BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011332w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1332 (Cy.82)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 25 Ebrill 2001 


TREFN Y DARPARIAETHAU


Rhan I

Rhagarweiniad
1. Enwi a chychwyn
2. Dehongli

Rhan II

Amodau ar gyfer talu'r premiwm cigydda
3. Cymhwyso rheoliadau 4 i 11 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan II)
4. Ceisiadau am y premiwm cigydda
5. Y cyfnod ar gyfer cyflwyno ceisiadau
6. Cyfyngiad ar nifer y ceisiadau
7. Cigydda mewn lladd-dai cofrestredig
8. Gorbori
9. Dulliau bwydo atodol anaddas
10. Dal y premiwm cigydda yn ôl a'i adennill
11. Cyfradd llog

Rhan III

Cofrestru lladd-dai
12. Cymhwyso rheoliadau 13 i 19 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan III)
13. Gwneud cais am gofrestru
14. Cofrestru lladd-dai
15. Torri'r amodau cofrestru
16. Dileu cofrestriad
17. Y weithdrefn ar gyfer dileu
18. Arddangos hysbysiad dileu
19. Cofrestru ar ôl dileu

Rhan IV

Hysbysiadau
20. Cyflwyno hysbysiadau

Rhan V

Gorfodi
21. Cymhwyso rheoliadau 22 i 30
22. Cadw cofnodion
23. Arfer pwerau gan bersonau awdurdodedig
24. Pwerau i gael mynediad ac i archwilio
25. Pwerau mewn perthynas â dogfennau
26. Cymorth i bersonau awdurdodedig
27. Tramgwyddo
28. Cosbi
29. Terfyn amser ar gyfer erlyn
30. Tramgwyddau cyrff corfforaethol

  Atodlen: Yr amodau y mae lladd-dai cofrestredig i gydymffurfio â hwy

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



Rhan I

Rhagarweiniad

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 25 Ebrill 2001.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

mae i "cynhyrchydd" yr un ystyr â "producer" ym Mhennod 1 o Deitl 1 i Reoliad y Cyngor 1254/1999;

    (2) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir yn ysgrifenedig neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at ohebiaeth electronig sydd wedi'i chofnodi ac felly yn gallu cael ei hatgynhyrchu wedyn.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae wedi'i ddiwygio ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

    (4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Ran â rhif (heb gyfeiriad at offeryn penodol) yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Rhan sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Rhan II

Amodau ar gyfer talu'r premiwm cigydda

Cymhwyso rheoliadau 4 i 11 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan II)
     3. Mae Rheoliadau 4 i 11, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 8(1) neu (3)) rheoliad 20, yn gymwys i geiswyr a meddianwyr tir i'r graddau mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â'u daliadau at ddibenion Rheoliadau IACS.

Gwneud cais am y premiwm cigydda
    
4.  - (1) Rhaid i gais mewn perthynas â llo premiwm, anifail premiwm mewn oed ac anifail premiwm hn gael ei gyflwyno i'r Bwrdd a rhaid i bob cais fod ar unrhyw ffurf a chynnwys unrhyw fanylion, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan reolau'r Gymuned, ac unrhyw ddogfennau, y bydd y Bwrdd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

    (2) Gyda chais mewn perthynas â llo premiwm sy'n bum mis oed o leiaf adeg ei gigydda, rhaid anfon y cofnod ysgrifenedig ynghylch ei gigydda y cyfeirir ato ym mharagraff 5 o'r Atodlen.

    (3) Caiff cais a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) fod yn gais mewn perthynas ag unrhyw nifer o loi premiwm, anifeiliaid premiwm mewn oed neu anifeiliaid premiwm hn, yn ôl fel y digwydd.

Y cyfnod ar gyfer cyflwyno ceisiadau
    
5. Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Bwrdd, o fewn cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cadw am yr anifail premiwm y gwneir y cais mewn perthynas ag ef ac sy'n dod i ben - 

p'un bynnag sydd gyntaf.

Cyfyngiad ar nifer y ceisiadau
    
6. Ni fydd gan geisydd hawl i gyflwyno mwy nag - 

sy'n cael eu cigydda mewn unrhyw un flwyddyn galendr.

