BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001925w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1925 (Cy. 134 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 14 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 25 Gorffennaf 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4), 16(1)(e) ac (f), 17, 18(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000, deuant i rym ar 25 Gorffennaf 2000 a byddant yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn. - 

    mae "bisgedi" ("biscuits") yn cynnwys wafferi, bisgedi caled, torthau ceirch a bara croyw;

    mae i "bwyd newydd", "cynhwysyn bwyd newydd" a "lle ar y farchnad" yr un ystyr â "novel food", "novel food ingredient" a "place on the market" yn Rheoliad 258/97;

    ystyr "cyffaith blawd" ("flour confectionery") yw unrhyw fwyd wedi'i goginio sy'n barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach (heblaw ei aildwymo), y mae grawnfwyd mâl yn gynhwysyn sy'n nodweddiadol ohono, gan gynnwys teisennau brau, sbwnjis, cramwyth, myffins, macarns, rataffias, toes a chasys toes ac mae'n cynnwys hefyd meringues, petits fours a thoes a chasys toes sydd heb eu coginio, ond nid yw'n cynnwys bara, pizzas, bisgedi, bara crimp, bara gwastad allwthiedig nac unrhyw fwyd sy'n cynnwys llenwad y mae unrhyw gaws, cig, syrth, pysgod, pysgod cregyn, deunydd protein llysieuol neu ddeunydd protein microbig yn gynhwysyn ynddo;

    ystyr "cynnyrch cyffeithiol" ("confectionery product") yw unrhyw eitem o gyffaith siocled neu gyffaith siwgr;

    ystyr "cynnyrch cyffeithiol ffansi" ("fancy confectionery product") yw unrhyw gynnyrch cyffeithiol ar ffurf ffigur, anifail, sigarèt neu wy neu ar unrhyw ffurf ffansi arall;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

    mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys cynnig i'w werthu neu ddangos i'w werthu neu ei gael mewn meddiant i'w werthu, a dehonglir "gwerthu" ("sale") yn unol â hynny.

    mae "iâ bwytadwy" ("edible ice") yn cynnwys hufen iâ, iâ dwr ac iâ ffrwythau, p'un ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad ag unrhyw fwyd tebyg;

    ystyr "manylion GMO" ("the GMO particulars") yw'r manylion labelu penodol ychwanegol a fynnir gan Erthygl 2(3) o Reoliad 1139/98 ac Erthyglau 2 a 4 o Reoliad 50/2000;

    mae "paratoi" ("preparation"), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin, a dehonglir "wedi'i baratoi" yn unol â hynny;

    ystyr "Rheoliad 258/97" ("Regulation 258/97") yw Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (CE) Rhif 258/97 [5]) ynghylch bwydydd newydd a chynhwysion bwyd newydd;

    ystyr "Rheoliad 1139/98" ("Regulation 1139/98") yw Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1139/98[6] (fel y'i cywirwyd[7]) ynghylch gorfod dangos, ar labelau bwydydd penodol a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, fanylion heblaw'r rhai y darperir ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb 79/112/CEE, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 49/2000 [8];

    ystyr "Rheoliad 50/2000" ("Regulation 50/2000") yw Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 50/2000[9]) ar labelu bwydydd a chynhwysion bwyd sy'n cynnwys ychwanegion a chyflasynnau a addaswyd yn enetig neu wedi'u cynhyrchu o organeddau a addaswyd yn enetig;

    ystyr "wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol" ("prepacked for direct sale") -

    (a) mewn perthynas â bwyd heblaw cyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, yw wedi'i ragbacio gan fanwerthwr er mwyn i'r manwerthwr hwnnw ei werthu ar y safle lle mae'r bwyd yn cael ei bacio neu o gerbyd neu o stondin a ddefnyddir gan y manwerthwr hwnnw, a

    (b) mewn perthynas â chyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, yw wedi'i ragbacio gan fanwerthwr i'w werthu fel yn is-baragraff (a) o'r diffiniad hwn, neu wedi'i ragbacio gan gynhyrchydd y bwyd er mwyn i gynhyrchydd y bwyd ei werthu naill ai ar y safle lle cynhyrchwyd y bwyd neu ar safle arall y mae'r cynhyrchydd bwyd yn cynnal ei fusnes ohono o dan yr un enw â'r busnes sy'n cael ei gynnal ar y safle lle mae'r bwyd yn cael ei gynhyrchu.

    ac yn y diffiniad hwn mae "safle" yn cynnwys unrhyw long neu awyren.

    (2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1139/98 neu Rheoliad 50/2000 yr un ystyr yn y rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad o dan sylw.

