BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011409w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1409 (Cy. 95)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 4 Ebrill 2001 
  Yn dod i rym
  at ddiben Rheoliad 2(6) 12 Ebrill 2001 
  at bob diben arall 9 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym at ddibenion Rheoliad 2(6) ar 12 Ebrill 2001 ac at bob diben arall ar 9 Ebrill 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau
     2.  - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) mewnosodir ar ôl y diffiniad o "partner", y diffiniad canlynol - 

    (3) Yn rheoliad 20 (terfyn cyfalaf) yn lle'r ffigur "£16,000" rhoddir y ffigur "£18,500".

    (4) Yn rheoliad 28 (1) (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) yn lle'r ffigur "£10,000", lle mae'n ymddangos, rhoddir y ffigur "£11,500" ac yn lle'r ffigur "£16,000" rhoddir y ffigur "£18,500".

    (5) Yn Atodlen 4 i'r prif Reoliadau, ar ôl paragraff 1, mewnosodir y paragraff canlynol - 

    (6) Yn yr Atodlen 4 a enwyd, ar ôl paragraff 20, mewnosodir y paragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
4]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Ebrill 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y prif Reoliadau").

Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person ("y preswylydd") i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.

Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £16,000. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf o £16,000 i £18,500. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sy'n cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio terfynau uchaf ac isaf cyfalaf o'r fath fel bod pob £250 cyflawn rhyngddynt, neu unrhyw ran ohono nad yw'n £250 cyflawn, yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1. Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno categorïau pellach o gyfalaf hefyd sydd i'w hanwybyddu wrth asesu adnoddau preswylydd. Mae gwerth unrhyw annedd a fyddai fel arall yn cael ei feddiannu gan y preswylydd fel ei unig neu brif breswylfa i'w anwybyddu am gyfnod o 12 wythnos o dan yr amgylchiadau a bennir yn y Rheoliadau. Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer anwybyddu taliadau sy'n cael eu gwneud o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd â chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â phersonau a ddioddefodd neu sy'n dioddef gan glefyd amrywiadol Creutzfeldt-Jakob.


Notes:

[1] 1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi.back

[2] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/964, 1993/2230, 1994/825, 1994/2386, 1995/858, 1995/3054, 1996/602, 1997/485, 1998/497, 1998/1730, 2001/276 (Cy.12), ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, gan O.S. 2001/58.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090221-1


  Prepared 8 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011409w.html