BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 2001 Rhif 495 (Cy. 22 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010495w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 495 (Cy. 22 )

ADDYSG , CYMRU

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2001.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)(b) yn lle "28(a) to (d)" rhowch "28(a), (b) and (d)".

    (3) Yn rheoliad 3, dilëwch yr "and" yn union o flaen paragraff (f) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch  - 

    (4) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 28 hepgorwch is-baragraff (c) ac yn lle is-baragraff (d) rhowch "(d) revenue budget preparation and the production and publication of accounts.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Chwefror 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sydd erbyn hyn yn gymwys i Gymru yn unig), a hynny i weithredu penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n briodol i wariant ar weinyddiaeth pwyllgorau addysg na gwariant ar archwiliadau allanol gael eu cynnwys yng nghyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau 1999 (sy'n nodi pa wariant sydd wedi'i gynnwys a pha wariant sydd heb ei gynnwys yn y gyllideb honno) er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (sy'n pennu dosbarthiadau a disgrifiadau o wariant a all gael eu tynnu oddi ar gyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol er mwyn cyfrif eu cyllideb ysgolion unigol) a hynny i ddileu cyfeiriadau at y ddau gategori gwariant y cyfeirir atynt uchod.


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy.40). Yn wreiddiol yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy ond cawsant eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/478.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090160-6


  Prepared 14 March 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010495w.html