    (3) Rhaid ystyried bod bwyd wedi'i ragbacio ar gyfer y Rheoliadau hyn

    (a) os yw yn barod i'w werthu i'r prynwr terfynol neu i fasarlwyydd, a

    (b) os yw

      (i) wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath ffordd ag i beidio â chaniatáu newid y bwyd, p'un ai wedi'i amgáu'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn unig, heb agor neu newid y pecyn, neu

      (ii) wedi'i amgáu'n gyfan gwbl mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu a bwriedir iddo gael ei goginio heb agor y pecyn, ond nid yw bwyd i gael ei ystyried fel bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n felysyn neu siocled sydd wedi'i lapio'n unigol ac sydd heb ei amgáu mewn unrhyw becyn ychwanegol ac nad yw wedi'i fwriadu i'w werthu fel eitem unigol.

    (4) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Bwyd y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn gymwys iddo

Esemptiadau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd y deuir ag ef i mewn i Gymru o ran arall o'r Deyrnas Unedig neu o Aelod-wladwriaeth (heblaw'r Deyrnas Unedig)  - 

    (a) os cafodd ei werthu'n gyfreithlon yn y rhan o'r Deyrnas Unedig neu yn yr Aelod-wladwriaeth y daethpwyd ag ef i Gymru ohoni,

    (b) os cafodd ei gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth neu os oedd yn cael ei gylchredeg yn ddirwystr yn y rhan o'r Deyrnas Unedig neu yn yr Aelod-wladwriaeth y daethpwyd ag ef i Gymru ohoni, ac

    (c) os yw gofynion Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 (fel y bo'n gymwys), fel y'u darllenir yn y naill achos a'r llall gyda Chyfarwyddeb 79/112, wedi'u bodloni mewn perthynas â'r bwyd hwnnw.

    (2) Ni fydd dim ym mharagraff (1) uchod yn atal gorfodi rheoliad 7(c).

    (3) At ddibenion paragraff (1) uchod, mae i "cylchredeg yn ddirwystr" yr un ystyr â "free circulation" yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad yn sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.

    (4) Nid oes angen marcio na labelu â'r manylion GMO unrhyw fwyd wedi'i ragbacio, sydd naill ai wedi'i gynnwys mewn potel wydr ac arni farc annileadwy ac y bwriedir ei hailddefnyddio ac nad oes arni label, cylch na choler, neu y mae gan wyneb mwyaf ei becyn arwynebedd o lai na deg centimetr sgwâr.

Dull marcio neu labelu: gofyniad cyffredinol
    
4. Pan fydd unrhyw fwyd heblaw'r bwyd y mae rheoliad 5 yn gymwys iddo yn cael ei werthu, rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu arno ymddangos -

Dull marcio neu labelu: rheolau arbennig
    
5.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol  - 

    (2) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu i'r prynwr terfynol, rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu arno ymddangos, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3) isod  - 

    (3) Pan fydd bwyd  - 

rhaid peidio â thrin defnyddio labelau amgen yn lle'r manylion GMO ar ei ben ei hun fel achos o dorri'r gofynion labelu hynny ac at y diben hwn defnyddir labelau amgen, pan ddangosir y manylion amgen yn unol â pharagraff (4) isod, yn lle bod y manylion y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(3) o Reoliad 1139/98 neu yn Erthyglau 2 a 4 o Reoliad 50/2000 yn ymddangos yn y dull a bennir ym mharagraff (2)(a) neu (b) uchod.

    (4) Dangosir manylion amgen yn unol â'r paragraff hwn yngln ag unrhyw fwyd y cyfeirir ato ym mharagraff (3) uchod os gwelir ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad ac sydd wedi'i leoli yn y man ar y safle lle mae'n dewis y bwyd hwnnw -

    (5) Yn y rheoliad hwn, mae "safle" yn cynnwys unrhyw long neu awyren ac ystyr "safle priodol" yw safle -

    (6) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu heblaw i'r prynwr terfynol, rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu arno ymddangos -

Eglurder y marcio neu'r labelu
    
6.  - (1) Rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu ar fwyd, neu sy'n ymddangos ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label yn unol â'r Rheoliadau hyn, fod yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy ac yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r prynwr terfynol, rhaid i'r manylion a enwyd gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n ei gwneud yn hawdd i'w gweld.

    (2) Rhaid peidio â chuddio, tywyllu neu ymyrryd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.

    (3) Rhaid peidio â chymryd bod paragraff (1) uchod yn atal rhoi manylion gan fasarlwywyr, yngln â bwydydd y mae eu rhywogaeth a'u math yn cael eu newid yn rheolaidd, drwy gyfrwng dros dro (gan gynnwys defnyddio sialc ar fwrdd du).

