BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 1691 (Cy.121)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
1 Mai 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Gorffennaf 2002 | |
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r cyrff hynny yr ymddengys iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.
Diwygio Rheoliadau blaenorol mewn perthynas â Chymru
2.
Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru -
Llofnodwyd ar ran Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mai 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997 mewn perthynas â Chymru, wrth weithredu Cyfarwyddeb 1999/39/EC y Comisiwn sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/5/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc.
Mae'r rheoliadau'n estyn y gwaharddiadau ar gynhyrchu a gwerthu yn Rheoliadau 1997 i fwyd o'r natur honno sy'n cynnwys gweddillion plaleiddiaid unigol dros lefel o 0.01 mg/kg, a fesurir pan fydd yn barod i'w ddefnyddio neu pan fydd wedi'i hailgyfansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr (rheoliad 2(b)), a diweddaru'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb 1996 (rheoliad 2(a)).
Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16. Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40).back
[2]
Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/2042, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/275.back
[4]
OJ Rhif L124, 18.5.1999, t.8.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090350 1
|
Prepared
17 October 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011691w.html