BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant -lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013711w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 15 Tachwedd 2001 | ||
Yn dod i rym | 14 Rhagfyr 2001 |
(b) person sydd wedi'i benodi'n rhiant-lywodraethwr gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1998[7]; neu
(c) person sy'n parhau yn rhiant-lywodraethwr at ddibenion ailgyfansoddi'r corff llywodraethu wrth drosi i'r fframwaith ysgolion newydd yn rhinwedd rheoliadau o dan Ran II o Ddeddf 1998[8]);
Trefniadau Amgen
3.
- (1) Pennir darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 yn ychwanegol at y trefniadau amgen a bennir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[9].
(2) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny'n anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn fydd drechaf.
Gofyniad bod pwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yn cynnwys cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr
4.
Yn ddarostyngedig i reoliad 13, rhaid i awdurdod addysg lleol benodi o leiaf ddau ond nid mwy na phum cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, wedi'u hethol yn unol â rheoliad 5, i bob un o'u pwyllgorau trosolygu a chraffu addysg.
Gweithdrefnau etholiadol a swyddi gwag
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod addysg lleol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a phenderfynu ar yr holl faterion eraill ynghylch ei gynnal, ond ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod rhag penodi corff arall i gynnal neu oruchwylio'r etholiad hwnnw.
(2) Caiff awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i rannu cynrychiolwyr rhiant?lywodraethwyr i gategorïau gwahanol sy'n cynrychioli naill ai -
ac i gyfyngu etholaeth pob categori felly i riant-lywodraethwyr o'r un math o ysgol neu o'r un mathau o ysgol neu riant-lywodraethwyr ysgolion yn yr ardal honno.
(3) Os bydd gofyn llenwi swydd ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr drwy etholiad rhaid i'r awdurdod addysg lleol gyhoeddi'r swydd wag honno o fewn tri mis iddi ddod yn wag ac ar yr un adeg â'r cyhoeddiad hwnnw rhaid iddynt -
(4) Rhaid cynnal unrhyw etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr lle ceir gornest drwy bleidlais gyfrinachol.
(5) Ni chaiff unrhyw bapur pleidleisio mewn etholiad felly gynnwys unrhyw arwydd o gysylltiad â phlaid wleidyddol.
(6) Pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn codi, rhaid i'r awdurdod addysg lleol -
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod etholiad yn cael ei gynnal mewn pryd i lenwi'r swydd heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y swydd yn wag.
(8) Pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr heb ei llenwi oherwydd nad oes ymgeisydd, neu nad oes digon o ymgeiswyr yn ceisio cael eu hethol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn unwaith eto cyn pen blwyddyn i'r swydd wreiddiol ddod yn wag a phob chwe mis wedyn, wedi'i gyfrifo o'r pen-blwydd cyntaf ar ôl i'r swydd wreiddiol ddod yn wag, hyd nes y llenwir y swydd.
(9) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bleidlais gael ei chynnal os yw nifer y swyddi gwag sydd i'w llenwi yn hafal i nifer yr ymgeiswyr sydd i'w ethol neu'n fwy na hynny.
Cymhwyster i bleidleisio mewn etholiadau a gofynion pleidleisio
6.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), bydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr os yw'r person hwnnw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr ar un neu fwy o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad.
(2) Pan fydd pleidleisio, o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori, dros gategori penodol o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cael ei gyfyngu i riant-lywodraethwyr o fath penodol neu o fathau penodol o ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, ni fydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ond os yw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr un neu fwy o ysgolion o'r math hwnnw neu o'r mathau hynny a gynhelir gan yr awdurdod.
(3) Pan fydd pleidleisio, o dan drefniadau felly, dros gategori penodol o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cael ei gyfyngu i riant-lywodraethwyr o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod mewn ardal ddaearyddol benodol, ni fydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ond os yw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr un neu fwy o ysgolion yn yr ardal ddaearyddol honno a gynhelir gan yr awdurdod.
(4) Pan na fydd yr awdurdod wedi gwneud trefniadau pleidleisio yn ôl categori, bydd gan berson sydd yn rhiant-lywodraethwr ar fwy nag un ysgol a gynhelir gan yr awdurdod ar ddyddiad yr etholiad, hawl i fwrw'r nifer o bleidleisiau sy'n hafal i nifer yr ysgolion hynny y mae'n rhiant-lywodraethwr arnynt ar ddyddiad yr etholiad.
