BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011358w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 29 Mawrth 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2001 |
(2) Dyma'r disgrifiad penodedig o nyrs neu ymwelydd iechyd a grybwyllir yn y diffiniad o "nyrs sy'n rhagnodi" ym mharagraff (1) -
(b) person sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 11 o'r gofrestr broffesiynol fel ymwelydd iechyd ac sydd, adeg archebu'r cyffur neu'r moddion rhestredig neu'r cyfarpar rhestredig -
y mae nodyn wedi'i gofnodi yn erbyn ei enw (ym mhob achos) yn y gofrestr broffesiynol yn dynodi ei fod wedi ennill cymhwyster i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar ar gyfer cleifion.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn fe fydd -
(4) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer claf godi a chasglu oddi wrth y claf hwnnw -
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan baragraff (1) -
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un ffurflen bresgripsiwn yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(5) Er gwaethaf darpariaethau ei delerau gwasanaeth, ni fydd fferyllydd o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn perthynas ag archeb ar ffurflen bresgripsiwn onid yw'r claf yn gyntaf yn talu unrhyw ffi iddo y mae'n ofynnol ei thalu a'i chasglu o dan baragraff (1) mewn perthynas â'r archeb honno.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (1) roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben sef ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
(7) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Awdurdod Iechyd i fferyllydd mewn perthynas â darparu gwasanaethau fferyllol ei leihau yn ôl swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u casglu o dan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer claf godi a chasglu oddi wrth y claf hwnnw -
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan baragraff (1) -
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un ffurflen bresgripsiwn yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(5) Ni fydd meddyg o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol y mae'n ofynnol codi a chasglu ffi mewn perthynas â hwy o dan baragraff (1) onid yw'r claf yn gyntaf yn talu swm y ffi honno iddo.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i feddyg sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (1) roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben sef ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
(7) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Awdurdod Iechyd i feddyg mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol neu wasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot ei leihau yn ôl swm y ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u casglu o dan baragraff (1).
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi talu ffi os yw'r cyffur neu'r cyfarpar a gyflenwir naill ai -
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan Awdurdodau Iechyd ac ymddiriedolaethau NHS
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS sy'n cyflenwi cyffuriau i glaf at ddibenion ei driniaeth, i'w rhoi heblaw mewn ysbyty, neu gyfarpar, godi a chasglu oddi wrth y claf -
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn oddi wrth glaf sy'n esempt -
ac sydd, yn yr achos a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 12 i'r Ddeddf ac yn yr achosion a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) ac (c), yn cwblhau datganiad o hawl i gael esemptiad o'r fath neu i beidio â thalu ffi ac yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hawl y mae'r Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS yn gofyn yn rhesymol amdani.
(4) O dan y rheoliad hwn, caiff rhan o ffi ei chodi a'i chasglu oddi wrth glaf y mae ganddo hawl i beidio â thalu rhan o'r ffi o dan reoliad 8(4) os caiff datganiad ysgrifenedig ei ddarparu bod y rhan berthnasol o'r ffi wedi'i thalu ynghyd â datganiad o'r hawl ac unrhyw dystiolaeth arall o'r hawl i beidio â thalu rhan o'r ffi y gofynnir amdani.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un cyfarwyddyd ysgrifenedig yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS sy'n codi ac yn casglu ffi o dan y rheoliad hwn roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded i mewn
6.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os oes cyffuriau neu gyfarpar yn cael eu cyflenwi i glaf at ddibenion ei driniaeth gan feddyg neu gan nyrs sy'n rhagnodi mewn Canolfan cerdded i mewn, rhaid i'r Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS neu berson arall sy'n gyfrifol am reoli'r Ganolfan, ac eithrio yn achos cyffuriau sy'n cael eu rhoi neu gyfarpar sy'n cael ei ffitio yn y Ganolfan godi a chasglu oddi wrth y claf -
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn oddi wrth glaf sy'n esempt -
ac sydd, yn yr achos a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c) o Adodlen 12 I'r Ddeddf ac yn yr achosion a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) ac (c),yn cwblhau datganiad o hawl i gael esemptiad o'r fath neu i beidio â thalu ffi ac yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hawl y mae'r Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS neu berson arau sy'n darparu'r cyffur neu'r cyffarpar yn gofyn yn rhesymol amdani.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un cyfarwyddyd ysgrifenedig yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS neu'r person arall sy'n codi ac yn casglu ffi o dan y rheoliad hwn roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion
7.
- (1) Os oes cyffuriau'n cael eu cyflewni i glaf yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i'r person sy'n cyflenwi'r cyffuriau godi a chasglu ffi o £6.00 oddi wrth y claf mewn perthynas â chyflenwi pob swm.
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn oddi wrth glaf sy'n esempt -
ac sydd, yn yr achos a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 12 i'r Ddeddf ac yn yr achosion a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) ac (c), yn cwblhau datganiad o hawl i gael esemptiad o'r fath neu i beidio â thalu ffi ac yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hawl y mae'r person sy'n cyflenwi'r cyffur yn gofyn yn rhesymol amdani.
