cynhwysedd yr ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig.

    Disgyblion: cyfeiria hyn at uchafswm y disgyblion ar y gofrestr ar gyfer pob gr p blwyddyn yn ystod y flwyddyn ariannol, heb gynnwys dosbarthiadau meithrin. Ysgolion cynradd: Y gwahaniaeth rhwng y cynhwysedd MOE a nifer llawn y disgyblion (fel y'i diffinnir uchod) yn yr holl ysgolion cynradd a gynhelir gan yr AALl pan fydd y cynhwysedd yn fwy na nifer y disgyblion. Mynegir y ffigur hwn fel canran o gyfanswm cynwyseddau MOE ym mhob ysgol gynradd a gynhelir gan yr AALl.

    BVPI 34B Canran yr ysgolion uwchradd â 25% neu fwy (ag o leiaf 30) o'u lleoedd heb eu llenwi. Cynhwysedd ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig.

    Disgyblion: cyfeiria hyn at y nifer llawn a gofrestrwyd ar gyfer pob gr p blwyddyn yn Ionawr 2001, fel yr adroddwyd yn ffurflen STATS 1.

    BVPI 35A Y nifer o leoedd heb eu llenwi yn yr holl ysgolion cynradd y nodwyd bod ganddynt le dros ben wedi'i fynegi fel canran o'r cynhwysedd cynradd llawn. Cynhwysedd ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig. Ar gyfer ysgolion cynradd, cyfeiria hyn at y nifer llawn a gofrestrwyd ar gyfer pob gr p blwyddyn yn Ionawr 2001, fel yr adroddwyd yn ffurflen STATS 1.

    Ysgolion cynradd: Y gwahaniaeth rhwng y cynhwysedd MOE a nifer llawn y disgyblion (fel y'i diffinnir uchod) yn yr holl ysgolion cynradd a gynhelir gan yr AALl pan fydd y cynhwysedd yn fwy na nifer y disgyblion. Mynegir y ffigur hwn fel canran o gyfanswm cynwyseddau MOE yn yr holl ysgolion cynradd a gynhelir gan yr AALl.

    BVPI 35B Nifer o leoedd heb eu llenwi yn yr holl ysgolion uwchradd ac sy'n cael eu hadnabod fel rhai â chynhwysedd ychwanegol a fynegir fel canran o gyfanswm y cynhwysedd uwchradd llawn. Cynhwysedd ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig.

    Ar gyfer ysgolion uwchradd, cyfeiria hyn at y nifer llawn a gofrestrwyd ar gyfer pob gr p blwyddyn yn Ionawr 2001, fel yr adroddwyd yn ffurflen STATS 1.

    BVPI 36A Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: Disgyblion meithrin a disgyblion cynradd o dan bump. Gwariant net: fel a geir yn RO1, llinellau 1 i 11 llai (llinellau 32, 33, 38 a 39) plws llinell 52 llai llinell 51 (balansau cau) yn llai'r ffigur cyfatebol ar gyfer y balansau agor: Disgyblion: y nifer o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir (fel a bennir ymhellach isod) fel yr adroddwyd yn Ionawr 2001 yn ffurflen STATS 1.

    Swm cyfun y ddau ffigur hwn fel a geir yn RO1, Col (1); i'w ddosrannu rhwng disgyblion o dan bump oed a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion neu drwy ddefnyddio dull cywirach:

    Disgyblion mewn ysgolion meithrin a chynradd y dangosir eu bod o dan bump oed ar 31 Rhagfyr blaenorol, gan gyfrif disgyblion rhan amser yn gyfwerth ag un hanner.

    Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion meithrin, Eitem 1.1, Llinellau c i 1, pob colofn.

    Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion cynradd, Eitem 1.1, Llinellau i i p, pob colofn.

    BVPI 36B Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: disgyblion cynradd pump oed a throsodd. Swm cyfun o'r ddau ffigur hwn fel a geir yn RO1, Col (1); i'w ddosrannu rhwng disgyblion o dan bump oed a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion neu gan ddefnyddio dull cywirach;

    Yr holl ddisgyblion eraill mewn ysgolion meithrin a chynradd.

    Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion meithrin, Eitem 1.1, Llinellau a a b, pob colofn.

    Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion cynradd, Eitem 1.1, Llinellau a i h, pob colofn.

    BVPI 36C Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: Disgyblion uwchradd o dan 16. Y swm fel a geir yn RO1, Col (2); i'w ddosrannu rhwng y disgyblion o dan 16 a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion gan ddefnyddio pwysoliadau cyllido fesul disgybl yr AALl neu ddull cywirach.

    Disgyblion mewn ysgolion uwchradd o dan 16 oed ar y 31 Awst blaenorol.

    Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion uwchradd, Eitem 1.1.1, Llinellau e i k, colofn 'Cyfanswm' ar gyfer bechgyn plws merched.

    BVPI 36D Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: Disgyblion uwchradd 16 oed a throsodd. Y swm fel a geir yn RO1, Col (2); i'w ddosrannu rhwng y disgyblion o dan 16 a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion gan ddefnyddio pwysoliadau cyllido fesul disgybl yr AALl neu ddull cywirach.

    Yr holl ddisgyblion eraill mewn ysgolion uwchradd.

    Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion uwchradd, Eitem 1.1.1, Llinellau a i d, colofn 'Cyfanswm' ar gyfer bechgyn plws merched.

    BVPI 37 Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU plant 16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cwblhau Blwyddyn 11. Cyfartaledd sgôr pwyntiau yn TGAU/GNVQ Cyfanswm nifer y pwyntiau a enillwyd cyn neu yn ystod haf y flwyddyn yr adroddir arni gan y disgyblion 15 oed ar 31 Awst o'r flwyddyn flaenorol ac ar y gofrestr ar y trydydd dydd Iau o Ionawr y flwyddyn yr adroddir arni mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod wedi'u rhannu gan nifer y disgyblion hynny.

    Pwyntiau fel y nodir hwy yn Atodiad F i Gylchlythyr CCC 4/99.

    BVPI 38 Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill 5 TGAU neu fwy gyda graddau A* i C neu gymhwyster cyfatebol. Canlyniad TGAU - Cymru - Canran y disgyblion 15 oed ar 31 Awst yn y flwyddyn cyn y flwyddyn yr adroddir arni ac ar y gofrestr ar y trydydd dydd Iau o Ionawr y flwyddyn yr adroddir arni mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill pump neu fwy o raddau TGAU A* i C neu'r cymhwyster galwedigaethol cyfatebol.
    BVPI 39 Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill un TGAU neu fwy gyda gradd G neu gymhwyster cyfatebol. Canlyniad TGAU - Cymru - Canran y disgyblion 15 oed ar 31 Awst yn y flwyddyn cyn y flwyddyn yr adroddir arni ac ar y gofrestr ar y trydydd dydd Iau o Ionawr y flwyddyn yr adroddir arni mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill un TGAU neu fwy gyda gradd G neu'r cymhwyster galwedigaethol cyfatebol.
    BVPI 40 Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 2. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPI 41 Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 2 o'r prawf Saesneg. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 2 Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Cymraeg (iaith gyntaf). Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 3 Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 4 Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Mathemateg. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 5 Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Saesneg. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 6 Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Cymraeg (iaith gyntaf). Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 7 Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 8 Canran y plant 15 oed sy'n ennill y "dangosydd pwnc craidd". Y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPIW 9 Canran y plant 15 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig. Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999.
    BVPI 42 Y nifer a gofrestrir ar yr holl gyrsiau addysg oedolion a ddarperir ac a sicrheir gan yr awdurdod lleol fesul 1,000 oedolyn o'r boblogaeth Nifer a gofrestir ar gyrsiau addysg oedolion:

    Pob cofrestriad yn ystod y flwyddyn ariannol ar bob cwrs a gyllidir drwy wariant fel y'i diffinnir yn BVPI 31 uchod; neu a ddarperir gan yr awdurdod. Ystyr "darparu" yw bod yr awdurdod yn cyflogi neu'n trefnu ar gyfer cyflogi'r athro/athrawes. Pan gaiff cyrsiau eu rhan-gyllido gan yr awdurdod, a'u darparu gan gorff arall, dylid cyfrif y cofrestriadau mewn cyfrannedd â'r cyfraniad cyllido a wneir gan yr awdurdod (yn net o ffioedd myfyrwyr) ond cyfrifir y cofrestriadau'n unig i gyrsiau lle mae gan yr awdurdod gytundeb dan gontract â'r corff dan sylw i ddarparu cwrs penodol y gellir cysylltu'r cyllid yn uniongyrchol ag ef. Mynegir fesul 1,000 o'r boblogaeth 19 oed a throsodd.

