BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Pysgota Mor (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotau a Physgota gan Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001096w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1096 (Cy. 74)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotâu a Physgota gan Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 10 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym 11 Ebrill 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1], sydd yn awr wedi eu breinio ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotâu a Physgota gan Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 11 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn: - 

    ystyr "cwch pysgota Prydeinig perthnasol" ("relevant British fishing boat") yw cwch pysgota nad yw'n gwch pysgota Albanaidd sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu a berchenogir yn gyfan gwbl gan bersonau sy'n gymwysedig i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

    ystyr "cwch pysgota trydedd wlad" ("third country fishing boat") yw cwch pysgota sy'n cyhwfan baner gwladwriaeth nad yw'n Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac sydd wedi ei gofrestru ynddi;

    ystyr "darpariaeth Gymunedol benodedig" ("specified Community provision") yw un o ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor a bennir yng ngholofn 1 o Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn hwn fel y'i darllenir gydag unrhyw eiriau amodi sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth honno yn y golofn honno;

    dehonglir "y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru" ("the territorial sea adjacent to Wales") yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[4] ac Atodlen 3 iddo;

    ystyr "Rheoliad y Cyngor" ("the Council Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2742/1999[5] sy'n sefydlu ar gyfer 2000 y cyfleoedd pysgota ac amodau cysylltiedig ar gyfer rhai stociau o bysgod a grwpiau o stociau o bysgod, sy'n gymwys yn nyfroedd y Gymuned ac, i gychod y Gymuned, mewn dyfroedd lle mae angen cyfyngu ar yr haldiadau ac yn diwygio Rheoliad (CE) Rhif 66/98;

    ystyr "Rheoliad y Cyngor 2847/93" ("Council Regulation 2847/93") yw Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93[6] a sefydlodd gyfundrefn reoli gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2870/95[7], Penderfyniad y Cyngor (CE) 95/528[8], Rheoliad y Cyngor (CE) 2489/96[9], Rheoliad y Cyngor (CE) 686/97[10], Rheoliad y Cyngor (CE) 2205/97[11], Rheoliad y Cyngor (CE) 2635/97[12] a Rheoliad y Cyngor (CE) 2846/98[13]; ac

    ystyr "tramgwydd perthnasol" ("relevant offence") yw tramgwydd o dan:

    (a) erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn; neu

    (b) unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir at ddibenion gweithredu darpariaeth Gymunedol benodedig, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[14], y gellir cychwyn achos yngln â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    (a) mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn;

    (b) mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad neu ddogfen yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad neu ddogfen ysgrifenedig  - 

      (i) unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

      (ii) unrhyw ffotograff;

      (iii) unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall fel bod modd eu hatgynhyrchu ohono (gyda chymorth rhyw gyfarpar arall, neu hebddo);

      (iv) unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arno fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (yn yr un modd ag uchod); a

      (v) unrhyw ddata, sut bynnag y caiff ei atgynhyrchu, a gyflëir drwy gyfrwng system monitro cychod wedi ei seilio ar loeren a sefydlir o dan Erthygl 3.1 o Reoliad y Cyngor 2847/93.

    (3) Rhaid peidio â darllen colofn 2 o Atodlenni 1 a 2 (sy'n darparu gwybodaeth yngln â phwnc y ddarpariaeth mewn perthynas â phob darpariaeth Gymunedol benodedig) mewn ffordd fydd yn cyfyngu cwmpas unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig a rhaid ei diystyru mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn sy'n codi yngln â dehongli'r Gorchymyn hwn.