(5) Pan fydd yr awdurdod wedi gwneud trefniadau pleidleisio yn ôl categori, bydd gan berson sydd, yn rhinwedd paragraff (2) neu (3), yn gymwys i bleidleisio yn etholiad mwy nag un categori o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr (oherwydd ei fod yn rhiant-lywodraethwr ar fwy nag un math o ysgol neu ar ysgolion mewn mwy nag un ardal ddaearyddol, yn ôl fel y digwydd) hawl i bleidleisio yn etholiad pob categori felly y mae'n gymwys ynddynt.
(6) Bydd y nifer o bleidleisiau y mae gan berson felly hawl i'w bwrw yn etholiad pob categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr y mae'n gymwys i bleidleisio ynddynt yn nifer sy'n hafal i nifer yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod y mae'n rhiant-lywodraethwr cymwys arnynt ar ddyddiad yr etholiad.
(7) Ym mharagraff (6) ystyr "rhiant-lywodraethwr cymwys" ("eligible parent governor") yw rhiant-lywodraethwr sy'n gymwys yn unol â pharagraff (2) neu (3) (yn ôl fel y digwydd) a pharagraff (5) i bleidleisio yn etholiad y categori o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr o dan sylw.
Cymwysterau ar gyfer etholiad fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr
7.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd person, onid yw wedi'i anghymhwyso o dan unrhyw ddeddfiad, yn gymwys i'w ethol fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr mewn etholiad a gynhelir gan awdurdod addysg lleol os yw ar ddyddiad yr etholiad -
(2) Pan fydd y swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli math penodol o ysgol neu fathau penodol o ysgol, ni fydd person yn gymwys i gael ei ethol ond os yw, yn ychwanegol at fodloni gofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b) hefyd yn rhiant-lywodraethwr ar ysgol o'r math hwnnw neu ar un o'r mathau hynny o ysgol.
(3) Pan fydd y swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol, ni fydd person yn gymwys i gael ei ethol ond os yw, yn ychwanegol at fodloni gofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b) hefyd yn rhiant-lywodraethwr ar ysgol yn yr ardal honno.
(4) Bydd person sydd eisoes yn aelod o'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.
(5) Bydd person sy'n athro neu'n athrawes, neu a gyflogir fel arall, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad, neu mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn ysgol feithrin a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.
(6) Bydd person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad, ac y mae ei gyflogaeth yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â swyddogaethau addysg yr awdurdod hwnnw, wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.
(7) Ni fydd person yn gymwys i'w ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr pwyllgor trosolygu a chraffu addysg awdurdod addysg lleol os yw ar ddyddiad yr etholiad eisoes yn dal swydd fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ar bwyllgor trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod hwnnw neu unrhyw awdurdod arall.
Anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr
8.
- (1) Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan y Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno -
(2) Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion o fath penodol neu o fathau penodol yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os nad yw mwyach yn dal unrhyw swydd fel rhiant-lywodraethwr a oedd yn ei gymhwyso neu a fyddai wedi ei gymhwyso i gael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr am unrhyw reswm heblaw'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).
(3) Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os nad yw mwyach yn dal unrhyw swydd fel rhiant-lywodraethwr a oedd yn ei gymhwyso neu a fyddai wedi ei gymhwyso i gael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr am unrhyw reswm heblaw'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).
(4) Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os bydd yn cael ei ethol yn aelod o'r awdurdod addysg lleol o dan sylw.
(5) Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os bydd yn ymgymryd â chyflogaeth -
(6) Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr sydd wedi methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd pwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'n aelod ohono am gyfnod di-dor o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cyfarfod, pan fydd y cyfnod hwnnw'n dod i ben, yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno.
(7) At ddibenion paragraff (6), ni chymerir bod cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod o bwyllgor trosolygu a chraffu addysg os yw wedi cyflwyno ymddiheuriad am ei absenoldeb a bod yr ymddiheuriad hwnnw wedi'i dderbyn gan y pwyllgor.
Cyfnod y swydd
9.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod a rheoliad 13 (darpariaethau trosiannol), bydd cyfnod swydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ar bwyllgor trosolygu a chraffu addysg -
(2) Pan na fydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cwblhau cyfnod ei swydd, caiff yr awdurdod addysg lleol benodi olynydd iddo am y rhan o gyfnod blaenorol y swydd sydd heb ddirwyn i ben.