(4) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn os yw'r cyffur yn cael ei gyflenwi i gael ei roi'n bersonol gan y person sy'n ei gyflenwi yn unol â'r Cyfarwyddyd Grwp Cleifion.
(5) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i berson sy'n codi ac yn casglu ffi o dan y rheoliad hwn roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyfeiriad at gyflenwi cyffur yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion yn gyfeiriad at gyflenwi cyffur at y diben hwnnw y darperir ar ei gyfer yng Ngorchymyn Meddyginiaethau (Gwerthu gan Fferyllfeydd ac yn Gyffredinol - Esemptiad) 1980[7] neu yng Ngorchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997[8].
Esemptiadau
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd unrhyw ffi yn daladwy o dan reoliadau 3, 4, 6 neu 7 -
(iii) epilepsi y mae angen triniaeth barhaus ar ei gyfer i atal confylsiynau;
(iv) anabledd corfforol parhaus sy'n atal y claf rhag ymadael â'i breswylfa heb gymorth person arall;
na chan berson a chanddo dystysgrif esemptio ddilys wedi'i rhoi o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(d) gan berson a chanddo dystysgrif esemptio ddilys wedi'i rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chyflenwi cyffuriau a chyfarpar i drin anabledd wedi'i dderbyn, ond yn y naill achos neu'r llall, dim ond mewn perthynas â'r cyflenwadau y mae'r dystysgrif yn ymwneud â hwy;
(dd) gan berson a chanddo dystysgrif rhagdalu ddilys neu dystysgrif ragdalu ddilys wedi'i rhoi o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd unrhyw ffi yn daladwy o dan reoliad 5 -
(3) Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am yr hawl i esemptiad o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n angenrheidiol o dan reoliad 3(3) neu 4(3) ac unrhyw ddatganiad neu dystiolaeth o hawl sy'n angenrheidiol o dan reoliadau 5(3), 6(3) neu 7(3).
(4) Yn achos person y cyfeirir ato yn rheoliad 5 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl, rhaid peidio â chodi ffi y cyfeirir ati yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r graddau a bennir yn y rheoliad hwnnw.
(5) Pan beidir â chodi ffi yn rhannol o dan baragraff (4) rhaid i'r person sy'n gwneud y taliad rhannol lofnodi datganiad ysgrifenedig wrth wneud hynny fod y rhan berthnasol o'r ffi wedi'i thalu a chwblhau datganiad o hawl, a darparu unrhyw dystiolaeth arall o'r hawl i beidio â thalu rhan o'r ffi y gofynnir amdani.
(6) Caiff esemptiad drwy gyfeirio at oedran neu ddilysrwydd tystysgrif esemptio eu penderfynu drwy gyfeirio at yr oedran neu'r dilysrwydd ar y diwrnod -
(7) Os oes hawliad am esemptiad wedi'i wneud ond heb ei gadarnhau ac nad oes ffi wedi'i chasglu yn sgil yr hawliad, rhaid i'r Awdurdod Iechyd neu, os yw'r cyffuriau neu'r cyfarpar wedi'u cyflenwi gan ymddiriedolaeth NHS, rhaid i'r ymddiriedolaeth NHS honno gasglu'r ffi honno oddi wrth y person o dan sylw.
Tystysgrifau esemptio -gwneud cais amdanynt a'u rhoi
9.
- (1) Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud hawliad am esemptiad o dan ddarpariaethau rheoliad 8(1)(c), (ch) neu (d) wneud cais am dystysgrif sy'n rhoi'r esemptiad (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "tystysgrif esemptio") i'r Awdurdod Iechyd yn achos esemptiad o dan is-baragraff (c) neu (ch) ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw ac yn achos esemptiad o dan is-baragraff (d) i un o swyddfeydd yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Pan gaiff Awdurdod Iechyd ei fodloni fod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff (1)(c), rhaid iddo roi tystysgrif esemptio a fydd yn ddilys -
(3) Pan gaiff Awdurdod Iechyd ei fodloni bod gan geisydd nad yw'n berson sydd â hawl i gael esemptiad o dan ddarpariaethau rheoliad 8(1)(a) neu (b) hawl i gael esemptiad o dan reoliad 8(1)(ch), rhaid iddo roi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd yr Awdurdod Iechyd yn penderfynu arno.
(4) Os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni bod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan reoliad 8(1)(d), rhaid iddo roi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno.
Tystysgrifau rhagdalu
10.
- (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, pan delir y swm perthnasol a ragnodir gan baragraff (5), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid i Awdurdod Iechyd roi tystysgrif (y cyfeirir ati yn y rheoliadau hyn fel "tystysgrif ragdalu") i unrhyw berson sy'n cwblhau'n briodol ac yn cyflwyno cais am y dystysgrif ar ffurflen a ddarperir at y diben hwnnw.
(2) Bydd tystysgrif ragdalu yn ddilys am gyfnod o naill ai pedwar mis neu ddeuddeng mis a rhaid i gais am dystysgrif o'r fath nodi am ba gyfnod y gofynnir iddi fod yn ddilys.