    (4) At ddibenion y gwaharddiad a gynhwysir ym mharagraff 2 o Atodiad IV i Reoliad y Cyngor:

    (a) yr harbyrau lle y caiff cwch pysgota lanio haldiadau o bysgod sy'n cynnwys penwaig heb eu didoli yw'r harbyrau hynny yng Nghymru neu o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru sydd â systemau samplo y mae swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn penderfynu eu bod yn ddigonol at lanio haldiad o'r fath;

    (b) wrth wneud penderfyniad o'r fath, rhaid i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig roi sylw i gyfanswm maint a nodweddion yr haldiad;

    (c) dim ond ar ôl cais gan feistr cwch pysgota i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn yr harbwr hwnnw cyn glanio'r haldiad y caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig wneud penderfyniad o'r fath; ac

    (ch) rhaid i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig roi gwybod i feistr cwch pysgota am unrhyw benderfyniad o'r fath.

Tramgwyddo
     3.  - (1) Pan fydd, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael ei thorri, neu pan fethir â chydymffurfio â hi, bydd y meistr, y perchennog, a'r siartrwr (os oes un) bob un yn euog o dramgwydd.

    (2) Pan fydd, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a hwnnw'n gwch pysgota y mae unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig yng ngholofn 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig o'r fath yn cael ei thorri, neu pan fethir â chydymffurfio â hi, bydd y meistr, y perchennog, a'r siartrwr (os oes un) bob un yn euog o dramgwydd.

Cosbi
    
4.  - (1) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas ag ef yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored  - 

    (2) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas ag ef yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored  - 

Casglu dirwyon
    
5.  - (1) Pan roir dirwy gan lys ynadon yng Nghymru ar feistr, perchennog neu siartrwr (os oes un), neu ar unrhyw berson arall a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 10, er mwyn casglu'r ddirwy caiff y llys  - 

    (2) Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[15] (gohirio rhoi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan yr erthygl hon yng Nghymru fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

    (3) Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn perthynas â dirwy yngln â thramgwydd perthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981[16] neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995[17] ac yn pennu ardal llys ynadon yng Nghymru bydd yr erthygl hon yn gymwys fel petai'r ddirwy wedi ei rhoi gan lys o fewn yr ardal llys ynadon honno.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota
     6.  - (1) Er mwyn gorfodi erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig wedi'i wneud er mwyn gweithredu darpariaeth Gymunedol benodedig, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (3) i (5) o'r erthygl hon o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

    (2) Er mwyn gorfodi erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig wedi'i wneud er mwyn gweithredu darpariaeth Gymunedol benodedig, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (3) i (5) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota o fewn y môr cyfagos at Gymru, a hwnnw'n gwch pysgota y mae darpariaeth Gymunedol benodedig yn gymwys iddo.

    (3) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

    (4) Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y dibenion a grybwyllir ym mharagraff (1) neu (2) o'r erthygl hon ac, yn benodol  - 

ond ni fydd dim yn is-baragraff (d) uchod yn caniatu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

    (5) Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni ar unrhyw adeg, caiff y swyddog  - 

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir
    
7.  - (1) Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3(1) neu 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaethau cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru  - 

    (2) Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adeiladau ac, yn achos cerbyd, maent yn cynnwys y pwˆer i'w gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg fod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.

    (3) Os oes yng Nghymru ynad heddwch, ar ôl derbyn hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni  - 

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gipio pysgod ac offer pysgota
    
8. Yng Nghymru ac yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota, gipio  - 

Amddiffyn swyddogion
    
9. Ni fydd swyddog na pherson sy'n cynorthwyo swyddog yn rhinwedd erthyglau 6(3) neu 7(1)(b) o'r Gorchymyn hwn yn agored i unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd iddo neu iddi gan erthygl 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros wneud hynny a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Rhwystro swyddogion
    
10. Bydd unrhyw berson sydd - 

yn euog o dramgwydd ac yn agored  - 

Darpariaethau yngln a thramgwyddau ac achosion
    
11.  - (1) Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforedig, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw fethiant ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (2) Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei briodoli i unrhyw fethiant ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (3) Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o swyddogion y gymdeithas neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, neu y gellir ei briodoli i unrhyw fethiant ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth
    
12.  - (1) Bydd unrhyw  - 

yn dystiolaeth, mewn unrhyw achos yng Nghymru yngln â thramgwydd perthnasol, o'r materion a ddatgenir ynddynt.

