BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001885w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1885 (Cy. 131 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 14 Gorffennaf 2000
  Yn dod i rym 31 Gorffenaf 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(b),(c),(d),(e) ac (f), 17(1), 26, 45, 48(1) a 49(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraffau 5(1), (2) a (3) a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi, ar ôl iddo ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno ac ar ôl iddo, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, ymgynghori ac (i'r graddau na ellid bod wedi gwneud y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990) gan ei fod wedi'i ddynodi[2] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[3] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygio) (Cymru) 2000, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.

Diwygiad i Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994[4]) yn unol â pharagraff (2) isod i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    (2) Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff 2(a) o Ran IX o Atodlen 2 - 

         " 2.

      (a) The meat product to be used in the prepared meal shall as soon as it has been cooked  - 

        (i) be mixed with the other ingredients as soon as practically possible; in that event the time during which the temperature of the meat products is between 10°C and 60°C shall not exceed two hours,

        (ii) be refrigerated to 10°C or less before being mixed with the other ingredients, or

        (iii) be cooled and mixed with the other ingredients in such a way (to be specified in the approval document for the establishment concerned) that the timing during which the temperature of the meat product is between 10°C and 60°C is kept to a minimum;".

Diwygiad canlyniadol
     3. I'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, diwygir Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[5] (Rheoliadau sy'n berthnasol i fasnachu o fewn i'r Gymuned) drwy fewnosod y cyfeiriad canlynol ar ddiwedd paragraff 5  - 

    " The Meat Products (Hygiene) (Amendment) (Wales) Regulations 2000.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Gorffennaf 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn diwygio  - 

    (a) Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082, fel y'u diwygiwyd); a

    (b) Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio 1996 (O.S. 1996/3124)

yn y naill achos a'r llall i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (mae O.S. 1994/3082 ac O.S. 1999/3124 ill dau yn gymwys i Brydain Fawr gyfan).

    
2. Effaith y diwygiadau uchod yw caniatáu trydydd dull o baratoi bwydydd parod ar sail cig o 31 Gorffennaf 2000 ymlaen yn unol â phwynt 2(a) o Bennod IX o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC (a fewnosodwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 95/68/EC, OJ Rhif L332, 30.12.95, t.10).


Notes:

[1] 1990 p.16. Gweler adran 4(1) i gael diffiniad o "the Ministers". Trosglwyddwyd y swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron i Gymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. Rhif 1999/2788).back

[3] 1972 p.68.back

[4] (ch) O.S. 1994/3082 a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S.1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499 ac O.S. 1999/683.back

[5] O.S. 1996/3124 a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499 ac O.S. 1999/683. Cymhwyswyd O.S. 1996/3124 gan O.S. 1996/3125 i fewnforio cig ffres.back

[6] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001885w.html