BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002335w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2335 (Cy. 152)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 30 Awst 2000 
  Yn dod i rym -
  Pob rheoliad ac eithrio rheoliadau 7, 8, 11 a 14 1 Medi 2000 
  Rheoliadau 7,8, 11 a 14 1 Ionawr 2001 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Teitl, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Hysbysu daliadau lle cedwir defaid neu eifr
4. Cofnodion ynghylch defaid
5. Cofnodion ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr cig defaid penodedig
6. Tagiau clust a that s
7. Marcio anifeiliaid a anwyd yng Nghymru
8. Marcio anifeiliaid a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
9. Gofynion marcio ar gyfer anifeiliaid a ddygir i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall
10. Gofynion marcio ar gyfer anifeiliaid a ddygir i Gymru o ran arall o Ynysoedd Prydain
11. Gofynion marcio anifeiliaid i'w hanfon i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr
12. Gofynion marcio ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan o fewn Prydain Fawr
13. Gofynion dogfennol ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan o fewn Prydain Fawr
14. Tynnu ac amnewid tagiau clust
15. Tagiau clust a that s ychwanegol
16. Newid tagiau clust a that s
17. Pwerau Arolygwyr
18. Tramgwyddau
19 Terfynau amser ar gyfer erlyniadau
20. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
21. Gorfodi
22. Diwygiad i Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992
23. Diddymu

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000 a deuant i rym -

    (a) yn achos pob rheoliad ac eithrio rheoliadau 7, 8, 11 a 14, ar 1 Medi 2000; a

    (b) yn achos rheoliadau 7, 8, 11 a 14, ar 1 Ionawr 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at offeryn penodol) yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i ddefaid a geifr byw yn unig.

Hysbysu daliadau lle cedwir defaid neu eifr
    
3.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr ar ddaliad, o fewn un mis ar ôl i'r rheoliad hwn ddod i rym, neu yn ôl fel y digwydd, o fewn un mis ar ôl dechrau cadw defaid neu eifr ar ôl i'r rheoliad hwn ddod i rym, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig am y canlynol  - 

    (2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig am unrhyw newid yn y manylion a bennir ym mharagraff (1) uchod o fewn un mis o'r newid hwnnw.

    (3) Wrth gael hysbysiad o dan y rheoliad hwn bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn dyrannu i geidwad y defaid neu'r geifr farc diadell yn achos defaid neu farc gyr yn achos geifr.

    (4) Os lladd-dy neu farchnad yw'r daliad, ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dyrannu marc diadell na marc gyr ond pan fydd yn barnu ei bod yn briodol gwneud hynny.

Cofnodion ynghylch defaid
    
4.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr ar ddaliad (heblaw marchnad, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi ar 31 Ionawr ymhob blwyddyn neu cyn hynny, nifer y fath anifeiliaid a oedd ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honno.

    (2) O fewn 36 awr o symud defaid neu eifr i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi  - 

    (3) Yn achos defaid neu eifr a werthir heb gael eu symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant  - 

    (4) Yn achos dafad neu afr a farciwyd yn unol â rheoliad 8 neu a ailfarciwyd yn unol â rheoliad 14(2) neu (3), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r anifail (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc diadell newydd (yn achos defaid) neu farc gyr (yn achos geifr) a'r un blaenorol, os yw hwnnw'n hysbys.

    (5) Rhaid i bob cofnod o dan y rheoliad hwn gael ei gadw gan y person sy'n gwneud y cofnod am gyfnod o chwe mlynedd.

Cofnodion ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr cig defaid penodedig
    
5.  - (1) Yn ychwanegol at y cofnodion sy'n ofynnol o dan y rheoliad blaenorol, rhaid i geidwad sy'n gynhyrchydd cig defaid at ddibenion Rheoliad y Cyngor 3493/90/EEC (sy'n gosod rheolau cyffredinol ynghylch rhoi premiwm i gynhyrchwyr[3] cig defaid a chig geifr) gadw'r cofnodion a bennir yn y rheoliad hwn.

    (2) Ar 31 Ionawr ymhob blwyddyn neu cyn hynny, rhaid i'r ceidwad gofnodi cyfanswm y defaid benyw a oedd ar y daliad ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honno, a oedd naill ai dros 12 mis oed neu wedi bwrw oen, ar y dyddiad y gwnaed y cofnod.