    (2) At ddibenion paragraff (1) o'r erthygl hon, bydd "gwybodaeth a fynnwyd" yn golygu data sy'n ymwneud â'r canlynol  - 

Diddymu
    
13. Diddymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotâu) 1999[18] a Gorchymyn Pysgota Trydydd Gwledydd (Gorfodi) 1999[19] drwy hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ebrill 2000



ATODLEN 1
Erthygl 4(1)


SPECIFIED COMMUNITY PROVISIONS APPLICABLE TO COMMUNITY VESSELS AND MAXIMUM FINES ON SUMMARY CONVICTION


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor Y pwnc Uchafswm y ddirwy ar gollfarniad diannod
1. Erthygl 6.1, i'r graddau bod y paragraff hwnnw yn ymwneud â chadw pysgod ar fwrdd cwch neu eu glanio. Gwaharddiadau ar gadw ar fwrdd y cwch, neu lanio, haldiadau allan o stociau y mae cyfanswm yr haldiadau a ganiateir, neu gwotâu, wedi'u pennu ar eu cyfer, a'r rheiniwedi'u dihysbyddu. £50,000.
2. Erthygl 6.1, i'r graddau bod y paragraff hwnnw yn ymwneud â chyfansoddiad yr haldiad neu ddidoli'r haldiad. Gwaharddiadau mewn amgylchiadau penodol ar gadw ar fwrdd y cwch, neu lanio, haldiadausydd â chyfansoddiad penodol neu sydd wedi'u didoli. Yr uchafswm statudol.
3. Erthygl 6.2. Gwaharddiad ar lanio haldiadau sydd heb eu didoli ac sy'n cynnwys penwaig pan yw'r cyfyngiadau ar haldiadau a nodir yn Atodiad II i Reoliad y Cyngor wedi'u dihysbyddu. £50,000.
4. Erthygl 8 ac Atodiad IV paragraffau 2 a 6. Gwaharddiad ar lanio haldiadau sy'n cynnwys penwaig heb eu didoli mewn harbyrau lle nad oes systemau samplu digonol ar gael[20]. Yr uchafswm statudo.
  Gwaharddiad ar gynnig gwerthu penwaig i bobl eu bwyta, a'r rheini'n benwaig a ddaliwyd yn yr ardaloedd a bennir yn Atodiad IV paragraff 6 gan gychod yn cario rhwydi i'w tynnu ac isafswm maint eu masgl yn llai na 32mm ac wedi'u glanio.  



ATODLEN 2
Erthygl 4(2)


DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG SY'N GYMWYS I GYCHOD Y GYMUNED AC UCHAFSWM Y DDIRWY AR GOLLFARNIAD DIANNOD


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor Y pwnc Uchafswm y ddirwy ar gollfarniad diannod
1. Erthygl 10. Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn pysgota o fewn terfynau'r cwota a gynhwysir yn Atodiad I i Erthygl 11(i) o Reoliad y Cyngor, ac o fewn y parth daearyddol a nodir ynddi. £50,000. £50,000.
2. Erthygl 13.1. Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy (heblaw cychod o lai na 200GT) neu ganddynt drwydded a hawlen bysgota arbennig a'u bod yn cadw amodau'r rheini. £50,000.
3. Erthygl 13.2 . Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn cadw trwyddedau a hawlenni pysgota arbennig ar fwrdd y llong. Yr uchafswm statudol.
4. Erthygl 14.1. Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn cydymffurfio â'r mesurau ar gadwraeth a rheolaeth a phob darpariaeth arall sy'n llywodraethu pysgota gan gychod y Gymuned yn y parthau o dan sylw, gan gynnwys y mesurau a'r darpariaethau hynny y cyfeirir atynt yn Erthygl 14.1. £50,000.
5. Erthygl 14.2. Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn cadw coflyfr i gydymffurfio ag Atodiad VII i Reoliad y Cyngor. £50,000.
6. Erthygl 14.3. Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy, (heblaw'r rhai sy'n pysgota yn adran IIIa ICES) neu longau Ynysoedd Faröe, eu bod yn trosglwyddo gwybodaeth igydymffurfio ag Atodiad VIII i Reoliad y Cyngor. Yr uchafswm statudol.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi yng Nghymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru gyfyngiadau Cymunedol gorfodadwy penodol a rhwymedigaethau eraill sy'n berthnasol i bysgota môr gan gychod Cymunedol a chychod trydydd gwledydd a nodir yn Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2742/1999 (OJ Rhif L341, 31.12.99, t.1) ("Rheoliad y Cyngor").

