BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011111w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1111 (Cy. 55)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannnau 537(1) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddo fod ymgynghori â hwy yn ddymunol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deaunt i rym ar 1 Medi 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[3] fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl paragraff 14 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny mewnosodwch - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 sy'n darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ym mhrosbectws yr ysgol. Mae pedair eitem ychwanegol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer disgyblion anabl, polisïau cyfleoedd cyfartal, diogelwch yr ysgol a'r cytuneb cartref-ysgol a fabwysiadayd gan yr ysgol bellach i gael eu cynnwys ym mhrosbectws yr ysgol - gweler Rheoliad 2.


Notes:

[1] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 537(4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 ac adran 537(1) gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Ar gyfer ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/1812.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090202-5


  Prepared 22 May 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011111w.html