BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 2001 Rhif 139 (Cy. 5 ) (C. 7 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010139w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 139 (Cy. 5 ) (C. 7 )

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 23 Ionawr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1].

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dyddiau penodedig
     2.  - (1) At ddibenion galluogi cais cofrestru i gael ei wneud o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn unig, 1 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i adran 40 o'r Ddeddf (ymestyn dros dro ystyr "cartref plant") ddod i rym.

    (2) 28 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym  - 

Darpariaethau Trosiannol
    
3.  - (1) Os yw person sy'n rhedeg cartref bach i blant wedi gwneud cais cofrestru yn briodol cyn 28 Chwefror 2001 o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989, bydd paragraffau canlynol yr erthygl hon yn gymwys.

    (2) Ni fydd adran 63(1) a (10) o Ddeddf 1989 yn gymwys i'r person hwnnw - 

    (3) Dyma'r amodau - 

    (4) Ni fydd paragraffau 1(9) a 7(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn gymwys i'r cais.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") yng Nghymru.

Mae'n dwyn i rym adran 40 o'r Ddeddf, sy'n diwygio Deddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu gweithredu'n breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant (cartrefi bach i blant) gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal. Bydd adran 40 yn dod i rym ar 1 Chwefror 2001 er mwyn galluogi ceisiadau cofrestru i gael eu gwneud, ac ar 28 Chwefror 2001 i bob diben arall. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw cartref bach i blant y mae cais cofrestru wedi'i wneud yn briodol ar ei gyfer erbyn 28 Chwefror 2001 i gael ei drin fel cartref plant anghofrestredig hyd nes bod y broses gofrestru ar ei gyfer wedi'i chwblhau. Mesurau interim yw'r rhain a fydd yn cael eu diddymu, maes o law, pan fydd Rhan II o'r Ddeddf, a fydd yn sefydlu cynllun newydd ar gyfer cofrestru pob cartref plant, gan gynnwys cartrefi bach, yn cael ei gweithredu'n llawn. O ganlyniad, mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym fân ddiwygiad i adran 66 o Ddeddf Plant 1989 sy'n ymwneud â'r diffiniad o faethu preifat.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym, o 28 Chwefror 2001 ymlaen, adran 41 o'r Ddeddf. Mae honno yn diwygio Deddf Plant 1989 i ddarparu y gellir dileu cofrestriad cartref plant o unrhyw ddisgrifiad hyd yn oed os yw'r cartref wedi peidio â bod, megis pan yw'r perchennog yn ei gau cyn i unrhyw achos gorfodi ddod i ben. Bydd canlyniadau'r dileu gan hynny yn gymwys p'un a yw'r cartref yn bodoli ai peidio ar ddyddiad y dileu. Mae hwn hefyd yn fesur interim nes gweithredir Rhan II o'r Ddeddf.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael, neu ar fin cael, eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2992 (Cy.192)(C.93)

Darpariaeth/Provision

Adran/Section 72

Atodlen/Schedule 2

Adran/Section 54(1), (3)-(7)

Adran/Section 55 ac Atodlen 1/and Schedule 1

Adran/Section 113 (2)-(4)

Adran/Section 114 (yn rhannol) / (partially)

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72).

Darpariaeth/Provision

Adran/Section 96 (yn rhannol) / (partially)

Adran/Section 99

Adran/Section 80(8) (yn rhannol) / (partially)

Adran/Section 94

Adran/Section 96 (y gweddill) / (remainder)

Adran/Section 100

Adran/Section 101

Adran/Section 103

Adran/Section 116 ac Atodlen 4/and Schedule 4 (yn rhannol) (partially)

Adran/Section 117(2) ac Atodlen 6/and Schedule 6 (yn rhannol) / (partially)

Yn ychwanegol, mae darpariaethau amrywiol eraill o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 2000/2795 (C.79).


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.back

[2] 1989 p.41.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090155-x


  Prepared 15 February 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010139w.html