    BVPI 43 Canran y datganiadau anghenion addysg arbennig a baratowyd o fewn 18 wythnos (a) heb gynnwys a (b) yn cynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan "eithriadau i'r rheol" o dan god y rhestr argymhellion AAA. Datganiadau a baratowyd o fewn 18 wythnos fel canran o'r holl ddatganiadau (yn cynnwys y rhai hynny sy'n ymwneud ag asiantaethau eraill) ond sy'n cynnwys achosion lle mae unrhyw rai o'r eithriadau a restrir yn 3.40 i 3.42 o'r Rhestr Argymhellion AAA yn gymwys.
    BVPI 44A Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar gyfer ysgolion cynradd. Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am gyfrifo o ffurflenni STATS 1 y gyfran o ddisgyblion a waharddwyd yn y flwyddyn ariannol (y flwyddyn academaidd flaenorol), ac am ledaenu'r canlyniadau i AALl.
    BVPI 44B Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar gyfer ysgolion uwchradd. Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am gyfrifo o ffurflenni STATS 1 y gyfran o ddisgyblion a waharddwyd yn y flwyddyn ariannol (y flwyddyn academaidd flaenorol), ac am ledaenu'r canlyniadau i AALl.
    BVPI 44C Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar gyfer ysgolion arbennig. Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am gyfrifo o ffurflenni STATS 1 y gyfran o ddisgyblion a waharddwyd yn y flwyddyn ariannol (y flwyddyn academaidd flaenorol), ac am ledaenu'r canlyniadau i AALl.
    BVPI 45 Y ganran o hanner diwrnodau a gollwyd oherwydd absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod. Y cyfnod dan sylw - (y cyfnod) - dechrau'r flwyddyn academaidd 2000/2001 hyd at ddiwedd tymor y gwanwyn neu 31 Mawrth 2001 p'un bynnag yw'r cynharaf. Ffurflen CCC (ond un sy'n cael ei chasglu gan CBAC) yw'r ffurflen y cyfeirir ati, sef

    Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion: Ffurflen Presenoldeb Disgyblion 1998/99.

    Ysgolion uwchradd (heb gynnwys ysgolion arbennig): fel yn y Ffurflen Presenoldeb Disgyblion - Eitem (c) fel canran o Eitem (a), fel petai wedi'i llenwi ar gyfer y cyfnod.

    BVPI 46 Y ganran o hanner diwrnodau a gollwyd oherwydd absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion cynradd a gynhelir gan yr awdurdod. Y cyfnod dan sylw - (y cyfnod) - dechrau'r flwyddyn academaidd 2000/2001 hyd at ddiwedd tymor y gwanwyn neu 31 Mawrth 2001 p'un bynnag yw'r cynharaf.

    Ffurflen CCC (ond un sy'n cael ei chasglu gan CBAC) yw'r ffurflen y cyfeirir ati, sef Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion: Presenoldeb. Disgyblion 1998/9.

    Ysgolion cynradd (heb gynnwys ysgolion arbennig): fel yn y Ffurflen Presenoldeb Disgyblion - Eitem (c) fel canran o Eitem (a), fel petai wedi'l llenwi ar gyfer y cyfnod.

    BVPI 48 Y ganran o ysgolion a gynhelir gan yr Awdurdod yn ddarostyngedig i fesurau arbennig ar 14 Rhagfyr 2000. Y ganran o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ar 14 Rhagfyr o'r flwyddyn adrodd sy'n destun mesurau arbennig fel y'u nodwyd yn adroddiadau arolygu Estyn.



    ATODLEN 3
    Erthygl 3


    DANGOSYDDION Y GWASANANAETHAU CYMDEITHASOL


    Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd.
    BVPI 49 Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal Y ganran o blant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth gyda thri neu ragor o leoliadau yn ystod y flwyddyn.

    Ystyr yr enwadur yw cyfanswm plant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth. Peidiwch â chynnwys yn y cyfrif unrhyw blant a oedd yn derbyn gofal ar y dyddiad hwnnw o dan gyfres gytûn o leoliadau tymor-byr (o dan ddarpariaethau Rheol.13 o Reoliadau Trefn Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991)

    Ystyr rhifiadur y plant a ddiffiniwyd uchod yw'r nifer a gafodd dri neu ragor o leoliadau ar wahân (fel y'u diffiniwyd gan gasgliad Ffurflen Ystadegol SSDA903 ar blant yng ngofal awdurdodau lleol) yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. Cyfrifwch bob lleoliad, ni waeth beth fo'i hyd, gan gynnwys lleoliadau o lai na 24 awr os ydynt yn rhan o gyfnod gofal hwy. Cynhwyswch unrhyw leoliadau a oedd eisoes yn agored ar 1 Ebrill ar ddechrau'r flwyddyn, ac unrhyw rai a oedd yn agored ar 31 Mawrth ar ddiwedd y flwyddyn. Cynhwyswch bob lleoliad yr ystyrir ei fod yn lleoliad "dros dro" ; yr achosion arbennig canlynol yw'r unig eithriadau: - Cyfnodau dros dro ar wyliau neu mewn ysbyty. Absenoldebau dros dro eraill o saith diwrnod neu lai yn olynol, lle dychwelodd y plentyn wedyn i'r lleoliad blaenorol yn unol â'r cynllun.

    BVPI 50 Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal Y ganran o bobl ifanc sy'n ymadael â gofal yn 16 oed neu drosodd a chanddynt o leiaf 1 TGAU, graddau A*-G, neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ).

    Ystyr yr enwadur yw nifer y bobl ifanc a beidiodd â derbyn gofal yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth yn 16 oed neu drosodd. Cynhwyswch bawb yn y gr p oedran hwn a ymadawodd â gofal, ni waeth ers faint y buont yn derbyn gofal cyn ymadael, ond peidiwch â chynnwys pobl ifanc a beidiodd â derbyn gofal ar ôl ei dderbyn yn ystod y flwyddyn mewn cyfres gytûn o leoliadau byr-dymor yn unig.

    Ystyr y rhifiadur yw'r nifer hwnnw, o blith y bobl ifanc hyn, a enillodd o leiaf 1 TGAU, gyda gradd A*-G, neu GNVQ. Cynhwyswch gymwysterau a enillwyd cyn i'r person ifanc dderbyn gofal neu yn sgil arholiadau a gymerwyd tra oedd yn derbyn gofal, hyd yn oed os cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar ôl i'r person ifanc beidio â derbyn gofal. Peidiwch â chynnwys cymwysterau a enillwyd yn sgil arholiadau a gymerwyd ar ôl i'r person ifanc beidio â derbyn gofal. Cynhwyswch gyrsiau byr TGAU, GNVQs rhan un neu GNVQs llawn ar lefel sylfaen neu lefel ganolradd, ac unedau iaith GNVQ. Peidiwch â chynnwys Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs).

    BVPI 51 Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal Cyfartaledd gwariant wythnosol gros am bob plentyn sy'n derbyn gofal mewn cartref gofal maeth neu mewn cartref plant.

    Ystyr yr enwadur yw'r cyfanswm o wythnosau a dreuliwyd gan y plant mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi plant yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. O dan gartrefi plant cynhwyswch gartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a hosteli a chartrefi plant cofrestredig preifat. Peidiwch â chynnwys unrhyw leoliadau yn y cyfrif a oedd yn rhan o gyfres gytûn o leoliadau tymor-byr (o dan ddarpariaethau Rheol. 13 o Reoliadau Trefn Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991). Dylid seilio'r cyfrif ar gyfanswm y diwrnodau gofal wedi'u rhannu â saith.

    Ystyr y rhifiadur yw'r gwariant gros ar blant yn derbyn gofal mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi plant yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. Ceir hyn o'r ffurflen Alldro Refeniw 3 (RO3), llinellau 11 a 17. Diffinnir gwariant gros o RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 5).

    BVPI 52 Cost gofal cymdeithasol dwys i oedolion Cyfartaledd cost wythnosol gros darparu gofal i oedolion a phobl oedrannus.

    Ystyr y rhifiadur yw'r gwariant gros ar ofal preswyl a gofal nyrsio a chymorth /gofal cartref i bob gr p o gleientau sy'n oedolion a phobl oedrannus (£miloedd) yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth. Ceir hyn o'r ffurflen Alldro Refeniw 3 (RO3), llinellau (32 i 34+38+48 i 50+54+64 i 66+70+84 i 86+90). Diffinnir gwariant gros o RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 5).

    Ystyr yr enwadur yw cyfanswm yr wythnosau y cynhaliwyd pob gr p o gleientau sy'n oedolion a phobl oedrannus mewn gofal preswyl a gofal nyrsio a'r nifer o gartrefi sy'n cael gofal cartref dwys (ceir hyn o ffurflen AS2).

    Sylwer: mae'r rhifiadur yn cynnwys gwariant ar ofal cartref dwyster isel (nid yw'n bosibl i beidio â'i gynnwys gan ddefnyddio'r ffurflen RO3) ond nid yw'r enwadur yn cynnwys y nifer o bobl sy'n cael gofal o'r fath. Mae hyn yn arwain at ychydig o anghymhelliad i ddarparu gofal cartref dwyster isel, wedi'i gydbwyso â BVPI 54.

    BVPI 53 Gofal cartref dwys Ystyr y rhifiadur yw'r nifer o deuluoedd sy'n cael gofal cartref dwys (pump neu ragor o oriau cyswllt) yn ystod wythnos arolwg. Wedi'i gael o ffurflen AS2.Ystyr yr enwadur yw'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd (mewn miloedd).
    BVPI 54 Pobl h n (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref. Ystyr y rhifiadur yw pobl oedrannus 65 oed a throsodd y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref.

    Ystyr yr enwadur yw'r boblogaeth sy'n 65 oed a throsodd (mewn miloedd).

    Ffurflen AS2 Eitem 2.1 swm y tair colofn bandiau oed ar gyfer pobl 65 oed a throsodd.

    BVPI 55 Cleientau sy'n cael adolygiad Cleientau sy'n cael adolygiad fel canran o'r cleientau sy'n oedolion ac yn cael gwasanaeth.

    Ystyr y rhifiadur yw cyfanswm yr holl gleientau yn cael adolygiad yn ôl amserlen yn ystod y cyfnod (naill ai gan staff y gwasanaethau cymdeithasol neu staff eraill).