Cigydda mewn lladd-dai cofrestredig
    
7.  - (1) Ni roddir premiwm cigydda i unrhyw geisydd am gigydda anifail premiwm oni bai bod yr amodau a bennir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni.

    (2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) - 

Gorbori
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os bydd y Bwrdd o'r farn bod unrhyw barsel o dir yn cael ei orbori, caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meddiannydd gan bennu uchafswm yr anifeiliaid a all gael eu pori a'u cadw ar y parsel hwnnw yn y flwyddyn galendr ganlynol.

    (2) Pennir yr uchafswm y cyfeirir ato ym mharagraff (1) drwy gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau hynny a bennir yn yr hysbysiad.

    (3) Os yw hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno gan y Bwrdd o'r blaen o dan baragraff (1) neu gan y Cynulliad Cenedlaethol dan unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (5), caiff y Bwrdd gyflwyno hysbysiad pellach o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ef heb iddo fod o'r farn ei fod yn cael ei orbori.

    (4) Os yw hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno gan y Bwrdd o dan baragraff (1) neu (3) neu gan y Cynulliad Cenedlaethol dan unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (5), rhaid i'r Bwrdd beidio â thalu, neu os yw eisoes wedi'i dalu, adennill, unrhyw bremiwm cigydda sy'n daladwy neu a dalwyd ar y nifer hwnnw o anifeiliaid premiwm a gafodd eu pori a'u cadw yno yn y flwyddyn galendr y cyhoeddwyd yr hysbysiad hwnnw yn ei gylch, a fyddai, o'u hychwanegu at y nifer o anifeiliaid arall (gan gynnwys anifeiliaid premiwm) a borwyd ac a gynhaliwyd yno yn y flwyddyn honno, yn golygu eu bod yn mynd ymhellach na'r uchafrif anifeiliaid a bennwyd yn yr hysbysiad.

    (5) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) a (4) yw'r canlynol - 

    (6) Caiff y Bwrdd beidio a thalu, neu adennill, premiwm cigydda os yw'n fodlon bod unrhyw amod arall yn yr hysbysiad wedi'i dorri.

Dulliau bwydo atodol anaddas
     9.  - (1) Os bydd ceisydd, mewn unrhyw flwyddyn galendr, yn defnyddio dulliau bwydo atodol anaddas, caiff y Bwrdd - 

mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm a gafodd eu cigydda yn y flwyddyn honno.

    (2) Os na chafodd y ceisydd ei gosbi am ddefnyddio dulliau bwydo atodol anaddas o dan baragraff (1) neu o dan unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn y flwyddyn galendr flaenorol, gall swm y premiwm cigydda y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei ostwng deg y cant; os cafodd y ceisydd ei gosbi felly yn y flwyddyn galendr flaenorol, ond nid yn y flwyddyn galendr cyn honno, gall y swm hwnnw gael ei ostwng ugain y cant; ac os cafodd y ceisydd ei gosbi felly ymhob un o'r ddwy flwyddyn galendr flaenorol, gall y swm hwnnw gael ei ddal yn ôl.

    (3) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw - 

Dal y premiwm cigydda yn ôl a'i adennill
    
10. Caiff y Bwrdd ddal yn ôl, neu adennill ar gais, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw bremiwm cigydda a hawliwyd oddi wrtho neu a roddwyd ganddo o dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol - 

Cyfradd llog
     11. Os yw'r Bwrdd yn adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw bremiwm cigydda yn unol â rheoliad 10, oni bai bod y swm a adenillir wedi'i dalu yn sgil gwall ar ei ran, bydd ganddo hawl hefyd i godi llog a'i adennill ar gais ar y swm a adenillir yn ôl y gyfradd o un y cant uwchlaw Cyfradd Cynnig Cyd-fanciau Llundain tri mis sterling fesul dydd am y cyfnod rhwng y talu a'r adennill.



Rhan III

Cofrestru lladd-dai

Cymhwyso rheoliadau 13 i 19 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan III)
    
12. Mae rheoliadau 13 i 19, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 15 neu 17) rheoliad 20, yn gymwys i ladd-dai yng Nghymru.

Gwneud cais am gofrestru
    
13.  - (1) Caiff gweithredydd lladd-dy wneud cais i'r Bwrdd am gofrestru lladd-dy i gigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm, neu loi premiwm, neu'r ddau.