CYFFREDINOL

Tramgwyddau a chosbau
    
7. Bydd unrhyw berson  - 

    (a) sy'n gwerthu unrhyw fwyd y mae gofynion labelu Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn gymwys iddo ac nad yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion GMO, ac eithrio yn achos unrhyw fwyd y mae rheoliad 5(3) yn gymwys iddo ac y mae manylion amgen yn cael eu dangos yngln ag ef yn unol â rheoliad 5(4),

    (b) sy'n gwerthu unrhyw fwyd nad yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu yn unol â rheoliad 4, 5 neu 6, neu

    (c) sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw fwyd newydd neu gynhwysyn bwyd newydd nad yw'r gofynion ychwanegol yngln â hwy mewn perthynas â gwybodaeth i fwytawyr a nodir yn Erthygl 8(1) o Rheoliad 258/97 wedi'u bodloni,

yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol o'i gollfarnu'n ddiannod.

Gorfodi
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal a'r awdurdod hwnnw fydd yr awdurdod cymwys yn ei ardal at ddibenion ail baragraff Erthygl 2(2)(b) o Reoliad 1139/98.

    (2) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â bwyd sydd wedi'i fewnforio a'r awdurdod hwnnw fydd yr awdurdod cymwys yn ei ardal mewn perthynas â'r bwyd hwnnw at ddibenion ail baragraff Erthygl 2(2)(b) o Reoliad 1139/98.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
    
9. Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi -

Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf

    
10.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at y Rhan ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriad yn is-adran (1)(a) i'r Ddeddf fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 258/97, Rheoliad 1139/98 a Rheoliad 50/2000.

    (3) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir gyda Rheoliad 258/97, Rheoliad 1139/98 a Rheoliad 50/2000  - 

Diwygiadau canlyniadol
    
11.  - (1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[10] (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â pharagraffau (2) i (11) isod.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorir diffiniadau "the GMO particulars" a "Regulation 1139/98".

    (3) Yn rheoliad 3(1)(iv) (esemptiadau), yn lle'r geiriau "Directive 94/54 and Regulation 1139/98" rhoddir y geiriau "and Directive 94/54".

    (4) Yn rheoliad 26 (mân becynnau a photeli penodol sydd wedi'u marcio annileadwy) -

    (a) ym mharagraff (1), hepgorir is-baragraff (b) a'r gair "or" o'i flaen; a

    (b) ym mharagraff (3A), hepgorir y geiriau "and the GMO particulars".

    (5) Yn rheoliad 35 (gofyniad cyffredinol ynghylch dull marcio neu labelu), hepgorir y geiriau "or by Regulation 1139/98".

    (6) Yn rheoliad 36 (dull marcio neu labelu yn achos bwyd y mae rheoliad 23 neu 27 yn gymwys iddo)  - 

    (a) ym mharagraff (1), hepgorir y geiriau "or by Regulation 1139/98" ac "or (4A)"; a

    (b) hepgorir paragraffau (4A) i (4C).

    (7) Yn rheoliad 38(1) (eglurder marcio neu labelu), hepgorir y geiriau "or by Regulation 1139/98".

    (8) Yn rheoliad 44(1) (tramgwyddau a chosbau) hepgorir is-baragraff (f);

    (9) Yn rheoliad 47(b) (amddiffyniad yngln ag allforion), yn lle'r geiriau ", Directive 94/54 and Regulation 1139/98" rhoddir y geiriau "and Directive 94/54".

    (10) Yn rheoliad 48 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990), hepgorir paragraff (2).

    (11) Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), hepgorir paragraffau (5) i (7).

     12. Diwygir Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwyd Newydd 1997[11] (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), drwy hepgor paragraff 7 yn yr Atodlen (darpariaethau Cymunedol penodedig).

Darpariaethau trosiannol
     13.  - (1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd  - 

mewn perthynas â'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu ar unrhyw fwyd perthnasol, bydd yn amddiffyniad profi  - 

    (2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd  - 

mewn perthynas â'r manylion y mae Rheoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu ar unrhyw fwyd perthnasol , bydd yn amddiffyniad profi bod y bwyd wedi'i werthu i'r prynwr terfynol neu i fasarlwyydd a'i fod wedi'i baratoi gan ddefnyddio cynhwysyn a oedd ar werth cyn 10 Ebrill 2000.

    (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) uchod, ystyr "bwyd perthnasol" yw bwyd  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12]


Jane Davidson
Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Gorffennaf 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi  - 

    (a) Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1139/98 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 49/2000) ynghylch gorfod dangos, ar labelau bwydydd penodol a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, fanylion heblaw'r rhai y darperir ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb 79/112/CEE;

    (b) Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 50/2000 ar labelu bwydydd a chynhwysion bwyd sy'n cynnwys ychwanegion a chyflasynnau a addaswyd yn enetig neu sydd wedi'u cynhyrchu o organeddau a addaswyd yn enetig; ac

    (c) y gofynion labelu yn Erthygl 8(1) o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 258/97 ynghylch bwydydd newydd a chynhwysion bwyd newydd (fel y'u darllenir gydag Erthyglau 1 a 2 o'r Rheoliad hwnnw).