    (3) O fewn 14 diwrnod o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol  - 

    (a) bod unrhyw ddefaid benyw a oedd naill ai dros 12 mis oed neu a oedd wedi bwrw oen yn cael eu symud yn fwriadol i'r daliad neu oddi arno ;

    (b) bod dafad fenyw sydd heb fwrw oen yn cyrraedd 12 mis oed;

    (c) bod dafad o dan 12 mis oed yn bwrw oen;

    (ch) darganfod bod dafad fenyw a oedd naill ai dros 12 mis oed neu a oedd wedi bwrw oen wedi cael ei cholli o'r daliad, naill ai am ei bod wedi marw neu am ei bod ar grwydr o'r daliad,

rhaid i'r ceidwad gofnodi cyfanswm y defaid benyw ar y daliad sydd wedi bwrw oen neu sydd dros 12 mis oed, dyddiad y cofnod a'r rhesymau y mae cyfanswm y defaid hynny ar y daliad wedi newid.

    (4) Rhaid i bob cofnod o dan y rheoliad hwn gael ei gadw gan y person sy'n gwneud y cofnod am gyfnod o bedair blynedd.

Tagiau clust a that s
     6.  - (1) Bydd unrhyw dag clust a gysylltir o dan y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Rhaid peidio â lliwio tag clust a gysylltir o dan y Rheoliadau hyn yn goch oni bai ei fod yn dag clust newydd a gysylltwyd o dan ddarpariaethau rheoliad 14(3)(a).

    (3) Rhaid cynllunio unrhyw dat a roddir o dan y Rheoliadau hyn i fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes yr anifail.

Marcio anifeiliaid a anwyd yng Nghymru
    
7.  - (1) Yn ddarostyngedig i weddill darpariaethau'r rheoliad hwn, rhaid i geidwad unrhyw ddafad neu afr a enir yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol neu ar ôl hynny, neu sy'n dal i fod ar ei daliad genedigol ar y dyddiad hwnnw, ei marcio cyn gynted â phosibl, a beth bynnag cyn iddi gael ei symud o'i daliad genedigol, â thag clust neu dat sy'n cynnwys  - 

    (2) Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â symud defaid neu eifr sydd heb eu marcio yn unol â'r rheoliad hwn oddi ar ddaliad, bydd yn amddiffyniad mewn unrhyw achos o dan y rheoliad hwn i'r person sy'n symud yr anifeiliaid brofi bod yr anifeiliaid - 

    (3) Gall tag clust neu dat gynnwys gwybodaeth sy'n ychwanegol at yr hyn sy'n ofynnol o dan y rheoliad hwn.

    (4) Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys mewn perthynas â defaid neu eifr a gafodd eu marcio cyn y dyddiad perthnasol â thag clust neu dat yn dynodi marc diadell enedigol neu farc gyr genedigol, neu a oedd wedi'u marcio â thag clust yn dwyn marc cymdeithas fridio a gofrestrwyd yn unol â pharagraff (6) isod, ac a oedd ar y daliad genedigol ar y dyddiad perthnasol hwnnw.

    (5) Am gyfnod o flwyddyn gan ddechrau gyda'r dyddiad perthnasol -

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o farciau a roddir gan gymdeithasau bridio a nodi yn y gofrestr honno unrhyw farc y mae cymdeithas fridio yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru o dan y paragraff hwn.

Marcio anifeiliaid a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
    
8.  - (1) Os mewnforir dafad neu afr i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid iddi gael ei marcio gan geidwad daliad y gyrchfan o fewn 30 diwrnod ar ôl cyrraedd y daliad hwnnw a beth bynnag cyn iddi gael ei symud o'r daliad hwnnw, â thag clust neu dat sy'n cynnwys  - 

    (2) Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys os lladd-dy yw'r gyrchfan ar gyfer yr anifail a fewnforir, a bod yr anifail yn cael ei ladd yno o fewn 5 diwrnod heb iddo gael ei symud o'r lladd-dy.

Gofynion marcio ar gyfer anifeiliaid a ddygir i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall
    
9. Ni chaiff neb fewnforio defaid na geifr o Aelod-wladwriaeth arall onid ydynt wedi'u marcio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid[4].

Gofynion marcio ar gyfer anifeiliaid a ddygir i Gymru o ran arall o Ynysoedd Prydain
     10. Ni chaiff neb ddod â dafad na gafr i Gymru o ran arall o Ynysoedd Prydain oni fydd yr anifail wedi'i farcio yn unol â'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn y rhan honno o Ynysoedd Prydain.

