BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002906w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2906 (Cy. 186 )

ADDYSG , CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 26 Hydref 2000 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(6A) a (6B) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac adrannau 15 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a diddymu
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2000

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (3) Mae rheoliad 10A o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993[
4]) a rheoliad 3(4) o Reoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) 1998[5] wedi'u diddymu.

Dehongli
     2.  - (1) Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn -

    (a) mae i "addysg bellach" yr ystyr a roddir i "further education" gan adran 2(3) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[6]);

    (b) ystyr "addysg uwch" ("higher education") yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;

    (c) ystyr "gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc" ("worker with children or young persons") yw person a gyflogir -

      (i) gan awdurdod addysg lleol, neu

      (ii) gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad sy'n dod o fewn adran 218(10) neu (11) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[7];

    mewn gwaith, heblaw fel athro neu athrawes, sy'n dod â'r person hwnnw i gyswllt yn rheolaidd â phersonau ifanc sydd heb gyrraedd 19 mlwydd oed.

    (ch) ystyr "sefydliad addysg bellach" ("further educaton institution") yw sefydliad, nad yw'n ysgol, sy'n darparu addysg bellach (p'un a yw'n darparu addysg uwch hefyd neu beidio) ac sydd naill ai -

      (i) yn cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol; neu

      (ii) yn sefydliad yn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[8]);

    (d) ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig[9] nad yw'n cael ei chynnal felly.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth -

    (a) gan awdurdod addysg lleol fel athro neu athrawes (p'un ai mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu beidio) neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc;

    (b) gan unrhyw gorff arall, fel athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach;

    (c) gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc;

    (ch) gan berchennog ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc; a

    (d) mewn ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc.

    (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyflogaeth yn cynnwys ymglymu person i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.

Cyfyngu darparu gwasanaethau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson y gwaherddir ei gyflogi, neu y cyfyngir ar ei gyflogi, ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn is-adran (6ZA)(a) i (d) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[10], o dan reoliadau a wnaed o dan is-adran (6) o'r adran honno[11].

    (2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach, yr awdurdod addysg lleol i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw, a pherchennog ysgol annibynnol, gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i atal person nad yw'n cael ei gyflogi ganddynt mewn cyflogaeth berthnasol rhag darparu gwasanaethau mewn perthynas â'r ysgol neu'r sefydliad neu mewn perthynas â phersonau sy'n eu mynychu -

      (i) sy'n cael eu darparu drwy ba gyfrwng bynnag a ph'un a ydynt o dan gontract neu fel arall; a

      (ii) a fyddai'n dod â'r person hwnnw a fyddai'n eu darparu i gyswllt yn rheolaidd â phersonau sydd heb gyrraedd 19 mlwydd oed.

    (3) Mae paragraff (2) ond yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae ei gyflogaeth neu ei gyflogaeth bellach wedi'i chyfyngu (o'i gyferbynnu â'i gwahardd) os y byddai caniatáu i'r person ddarparu'r gwasanaethau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, pe bai'n cael ei gyflogi gan gorff llywodraethu o'r fath neu awdurdod addysg lleol neu gan berchennog ysgol annibynnol mewn cyflogaeth berthnasol, yn groes i delerau'r cyfyngiad.

Adroddiadau ar gamymddygiad
     4.  - (1) Os yw person  - 

rhaid i'r cyflogydd gyflwyno adroddiad am ffeithiau'r achos a rhoi unrhyw wybodaeth bellach am yr amgylchiadau a arweiniodd at y diswyddo neu'r ymddiswyddo, ac sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y cyflogydd, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (2) Ym mharagraff (1), mae'r cyfeiriad at "ddiswyddo o gyflogaeth berthnasol" yn cynnwys camau gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach i derfynu ymglymiad person i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes mewn cyflogaeth berthnasol heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at "ddiswyddo" yn unol â hynny ac mae'r cyfeiriad at "ymddiswyddo" yn cynnwys camau gan berson i derfynu ymglymiad o'r fath.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12].


D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Hydref 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r rhai y mae eu cyflogaeth fel athro neu athrawes, neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc, wedi'i gwahardd neu wedi'i chyfyngu o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Maent yn gwneud darpariaeth hefyd sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon ac athrawesau gyflwyno adroddiad ar gamymddygiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae rheoliad 1 yn diddymu rheoliad 10A o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993 a rheoliad 3(4) o Reoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) 1998.

Mae Rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach, i'r awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw, ac i berchennog ysgol annibynnol, gymryd camau rhesymol ymarferol i atal person y gwaherddir ei gyflogi, neu y cyfyngir ar ei gyflogi, o dan Reoliadau a wneir o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ond nad yw mewn cyflogaeth berthnasol, rhag darparu gwasanaethau mewn perthynas â'r ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw neu mewn perthynas â'r rhai sy'n eu mynychu, a fyddai'n golygu cyswllt rheolaidd â phlant neu bersonau ifanc.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogydd person sy'n cael ei ddiswyddo o gyflogaeth berthnasol ar sail camymddygiad, neu sy'n ymddiswyddo o dan amgylchiadau y byddai'r cyflogydd wedi'i ddiswyddo o danynt, gyflwyno adroddiad am ffeithiau'r achos a rhoi unrhyw wybodaeth bellach am amgylchiadau'r diswyddo neu'r ymddiswyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.


Notes:

[1] 1988 p.40. Mewnosodwyd is-adrannau (6A) a (6B) gan adran 49(2) o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) a diwygiwyd is-adran (6A) gan adran 5(3) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14).back

[2] 1998 p.30. Diwygiwyd adran 15 gan adran 5(4) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[4] (ch) O.S. 1993/543. Diddymwyd pob darpariaeth arall yn y Rheoliadau hynny, gydag eithriadau, gan O.S. 2000/2419.back

[5] O.S. 1998/1584. Diddymwyd pob darpariaeth arall yn y Rheoliadau hynny, gydag eithriadau, gan O.S. 2000/2419.back

[6] (dd) 1996 p.56.back

[7] Diwygiwyd adran 218(10) ac (11) gan adran 93 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), a pharagraff 49 o Atodlen 8 ac Atodlen 9 iddi.back

[8] 1992 p.13.back

[9] Ar gyfer ystyr "ysgol arbennig" gweler adrannau 6(2) a 337 o Ddeddf Addysg 1996, fel y'u diwygiwyd yn ôl eu trefn gan baragraffau 60 a 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998.back

[10] Mewnosodwyd adran 218(6ZA) gan adran 5(2) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.back

[11] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) 2000 (O.S. 2000/2419), sy'n gymwys i Gymru a Lloegr, oedd y Rheoliadau a oedd mewn grym o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.back

[12] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002906w.html