Hawliau pleidleisio cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr
10.
Bydd gan gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr hawl i bleidleisio yng nghyfarfod pwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'n aelod ohono ar unrhyw gwestiwn -
Cynrychiolwyr eglwysig
11.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor awdurdod addysg lleol sydd wedi'i benodi yn unol â'r ddarpariaeth a gynhwysir mewn trefniadau amgen yn rhinwedd adran 32(1)(b) (y cyfeirir ato isod yn y rheoliad hwn fel pwyllgor trosolygu a chraffu addysg) os yw swyddogaethau'r pwyllgor yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod.
(2) Mae'r rheoliad hwn hefyd yn gymwys i is-bwyllgor i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg awdurdod os yw swyddogaethau'r is-bwyllgor yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod.
(3) Rhaid i bwyllgor neu is-bwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys un neu fwy o bersonau a benodir fel cynrychiolwyr y personau sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig ar gyfer yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac sydd wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel ysgolion sydd â chymeriad yn gysylltiedig â chrefydd benodol, neu ag enwad crefyddol penodol, sydd wedi'u pennu yn y cyfarwyddiadau.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys os nad oes ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac sydd wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau o dan y paragraff hwnnw.
(5) Mae gan aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor trosolygu a chraffu addysg a benodwyd yn rhinwedd paragraff (3) hawl i bleidleisio mewn cyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor ar unrhyw gwestiwn -
(6) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy gyfarwyddiadau i awdurdod addysg lleol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt gynnwys personau a benodir, yn unol â'r cyfarwyddiadau, yn gynrychiolwyr y personau sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion hynny a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac nad ydynt wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau o dan baragraff (3) a all gael eu pennu mewn cyfarwyddiadau o dan y paragraff hwn.
(7) Gall cyfarwyddiadau o dan baragraff (6) wneud darpariaeth ynghylch hawliau pleidleisio personau a benodir yn unol â chyfarwyddiadau o'r fath.
Diddymu a Darpariaethau Trosiannol
12.
- (1) Mae Rheoliadau 1999 drwy hyn wedi'u diddymu.
(2) Ni fydd diddymu Rheoliadau 1999 yn dirymu penodiad cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr i bwyllgor perthnasol (o fewn ystyr "relevant committee" yn Rheoliadau 1999).
(3) Hyd nes y bydd awdurdod addysg lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen bydd y Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw -
13.
- (1) Yn y rheoliad hwn, ystyr "Cynrychiolydd 1999" yw cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr -
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) pan fydd awdurdod addysg lleol yn sefydlu pwyllgor trosolygu a chraffu addysg, ymdrinnir â Chynrychiolydd 1999 fel pe bai wedi'i benodi i'r pwyllgor trosolygu a chraffu addysg hwnnw.
(3) Bydd Cynrychiolydd 1999 yr ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi'i benodi i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg yn unol â pharagraff (2) yn parhau yn ei swydd hyd nes y daw cyfnod gwreiddiol ei swydd i ben fel aelod o'r pwyllgor perthnasol (o fewn ystyr "relevant committee" yn Rheoliadau 1999).
(4) Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal Cynrychiolydd 1999 rhag cael ei anghymhwyso rhag parhau yn ei swydd yn rhinwedd darpariaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001
14.
- (1) Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 [10] yn y diffiniad o "trefniadau amgen" ar ôl "rheoliad 4" mewnosodwch "neu â Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001[11]"
(2) Yn lle rheoliad 4(3) o'r Rheoliadau hynny rhowch y canlynol:
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2001
[2] 1996 p.56; diwygiwyd adran 499 gan adran 9 o Ddeddf 1998.back
[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back
[5] Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S 2001/2285 (W.173)).back
[7] Gweler rheoliadau 9 a 12 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru)1999 (O.S. 1999/2242 (Cy.2.) ) ac Atodlenni 2, 5 a 6 iddynt.back
[8] Gweler rheoliadau 13 ac 20 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trosi i Fframwaith Newydd) 1998 (O.S. 1998/2763).back
[9] O.S. 2001/2285 (Cy.173).back
[10] O.S. 2001/2284 (Cy.173).back
[11] O.S. 2001/3711 (Cy.307).back
[12] O.S. 2001/3711(Cy.307)back