    Ystyr yr enwadur yw cyfanswm y cleientau yn cael gwasanaethau yn ystod y cyfnod.

    BVPI 56 Y ganran o eitemau offer yn costio llai na £1000 a gyflwynwyd o fewn tair wythnos Nid yw'n cynnwys offer ac addasiadau sy'n gofyn am waith strwythurol ond mae'n cynnwys y rhai y mae angen gwaith syml i'w gosod yn unig (e.e. bolltio i wal neu lawr). Dylid hepgor addasiadau sy'n cael eu darparu gan adrannau tai a chysylltiadau â systemau larwm.

    Dylid cyfrif pob eitem sy'n costio dan £1,000 (gan gynnwys cost ei gosod) a dylid cynnwys pob eitem a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ni waeth pa bryd y cafodd ei archebu. Mae'r cyfnod yn dechrau pan mae penderfyniad yn cael ei wneud i ddarparu'r offer ac yn dod i ben pan fydd yr offer wedi'i osod yn foddhaol ym marn yr awdurdod lleol. Caiff yr awdurdodau beidio â chynnwys achosion lle na ellid bodloni'r terfyn amser oherwydd gweithredoedd neu absenoldeb y cleient (e.e. pan oedd y person mewn ysbyty neu ar wyliau etc).

    BVPI 57 Defnyddwyr/gofalwyr a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth yn gyflym Y ganran o bobl a arolygwyd ac a ddywedodd eu bod yn teimlo eu bod wedi cael y cymorth yr oedd arnynt ei angen yn gyflym. (Dangosydd Fframwaith Asesu Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol D36).

    Ceir hwn o arolygon boddhad defnyddwyr sydd i'w cynnal gan awdurdodau lleol.

    BVPI 58 Y ganran o bobl sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu Y nifer o oedolion sy'n cael gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ac sydd wedi cael disgrifiad erbyn 31 Mawrth o beth yw eu hanghenion o ran y gwasanaethau hynny a sut y caiff yr anghenion hynny eu bodloni; wedi'i rannu â chyfanswm y bobl sy'n derbyn gwasanaeth.

    Dylai fod un ganran ar gyfer y dangosydd hwn.

    BVPI 59 Asesiadau am bob pen o'r boblogaeth Nifer yr asesiadau o ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n 65 oed neu drosodd am bob pen o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd.

    Ystyr y rhifiadur yw'r nifer cyfan o gleientau 65 oed a throsodd ag asesiadau wedi'u cwblhau a'r cleientau hynny y mae eu hasesiadau wedi'u terfynu.

    Ystyr yr enwadur yw'r boblogaeth 65 oed a throsodd (mewn miloedd).

    Y celloedd perthnasol o Ffurflen AS2.

    BVPI 60 Y defnyddwyr/gofalwyr a ddywedodd bod materion yngl n â hil, iaith, diwylliant neu grefydd wedi'u nodi. Y ganran o'r bobl a arolygwyd ac a ddywedodd eu bod wedi teimlo bod materion yngl n â hil, iaith, diwylliant neu grefydd wedi'u cymryd i ystyriaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol wrth roi'r cymorth yr oedd arnynt ei angen.

    Ceir hyn o'r arolygon boddhad defnyddwyr sydd i'w cynnal gan yr awdurdodau lleol.

    BVPI 61 Y gwariant cymharol ar gynhaliaeth teulu Gwariant gros ar blant sydd mewn angen ond nad ydynt yn derbyn gofal, fel canran o wariant gros ar bob gwasanaeth plant.

    Ystyr yr enwadur yw'r gwariant gros ar bob gwasanaeth plant am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, fel y'i cofnodwyd ar ffuflen Alldro Refeniw 3 (RO3).

    Ystyr y rhifiadur yw'r rhan honno o'r enwadur sy'n wariant ar blant mewn angen ond nad ydynt yn derbyn gofal. Cyfrifir hyn fel swm yr eitemau canlynol ar y ffurflen RO3: cyfiawnder ieuenctid, darparu i blant dan wyth mlwydd oed, canolfannau teuluol, lwfansau mabwysiadu, gofal cartref/ cymorth cartref di-breswyl arall a 50% o wariant ar ymadael â gofal cartref. Mae'n cynnwys cyfran hefyd o'r gwariant ar uwch-reolwyr, rheoli gofal/gwaith cymdeithasol a chostau cyffredinol.

    Diffinir gwariant gros o'r ffurflen RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 5).




    ATODLEN 4
    Erthygl 3


    DANGOSYDDION TAI


    Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd
    BVPI 62 Y gyfran o anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit neu a ddymchwelwyd o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan yr awdurdod lleol Y nifer cyfartalog o anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit neu a ddymchwelwyd fesul blwyddyn o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan yr awdurdod wedi'i fynegi fel cyfran o gyfanswm anheddau'r sector preifat y barnwyd eu bod yn anffit gan yr awdurdod. Dylai awdurdod gynnwys unrhyw annedd a dynnwyd o nifer yr anheddau anffit yn dilyn camau uniongyrchol gan yr awdurdod drwy'r canlynol:

        
  • Rhoi grantiau.

  • Rhoi benthyciadau ac indemniadau benthyca.

  • Camau i hybu gwaith cynnal-a-chadw da; darparu gwasanaethau trwsio; rhoi cyngor.

  • Dymchwel a chlirio.

  • Cynlluniau trwsio gr p.

  • Gorfodi: hysbysiadau yn galw am drwsio, gohirio gweithredu neu gau.

  • Noddi Asiantaeth Gwella Cartrefi sy'n rhoi cyngor a gwasanaethau trwsio.

    Cynghorir awdurdodau i gynnal arolygon o gyflwr y stoc lleol bob pum mlynedd, gan gynnwys pob deiliadaeth. Dylid defnyddio hyn i amcangyfrif y nifer a'r gyfran o anheddau'r sector preifat y bernir eu bod yn anffit. Bydd y dangosydd wedyn yn mesur nifer cyfartalog anheddau'r sector preifat a wnaed yn ffit bob blwyddyn ers gwneud yr asesiad.

  • BVPI 63 Effeithlonrwydd Ynni - dosbarthiad SAP cyfartalog anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol Dosbarthiad cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol yn ôl y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP). Y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol, a'r SAP yw mynegrif o gost flynyddol gwresogi annedd i sicrhau trefn wresogi safonol ac fe'i disgrifir fel rheol fel un sy'n rhedeg o 1 (aneffeithlon iawn) i 100 (effeithlon iawn). Fel y cyfryw, mae'n fesur o'i effeithlonrwydd ynni cyffredinol ac mae'n dibynnu ar y gwres sy'n cael ei golli o'r annedd ac ar berfformiad y system wresogi.

    Mae'r dangosyddion yn ei gwneud yn ofynnol i arolwg ynni gael ei gynnal er mwyn pennu'r waelodlin. Dylid cynnal arolygon o leiaf bob pum mlynedd. Mewn blynyddoedd pan na chynhelir arolwg ynni dylai'r awdurdodau lleol ddiweddaru'r wybodaeth a geir o'r arolwg i gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed i'r stoc dros y cyfnod.

    BVPI 64 Y gyfran o anheddau'r sector preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar 1 Ebrill 2000 ac a ddychwelwyd i feddiannaeth yn ystod 2000/01 o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan yr awdurdod lleol. Y nifer o anheddau'r sector preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol ac a ddychwelwyd i feddiannaeth yn ystod y flwyddyn ariannol o ganlyniad uniongyrchol i weithredoedd gan yr awdurdod, wedi'i rannu â nifer holl eiddo'r sector preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol wedi'i luosi â 100. Dylai awdurdod gynnwys unrhyw annedd sy'n cael ei feddiannu yn sgil gweithredoedd uniongyrchol yr awdurdod drwy'r canlynol:

        
  • grantiau, benthyciadau neu gymorth ariannol arall a ddarparwyd neu a hwyluswyd gan yr awdurdod.

  • cyngor i'r perchennog i gynnwys un neu ragor o'r canlynol:

          
    • taflenni a ddarparwyd ar strategaeth cartrefi gwag yr awdurdod

    • cyngor ar osod, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a gofynion budd-dâl tai

    • cyngor ar grantiau a chymorth ariannol arall, gan gynnwys y consesiynau treth sydd ar gael

    • manylion am fforwm y landlordiaid neu'r cynllun achredu

    • cyngor ar drwsio, gan gynnwys manylion am gontractwyr adeiladu sy'n cyrraedd isafbwynt y safonau

  • cyfeiriad at bartner sy'n landlord cymdeithasol cofrestredig neu'n gyfryngwr arall ag arbenigedd perthnasol

  • camau gorfodi, gan gynnwys hysbysiadau sy'n galw am drwsio neu orchmynion prynu gorfodol.

  • ymholiadau a wnaed i ddarganfod pwy sy'n berchen ar yr eiddo.