Bwydydd a chynhwysion bwyd sydd i'w cyflwyno fel y cyfryw i'r prynwr terfynol yw'r cynhyrchion yr ymdrinnir â hwy gan Reoliad 1139/98, ar ôl iddynt gael eu cynhyrchu'n gyfan gwbl neu'n rhannol o ffa soia a addaswyd yn enetig neu indrawn a addaswyd yn enetig, fel y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o'r Rheoliad hwnnw. Estynnodd Rheoliad 49/2000 gwmpas Rheoliad 1139/98 i gynnwys gwerthiannau i fasarlwywyr a phennodd drothwy isaf o 1% ar gyfer difwyno cynhwysyn yn ddamweiniol â deunydd sy'n deillio o organeddau a addaswyd yn enetig. Mae Rheoliad 50/2000 yn gymwys hefyd yn achos bwyd a chynhwysion bwyd sydd wedi'u bwriadu ar gyfer prynwyr terfynol a masarlwywyr. Mae Rheoliadau 1139/98, fel y'u diwygiwyd, a Rheoliad 50/2000 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.

Diben y gofynion labelu yn Rheoliad 258/97 yw sicrhau bod y prynwr terfynol yn cael gwybod -

    (a) am unrhyw nodwedd neu briodoledd bwyd sy'n peri bod bwyd newydd neu gynhwysyn bwyd newydd yn peidio â chyfateb mwyach i fwyd neu gynhwysyn bwyd presennol;

    (b) am bresenoldeb deunydd yn y bwyd newydd neu'r cynhwysyn bwyd newydd nad yw'n bresennol mewn bwyd cyfatebol presennol ac a all fod ag oblygiadau ar gyfer iechyd rhannau penodol o'r boblogaeth neu achosi pryderon moesegol; ac

    (c) am bresenoldeb organedd a addaswyd yn enetig.

Gwnaed Rheoliadau 1139/98, fel y'u diwygiwyd, a 50/2000 yn unol ag Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/112/CEE ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd. Yn unol ag Erthyglau 11 a 13 o'r Gyfarwyddeb honno, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys  - 

    (a) esemptiad o'r angen i ddodi'r manylion a fynnir gan y Rheoliadau hynny o eiddo'r CE ar y label yn achos mân becynnau a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy (rheoliad 3(4)); a

    (b) darpariaeth yngln â dull y marcio neu'r labelu yn achos y manylion a fynnir gan y Rheoliadau hynny (rheoliadau 4 i 6).

Yn ychwanegol at Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno, mae'r Rheoliadau hyn  - 

    (a) yn caniatáu trefniadau labelu amgen yn lle'r manylion a fynnir gan y Rheoliadau hynny o eiddo'r CE mewn achosion lle bydd safleoedd priodol yn gwerthu i'r prynwr terfynol fwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol neu sydd heb ei ragbacio (rheoliad 5); a

    (b) yn cynnwys trefniadau trosiannol yngln â gwerthu bwyd o'r fath i'r prynwr terfynol neu i fasarlwyydd (rheoliad 13).

Mae'r rheoliadau hyn hefyd  - 

    (a) yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 7), yn cynnwys esemptiadau (rheoliad 3) ac yn pennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 8);

    (b) yn darparu amddiffyniad yngln ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/CEE (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar y dull swyddogol o reoli bwydydd, fel y'u darllenir gyda'r nawfed cronicliad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 9);

    (c) yn ymgorffori darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10); ac

         (ch) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall yngln â Chymru (rheoliadau 11 a 12).


Notes:

[1] 1990 p.16; mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Diwygiwyd adran 6(4)(a) o'r Ddeddf gan Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), Atodlen 9, paragraff 6. Ychwanegwyd adran 48(4A) gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), Atodlen 5 paragraff 21.back

[2] OJ Rhif L33, 8.2.79, t.1.back

[3] OJ Rhif L.144, 29.5.86, t.38.back

[4] OJ Rhif L186, 30.6.89, t.17.back

[5] (ch) OJ Rhif L43, 14, 2, 97, t.1.back

[6] OJ Rhif L159, 3.6.98, t.4.back

[7] OJ Rhif L190, 4.7.98, t.86.back

[8] OJ Rhif L6, 11.1.2000, t.13.back

[9] (ch) OJ Rhif L6, 11.1.2000, t.15.back

[10] O.S. 1996/1499; O.S. 1998/1398, 1999/747, 1483 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[11] O.S. 1997/1335; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[12] 1998 p.38.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001925w.html