BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012359w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2359 (Cy. 196)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 26 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n fel arall - 

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau
     2.  - (1) Diwygir rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (tystysgrifau rhagdalu) yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (6) yn lle "pharagraffau (7) ac (8)" rhowch "pharagraffau (13) i (15)".

    (3) Yn lle paragraffau (7) ac (8) rhowch y paragraffau canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mehefin 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Gwneir darpariaeth ar gyfer ffioedd deintyddol a ffioedd optegol ar wahân.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer prynu tystysgrifau rhagdalu am ffioedd am gyffuriau a chyfarpar). Mae'r diwygiadau'n ymestyn y cyfnod pryd y gellir hawlio ad-daliad o'r ffi a dalwyd am dystysgrif ragdalu ar farwolaeth y deiliad neu pan dderbynnir y deiliad i ysbyty yn glaf preswyl i nifer y misoedd cyfan sy'n para heb ddirwyn i ben ar ddyddiad y farwolaeth neu ar ddyddiad y derbyn i'r ysbyty.

Mae hefyd yn ymestyn y cyfnod pryd y gellir hawlio ad-daliad pan yw deiliad tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis yn cael yr hawl i gael esemptiad o ffioedd am gyffuriau a chyfarpar neu ryddhad rhagddynt

Mae'n pennu'r terfynau amser ar gyfer gwneud cais am ad-daliad ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer derbyn cais o'r fath y tu allan i'r terfynau amser penodedig mewn achosion lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i fodloni bod achos da dros yr oedi wrth gyflwyno'r cais.


Notes:

[1] 1977 p.49. Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (c.19)("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations" Diwygiwyd adran 83A gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 6; gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(5); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 40 a chan erthygl 2 o O.S.1998/2385. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y pwerau uchod eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S.2001/1358 (Cy.86)back

[3] O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 3252, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767, 2507 a 2840, 2001/1397 (Cy.92).back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090272 6


  Prepared 18 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012359w.html