  • BVPI 65a Costau wythnosol cyfartalog rheoli fesul annedd awdurdod lleol Mae hyn yn cynnwys y gost ariannol o reoli tai i'r awdurdod lleol - wedi ei fesur drwy wariant gwirioneddol o'r Cyfrif Refeniw Tai HRA ar reoli yn 2000/01 wedi'i rannu â nifer cyfartalog yr anheddau yn yr HRA ar ddechrau a diwedd y flwyddyn, wedi'i rannu â 52. Dylai'r wybodaeth gyd-fynd â'r wybodaeth yn Ffurflen Flynyddol HRAS 99-02 ar gyfer costau cyffredinol a chostau rheoli arbennig (celloedd 3000 a 3010).
    BVPI 65b Costau wythnosol cyfartalog trwsio fesul annedd awdurdod lleol Mae hyn yn cynnwys costau trwsio i'r awdurdod lleol - wedi'u mesur drwy wariant gwirioneddol o'r Cyfrif Refeniw Tai ar drwsio yn 2000/01 wedi'i rannu â nifer cyfartalog yr anheddau yn yr HRA ar ddechrau a diwedd y flwyddyn, wedi'i rannu â 52. Dylai'r wybodaeth gydfynd â'r wybodaeth yr adroddwyd amdani drwy'r Cyfrifon Trwsio Tai yn Ffurflen Flynyddol HRAS 99-02 (cell 3020).
    BVPI 66a Gwaith casglu rhenti'r awdurdod lleol ac ôl-ddyledion yr awdurdod lleol: y gyfran o'r rhent a gasglwyd Y gyfran o'r rhent a gasglwyd - Cyfrifir y gyfran o'r rhent a gasglwyd o'r data ar y rhent HRA gros a gasglwyd yn ystod y flwyddyn (h.y. gan gynnwys rhenti a dalwyd drwy Fudd-dâl Tai) fel cyfran o gyfanswm y rhent HRA sydd ar gael i'w gasglu yn y flwyddyn ond heb gynnwys yr ôl-ddyledion rhent o gyn-denantiaid a gronwyd cyn diwedd y flwyddyn (h.y. yr incwm rhent posibl diweddaraf ar ôl caniatáu ar gyfer anheddau gwag a chan gynnwys ôl-ddyledion tenantiaid presennol a oedd heb eu talu ar ddechrau'r flwyddyn). Cyfanswm y rhent a gasglwyd yn ystod y flwyddyn yw'r rhent a gasglwyd, llai unrhyw daliadau o ôl-ddyledion ar gyfer y blynyddoedd cynt oddi wrth gyn-denantiaid.
    BVPI 66b Gwaith casglu rhenti'r awdurdod lleol ac ôl-ddyledion: ôl-ddyledion rhent y tenantiaid presennol fel cyfran o rôl renti'r awdurdod Ôl-ddyledion rhent tenantiaid presennol fel cyfran o incwm rhent yr awdurdod - Cyfrifir ôl-ddyledion fel cyfran o'r rhôl renti o gyfanswm rhent HRA tenantiaid sydd heb ei dalu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a'r rhôl renti HRA gyfan. Cyfanswm y rhent y mae'n bosibl ei gasglu am y flwyddyn ariannol ar gyfer pob annedd ym mherchenogaeth yr awdurdod, p'un a ydynt wedi'u meddiannu neu beidio yw'r rhôl renti. Swm ôl-ddyledion y cyn-denantiaid a'r tenantiaid presennol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yw cyfanswm yr ôl-ddyledion rhent.
    BVPI 66c Gwaith casglu rhenti'r awdurdod lleol ac ôl-ddyledion: rhent a ddilewyd fel rhent nad oes modd ei gasglu fel cyfran o rôl renti'r awdurdod Rhent a ddilewyd fel rhent nad oes modd ei gasglu fel cyfran o incwm rhent yr awdurdod - Cyfrifir dileadau fel cyfran o'r rhôl renti o gyfanswm y rhent HRA a ddilewyd yn ystod y flwyddyn ariannol a'r rhôl renti HRA gyfan. Cyfanswm y rhent y mae'n bosibl ei gasglu am y flwyddyn ariannol ar gyfer pob annedd ym mherchenogaeth yr awdurdod, p'un a ydynt wedi'u meddiannu neu beidio, yw'r rhôl rhenti. Swm ôl-ddyledion rhent y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a ddilewyd yn ffurfiol fel rhai nad oedd modd eu hadennill yn ystod y flwyddyn ariannol yw cyfanswm y dileadau.
    BVPI 67 Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith Y nifer o geisiadau digartrefedd (o dan adran 184 o Ddeddf Tai 1996, p.52) y gwnaed penderfyniad amdanynt ac yr anfonwyd hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith, fel cyfran o'r holl geisiadau digartrefedd lle'r anfonwyd hysbysiad a.184.
    BVPI 68 Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod lleol a osodwyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol Cyfrifir y dangosydd hwn o ddata ar gyfanswm y gosodiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn (ac eithrio'r rhai a osodwyd ar ôl atgyweiriadau pwysig. Diffinir gwaith atgywirio pwysig fel rhai sy'n costio £5,000 (neu fwy) a chyfanswm y diwrnodau pan oedd yr anheddau hyn yn wag. Mae cyfanswm y gosodiadau yn cynnwys pob gosodiad a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol lle na wnaed unrhyw waith trwsio pwysig wedi'i ariannu o raglen gyfalaf yr awdurdod yn y cyfnod pan oedd yr annedd yn wag. Diwrnodau y mae annedd yn wag = y dyddiau calendr rhwng y dyddiad y mae'r annedd ar gael i'w osod, neu pan ddarganfyddir bod yr annedd yn wag, a phan fydd tenant newydd yn symud i mewn.
    BVPI 69 Y ganran o'r rhenti a gollwyd wrth i anheddau'r awdurdod lleol ddod yn wag Cyfrifir y dangosydd hwn o ddata ar y rhôl renti HRA gyfan a swm y rhent HRA a gollwyd drwy wagleoedd (sef eiddo sy'n wag). Cyfanswm y rhent y mae'n bosibl ei gasglu am y flwyddyn ariannol ar gyfer pob annedd ym mherchenogaeth yr awdurdod yw'r rhôl renti. Cyfanswm y rhent nad oedd modd ei gasglu yn ystod y flwyddyn ariannol am fod anheddau'n wag (h.y. heb denant a oedd yn atebol y am rhent) yw'r rhent a gollwyd drwy wagleoedd.
    BVPI 70 Effeithlonrwydd ynni - y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol Dosbarthiad cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol yn ôl y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP). Y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol, a'r SAP yw mynegrif o gost flynyddol gwresogi annedd i sicrhau trefn wresogi safonol ac fe'i disgrifir fel rheol fel mynegrif sy'n rhedeg o 1 (anneffeithlon iawn) i 100 (effeithlon iawn). Fel y cyfryw, mae'n fesur o'i effeithlonrwydd ynni cyffredinol ac mae'n dibynnu ar y gwres sy'n cael ei golli o'r annedd ac ar berfformiad y system wresogi.

    Mae'r dangosyddion yn ei gwneud yn ofynnol i arolwg ynni gael ei gynnal er mwyn pennu'r waelodlin. Dylid cynnal arolygon o leiaf bob pum mlynedd. Mewn blynyddoedd pan na chynhelir arolwg ynni, dylai'r awdurdodau lleol ddiweddaru'r wybodaeth a geir o'r arolwg i gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed i'r stoc dros y cyfnod.

    BVPI 71 Y nifer o anheddau'r awdurdod lleol y mae gwaith adnewyddu yn cael ei wneud iddynt yn ystod 2000/01 fel canran o'r nifer y mae angen gwaith adnewyddu arnynt ar 1 Ebrill 2000 a)

         Nifer yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol y mae gwaith adnewyddu (o dan £5,000) yn cael ei wneud iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol wedi'i rannu ag asesiad yr awdurdod lleol o'r nifer o anheddau sydd angen gwaith o'r fath ar ddechrau'r flwyddyn ariannol wedi'i luosi â 100.

    b)

         Nifer yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol y mae gwaith adnewyddu (dros £5,000) yn cael ei wneud iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol wedi'i rannu ag asesiad yr awdurdod lleol o'r nifer o anheddau sydd angen gwaith o'r fath ar ddechrau'r flwyddyn ariannol wedi'i luosi â 100.

    Cynghorir yr awdurdodau i gynnal arolygon o gyflwr y stoc leol bob pum mlynedd, gan gynnwys pob deiliadaeth. Dylai'r awdurdodau ddefnyddio'r rhain i amcangyfrif y gwaith y bydd ei angen ar 1 Ebrill 2000.

    BVPI 72 Y ganran o atgyweiriadau brys a gwblhawyd o fewn terfynau amser y Llywodraeth Cyfanswm yr atgyweiriadau brys (fel y'i diffiniwyd yn Rheoliadau Tenantiaid Diogel Awdurdodau Tai Lleol (Hawl i Drwsio) 1994 (O.S. 1994/133), ond p'un a ofynnwyd am yr atgyweiriadau yn unol â'r Rheoliadau neu beidio) a gwblhawyd o fewn y terfyn amser rhagnodedig yn ystod y flwyddyn ariannol wedi'i rannu â nifer y atgyweiriadau brys y gofynnwyd amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae'r atgyweiriadau a ddosberthir fel rhai brys a therfyniadau amser y Llywodraeth ar eu cyfer wedi'u nodi yn y tabl isod a gymerwyd o Reoliadau Tenantiaid Diogel Awdurdodau Tai Lleol (Hawl i Drwsio) 1994.