(3) Mae tystysgrif ragdalu, o'i rhoi, yn rhoi esemptiad i'r person y'i rhoddir iddo fel y darperir ar ei gyfer gan reoliad 8(1)(dd) mewn perthynas â chyffuriau a chyfarpar a gyflenwir yn ystod y cyfnod y bydd yn ddilys.
(4) Rhaid peidio â rhoi unrhyw dystysgrif ragdalu oni bai bod y cais a wneir amdani yn dod i law lai nag un mis cyn y dyddiad y mae ei chyfnod dilysrwydd i ddechrau.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, y swm rhagnodedig yw £31.40 am dystysgrif ragdalu sy'n ddilys am bedwar mis ac £86.20 am dystysgrif ragdalu sy'n ddilys am ddeuddeng mis.
(6) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu o dan y rheoliad hwn a bod y person y talwyd mewn perthynas ag ef, heb fod yn fwy na mis ar ôl y dyddiad y daeth ei dystysgrif ragdalu yn ddilys -
gall cais am ad-dalu'r swm hwnnw gael ei wneud, gan neu ar ran y person hwnnw neu ei ystâd, yn unol â pharagraffau (7) ac (8).
(7) Rhaid i gais o dan baragraff (6) gael ei wneud i'r Awdurdod Iechyd a roddodd y dystysgrif a chydag ef rhaid cynnwys y dystysgrif (os cafodd un ei rhoi) a datganiad i ategu'r cais, a rhaid i'r cais ac unrhyw ad-daliad gael ei wneud mewn unrhyw fodd, ac o dan unrhyw amodau, y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(8) Rhaid i gais o dan baragraff (6) gael ei wneud -
Ad-dalu ffioedd
11.
- (1) Os oes ffi wedi'i thalu o dan y Rheoliadau hyn gan neu ar ran person a oedd adeg y taliad yn esempt rhag y gofyniad i dalu'r ffi, gall cais am ad-dalu'r ffi gael ei wneud yn unol â pharagraff (2) gan neu ar ran y person hwnnw.
(2) Rhaid i'r cais am ad-daliad -
(3) Yn achos ffi o dan reoliad 5 mewn perthynas â chyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1, rhaid cyflwyno'r cais ynghyd â'r dystysgrif esemptio y cyfeirir ati yn rheoliad 8(1)(d) ac, os cafodd y claf ei atgyfeirio gan feddyg at yr Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS i gael ei drin, naill ai -
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan y Rheoliadau hyn gan berson y mae ganddo hawl i gael esemptiad.
Trefniadau rhwng cyrff yr NHS ac Awdurdodau Lleol
12.
Ni fydd unrhyw drefniadau a wneir yn rhinwedd adran 31(2)(c) o Ddeddf Iechyd 1999 (trefniadau rhwng cyrff yr NHS ac awdurdodau lleol) i awdurdod lleol arfer unrhyw swyddogaethau sy'n perthyn i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS neu mewn cysylltiad â hynny, yn effeithio ar unrhyw bwer neu ddyletswydd i gasglu ffioedd mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir wrth arfer y swyddogaethau hynny a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai'r swyddogaethau wedi'u harfer gan yr Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS y gwnaed y trefniadau gyda hwy.
Diddymu
13.
Mae'r Rheoliadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 2 drwy hyn yn cael eu diddymu mewn perthynas â Chymru i'r graddau a bennir yng ngolofn (3) o'r Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
(1) | (2) |
Y Cyfarpar Penodedig | Y Ffi Benodedig |
Bronglwm Llawfeddygol | £20.30 |
Ateg i'r Abdomen neu'r Meingefn | £30.50 |
Wig Fodacrylig Stoc | £49.90 |
Wig Rannol o Wallt Dynol | £131.50 |
Wig Lawn Bwrpasol | £192.20 |
(1) | (2) | (3) |
Y Rheoliadau sy'n cael eu diddymu | Cyfeirnod | Hyd a lled y Diddymu |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1989 | OS 1989/419 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1990 | OS 1990/537 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1991 | OS 1991/579 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1992 | OS 1992/365 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1993 | OS 1993/420 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1994 | OS 1994/690 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1994 | OS 1994/2402 | rheoliad 3 |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1995 | OS 1995/643 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Rhif 2) 1995 | OS 1995/2737 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1996 | OS 1996/583 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 1998 | OS 1998/491 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynlluniau Peilot: Darpariaethau Amrywiol a Diwygiadau Canlyniadol) 1998 | OS 1998/646 | rheoliad 9 |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynlluniau Peilot Gwasanaethau Deintyddol Personol: Darpariaethau Amrywiol ac Diwygiadau Canlyniadol) 1998 | OS 1998/222 | 4rheoliad 5 |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar a Threuliau Teithio ac Pheidio â Chodi Tâl) 1999 | OS 1999/767 | Rheoliadau 2 a 3 a Atodlen |
Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2000 | OS 2000/1422 | Y Rheoliadau cyfan |
[3] O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 3252, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767, 2507 a 2840.back
[5] O.S.1983/873 y ceir diwygiadau iddoback