BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011300w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1300 (Cy. 77)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122B(1), (2) a (4), 126(4) a 127(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a phob p er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyflwyno hysbysiad cosb
    
2.  - (1) Os bydd person yn methu â thalu unrhyw swm y cyfeirir ato yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf[3], caiff yr awdurdod cyfrifol gyflwyno hysbysiad cosb yn ei gwneud yn ofynnol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar ddyddiad anfon yr hysbysiad cosb, i'r person dalu'r swm hwn i'r awdurdod cyfrifol ynghyd â thâl cosb y penderfynir arno yn unol â rheoliad 3.

    (2) Rhaid i hysbysiad cosb gael ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

    (3) Rhaid i'r hysbysiad cosb ddatgan - 

Cyfrifo'r tâl cosb
     3. P'un bynnag yw'r lleiaf o'r canlynol fydd y swm cosb - 

Gordal
    
4.  - (1) Os bydd person yn methu â thalu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb yn unol â rheoliad 2(1), bydd yn agored i dalu i'r awdurdod cyfrifol swm pellach (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel "gordal"), wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

    (2) Swm y gordal fydd 50% o swm y tâl cosb (wedi'i dalgrynnu i lawr, yn ôl yr angen, i'r geiniog gyfan agosaf).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosb sifil os bydd person, ar gam, yn methu â thalu un o ffioedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas â darparu cyffuriau a meddyginiaethau, triniaeth a chyfarpar deintyddol, gwasanaethau optegol, neu unrhyw gyfarpar arall. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosb sifil os bydd person yn cael taliad neu fudd-dâl tuag at gost un o ffioedd neu wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol nad oes gan y person hwnnw hawl i'w gael, megis talebau sbectolau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu brofion golwg di-dâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Yn rheoliad 2 darperir ar gyfer rhoi hysbysiad cosb i berson i fynnu bod y swm y mae'r person wedi methu â'i dalu yn cael ei dalu, ynghyd â thâl cosb ychwanegol. Nodir o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i'r symiau hynny gael eu talu, a'r wybodaeth y mae'n rhaid i'r hysbysiad cosb ei chynnwys. Yn rheoliad 3 nodir sut y mae'n rhaid i swm y tâl cosb sy'n daladwy gael ei gyfrifo.

Os nad yw'r swm sydd i'w dalu o dan yr hysbysiad cosb yn cael ei dalu o fewn y cyfnod a ragnodir, mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid talu swm pellach yn gosb ("gordal"). Mae'r rheoliad yn nodi sut y mae'n rhaid i swm y gordal gael ei gyfrifo.


Notes:

[1] 1977 p.49. Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael diffiniadau "prescribed" a "regulations". Mewnosodwyd adran 122B gan adran 39 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990.back

[2] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 122B(1), (2) a (4), 126(4) a 127(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back

[3] Mae adran 122B yn gymwys i ffioedd a thaliadau a all gael eu hadennill o dan adran 122(1) neu 122A o'r Ddeddf oddi ar berson mewn perthynas â darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau a restrir yn adran 122A(7); mewnosodwyd adran 122A gan adran 39 o Ddeddf 1999. Mae ffioedd o'r fath yn cynnwys ffioedd a all gael eu codi a'u hadennill am driniaeth ddeintyddol a ddarperir yn unol â chynlluniau peilot o dan adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46); gweler adran 39(3) o Ddeddf 1999.back

[4] Gweler adran 122B(7)(a) o'r Ddeddf.back

[5] Gweler adran 122B(7)(b) o'r Ddeddf.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090234-3


  Prepared 12 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011300w.html