Mae Rheoliad y Cyngor yn sefydlu cyfanswm yr haldiadau a ganiateir a chwotâu yr Aelod-wladwriaethau ar gyfer 2000 ac yn pennu amodau penodol yngln â sut y gellir eu dal.

Mae hefyd yn awdurdodi pysgota gan gychod Norwy ac Ynysoedd Ffaröe am ddisgrifiadau penodedig o bysgod o fewn ardaloedd penodedig y tu mewn i derfynau pysgodfeydd yr Aelod-wladwriaethau yn 2000 ac yn gosod gofynion ynghylch cwotâu pysgota a pharthau a awdurdodwyd, dulliau pysgota, dal trwyddedau a chadw at amodau trwyddedau, cadw coflyfrau, gwneud adroddiadau a materion cyffelyb.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri darpariaethau Rheoliad y Cyngor y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 2) o Atodlenni 1 (ar gyfer cychod y Gymuned) a 2 (ar gyfer cychod trydydd gwledydd) i'r Gorchymyn. Pennir cosbau ar gyfer tramgwyddau o'r fath (erthygl 4). Ar hyn o bryd £5,000 yw'r uchafswm statudol y cyfeirir ato yn yr Atodlenni. Gwneir darpariaeth ar gyfer casglu dirwyon (erthygl 5).

Mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota penodol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru ac ar dir yng Nghymru mewn perthynas â chipio pysgod ac offer pysgota (erthyglau 6, 7 ac 8). Gwneir darpariaeth ar gyfer cosbi unrhyw un a geir yn euog o ymosod ar swyddog, neu ei rwystro (erthygl 10).

Mae'r Gorchymyn yn diddymu Gorchymyn Pysgodfeydd Môr (Gorfodi Mesurau Cwota'r Gymuned) 1999 (O.S. 1999/424) a Gorchymyn Pysgota Trydydd Gwledydd (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/425) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.


Notes:

[1] 1981 p.29. Gweler adran 30(3) i gael diffiniadau "cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy" ("enforceable Community restriction"), "rhwymedigaeth Gymunedol orfodadwy" ("enforceable Community obligation") ac "y Gweinidogion" ("the Ministers") fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2, paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddi yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 gael eu harfer gan y Gweinidogion, yn gyfamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota yr Alban o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am "y parth Albanaidd" gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos at yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, a swyddogaethau'r Ysgrifenyddion Gwladol yngln â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] 1995 p.21.back

[4] O.S. 1999/672.back

[5] OJ Rhif L341, 31.12.99, t.1.back

[6] OJ Rhif L261, 20.10.93.back

[7] OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.back

[8] OJ Rhif L301, 14.12.95, t.35.back

[9] OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.back

[10] OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.back

[11] OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.back

[12] OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.back

[13] OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.back

[14] A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).back

[15] 1980, p.43.back

[16] O.S. 1981/1675 (G.I. 26).back

[17] 1995, p.46.back

[18] O.S. 1999/424.back

[19] O.S. 1999/425.back

[20] Hynny yw, unrhyw harbwr heblaw harbwr y mae Erthygl 2(24) yn cyfeirio ato.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001096w.html