BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011397w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1397 (Cy.92)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 29 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym,
  ac eithrio rheoliad 3 1 Ebrill 2001 
  rheoliad 3 10 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001, ac eithrio rheoliad 3, sy'n dod i rym ar 10 Ebrill 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988[
2]

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     2. Yn Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn lle'r diffiniad o "capital limit" rhoddir y diffiniad canlynol yn y lle priodol - 

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
     3. Ym mharagraffau (c) a (g) o reoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau y mae ganddynt hawl i beidio â thalu ac i gael ad-daliad) yn lle "£70" rhoddir "£71".

Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau
    
4.  - (1) Diwygir rheoliad 7 o'r prif Reoliadau yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Yn lle paragraff (1)(b) rhowch - 

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
     5.  - (1) Diwygir Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[7] yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Yn Rhan I, Tabl A, yn lle'r cofnod sy'n addasu rheoliad 53 rhowch - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae Rheoliad 2 yn mewnosod diffiniad newydd o "capital limit" yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau sydd, drwy gyfrwng eithriad, yn darparu ar gyfer terfyn cyfalaf gwahanol ar gyfer hawliwr sy'n preswylio'n barhaol mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio neu mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan awdurdod lleol o dan ddarpariaethau Deddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae Rheoliad 3 yn darparu ar gyfer cynnydd yn y ffigur ar gyfer swm sy'n cael ei dynnu'n ôl, o £70 i £71, ar gyfer personau sy'n cael credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio neu gredyd treth i bobl anabl.

Mae Rheoliad 4 yn gosod paragraff (1)(b) newydd yn rheoliad 7 o'r prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 5 yn diwygio Atodlen 1 drwy osod cofnod newydd ar gyfer rheoliad 53 yn y lle perthnasol yn Rhan I, Tabl A (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987) sy'n golygu bod y ddau ffigur y cyfeirir atynt ym mharagraff (1A) o reoliad 53 yn codi o £10,000 i £11,500 ac o £16,000 i £18,500.


Notes:

[1] {d1}{t1}1977 p.49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) a'i diwygio gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymdeithasol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990, i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A a 126(4) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393,1998/2417, 1999/762 and 2840.back

[3] 1992 p.4back

[4] 1948 (p.29).back

[5] O.S. 1999/2977; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993/964.back

[6] O.S. 2001/1358 (Cy.86).back

[7] O.S. 1987/1967; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/2022, 1995/462, 1997/65 a 2197 a 2000/2545.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090220-3


  Prepared 8 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011397w.html