Gofynion marcio ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr
    
11.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon defaid neu eifr y tu allan i Brydain Fawr sicrhau (neu, yn achos anifail a gafodd ei farcio eisoes â rhif adnabod unigol, fe gaiff sicrhau) bod pob anifail wedi'i farcio adeg ei anfon â thag clust neu dat sy'n cynnwys cyfuniad unigryw o'r llythrennau "UK", marc diadell neu farc gyr y safle sy'n ei anfon, y llythyren "X", a rhif adnabod unigol.

    (2) Ni chaiff neb anfon unrhyw ddafad neu afr y tu allan i Brydain Fawr os cafodd ei farcio â thag clust neu dat yn diweddu â'r llythyren "R" sy'n dangos mai tag clust neu dat yn lle un arall ydyw.

Gofynion marcio ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan o fewn Prydain Fawr
    
12.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n symud defaid neu eifr o ddaliad i gyrchfan o fewn Prydain Fawr sicrhau bod yr anifeiliaid wedi'u marcio cyn iddynt gael eu symud o'r daliad yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) isod, rhaid i bob anifail gael ei farcio â marc dros dro sy'n ddigon amlwg i'r anifail gael ei adnabod at ddibenion y ddogfen sy'n ofynnol o dan reoliad 13 ac a fydd yn para o leiaf nes i'r anifail gyrraedd ei gyrchfan.

    (3) Yn achos anifail a farciwyd â rhif adnabod unigol unigryw, neu â'r marc diadell neu'r marc gyr, bydd y gofyniad i'w farcio â marc dros dro yn ddewisol, ond os caiff yr anifail ei farcio â marc dros dro, rhaid i'r marc gael ei gofnodi yn y cofnodion symud a wneir o dan reoliad 4 ac yn y ddogfen gludo sy'n cael ei chario o dan reoliad 13.

    (4) Ni fydd y gofyniad i roi marc dros dro, sy'n cael ei osod o dan baragraff (2) uchod, yn gymwys yn achos anifeiliaid  - 

Gofynion dogfennol ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan o fewn Prydain Fawr
    
13.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n symud defaid neu eifr o ddaliad i gyrchfan ym Mhrydain Fawr sicrhau bod dogfen yn cyd-fynd â'r anifeiliaid, a'r ddogfen honno  - 

a rhaid i'r person sy'n symud yr anifeiliaid sicrhau bod y ddogfen yn cael ei throsglwyddo i feddiannydd daliad y gyrchfan pan fydd yr anifeiliaid yn cyrraedd yno.

    (2) Ni fydd y gofyniad i gael dogfen i gyd-fynd â'r anifeiliaid a osodir o dan baragraff (1) uchod yn gymwys yn achos  - 

Tynnu ac amnewid tagiau clust
    
14.  - (1) Ac eithrio o dan awdurdod un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ni chaiff neb  - 

    (2) Wrth amnewid tag clust neu dat yn unol â pharagraff (1) uchod, rhaid i'r ceidwad ailfarcio'r anifail â thag clust neu dat gyda'r rhif gwreiddiol neu â thag clust neu dat sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn byw arno, ar yr amod bod y marc adnabod gwreiddiol yn hysbys a bod yna groes-gyfeiriad rhwng y marc adnabod gwreiddiol a'r marc adnabod newydd yn y gofrestr sy'n ofynnol o dan reoliad 4 .

    (3) Os nad yw'n bosibl ailfarcio'r anifail yn unol â'r paragraff blaenorol, rhaid i'r ceidwad ailfarcio'r anifail â naill ai  - 

    (4) Ni fydd paragraffau (2) a (3) uchod yn gymwys yn achos anifail mewn marchnad neu ladd-dy.

Tagiau clust a that s ychwanegol
    
15. Ni chaiff neb roi unrhyw dag clust neu dat ar ddafad neu afr sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr ac eithrio yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

Newid tagiau clust a that s
    
16. Ni chaiff neb newid, dileu, na difwyno'r wybodaeth ar dag clust neu dat a roddir ar anifail o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau arolygwyr
    
17.

    (1) O ddangos dogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd hawl i fynd ar unrhyw dir neu safle (heblaw safle teuluol nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn) ar unrhyw adeg rhesymol er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r Rheoliadau yn cael ei dorri neu wedi cael ei dorri; ac yn y rheoliad hwn mae "safle" yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

    (2) Bydd gan arolygydd b er -

Tramgwyddau
    
18.  - (1) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.

