BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011302w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1302 (Cy. 79)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi [1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 [2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddywd iddo gan yr adran honno, i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chodi ffioedd am fonitro gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 [3];

a thrwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1), 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[4]) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[5], ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

Diwygiadau i Reoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998[6]) yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o "accounting period", mewnosodir y geiriau "of less than a year" cyn y gair "determined".

    (3) Yn rheoliad 3 (ffioedd), hepgorir paragraffau (5) a (6).

    (4) Yn rheoliad 3(10) hepgorir y geiriau "or (5)".

    (5) Yn yr Atodlen (cyfrifo'r ffi archwilio), caiff paragraff 1 ei hepgor, gan fewnosod y paragraff canlynol - 

    (6) Yn yr Atodlen, mewnosodir y paragraff canlynol rhwng paragraffau 1 a 2 - 

    (7) Yn yr Atodlen, caiff paragraff 2 ei hepgor, gan fewnosod y paragraff canlynol - 

    (8) Yn yr Atodlen, caiff paragraffau 3 i 5 eu hepgor, gan fewnosod y paragraffau canlynol - 

    (9) Yn y tabl, ym mharagraff 6 o'r Atodlen, mewnosodir y cofnodion canlynol ar ddiwedd y golofn gyntaf - 

a mewnosodir y ffigur "1.3" yn nhrydedd golofn y tabl hwnnw gyferbyn â phob un o'r cofnodion newydd hynny.

    (10) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 7 - 

    (11) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 8, mewnosodir y paragraffau canlynol - 

    (12) Yn yr Atodlen, caiff paragraff 12 ei hepgor, gan fewnosod y paragraff canlynol - 

    (13) Yn yr Atodlen, caiff paragraff 13 ei hepgor gan fewnosod y paragraff canlynol yn ei le - 

    (14) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 14 - 

    (15) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 15, caiff y geiriau "paragraph 14(b)" eu hepgor gan fewnosod y geiriau "paragraphs 12(3) and 14(b)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys i Gymru yn unig) yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 (O.S. 1998/2095) fel y maent yn gymwys i Gymru. Rhoes y Rheoliadau hynny y darpariaethau sy'n ymwneud â ffioedd am archwilio cig yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar waith ym Mhrydain Fawr, sef Cyfarwyddeb y mae ei thestun diwygiedig a chyfnerthedig wedi'i atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC (OJ Rhif L162, 1.7.96, t.4).

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn newid y sail ar gyfer cyfrifo'r ffioedd y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ei gwneud yn ofynnol eu codi am archwiliadau hylendid cig yng Nghymru. Mae'r sail ddiwygiedig ar gyfer cyfrifo'r ffioedd hynny yn aros yn gydnaws â Chyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC.


Notes:

[1] OS 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OS 1998/2095, a ddiwygiwyd gan OS 2000/224; mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud hefyd gan OS 2000/656.back

[4] 1990 p.16. Cafodd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.back

[5] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[6] O.S. 1998/2095, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/224; gwnaed diwygiadau perthnasol hefyd gan O.S. 2000/656.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090212-2


  Prepared 1 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011302w.html