    Dylid anwybyddu'r weithdrefn statudol ar gyfer penodi ail gontractiwr at ddibenion cofnodi'r atgyweiriad fel un anghyflawn o fewn yr amserlenni. Diffyg Cyfnod rhagnodedig (mewn diwrnodau gwaith)

    Colli p er trydanol yn gyfan gwbl      1

    Colli p er trydanol yn rhannol      3

    Soced p er neu oleuo, ffitiad trydanol anniogel      1

    Colli cyflenwad d r yn gyfan gwbl      1

    Colli cyflenwad d r yn rhannol      3

    Colli cyflenwad nwy yn gyfan gwbl neu'n rhannol      1

    Ffliw agored i dân neu fwyler wedi'i blocio      1

    Colli system wresogi lle neu dd r yn gyfan gwbl neu'n rhannol rhwng 31 Hydref ac 1 Mai      1

    Colli system wresogi lle neu dd r yn gyfan gwbl

    neu'n rhannol rhwng 30 Ebrill ac 1 Tachwedd      3

    Traen fudreddi, llwybr carthion neu (tra nad oes unrhyw doiled arall yn gweithio yn yr annedd) fowlen toiled sydd wedi'i blocio neu'n gollwng      1

    Toiled heb ddwrlif (lle nad oes unrhyw doiled

    arall yn gweithio yn yr annedd)      1

    Sinc, bath neu fasn wedi'i flocio      3

    Tap na ellir ei droi      3

    Piben dd r neu biben wresogi, tanc neu seston yn gollwng      1

    To'n gollwng      7

    Ffenestr, drws neu glo allanol anniogel      1

    Canllaw rydd neu ddatgysylltiedig      3

    Llawr pren neu ris wedi pydru      3

    Ffôn mynediad y drws ddim yn gweithio      7

    Ffan echdynnu mecanyddol mewn cegin neu

    ystafell ymolchi fewnol ddim yn gweithio      7

    BVPI 73 Yr amser cyfartalog a gymerir i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad ydynt yn rhai brys Ar gyfer yr atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys ac a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol, nifer cyfartalog y dyddiau (calendr) rhwng gofyn am yr atgyweiriad ymatebol nad oedd yn un brys a'i gwblhau'n foddhaol (a'r atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys yw'r rhai nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rheoliadau Hawl i Drwsio).
    BVPI 74 Boddhad tenantiaid tai cyngor ar y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan eu landlord Y ganran o holl denantiaid y cyngor neu hapsampl cynrychioliadol o denantiaid cyngor, a ddywedodd eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan eu landlord. Ni chynhwysir les-ddeiliaid a thenantiaid landlordiaid cymdeithasol neu breifat eraill. Dylid cynnal yr arolwg o leiaf bob tair blynedd, gan ddechrau yn 2000/01. Rhoddir cyngor pellach ar y dull arolygu mwyaf priodol. Yn y blynyddoedd pan na fydd unrhyw arolwg, adroddir canlyniadau'r flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael gyda nodyn yn tanlinellu dyddiad yr arolwg.
    BVPI 75 Boddhad tenantiaid tai cyngor â'r cyfleoedd a ddarparwyd gan eu landlord ar gyfer cymryd rhan yng ngwaith rheoli a gwneud penderfyniadau yngl n â'r gwasanaethau tai. Y ganran o holl denantiaid y cyngor neu hapsampl cynrychioliadol o denantiaid cyngor, a ddywedodd eu bod yn fodlon ar y cyfleoedd a ddarparwyd gan eu landlord ar gyfer cymryd rhan yng ngwaith rheoli a gwneud penderfyniadau yngl n â'r gwasanaethau tai. Ni chynhwysir les-ddeiliaid a thenantiaid landlordiaid cymdeithasol neu breifat eraill.

    Cynhelir yr arolwg o leiaf bob tair blynedd, gan ddechrau yn 2000/01.




    ATODLEN 5
    Erthygl 3


    DANGOSYDDION AMGYLCHEDDOL


    Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd
    BVPI 81 A yw'r awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad ac asesiad llawn o ansawdd aer ei ardal, gan gynnwys ymgynghori â'r ymgynghoreion statudol er mwyn penderfynu a oes rhaid dynodi ardal rheoli ansawdd aer neu beidio? Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol adolygu ac asesu ansawdd aer ei ardal. Os yw'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn annhebygol y bodlonir un neu ragor o'r amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir yn y rheoliadau, o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid iddo ddatgan ardal rheoli ansawdd aer. Wedyn, rhaid iddo lunio cynllun gweithredu sy'n nodi'r mesurau y mae'n bwriadu eu cymryd i fodloni'r amcanion gan gynnwys amserlen ar gyfer eu gweithredu. Mae adran 84(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau gynnal asesiad pellach o ansawdd yr aer ar hyn o bryd a'r ansawdd debygol yn y dyfodol mewn ardal rheoli ansawdd aer ddynodedig.

    Er nad oedd dyddiad cau statudol, y disgwyl oedd y byddai awdurdodau lleol Cymru wedi cwblhau eu hadolygiad a'u hasesiad cychwynnol erbyn Rhagfyr 1999. Yr ydys wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â hwy i ganfod faint sydd wedi bodloni'r dyddiad hwnnw. Yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn, fe ellid ystyried ymestyn y dyddiad cau i Fehefin 2000, fel a wnaed yn Lloegr. Disgwylir i'r awdurdodau lleol gynhyrchu adroddiad drafft terfynol ar yr adolygiad a'r asesiad a ddylai nodi a ydynt yn bwriadu dynodi ardal rheoli ansawdd aer neu beidio. O dan Ddeddf 1995, mae'n ofynnol i'r awdurdodau lleol anfon yr adolygiad drafft i nifer o gyrff gan gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion ymgynghori. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau wrth gefn i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol cymryd camau os ydynt yn methu â gwneud digon o gynnydd.

    BVPI 82a Cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi mewn tunelli - canran wedi'i ailgylchu Ystyr "wedi'i ailgylchu" yw deunyddiau gwastraff cartrefi sydd wedi'u casglu a'u gosod ar wahân i wastraff trefol a'u prosesu wedyn i gynhyrchu cynhyrchion y gellir eu marchnata. Mae ailgylchu yn wahanol i ailddefnyddio cynhyrchion oherwydd yr angen i brosesu'r deunydd sydd wedi'i adfer.

    Ystyr "gwastraff cartrefi" yw'r holl wastraff a gesglir gan yr awdurdodau lleol o dan adran 45(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), ynghyd â'r holl wastraff sy'n codi o Safleoedd Amwynder Dinesig a'r gwastraff a gesglir gan drydydd partïon y telir credydau ailgylchu casglu neu gredydau ailgylchu gwaredu amdanynt o dan adran 52 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

    Ystyr "Safle Amwynder Dinesig" yw mannau a ddarperir gan yr awdurdodau lleol lle gall personau sy'n byw yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)b o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990).

    I osgoi amheuaeth, bydd yr holl wastraff a gesglir gan yr awdurdodau yn cynnwys gwastraff sy'n codi yn sgil:

         -  rowndiau casglu gwastraff (gan gynnwys rowndiau ar wahân ar gyfer casglu deunyddiau y gellir eu hailgylchu)

     - glanhau strydoedd a chasglu sbwriel - glanhau traethau- casglu gwastraff swmpus - casglu gwastraff cartrefi peryglus - casglu gwastraff clinigol cartrefi

     - casglu gwastraff gardd- systemau gollwng/dod ag ef

     - clirio gwastraff wedi'i ollwng heb ganiatâd

     - gwasanaethau sgip ar y penwythnos- unrhyw wastraff cartrefi arall a gesglir gan yr awdurdod

    BVPI 82b Cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi mewn tunelli - Y ganran sydd wedi'i gompostio Ystyr "wedi'i gompostio" yw deunydd gwastraff organig sydd wedi'i ddadelfennu gan weithrediadau micro-organeddau yn aerobig mewn cyfleuster compostio canolog. Ni chynhwysir compostio gartref.

    Gweler y diffiniad llawn yn Atodlen 5 Dangosydd BVPI 82a ar gyfer cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi.

    BVPI 82c Cyfanswm y gwastraff trefol sy'n codi mewn tunelli - Y ganran a ddefnyddir i adfer gwres, p er a ffynonellau Ystyr "a ddefnyddir i adfer gwres, p er a ffynonellau ynni eraill" yw

         - hylosgi gwastraff o dan reolaeth mewn peiriant ynni eraill arbenigol yn unswydd i greu p er a/neu wres o'r deunydd gwastraff sy'n bwydo'r peiriant

     - hylosgi o dan reolaeth tanwydd sy'n deillio o sbwriel mewn peiriant arbenigol yn unswydd i gynhyrchu p er a/neu wres o'r deunydd gwastraff sy'n bwydo'r peiriant

     - cynhyrchu tanwyddau nwyol drwy adweithio gwastraff carbonaidd poeth ag aer, stêm neu ocsigen (nwyeiddio)

     - dadelfennu gwastraff organig yn thermol i gynhyrchu cynhyrchion nwyaidd, hylifol a soled drwy pyrolysis

     - dadelfennu gwastraffoedd organig yn fiolegol drwy dreuliad anaerobig.

    Ni chynhwysir y canlynol

         - gweddillion lludw sydd wedi'u tirlenwi neu eu hailgylchu wedyn

     - methan a adferwyd o dirlenwi

     - deunyddiau a adferwyd i'w hailgylchu ar ôl llosgi gwastraff

    Gweler y diffiniad llawn yn Atodlen 5 Dangosydd BVPI 82a ar gyfer cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi - canran wedi'i ailgylchu.

    BVPI 82d Cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi mewn tunelli - Y ganran sydd wedi'i dirlenwi Ystyr "wedi'i dirlenwi" yw gwastraff a roddwyd ar wyneb y tir, neu mewn strwythur a osodwyd ynddo; neu o dan wyneb y tir (mae tir yn cynnwys tir o dan dd r, sydd uwchlaw'r marc distyll neu'r llanw mawr cyffredin).