    (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) - 

Cofrestru lladd-dai
    
14. Os caiff cais sy'n cydymffurfio â rheoliad 13(2) ei gyflwyno o dan reoliad 13(1), rhaid i'r Bwrdd gofrestru'r lladd-dy a enwir ynddo i gigydda'r anifeiliaid premiwm a nodir yn unol â rheoliad 13(2)(dd) drwy nodi'r lladd-dy, ynghyd â nodyn o'r anifeiliaid premiwm a nodwyd felly, ar restr, y mae'n rhaid i'r Bwrdd ei chadw, o'r lladd-dai sydd wedi'u cofrestru fel hyn.

Torri'r amodau cofrestru
    
15. Os nad yw'r Bwrdd wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn Rhan I o'r Atodlen yn cael eu bodloni mewn lladd-dy cofrestredig, neu fod yr amodau a nodir yn Rhan II o'r Atodlen yn cael eu bodloni mewn lladd-dy sydd wedi'i gofrestru ar gyfer cigydda lloi premiwm, caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i weithredydd y lladd-dy - 

Dileu cofrestriad
    
16. Yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 17, caiff y Bwrdd ddileu cofrestriad lladd-dy - 

Y weithdrefn ar gyfer dileu
    
17.  - (1) Rhaid i'r Bwrdd ddileu cofrestriad lladd-dy drwy gyflwyno hysbysiad dileu yn unol â pharagraff (2) a dileu'r lladd-dy oddi ar y rhestr sy'n cael ei chadw gan y Bwrdd o dan reoliad 14.

Arddangos hysbysiad dileu
    
18. Os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16, rhaid i weithredydd y lladd-dy ganiatáu i berson awdurdodedig ddodi copi o'r hysbysiad dileu yno mewn man amlwg y mae'n hawdd i bob person sy'n dod ag anifeiliaid i'r lladd-dy ei weld a rhaid iddo ei gadw yn y fan honno mewn cyflwr clir a darllenadwy nes bod blwyddyn o ddyddiad y dileu wedi dod i ben neu nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto, p'un bynnag sydd gyntaf.

Cofrestru ar ôl dileu
    
19.  - (1) Os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16, rhaid i'r Bwrdd beidio â'i gofrestru eto oni bai bod y Bwrdd wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn Rhan I ac, os yw'r gweithredydd lladd-dy yn gwneud cais am gofrestru'r lladd-dy ar gyfer cigydda lloi premiwm, Rhan II o'r Atodlen yn cael eu bodloni yno.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1) beth bynnag, os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16(b) caiff y Bwrdd wrthod ei gofrestru eto nes bod unrhyw gyfnod, heb fod yn fwy na chwe mis ar ôl y dyddiad dileu, y mae'r Bwrdd yn credu ei fod yn rhesymol yn amgylchiadau'r achos yn dod i ben.



Rhan IV

Hysbysiadau

Cyflwyno hysbysiadau
    
20. Gall unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno i feddiannydd parsel o dir yn unol a rheoliad 8(1) neu (3) neu i weithredydd lladd-dy yn unol a rheoliad 15 neu reoliad 17 gael ei gyflwyno - 



Rhan V

Gorfodi

Cymhwyso rheoliadau 22 i 30
    
21. Mae rheoliadau 22 i 30 yn gymwys - 

Cadw cofnodion
    
22. Rhaid i geisydd gadw unrhyw lyfr, cofrestr (heblaw cofrestr sy'n cael ei chadw i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) a (4) o Reoliad 1760/2000), bil, anfoneb, cyfriflen, derbynneb, tystysgrif, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch anifail premiwm y mae wedi cyflwyno cais mewn perthynas ag ef am gyfnod o bedair blynedd o'r dyddiad y cafodd y cais ei gyflwyno.

Arfer pwerau gan bersonau awdurdodedig
    
23. Caiff person awdurdodedig, ar ôl dangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol os gofynnir iddo wneud hynny, a honno'n dangos ei awdurdod, arfer pwerau a roddir gan reoliadau 24 a 25, ar bob adeg resymol, er mwyn - 

Pwerau i gael mynediad ac i archwilio
    
24.  - (1) Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir, heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio yn annedd yn unig, sydd, neu y mae'n credu'n rhesymol ei fod - 

    (3) Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau y mae'n credu bod eu hangen gydag ef neu hi.