    (2) Os bydd unrhyw berson -

bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.

Cosbau
    
19.  - (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) o reoliad 18 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol.

    (2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (2) o reoliad 18 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Terfynau amser ar gyfer erlyniadau
    
20.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gellir cychwyn achos am dramgwydd o dan reoliad 18 o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y daw tystiolaeth, sydd ym marn yr erlynydd yn ddigon i gyfiawnhau achos, yn hysbys iddo ef neu iddi hi.

    (2) Ni chaiff unrhyw achos o'r fath gael ei gychwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na deuddeng mis ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn,

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
21.  - (1) Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y corff corfforaethol, neu y gellir priodoli'r dramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw, bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r dramgwydd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac fe'i cosbir yn unol â hynny.

    (2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "swyddog", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Gorfodi
    
22. Ac eithrio lle ceir darpariaeth benodol wahanol, cyflawnir darpariaethau'r Rheoliadau hyn ac fe'u gorfodir gan yr awdurdod lleol (heblaw rheoliad 5, a orfodir gan y Cynulliad Cenedlaethol).

Diwygiad i Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992
    
23.  - (1) Diwygir Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992[5] yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (5)(a) o reoliad 5 rhowch "regulation 5 of the Sheep and Goats Identification (Wales) Regulations 2000[6] ("the Identification Regulations")" yn lle "article 5 of the Sheep and Goats (Records, Identification and Movement) Order 1996 ("the 1996 Order")".

    (3) Rhoddir y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 8A -

Diddymu
    
24.

    (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, diddymir Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1996[
7] i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

    (2) Bydd Erthygl 7 o Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1996 yn parhau mewn grym, i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, tan y dyddiad perthnasol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Awst 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gweithredu'r darpariaethau ynghylch defaid a geifr yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32), yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodion a dogfennau eraill ynghylch defaid a geifr a marcio defaid a geifr. Maent yn diddymu Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1996, O.S. 1996/28 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

Hysbysu
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") (rheoliad 3).

Cofnodion
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n cadw defaid neu eifr gadw cofnodion yngln â symudiadau ac, yn achos ceidwaid sy'n gynhyrchwyr cig defaid at ddibenion Rheoliad y Cyngor 3493/90/EEC (sy'n gosod rheolau cyffredinol ynghylch rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (O.J. L337, 4.12.90, t.7)) gadw cofnodion ychwanegol yn ymwneud â digwyddiadau penodedig (rheoliadau 4 a 5).

Marcio anifeiliaid
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer marcio defaid a geifr, naill ai â thag clust neu a that .Yn ddarostyngedig i eithriadau a darpariaethau trosiannol penodol, o 1 Ionawr 2001 ymlaen, mae'n ofynnol marcio pob anifail a enir neu a symudir gyntaf oddi ar y daliad genedigol ar ôl y dyddiad hwnnw, a'r holl ddefaid a geifr a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (rheoliadau 6 i 8). Mae'r Rheoliadau yn gwahardd dod â defaid neu eifr i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall neu o ran arall o'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw ("yr Ynysoedd Prydain") oni bai eu bod wedi'u marcio (rheoliadau 9 ac 10).

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol marcio defaid a geifr pan anfonir hwy i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr (rheoliad 11) ac i gyrchfan o fewn Prydain Fawr (rheoliad 12). Maent yn darparu hefyd ar gyfer cario dogfennau pan symudir defaid neu eifr o fewn Prydain Fawr (rheoliad 13). Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer tynnu tagiau clust a that s, a rhoi rhai newydd yn eu lle, rhoi tagiau clust a that s ychwanegol ac maent yn gwahardd newid tagiau clust a that s (rheoliadau 14 i 16).

Gorfodi a Thramgwyddau
Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer pwerau i arolygwyr (rheoliad 17), tramgwyddau (rheoliad 18) a chosbau (rheoliad 19).

Yr Awdurdodau Lleol sy'n gorfodi'r Rheoliadau ar wahân i reoliad 5, a orfodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau
Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 i ddarparu ar gyfer adennill premiwm oddi wrth gynhyrchwyr sydd wedi torri rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn.

Arfarniad Rheoleiddio
Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran Polisi Amaethyddol 3, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L337, 4.12.90, t.7.back

[4] OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32.back

[5] O.S. 1992/2677 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49 a 1997/2500.back

[6] O.S. 2000/2335 (Cy. 152).back

[7] O.S. 1996/28.back

[8] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002335w.html