    Gweler y diffiniad llawn yn Atodlen 5 Dangosydd BVPI 82a ar gyfer cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi.

    BVPI 84 Kg o wastraff cartrefi a gesglir am bob pen I'w lenwi gan yr awdurdodau lleol.

    Gwastraff cartrefi: ystyr "gwastraff cartrefi" yw'r ystyr a roddir i "household waste" fel y'i ddiffinnir yn a.75 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac Atodlenni 1 a 2 o Reoliadau Gwastraff Rheoledig 1992 (O.S. 1992/588).

    Cyfrifer fel,

    X ac


    Y


        X = Cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi ac a gasglwyd gan yr awdurdod o dan adran 45(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

    plws

    Cyfanswm y gwastraff cartrefi mewn tunelli yn codi o Safleoedd Amwynder Dinesig

    plws

    Gwastraffoedd sy'n codi y telir credydau ailgylchu casglu neu gredydau ailgylchu gwaredu i drydydd partïon amdanynt o dan adran 52(4) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

    Y = Y boblogaeth yn ardal yr awdurdod, gan ddefnyddio amcanestyniadau canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Ystyr "Safle Amwynder Dinesig" yw mannau a ddarperir gan yr awdurdod lle gall personau sy'n byw yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (Gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)b o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990).

    BVPI 85 Cost pob cilometr sgwar o gadw tir perthnasol y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdano yn glir rhag sbwriel Cost net casglu sbwriel a glanhau strydoedd (fel y'u nodir ar Ffurflen Alldro Refeniw (RO) 6, llinell 5 colofn 7 llai grant penodol y tu allan i'r Cyllid Allanol Agregedig (AEF) wedi'i rhannu â km2 o unrhyw dir perthnasol. Diffinnir "tir perthnasol" yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

    Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43)

    BVPI 86 Cost casglu gwastraff fesul cartref Cost net casglu gwastraff: cyfrifer fel RO6, Llinell 1, llai grantiau penodol y tu allan i'r Cyllid Allanol Agregedig (AEF) am y llinellau hynny wedi'i rhannu â nifer y cartrefi. Nifer y cartrefi: Rhestr Newidiadau y Swyddfa Brisio, y tudalen o dan y teitl 'Statement of Numbers and Bands of All Properties Shown in the Valuation List for the Billing Authority Area', 'Grand Total Line'. Defnyddiwch y datganiad diwethaf sydd ar gael.
    BVPI 87 Cost gwaredu gwastraff trefol fesul tunnell fetrig Cost net rheoli gwastraff: cyfrifer fel:

    Gwariant uniongyrchol fel RO6, Llinell 2, Col. 7 llai grantiau penodol y tu allan i'r Cyllid Allanol Agregedig, llai cost net rheoli hen safleoedd tirlenwi, wedi'i rhannu â chyfanswm tunelli metrig gwastraff trefol yr ymdriniwyd ag ef o dan y gwariant hwnnw.

    Ystyr 'cost net rheoli hen safleoedd tirlenwi' yw unrhyw gostau, (gan gynnwys staff, gwasanaethau cynnal canolog, taliadau refeniw a chyfalaf) sy'n gysylltiedig â rheoli, monitro a rheoli llygredd hen safleoedd tirlenwi a weithredid gan yr awdurdod o'r blaen.

    BVPI 88 Nifer y casgliadau a gollwyd am bob 100,000 o gasgliadau gwastraff cartrefi Ystyr "casgliad a gollwyd" yw

         - unrhyw gasgliad a hysbyswyd gan breswylydd/corff masnachol lle na chafodd y preswylydd ei hysbysu yn ysgrifenedig bod y trefniadau wedi'u newid

     - unrhyw gasgliad y mae'r awdurdod yn gwybod na chafodd ei wneud ar y diwrnod rhagnodedig am fod yr awdurdod neu ei gontractiwr wedi methu, gan gynnwys y rhai a gollwyd oherwydd y tywydd neu weithredu diwydiannol

     - unrhyw gasgliad na chafodd ei wneud ar y diwrnod rhagnodedig lle na chafodd y preswylwyr eu hysbysu yn ysgrifenedig bod y trefniadau wedi'u newid

    Ystyr "diwrnod rhagnodedig" yw'r diwrnod o'r wythnos pan gâi'r sbwriel ei gasglu fel rheol.

    Ystyr "hysbysu yn ysgrifenedig" yw drwy gyfrwng sachau sbwriel wedi'u hargraffu, taflenni, papurau newydd neu unrhyw gyfrwng ysgrifenedig arall a roddir i bob cartref/busnes perthnasol gan yr awdurdod neu ei gontractiwr.

    Cyfrifer fel

    X
    ×100,000, where


    Y × Z


        ac X = Nifer y casgliadau a gollwyd (gan gynnwys casgliadau deunyddiau y gellir eu hailgylchu ar wahân)

    Y = Nifer yr eiddo fel y'u rhestrir yn Rhestr Newidiadau y Swyddfa Brisio, y tudalen o dan y teitl 'Statement of Numbers and Bands of All Properties Shown in the Valuation List for the Billing Authority Area', 'Grand Total Line'. Defnyddiwch y datganiad diwethaf sydd ar gael.

    Z = Nifer yr amserau penodedig ar gyfer casglu biniau yn y cyfnod.

    BVPI 89 Canran y bobl sy'n fodlon ar y safonau glanweithdra Arolwg boddhad ynghylch a yw'r preswylwyr o'r farn bod yr awdurdod lleol wedi cyflawni ei ddyletswydd i gadw'r tir yn rhydd rhag sbwriel.

    Ystyr "tir perthnasol" yw'r ystyr a roddir i "relevant land" yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

    Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43)

    BVPI 90 Canran y bobl sy'n mynegi boddhad ag a) Cyfleusterau Ailgylchu, b) Casgliadau Gwastraff Cartrefi ac c) Safleoedd Amwynder Dinesig Y ganran yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon ar y canlynol:

      a) Y gwasanaeth casglu sbwriel yn gyffredinol

      b) Y ddarpariaeth cyfleusterau ailgylchu yn gyffredinol

      c) Y gwasanaeth safleoedd amwynder dinesig yn gyffredinol

    I'w lenwi gan yr awdurdodau lleol.

    Ystyr 'Safle Amwynder Dinesig' yw mannau a ddarperir gan yr awdurdod lle gall personau sy'n preswylio yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (Gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)b o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990).

    BVPI 91 Y ganran o'r boblogaeth a wasanaethir gan gasgliad wrth ymyl y ffordd o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu neu sydd o fewn 1 cilometr o ganolfan ailgylchu Ystyr 'poblogaeth' yw'r boblogaeth yn ardal yr awdurdod.

    Ystyr '1 cilometr' yw radiws o 1km (fel yr hed y frân).

    Ystyr 'canolfan ailgylchu' yw

        
  • banciau gollwng / dod ag ef mewn un man lle un gall neu fwy o ddeunyddiau gael eu rhoi

  • mannau a ddarperir gan yr awdurdod lle gall personau sy'n preswylio yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (Gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)b o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990) lle darperir banciau dod ag ef.

  • unrhyw gyfleuster adfer deunyddiau (MRF) a ddarperir gan yr awdurdod, lle gall aelodau'r cyhoedd roi eu gwastraff ailgylchadwy.




  • ATODLEN 6
    Erthygl 3


    DANGOSYDDION TRAFNIDIAETH


    Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd
    BVPI 93 Cost cynnal priffyrdd am bob 100 km a deithir gan gerbyd ar y prif ffyrdd Y ffigur ym mlwch memorandwm M2 ar y ffurflen Alldro Cyfalaf ddiweddaraf COR1 plws llinell 2 (cynnal strwythurol) a 4 (cynnal rhigolaidd) ar y ffurflen Alldro Refeniw RO2 ddiweddaraf colofn 7; wedi'i rannu â'r ffigur am gilometrau cerbydau sy'n deillio o Dabl A yn setliad diweddaraf y Grant Cynnal Refeniw; wedi'i luosi â 100.
    BVPI 94 Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwr Y gwariant net (llinell 11 ffurflen RO2) ar gymhorthdal gwasanaethau bysiau lleol, fel y'i diffinnir yn adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, yn y flwyddyn berthnasol, wedi'i rannu â nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y gwasanaethau hynny yn y flwyddyn honno. Ni ddylai hyn gynnwys gwariant ar gynlluniau tocynnau gostyngedig o dan adrannau 93 i 105 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985.
    BVPI 95 Cost gyfartalog cynnal goleuadau stryd Y ffigur yn llinell 6, colofn 7, o'r ffurflen Alldro Refeniw RO2 ddiweddaraf, wedi'i rannu â nifer y goleuadau stryd yn yr awdurdod.
    BVPI 96 Cyflwr y prif ffyrdd Naill ai:

    Arolwg gweledol o hyd yr holl brif ffyrdd yn y flwyddyn gan ddefnyddio Arolwg Archwilio Gweledol Bras (arolwg sy'n cofnodi diffygion ffyrdd a nodir drwy eu gweld). Cynhelir yr arolwg o dan Reolau a Pharamedrau System Rheoli Pafinau'r Deyrnas Unedig (UKPMS), fersiwn 2.0. Bydd yr arolwg yn cynnwys y rhwydwaith cyfan heblaw'r rhan a enwebir ar gyfer "archwiliad tybiedig" - rhaid cyfyngu honno i 30% o rwydwaith prif ffyrdd yr awdurdod. Gofynnir i'r awdurdodau lleol ddynodi'r ganran o'r rhwydwaith sydd â sgôr diffygion UKPMS o 70 neu'n uwch.