Pwerau mewn perthynas â dogfennau
    
25. Caiff person awdurdodedig - 

Cymorth i bersonau awdurdodedig
    
26. Rhaid i geisydd, gweithredydd lladd-dy, unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i geisydd neu i weithredydd lladd-dy ac unrhyw berson sydd â gofal anifeiliaid ar dir yr eir arno yn unol â rheoliad 24 roi i berson awdurdodedig y cymorth y mae'n gofyn yn rhesymol amdano i'w alluogi i arfer unrhyw b er a roddir gan reoliad 24 neu 25 ac yn benodol, mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol, rhaid iddynt drefnu bod yr anifail hwnnw'n cael ei osod mewn lloc a'i gadw'n ddiogel os gofynnir felly.

Tramgwyddo
    
27. Bydd yn drosedd i berson - 

Cosbi
    
28.  - (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 27(a), (b), (c) neu (ch) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

    (2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 27(d) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Terfyn amser ar gyfer erlyn
    
29.  - (1) Gall achos yngln â thramgwydd o dan reoliad 27, gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (2), o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef neu hi i haeddu achos.

    (2) Ni all achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na deuddeng mis ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn, bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef neu hi i haeddu'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno.

    (4) Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnod felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddau cyrff corfforaethol
    
30.  - (1) Pan yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 27, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "swyddog" mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
20].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001



ATODLEN
Rheoliadau 4(2), 7(2) a 13(2)(g)


AMODAU Y MAE'N RHAID I LADD-DAI COFRESTREDIG GYDYMFFURFIO Â HWY




RHAN 1

Amodau sy'n gymwysadwy at bob anifail premiwm
     1. Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy wneud cofnod cywir, ar gyfer pob diwrnod, yn ysgrifenedig neu drwy gyfrwng cyfrifiadur, o rif lladd, dyddiad cigydda ac (yn ddarostyngedig i baragraff 2) rhif tag clust pob anifail premiwm sy'n cael ei ladd ar y diwrnod hwnnw.

     2. Os nad oes gan anifail premiwm rif tag clust, ond ei fod wedi'i farcio â dull adnabod arall a gymeradwywyd neu fod dull adnabod arall a gymeradwywyd ar gael gydag ef, rhaid i'r gweithredydd lladd-dy nodi copi o'r dull adnabod arall a gymeradwywyd yn y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 1 yn lle'r rhif tag clust.

     3. Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 a phob dogfen lladd-dy arall, ac eithrio tagiau clust, pasbortau gwartheg a dulliau adnabod eraill a gymeradwywyd, tan 31 Rhagfyr yn y drydedd flwyddyn ar ôl y flwyddyn y cawsant eu creu, neu y daethant i law'r gweithredydd, p'un bynnag yw'r hwyraf.

     4. Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy sicrhau bod person awdurdodedig sy'n bresennol yn y lladd-dy, neu sy'n cyfathrebu â'r lladd-dy, yn cael arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 24 a 25, y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 25 a bod cymorth yn cael ei roi iddo neu iddi yn unol â rheoliad 26.



RHAN II

Amodau sy'n gymwysadwy at loi premiwm sy'n cael eu cigydda yn bum mis neu'n chwe mis oed
     5. Ar ôl cigydda llo premiwm sy'n bum mis oed o leiaf, rhaid i'r gweithredydd lladd-dy roi cofnod ysgrifenedig i'r person y prynodd y llo oddi wrtho, neu y lladdodd y llo ar ei ran, yn ôl fel y digwydd, a hwnnw'n dangos - 

     6.  - (1) Pwysau'r carcas a gyflwynir âr ôl ei flingo, ei ddiberfeddu a'i waedu, heb y pen a'r traed, a hynny mewn cilogramau ar ôl ei oeri, neu ei bwysau cynnes mewn cilogramau cyn gynted â phosibl ar ôl ei gigydda wedi'u gostwng dau y cant, yw pwysau'r carcas y cyfeirir atynt ym mharagraff 5(d) o'r Atodlen hon.

