BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011787w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1787 (Cy. 128)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 1 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Mehefin 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) and (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn, a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mehefin 2001.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol Bwyd 1995
    
2. Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol bwyd 1995 [3] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â Rheoliadau 3 i 5 isod.

     3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC" ychwanegir y geiriau "and Commission Directive 2000/63/EC"[4] ar y diwedd.

     4. Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) mewnosodir ar ôl paragraff (1B) y paragraff canlynol - 

     5. Yn Atodlen 5 (meini prawf purdeb) hepgorir y cofnodion sy'n ymwneud â'r ychwanegion amrywiol a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau canlyniadol
    
6.  - (1) I'r graddau y mae unrhyw offeryn a restrir yn rheoliad 14(1) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[5] yn gymwys i Gymru, bydd effaith y ddarpariaeth honno yn dod i ben mewn perthynas â'r offeryn hwnnw.

    (2) Yn yr offerynnau canlynol, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel petaent yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Diwygio) 1997[6]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999 a'r Rheoliadau hyn:



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]).


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mai 2001



ATODLEN
Rheoliad 5


YCHWANEGION AMRYWIOL Y MAE'R MEINI PRAWF PURDEB A BENNIR NEU Y CYFEIRIR ATYNT YN ATODLEN 5 I'R PRIF REOLIADAU YN CAEL EU HEPGOR


E 296Malic acid

E 297Fumaric acid

E 350(i)Sodium malate

E 350(ii)Sodium hydrogen malate

E 351Potassium malate

E 352(i)Calcium malate

E 352(ii)Calcium hydrogen malate

E 355Adipic acid

E 363Succinic acid

E 380Triammonium citrate

E 500(i)Sodium carbonate

E 500(ii)Sodium hydrogen carbonate

E 500(iii)Sodium sesquicarbonate

E 501(i)Potassium carbonate

E 501(ii)Potassium hydrogen carbonate

E 503(i)Ammonium carbonate

E 503(ii)Ammonium hydrogen carbonate

E 507Hydrochloric acid

E 509Calcium chloride

E 513Sulphuric acid

E 514(i)Sodium sulphate

E 515(i)Potassium sulphate

E 516Calcium sulphate

E 522Aluminium potassium sulphate

E 524Sodium hydroxide

E 525Potassium hydroxide

E 526Calcium hydroxide

E 527Ammonium hydroxide

E 528Magnesium hydroxide

E 529Calcium oxide

E 530Magnesium oxide

E 535Sodium ferrocyanide

E 536Potassium ferrocyanide

E 541Sodium aluminium phosphate, acidic

E 551Silicon dioxide

E 552Calcium silicate

E 553a(i)Magnesium silicate

E 553a(ii)Magnesium trisilicate

E 575Glucono-delta-lactone

E 576Sodium gluconate

E 577Potassium gluconate

E 578Calcium gluconate

E 640Glycine

E 900Dimethylpolysiloxane

E 901Beeswax, white and yellow

E 903Carnauba wax

E 904Shellac

E 941Nitrogen

E 942Nitrous oxide

E 948Oxygen

E 999Extract of quillaia

E 1200Polydextrose

Propane-1, 2-diol (propylene glycol)



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd ("y prif Reoliadau").

Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2000/63/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n nodi meini prawf purdeb penodol ynghylch ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L277, 30.10.2000, t.1).

Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, mae'r Rheoliadau yn diwygio'r gofynion presennol yn y prif Reoliadau o ran y meini prawf purdeb ar gyfer butylated hydroxyanisole (BHA) ac yn pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/63/EC (rheoliadau 3 i 5).

Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd i'r offerynnau a bennir yn rheoliad 4, o ran cyfeiriadau yn yr offerynnau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 6).

Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1990 p.16; diwygiwyd adran 6(4)(a) o'r Ddeddf gan Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), Atodlen 9, paragraff 6 a chan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), Atodlen 5, paragraff 10(3). Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" yn arferadwy bellach, mewn perthynas â Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999; trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â'r Alban, i "the Scottish Ministers" gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46). Mae Rheoliad 13(4) o O.S. 2000/656 yn awdurdodi'r Ysgrifennydd Gwladol yn ddiamwys i ddiwygio'r Rheoliadau sy'n bodoli eisoes ac a wnaed gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (p'un ai gydag eraill neu beidio) o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.back

[2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413 ac O.S. 1999/1136.back

[4] OJ Rhif L277, 30.10.2000, t. 1.back

[5] O.S. 1999/1136.back

[6] O.S. 1997/1413.back

[7] O.S. 1966/1073; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[8] O.S. 1976/509; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[9] O.S. 1976/541; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[10] O.S. 1977/927; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[11] O.S. 1977/928; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[12] O.S. 1981/1063; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[13] O.S. 1984/1566; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[14] O.S. 1992/1978; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[15] O.S. 1996/1499 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[16] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0-11-090210-6


  Prepared 30 May 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011787w.html