    Neu:

    Y ganran o'r rhwydwaith ag oes weddilliol negyddol, yn deillio o arolygon defflectograff (arolygon mecanyddol yn defnyddio offer sy'n asesu cyflwr strwythurol y ffordd drwy fesur faint y mae'n gwyro o dan lwyth).

    Mae'r manylion fel a ganlyn; gan gyfeirio at ddangosydd perfformiad 1999. Ar gyfer 2000 a'r blynyddoedd wedyn, byddai'r dyddiadau yn treiglo ymlaen fel y bo'n briodol.

    Dangosydd: Y ganran o'r rhwydwaith prif ffyrdd cymwys ar

    1 Gorffennaf 1998 ag iddo oes weddilliol negyddol. Cyfrifir hyn fel

    ((1-a) × p) + (a × 0)

        ac a = y ganran o'r rhwydwaith cymwys ag archwiliad tybiedig (gweler isod)

    p = y ganran o'r rhwydwaith a arolygwyd ac iddo oes weddilliol negyddol ar 1 Gorffennaf 1998.

    Nodiadau:

         1. Wrth gyfrifo p bydd yr awdurdodau'n estyn y gwyriadau a gofnodwyd mewn arolygon (categori 2 neu'n uwch)* a gynhaliwyd o 1993 i 1997 ymlaen i 1 Gorffennaf 1998, ac eithrio'r adrannau hynny lle cafwyd gwaith cynnal ar ôl yr arolwg gwyriadau (ar yr amod bod y gwaith cynnal wedi'i ddechrau cyn 1 Gorffennaf 1998). Os yw'n dymuno, gall yr awdurdod lleol gynnwys data arolwg a gasglwyd ym 1998 neu 1999 yn y cyfrifiad heb ei estyn ymlaen a heb unrhyw lwfans am waith cynnal dilynol.

    * Yn unol â'r diffiniad yn Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd yr Asiantaeth Briffyrdd.

         2. Wrth gyfrifo p rhaid i'r awdurdod ddefnyddio

        (i) canlyniadau oes weddilliol (gan gynnwys oes weddilliol ar gyfer darnau sydd wedi'u cynnal) am o leiaf b% o hyd y prif ffyrdd cymwys (mewn un cyfeiriad) o arolygon defflectograff a gynhaliwyd rhwng 1993 a 1999; a b = 60% - (a/2) ac a yw canran y rhwydwaith cymwys ag archwiliad tybiedig. Mae hyn yn golygu y bydd gan awdurdod â'r archwiliad tybiedig uchaf o 30% (gweler isod) ganlyniadau oes weddilliol ar gyfer 45% o'i rwydwaith cymwys.

        (ii) rhaid i'r awdurdod ddefnyddio canlyniadau oes weddilliol am o leiaf 20% o hyd prif ffyrdd cymwys yr awdurdod (mewn un cyfeiriad) yn deillio o arolygon ym 1997 neu wedyn.

        (iii) meddalwedd Pandef neu feddalwedd cyfatebol a gymeradwywyd gan yr Asiantaeth Briffyrdd.

        (iv) darnau 100 metr a'r oes weddilliol ar gyfer pob darn wedi'i ddiffinio fel yr 85ed oes weddilliol ganraddol ar ôl cywiro'r tymheredd i 20°C.

         3. Archwiliad tybiedig: Gall awdurdod lleol enwebu hyd at 30% o'i rwydwaith cymwys ar gyfer "archwiliad tybiedig". Darnau o'r rhwydwaith yw'r rhain y mae'n hysbys ar sail arolygon cynharach neu wybodaeth leol eu bod yn strwythurol gadarn (bydd hyn fel arfer yn awgrymu oes weddilliol o 10 mlynedd o leiaf) a lle byddai'n wastraffus cynnal arolwg defflectograff ar hyn o bryd. Cymerir darnau o'r ffordd sydd ag archwiliad tybiedig i ystyriaeth wrth gyfrifo'r dangosydd perfformiad (gweler uchod) a byddant hefyd yn effeithio ar yr archwiliad lleiaf (gweler Nodyn 2(i) uchod). Dylai'r awdurdodau lleol sy'n dymuno enwebu rhannau o'u rhwydwaith cymwys ar gyfer archwiliad tybiedig bennu'r darnau sydd wedi'u henwebu ganddynt a rhoi sail yr enwebiad (arolwg blaenorol, gwaith cynnal diweddar, etc.).

         4. Rhwydwaith cymwys: Prif ffyrdd hyblyg sy'n addas ar gyfer dadansoddiad defflectograff, h.y. nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddarnau wedi'u codi a phrif ffyrdd hyblyg sy'n bodloni meini prawf yr Asiantaeth Briffyrdd ar gyfer ffyrdd hir oes. Dylai'r awdurdodau lleol ddatgan pa ganran o'u rhwydwaith prif ffyrdd sy'n gymwys yn eu barn hwy.

    BVPI 97 Cyflwr ffyrdd heblaw'r prif ffyrdd Fel ar gyfer prif ffyrdd (Dangosydd 4 uchod), arolwg o'r rhwydwaith o ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd i'w gynnal drwy gyfrwng archwiliad gweledol bras (CVI) o dan Reolau a Pharamedrau'r System

    Rheoli Pafinau, fersiwn 2.0. Y bwriad yw bod arolygon CVI yn cael eu cynnal dros y rhwydwaith cyfan, ond nid oes angen i'r awdurdodau arolygu rhan o'u rhwydwaith (y gwyddant ei bod mewn cyflwr da) a enwebir ganddynt ar gyfer "archwiliad tybiedig". Rhaid i'r rhan o'r rhwydwaith a enwebir ar gyfer "archwiliad tybiedig" beidio â bod yn fwy na 30% o rwydwaith yr awdurdod o ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd. Cynhwysir y rhan ag "archwiliad tybiedig" yng nghyfanswm hyd y rhwydwaith at ddibenion cyfrifo'r dangosydd.

    BVPI 98 Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio yn unol â'r cynllun Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio yn unol â'r cynllun. Cyfrifir hyn fel:

    {(W * Y)/Z} * 100

        ac W yw cyfanswm y methiannau goleuadau stryd a welwyd yn y flwyddyn drwy archwiliadau rheolaidd a dulliau eraill wedi'u rhannu â 365;

    Y yw'r amser a gymerwyd ar gyfartaledd i drwsio'r golau stryd ar ôl ei weld plws hanner yr amser ar gyfartaledd rhwng yr archwiliadau; a

    Z yw cyfanswm y goleuadau stryd yn yr awdurdod.

    Archwiliadau gan yr awdurdod neu ei asiantaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn yw 'archwiliadau rheolaidd'. Os yw'r awdurdod yn archwilio ei oleuadau yn fwy aml neu'n llai aml, dylai weithio'r ganran ar gyfer pob amledd drwy ddefnyddio'r fformwla uchod ac wedyn cyfuno'r canrannau yn un cyfartaledd wedi'i bwysoli.

    BVPI 99 Diogelwch ffyrdd Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl

        (i) natur yr anafusion a

        (ii) y math o ddefnyddiwr ffordd.

    Categorïau'r anafusion:

      a) wedi'u lladd/wedi'u hanafu'n ddifrifol;

      b) mân anafiadau.

    Mathau o ddefnyddiwr ffordd:

      a) cerddwyr;

      b) beicwyr;

      c) defnyddwyr cerbyd modur dwy-olwyn;

      d) defnyddwyr ceir, ac

      e) defnyddwyr cerbydau eraill.

    Bydd y data'n cyfeirio at y flwyddyn galendr yn diweddu 15 mis cyn y 31 Mawrth perthnasol.

    BVPI 100 Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig wedi'u hachosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod lleol am bob km o ffordd sy'n sensitif o safbwynt Cyfanswm y dyddiau yr oedd rheolaeth traffig dros dro (â llaw neu drwy gyfrwng goleuadau traffig) ar waith ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig neu pan oedd y ffordd ar gau, oherwydd gwaith ar ffyrdd yr awdurdodau lleol am bob km o ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig. (Peidiwch â chynnwys rheolaeth draffig wrth waith ffyrdd a traffig gwblhawyd mewn llai na diwrnod).Mae "sensitif o safbwynt traffig" yn golygu "traffic sensitive" fel y'i diffiniwyd yn Rheoliad 13 o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 (O.S. 1992 / 2985).

    BVPI 101 Gwasanaethau bysiau lleol (cilometrau cerbydau fesul blwyddyn) Cyfanswm y pellter blynyddol y bu'r holl fysiau lleol yn gweithredu yn ardal yr awdurdod.
    BVPI 102 Gwasanaethau bysiau lleol (siwrneiau teithwyr fesul blwyddyn) Cyfanswm y siwrneiau teithwyr a wnaed bob blwyddyn ar yr holl fysiau lleol o fewn ardal yr awdurdod.
    BVPI 103 Canran o ddefnyddwyr a oedd yn fodlon ar y ddarpariaeth leol o ran gwybodaeth am gludiant gyhoeddus Y ganran yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon ar y cyfan ar y ddarpariaeth gwybodaeth am gludiant cyhoeddus. I'w gynnal drwy gyfrwng arolwg o foddhad defnyddwyr.
    BVPI 104 Canran o ddefnyddwyr a oedd yn fodlon ar wasanaethau bysiau lleol Y ganran yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon ar y cyfan ar y gwasanaeth bysiau lleol. I'w gynnal drwy gyfrwng arolwg o foddhad defnyddwyr.
    BVPI 105 Difrod i ffyrdd a phafinau Cyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn.