    (2) Os cyflwynir y carcas heb yr afu, yr arennau neu fraster yr arennau, rhaid cynyddu ei bwysau yn ôl y canlynol - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 25 Ebrill 2001, yn nodi mesurau gweithredu cenedlaethol ar gyfer y cynllun premiwm cigydda ar gyfer anifeiliaid buchol a gyflwynwyd gan Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21). Maent yn darparu ar gyfer gweinyddiaeth y cynllun mewn perthynas â daliadau a leolir yn gyfan gwbl yng Nghymru, a hefyd daliadau sydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig, os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno y bydd y Bwrdd Ymmyrraeth Cynnyrch Amaethyddol yn gyfrifol am brosesu cais y ffermwr am y premiwm (rheoliadau 3 i 11). Maent yn darparu hefyd ar gyfer gorfodi'r cynllun mewn perthynas â daliadau o'r fath (rheoliadau 21 i 30).

Mae'r darpariaethau ynghylch y gwaith gweinyddu yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer cyflwyno ceisiadau am y premiwm (rheoliadau 4, 5 a 6), yn gosod sancsiynau am orbori a defnyddio dulliau bwydo atodol anaddas (a gynhwysir yn un o amodau'r cynllun yn rhinwedd Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.113)) (rheoliadau 8 a 9), ac yn darparu ar gyfer dal y premiwm cigydda yn ôl neu ei adennill os caiff rheolau'r cynllun eu torri (rheoliadau 10 ac 11). I fod yn gymwys i gael y premiwm cigydda, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i anifeiliaid gael eu cigydda mewn lladd-dai sydd wedi'u cofrestru gyda'r Bwrdd Ymyrraeth Cynnyrch Amaethyddol. Mae rheoliadau 12 i 19 yn darparu ar gyfer cofrestru lladd-dai a leolir yng Nghymru; o'r rhain, mae rheoliadau 13, 14, a 19 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer cofrestru a rheoliadau 15 i 18 yr amgylchiadau a'r weithdrefn ar gyfer dileu cofrestriad. Mae'r amodau y mae'n rhaid i ladd-dai cofrestredig gydymffurfio â hwy wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau. Mae'r darpariaethau ar gyfer gorfodi yn rheoliadau 21 i 31 hefyd yn gymwys mewn perthynas â chofrestru fel hyn.

Mae'r darpariaethau ynghylch gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr gadw cofnodion penodol (rheoliad 22) ac yn rhoi pwerau mynediad, pwerau archwilio a phwerau casglu tystiolaeth i bersonau awdurdodedig (rheoliadau 24 a 25). Mae'r rhain yn cynnwys y pwerau sy'n angenrheidiol o dan Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 3887/92 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer defnyddio'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol. Ymdrin â thramgwyddo a chosbi y mae rheoliadau 28 i 30.

Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae copi ohono ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S.1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae p er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir a leolir o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1996/3241, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1179.back

[4] O.S. 1995/12, a ddiddymwyd yn rhannol gan O.S. 1998/871.back

[5] O.S. 1990/1867, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/503 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1995/12.back

[6] 2000 p.7.back

[7] O.S. 1996/1686, a ddiddymwyd gan O.S. 1998/871.back

[8] OJ Rhif L281, 4.11.1999, t.30.back

[9] OJ Rhif L118, 19.5.2000, t.4.back

[10] OJ Rhif L228, 8.9.2000, t.25.back

[11] OJ Rhif L391, 31.12.92, t.36, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2801/1999 (OJ Rhif L340, 31.12.1999, t.29).back

[12] OJ Rhif L117, 7.5.1997, t.1, a ddiddymwyd gan Reoliad EC Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1).back

[13] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21.back

[14] OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1.back

[15] O.S 1993/1317 a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148 1999/1820 a 2000/2573.back

[16] O.S. 1993/1441, fel y'i diwygiwyd gan 1994/1528, 1995/15, 1995/1446, 1996/1448 a 1997/249.back

[17] O.S. 1992/2677, fel y'i diwygiwyd gan 1994/2741, 1995/2779, 1996/49 a 1997/2500.back

[18] O.S. 2000/3339 (W. 217).back

[19] OJ Rhif L354, 30.12.97, t.19.back

[20] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090242-4


  Prepared 22 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011332w.html