BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhif 2) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011788w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1788 (Cy. 129 )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhif 2) 2001

  Wedi'u gwneud 30 Ebrill 2001 
  Yn dod i rym 1 Mai 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
    
1.  - (1) Caiff Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 [2] eu diwygio yn unol â'r paragraff canlynol yn y Rheoliad hwn.

    (2) Yn Atodlen 10 (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i gael eu rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol), hepgorir y cofnodion canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ebrill 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoli ar ba delerau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn dileu cynhyrchion penodol ar gyfer therapi disodli nicotin o'r rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau. Mae Atodlen 10 yn rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau eraill na ellir eu rhagnodi wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back

[2] O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981 a 2000/1887 (Cy. 133).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090248-3


  Prepared 27 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011788w.html