BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012788w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2788 (Cy.238) (C.94)

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 25 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 275(2) a 276(2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[1]:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Trafnidiaeth 2000.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Darpariaethau yn dod i rym
    
2. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a bennir yn yr Atodlen honno, ar 1 Awst 2001.

    
3. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Gorffennaf 2001



ATODLEN 1
Erthygl 2


DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 AWST 2001


     1. Adrannau 108 i 123.

     2. Adrannau 128(4), 130(8), 131(2), (3) a (4), 132(6), 133 a 134

     3. Gweddill darpariaethau adrannau 124 i 132 ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.

     4. Adrannau 135 i 144.

     5. Adran 145 ac eithrio is-adrannau (1), (2) a (3).

     6. Adrannau 146 i 150.

     7. Adran 152.

     8. Adran 153 ac eithrio i'r graddau y mae'n perthyn i baragraff 1(1)(a) a (2)(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf ac i'r geiriau "a quality partnership scheme or" ym mharagraff 12(2) o'r Atodlen honno.

     9. Adran 154(1) i (5).

     10. Adrannau 155 i 160.

     11. Adran 161 ac eithrio i'r graddau y mae'n perthyn i baragraffau 15 i 20 o Atodlen 11 i'r Ddeddf.

     12. Adran 162.

     13. Adrannau 163(2)(b), 168(3), 172(1), 173(1), (2), (3) a (4), 174(1), (2) a (5), 175(1) ac 176(2).

     14. Gweddill Pennod I o Ran III (ac eithrio adran 166) ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 13 o'r Atodlen hon.

     15. Adrannau 178(2)(b), 182(5), 183(3), 187(1) a 189(1), (2), (3)(b) a (4).

     16. Gweddill Pennod II o Ran III (ac eithrio adran 181) ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 15 o'r Atodlen hon.

     17. Pennod III o Ran III (ac eithrio adrannau 191 ac 199).



ATODLEN 2
Erthygl 3


DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2002


     1. Adran 145(1), (2) a (3).

     2. Adran 161 i'r graddau y mae'n perthyn i baragraffau 15 i 20.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau o Rannau II a III o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i rym yng Nghymru.

Mae'r darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2001 yn cynnwys:

Adrannau 108 i 113, sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol a strategaethau bysiau;

Adrannau 114 i 123, sy'n gwneud darpariaeth i'r awdurdodau trafnidiaeth lleol wneud cynlluniau partneriaeth ansawdd gwasanaeth bysiau;

Adrannau 124 i 134, sy'n gwneud darpariaeth i'r awdurdodau trafnidiaeth lleol wneud cynlluniau contractau ansawdd gwasanaethau bysiau, ond dim ond i'r graddau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n perthyn i'r cynlluniau hynny;

Adrannau 135 i 138, sy'n galluogi'r awdurdodau lleol i wneud cynlluniau ynglyn â thocynnau bysiau ar y cyd a thrwodd;

Adrannau 139 i 144, sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i benderfynu sut i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwybodaeth am wasanaethau bysiau lleol;

Adrannau 145 i 150 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer consesiynau teithio gorfodol ar fysiau lleol i rai hen neu anabl (ond heb gynnwys yr hawl i'r consesiwn ei hun);

Adrannau 152 i 159 (gyda rhai eithriadau), sy'n ymwneud â grantiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus leol a phrofion cystadleuaeth ynglyn ag arfer pwerau sy'n perthyn i wasanaethau bysiau;

Adrannau 160, 161 a 162, sy'n ymwneud â'r pwerau i wneud rheoliadau, mân ddiwygiadau i'r gyfraith a dehongli;

Pennod I o Ran III o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ond dim ond i'r graddau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliadau sy'n perthyn i'r cynlluniau hynny;

Pennod II o Ran III o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer ardollau parcio mannau gwaith, ond dim ond i'r graddau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliadau sy'n perthyn i'r cynlluniau hynny;

Pennod III o Ran III o'r Ddeddf sy'n gwneud darpariaethau cyffredinol ac atodol yn perthyn i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ac ardollau parcio mannau gwaith ond ac eithrio Atodlen 12 sy'n cynnwys darpariaethau ariannol;

Mae'r darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2002 yn cynnwys:

Y darpariaethau o Adran 145 sy'n rhoi'r hawl i'r consesiynau teithio;

Rhai diwygiadau llai i'r gyfraith o dan Adran 161.


Notes:

[1] 2000 p. 38back

[2] 1998 p. 38back



English version



ISBN 0 11090349 8


  Prepared 16 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012788w.html