BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011987w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1987 (Cy. 138)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(1) a (3) a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Estyn darpariaethau adran 43(5) o Ddeddf Addysg 1997
    
2. Bydd adrannau 43 a 44 o Ddeddf Addysg 1997 yn cael effaith fel petai'r cyfnod canlynol wedi'i roi yn lle'r cyfnod a bennir yn adran 43(5) fel y rhan berthnasol o addysg disgybl, sef y cyfnod - 

Y gofyniad i ddarparu addysg gyrfaoedd mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach
    
3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach (p'un a ydynt yn eu mynychu'n amser llawn neu'n rhan amser) ac sydd wedi cyrraedd 16 oed ond nad ydynt wedi cyrraedd 20 oed.

    (2) Rhaid i gyrff llywodraethu'r sefydliadau hynny a phrifathrawon neu benaethiaid eraill y sefydliadau hynny sicrhau bod rhaglen addysg gyrfaoedd yn cael ei darparu ar gyfer y personau hynny y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.

    (3) Yn y rheoliad hwn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Mai 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth ar gyfer estyn y gofyniad i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gynnwys disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol a myfyrwyr rhwng 16 a 19 oed sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.

Mae Rheoliad 2 yn estyn y gofyniad yn adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gwmpasu disgyblion rhwng 14 a 19 oed, yn hytrach na 14 - 16 oed yn ôl gofyniad presennol adran 43.

Mae Rheoliad 3 yn gosod gofyniad hollol newydd ar gyfer darparu rhaglen addysg gyrfaoedd i fyfyrwyr 16 - 19 oed sy'n mynychu sefydliadau addysg bellach.


Notes:

[1] 1997 p.44. I gael ystyr "regulations" gweler adran 56(1), ac i gael ystyr "specified" gweler adran 46(5).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1992 p.13.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090274 2


  Prepared 19 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011987w.html