    ATODLEN 7
    Erthygl 3


    DANGOSYDDION CYNLLUNIO


    Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd
    BVPIW 10 Y ganran o'r boblogaeth sy'n dod o dan gynllun datblygu a fabwysiadwyd (lle nad yw dyddiad diwedd y cynllun wedi dod i ben eto) Y boblogaeth sy'n preswylio yn ardal/ardaloedd y cynllun lleol neu'r cynllun datblygu unedol fel canran o gyfanswm y boblogaeth breswyl (gan ddefnyddio Ffigur Amcangyfrif Canol Blwyddyn 1998).
    BVPI 107 Cost cynllunio am bob pen o'r boblogaeth Cost gros cynllunio. Seilir y dangosydd hwn ar ddiffiniad o'r costau cynllunio craidd sy'n cael ei arbrofi ar hyn o bryd gan Gymdeithas y Swyddogion Cynllunio.
    BVPI 108 Nifer y gwyriadau o'r cynllun statudol a hysbyswyd ac a gymeradwywyd gan yr awdurdod fel canran o gyfanswm y caniatadau a roddwyd Nifer y caniatadau a roddwyd lle hysbyswyd y cais o dan ddarpariaethau Erthygl 8(2)(b) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) fel canran o gyfanswm y penderfyniadau a wnaed.
    BVPI 109 Canran o gyfanswm y ceisiadau a benderfynwyd o fewn 8 wythnos Fel yn Arolwg Chwarterol CCC ar Reoli Datblygu. Wrth bennu targedau lleol dylai'r awdurdodau lleol roi sylw i'r targed cenedlaethol o 80% o fewn 8 wythnos.
    BVPI 110 Yr amser a gymerir ar gyfartaledd i benderfynu ar bob cais Yr amser rhwng y cais i'r penderfyniad ar bob cais y penderfynir arno fel y'u cofnodir ar y Ffurflenni Ystadegau Cynllunio y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i rannu â chyfanswm y ceisiadau y penderfynwyd arnynt.

    Dylai'r awdurdodau lleol gyhoeddi targedau ar wahân ar gyfer ceisiadau gan ddeiliaid tai, ceisiadau mawr a cheisiadau mân.

    BVPIW 11 Ansawdd y gwasanaeth i gwsmeriaid (rhestr gyfeirio Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru) Mae'r dangosydd hwn yn defnyddio'r Rhestr Gyfeirio Gwasanaethau Cwsmeriaid sy'n cael ei harbrofi ar hyn o bryd gan Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru.

    Nifer y dangosyddion ansawdd a gyrhaeddwyd, wedi'i fynegi fel cymhareb o gyfanswm y dangosyddion ansawdd, e.e. cyfanswm = 10 a byddai awdurdod a fyddai'n cyrraedd 5 o'r dangosyddion yn sgorio 5/10.

    Dyma'r dangosyddion ansawdd:

        
  • cynlluniau hyfforddi a datblygu staff ar waith

  • gweithdrefn gwynion wedi'i mabwysiadu

  • mannau derbyn yn hygyrch i bobl anabl

  • siarter defnyddwyr/cynllun gwasanaethau yn manylu ar ymrwymiadau'r gwasanaeth

  • arolwg o sylwadau'r defnyddwyr yn ystod y tair blynedd diwethaf

  • cyhoeddi cynlluniau perfformiad yn rheolaidd, sef heb fod yn llai nag unwaith bob 12 mis

  • y gwariant ar hyfforddi'r staff yn gyfartal ag 1% o'r costau cyflog gros neu'n fwy

  • targedau wedi'u pennu ar gyfer ymateb i ohebiaeth

  • crynodeb o'r prif ddogfennau cyhoeddus ar gael mewn print bras a/neu braille

  • dogfennau cyhoeddus ar gael yn Gymraeg a Saesneg (pan wneir cais).




  • ATODLEN 8
    Erthygl 3


    DANGOSYDDION DIWYLLIANT


    Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd Manylion y dangosydd
    BVPI 113 Nifer y disgyblion yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau mewn grwpiau wedi'u trefnu gan ysgolion Dim ond amgueddfeydd/orielau sy'n bodloni diffiniad Cymdeithas yr Amgueddfeydd (MA) (The Museums Association Code of Ethics - 3ydd Argraffiad 1999) a ddylai gael eu cyfrif a lle bo'r amgueddfa yn cael ei rhedeg gan yr awdurdod, neu fod yr awdurdod yn cyfrannu o leiaf 20% o'r costau rhedeg, yn net o daliadau, neu'n darparu'r adeilad.

    >Diffiniad yr MA: "Museums enable people to explore collections for inspiration, learning and enjoyment. They are institutions that collect, safeguard and make accessible artefacts and specimens which they hold in trust for."

    Grwpiau sydd "wedi'u trefnu" gan yr ysgol yw grwpiau sydd wedi archebu ymlaen llaw gyda'r amgueddfa/oriel.

    BVPIW 12 A oes gan yr awdurdod lleol strategaeth ar gyfer y celfyddydau? Mae canllawiau ar ddatblygu strategaethau ar gyfer y celfyddydau wrthi'n cael eu datblygu gan y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru a CLlLC ac fe'u cyhoeddir cyn hir.
    BVP1 15 Cost pob ymweliad corfforol â llyfrgelloedd cyhoeddus Gwariant yr awdurdod wedi'i rannu â chyfanswm yr ymweliadau corfforol gan aelodau o'r cyhoedd â llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ariannol.

    RO4 llinell 51 col 7 llai grantiau penodol y tu allan i'r AEF.

    BVPI 116 Y gwariant am bob pen o'r boblogaeth ar gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol a hamdden Y gwariant ar gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol a hamdden.

    Y gwariant cronnol o RO4 llinellau 51 i 58 col 7, llai grantiau penodol y tu allan i'r AEF, wedi'i rannu â chyfanswm y boblogaeth.

    BVPI 117 Nifer yr ymweliadau corfforol am bob pen o'r boblogaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus Amcangyfrif o gyfanswm yr ymweliadau gan aelodau'r cyhoedd â llyfrgelloedd at ba ddiben bynnag yn ystod y flwyddyn ariannol. Wedi'i seilio ar sampl o wythnos yn ystod y flwyddyn gan ddefnyddio'r diffiniadau a'r weithdrefn a nodir yn "Public Library Statistics 1998/99 Actuals (SIS ref:84.00) note on page 98, questionnaire reference line 124 for visits" CIPFA (ISSN 0260 4078), neu drwy ddefnyddio dull mwy cywir o amcangyfrif. Os dymunant, caiff yr awdurdodau seilio'u ffigurau ar sampl ystadegol mwy na'r sampl a awgrymir gan y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifyddiaeth Gyhoeddus (CIPFA).
    BVPI 118 Y ganran o ddefnyddwyr llyfrgell a ddaeth o hyd i'r llyfr/ gwybodaeth yr oedd arnynt eu heisiau, neu fe'i neilltuwyd ar eu cyfer ac a oedd yn fodlon ar y canlyniad Nifer y rhai a ddywedodd ie fel canran o bawb a ymatebodd ie/nage/neilltuwyd ar eu cyfer. Y ganran o'r rhai a oedd yn weddol fodlon/yn fodlon iawn ar y ffordd y caiff llyfrau eu neilltuo.
    BVPI 119 Y ganran o breswylwyr, fesul Y ganran o fenywod a ymatebodd eu bod yn weddol grw{}p targed a oedd yn fodlon ar weithgareddau diwylliannol a hamdden yr awdurdod lleol fodlon neu'n fodlon iawn ar y cyfleusterau a'r gweithgareddau diwylliannol a hamdden.

    Y ganran o'r ymatebwyr ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig a ddywedodd eu bod yn weddol fodlon neu'n fodlon iawn ar y cyfleusterau a'r gweithgareddau diwylliannol a hamdden.




    EXPLANATORY NOTE

    (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


    Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt er mwyn mesur perfformiad y cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2000 ymlaen.

    Gwneir y Gorchymyn yn unol ag adrannau 4(1)(a) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gosod rhwymedigaeth ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgynghori, cyn gwneud Gorchymyn o'r math hwn, â phersonau y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau gwerth gorau o dan sylw ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl yn dda. Mae'r gofyniad hwn i ymgynghori wedi'i fodloni cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

    Mae Erthygl 2 yn diffinio pa awdurdodau gwerth gorau y bydd yn rhaid mesur eu perfformiad, mewn perthynas â swyddogaethau penodol, drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad penodedig a bennir yn Erthygl 3.

    Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae Erthygl 3 yn rhagnodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.

    Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:

    Atodlen 1 - Pob Swyddogaeth

    Atodlen 2 - Addysg

    Atodlen 3 - Gwasanaethau Cymdeithasol

    Atodlen 4 - Tai

    Atodlen 5 - Gwasanaethau'r Amgylchedd

    Atodlen 6 - Trafnidiaeth

    Atodlen 7 - Cynllunio Gwlad a Thref

    Atodlen 8 - Gwasanaethau Diwylliannol a

    Gwasanaethau Cysylltiedig.


    Notes:

    [1] 1999 p.27.back

    [2] 1998 p.38.back

    [3] Sustainable local communities for the 21st century. Why and how to prepare an effective Local Agenda 21 strategy, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Bwrdd Rheolaeth Llywodraeth Leol a'r DETR (Ionawr 1998).back

    English version


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001030w.html