BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011359w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1359 (Cy.87)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 29 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(2), 35(1), 36(1), 78, 79A, 83A, 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraff 3(2) o Atodlen 12 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992
     2. Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraff 1 a 2, yn lle "£230" rhowch "£260".

Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 1989
    
3.  - (1) Mae rheoliad 3 o Reoliadau 1989 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Ar ôl paragraff 2(e) ychwanegwch - 

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 1989
    
4.  - (1) Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 1989 mewnosodwch y rheoliad newydd canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("Rheoliadau 1992") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 ("Rheoliadau 1989").

Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliadau 1989 yn cynnwys darpariaethau ynghylch y ffioedd a godir am wasanaethau deintyddol cyffredinol

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992 er mwyn cynyddu'r swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd â hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Bwrdd Ymarfer Deintyddol (o £230 i £260).

Mae Rheoliad 3 yn estyn rheoliad 3 o Reoliadau 1989 ac yn ychwanegu Rheoliad 5A newydd iddynt fel y bydd gan bersonau o dan 25 oed a'r rhai sydd wedi cyrraedd 60 oed hawl i gael archwiliadau deintyddol yn rhad ac am ddim, os caiff yr archwiliad ei roi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001, cyhyd ag y caiff datganiad o'r hawl ei wneud ar y ffurf a ragnodir.


Notes:

[1] 1977 p. 49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Cafodd adran 35(1) ei hamnewid gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), a'i diwygio gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 24.

Cafodd adran 36(1) ei rhifo felly gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 3, paragraff 5(1) a'i diwygio gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1984/39, erthygl 7(10); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), Atodlen 2, paragraff 4; gan Ddeddf 1990, adran 24 a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 25(a).

Diwygiwyd adran 78 gan adrannau 11 a 25 o Ddeddf 1988 ac Atodlen 2, paragraff 25 iddi.

Mewnosodwyd adran 79A gan Ddeddf 1988, adran 11(3).

Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7); a'i diwygio gan Ddeddf 1988, adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan Ddeddf 1990, adran 66 ac Atodlen 9; gan Ddeddf 1995, adran 2 ac Atodlen 1 a chan O.S. 1998/2835, erthygl 2.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.9) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1(2), 3591), 36(1), 78, 79A, 83A a 126(4) o Ddeddf 1977, a pharagraff 3(2) o Atodlen 12 iddi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1992/1509 a 1998/1648.back

[3] S.I.1989/394; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1991/581 a 1998/2221.back

[4] 1998 (c.38)back



English version



ISBN 0-11-090229-7


  Prepared 11 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011359w.html