BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011439w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1439 (Cy. 101)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Ebrill 2001 
  Yn dod i rym 30 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi, sydd bellach wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Ebrill 2001.

Diwygio Rheoliadau 1995
    
2. Mae Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995[3] yn cael eu diwygio fel y darperir yn Rheoliadau 3 i 5 isod.

Penodi aelodau
     3. Mae Rheoliad 3 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1995
    
4.  - (1) Mae Rheoliad 4 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

    (2) Ym mharagraff 4 o Reoliad 14, yn lle "an appointing council" rhowch "a council".

    (3) Yng ngholofn 4 o Atodlen 1, yn lle "Appointing councils" rhowch "Councils" ac yng ngholofn 5 o Atodlen 1, yn lle "each appointing council" rhowch "each council".

Awdurdodaeth
    
5. Mae Rheoliad 35 (apelau'r dreth gyngor: awdurdodaeth) yn cael ei ddiwygio drwy fewnosod y paragraff canlynol ar ôl paragraff (4):

Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993
    
6. Mae Rheoliad 17 (awdurdodaeth: eithriad) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993[4] yn cael ei ddiwygio drwy fewnosod ar ôl paragraffau (1A) a (2) (sy'n gymwys yn Lloegr yn unig):

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993
     7. Mae Rheoliad 32 (awdurdodaeth: eithriad) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993[5] yn cael ei ddiwygio drwy fewnosod ar ôl paragraffau (1A) a (2) (sy'n gymwys yn Lloegr yn unig):



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Sefydlodd Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 ("Rheoliadau 1995") dribiwnlysoedd a gweithdrefnau i ddarparu ar gyfer apelau mewn perthynas â'r tâl cymunedol (sydd wedi'i ddiddymu bellach) a thaliadau'r dreth gyngor, ardrethu a phrisio.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 er mwyn newid y ffordd y caiff aelodau'r tribiwnlysoedd eu penodi. Y cynghorau sir neu'r cynghorau bwrdeistref sirol (a elwid "y cynghorau penodi") a arferai benodi'r aelodau, ond erbyn hyn, gellir eu penodi drwy'r ddau ddull canlynol:

    (1) gan y cynghorau penodi (sydd wedi'u hailenwi "y cynghorau" yn unig bellach) a llywydd tribiwnlys yn gweithredu ar y cyd, a

    (2) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn bosibl i lai o aelodau gael eu penodi i'r tribiwnlysoedd, yn ddarostyngedig i isafswm o ddau draean o nifer yr aelodau a bennir yn Rheoliadau 1995 (sef yr uchafswm aelodau).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi tribiwnlys gwahanol i ymdrin ag apêl os bydd gwrthdrawiad buddiannau neu'r hyn sy'n edrych fel gwrthdrawiad buddiannau yn codi. Mae darpariaethau tebyg hefyd yn cael eu hychwanegu at Reoliadau'r Dreth Gyngor (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993 a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993 i'r graddau y mae'r rheiny'n gymwys i Gymru.


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1995/3056.back

[4] O.S. 1993/290.back

[5] O.S. 1993/291.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090205-X


  Prepared 25 May 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011439w.html