BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011301w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1301 (Cy. 78)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Mai 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 171C o Ddeddf Tai 1985[1], sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio
    
2. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliad 3 isod, mae Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) 1993[3] yn cael eu diwygio drwy roi, yn lle Atodlen 5A fel y'i nodir yn Rhan II o Atodlen 1 (Addasiadau i Ran V o Ddeddf Tai 1985) ac fel y'i nodir yn Atodlen 2 (Rhan V fel y mae'n gymwys mewn achosion lle cedwir yr hawl i brynu), yr Atodlen a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Eithrio
     3. Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achos lle cafodd y gwarediad y mae adran 171A o Ddeddf Tai 1985 yn gymwys iddo ei wneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001



ATODLEN
Rheoliad 2





EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) 1993 sy'n addasu Rhan V o Ddeddf Tai 1985 (yr hawl i brynu) ar gyfer achosion yng Nghymru pan fydd awdurdod neu gorff yn gwaredu t annedd cymwys a osodwyd i denant diogel ac y cedwir hawl y tenant i brynu gan adran 171A o'r Ddeddf honno. Er hynny, nid yw'r diwygiadau'n gymwys os cafodd y gwarediad y mae adran 171A yn gymwys iddo ei wneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae'r diwygiadau'n ymwneud â chyfrifo'r isafswm costau (cost floor) sy'n cyfyngu ar swm y disgownt y gall tenant ei gael wrth arfer yr hawl i brynu. Cyn hyn, yr unig gostau a gynhwysid wrth gyfrifo'r isafswm costau oedd costau caffael neu adeiladu'r t annedd a chostau gwelliannau, ond o dan y diwygiadau hyn estynnwyd y costau hyn i gynnwys costau rhai gweithfeydd trwsio a chynnal.

Pan nad oedd gwerth i'r t annedd adeg ei drosglwyddo i'r landlord a hwnnw'n drosglwyddiad yr oedd yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei gyfer, mae'r costau wedi'u hestyn ymhellach i gynnwys costau cyfleusterau cymunedol penodol, costau gweinyddol heb fod yn fwy na £2,000 a ffioedd proffesiynol ac ymgynghorol.


Notes:

[1] 1985 p.68: mewnosodwyd adran 171C gan adran 8 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), fe'i diwygiwyd gan adran 127 o Ddeddf Tai 1988 (p.50) a pharagraff 106 o Ran II o Atodlen 17 iddi a pharagraff 19 o Atodlen 21 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28) a'i diddymu'n rhannol gan Atodlen 22 i Ddeddf 1993.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/2241.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 1986 p.6; amnewidiwyd adran 736 gan adran 144(1) o Ddeddf Cwmnïau 1989 (p.40).back



English version



ISBN 0-11-090200-9


  Prepared 21 May 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011301w.html