BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012287w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 21 Mehefin 2001 | ||
Yn dod i rym | 28 Gorffennaf 2001 |
Y p er i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a chabinet
3.
Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth maer a chabinet, mae gan y personau canlynol b er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11 -
Y p er i wneud trefniadau: gweithrediaethau arweinydd a chabinet
4.
- (1) Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth arweinydd a chabinet, mae gan y personau canlynol b er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11 -
(2) Os yw arweinydd y weithrediaeth yn gwneud unrhyw drefniadau o dan reoliad 6 neu 7 neu'n gwneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11, caiff gyfarwyddo, bryd hynny neu ar unrhyw adeg ddilynol, nad yw paragraff (1)(b) neu (c) uchod i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau sy'n dod o dan y trefniadau hynny neu nad yw i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny mewn unrhyw achosion neu amgylchiadau y gallai arweinydd y weithrediaeth eu cyfarwyddo.
Y p er i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor
5.
Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth maer a rheolwr cyngor, mae gan y personau canlynol b er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11 -
Cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal
6.
- (1) Caiff person sydd â ph er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol perthnasol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw.
(2) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni bai bod y person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.
(3) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (2) uchod, yna, oni bai bod y pwyllgor ardal neu'r person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.
(4) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau gan bwyllgor ardal i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(5) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r weithrediaeth sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.
(6) Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (5) uchod, rhaid i'r weithrediaeth roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38 o Ddeddf 2000.
Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall
7.
- (1) Caiff person sydd â ph er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Caiff trefniadau o dan y rheoliad hwn ddarparu -
(3) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y person a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.
Trefniadau i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall
8.
- (1) Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw gyflawni unrhyw swyddogaethau i'r awdurdod cyntaf a grybwyllwyd nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw -
(2) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal yr awdurdod a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.
Swyddogaethau a ddirprwyir i awdurdod lleol arall at ddibenion adrannau 14 ac 16 o Ddeddf 2000
9.
Os oes trefniadau mewn grym yn rhinwedd rheoliad 7 neu 8 uchod i unrhyw un o swyddogaethau awdurdod lleol, neu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw, gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall, rhaid trin y swyddogaethau hynny, at ddibenion adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2000, fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw.
Arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol arall
10.
- (1) Os oes trefniadau mewn grym, yn rhinwedd rheoliad 7 uchod, i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.
(2) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) uchod, gan bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw'n cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i'r awdurdod.
(3) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) uchod, gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.
Arfer swyddogaethau ar y cyd
11.
- (1) Rhaid i drefniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 gan berson y mae rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn rhoi'r p er iddo wneud hynny, gael eu gwneud yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud -
(3) Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau'r personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i nifer y personau hynny sydd i'w penodi gael ei benderfynu, gan y person sy'n gwneud y trefniadau ar ran yr awdurdod hwnnw.
(4) Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.
(5) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliadau 3, 4 neu 5 uchod i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(6) Os yw trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn darparu ar gyfer penodi personau nad ydynt yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw i gyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.
(7) Rhaid i berson sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.
(8) Bydd Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Cael Mynediad i Gyfarfodydd a Chael Gweld Dogfennau) (Cymru) 2001[3] yn gymwys i gyfarfod o gyd-bwyllgor -
fel pe bai cyfarfodydd y cyd-bwyllgor hwnnw yn gyfarfodydd preifat o bwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol, oni bai bod yr holl weithrediaethau hynny yn cytuno fel arall.
(9) Ac eithrio fel y disgrifir ym mharagraff (8) uchod, bydd Rhan VA o Ddeddf 1972 (cael mynediad i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i gyd-bwyllgor a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.
Aelodau cyd-bwyllgorau
12.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod gweithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth fod yn aelod o'r weithrediaeth honno, ac ni fydd y gofynion yngln â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.
(2) Os gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yw'r weithrediaeth o dan sylw -
(3) Os -
caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion ynglyn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r aelodau hynny.
(4) Os oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw a bod cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y pwyllgor hwnnw yn cael eu penodi gan yr awdurdod, ni fydd y gofynion ynglyn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r cynrychiolwyr hynny a rhaid i'r cynrychiolwyr hynny fod yn aelodau o'r awdurdod lleol hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(a)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
[3] O.S. 2001/2290 (Cy.178).back