BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013764w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 22 Tachwedd 2001 | ||
Yn dod i rym | 30 Tachwedd 2001 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Yr amcan cyffredinol mewn perthynas â phob gweithredydd |
4. | Llunio trefniadau ad-dalu |
5. | Dull gwneud taliadau ad-dalu |
6. | Dull safonol ar gyfer darganfod nifer y siwrneiau, a gwerth y tocynnau ar eu cyfer |
7. | Adolygu cyfrifiadau'r dull safonol |
8. | Cyfrifo ad-daliadau |
9. | Cymhwyso rheoliadau 10 i 17 |
10. | Defnyddio gwybodaeth a roddir gan weithredwyr |
11. | Gwahardd gofyn am wybodaeth benodol |
12. | Cyfyngu ar ofyn am wybodaeth benodol |
13. | Esemptio gweithredwyr penodol rhag rhoi gwybodaeth |
14. | Amlder rhoi gwybodaeth benodol |
15. | Arolygon mewn gwasanaethau |
16. | Gosod offer a'u defnyddio |
17. | Newidiadau mewn gwasanaethau a phrisiau tocynnau |
18. | Cyflogi asiantau gweinyddu |
19. | Cyfyngiad cyffredinol ar ymyrryd â dull darparu gwasanaethau |
20. | Cymhwyso rheoliadau 21 i 32 |
21. | Cynnwys hysbysiadau |
22. | Cyflwyno hysbysiadau |
23. | Datganiad ysgrifenedig y ceisydd |
24. | Datganiad ysgrifenedig yr awdurdod |
25. | Datganiadau ysgrifenedig a dogfennau pellach |
26. | Gwrandawiadau ac ymddangosiadau |
27. | Methiannau wrth gyflwyno datganiadau neu ddogfennau neu wrth ymddangos |
28. | Y weithdrefn mewn gwrandawiadau |
29. | Dyfarniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol |
30. | Cyfyngu ar ddefnyddio gwybodaeth mewn cysylltiad â gwrandawiadau |
31. | Ceisiadau gwacsaw neu flinderus |
32. | Cymhwyso rheoliadau 23 i 25, 27 i 29 a 31 at enwebai'r Cynulliad Cenedlaethol |
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y dyddiad y rhoddir hysbysiad, mewn perthynas â hysbysiadau a anfonir drwy'r post, yn gyfeiriadau at y dyddiad y bernir bod yr hysbysiad wedi dod i law yn y cyfeiriad yr anfonwyd ef iddo, yn unol â rheoliad 22(2).
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac eithrio lle darperir fel arall.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at amcangyfrifon neu gyfrifiadau a wneir gan awdurdod mewn perthynas ag ad-daliadau yn gyfeiriad at amcangyfrifon neu gyfrifiadau a wneir drwy gyfrwng y dull ymarferol gorau sydd ar gael i'r awdurdod.
Dull gwneud taliadau ad-dalu
5.
- (1) Pennir y cyfnodau talu a'r diwrnodau talu yn y trefniadau ad-dalu ac -
(2) Rhaid i bob taliad ad-dalu beidio â bod yn llai nag 85% o'r swm y mae'r awdurdod yn amcangyfrif ei fod yn ddyledus i'r gweithredydd mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) o'r rheoliad hwn, rhaid i falans pob taliad ad-dalu gael ei dalu, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y dangosir eu bod yn angenrheidiol yng ngoleuni'r wybodaeth sydd ar gael i'r awdurdod yn unol â'r trefniadau sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith, heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl diwrnod y cyfnod talu perthnasol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, os na chaiff unrhyw falans a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwn ei dalu yn unol â'r paragraff hwnnw, rhaid gwneud darpariaeth i'r awdurdod dalu llog syml (yn ôl cyfradd o 1% ar ben y cyfradd sylfaenol) ar y swm sydd heb ei dalu am y tro am y cyfnod sy'n dechrau â'r dyddiad olaf pryd y dylai'r balans fod wedi'i dalu yn unol â pharagraff (3) ac yn diweddu â dyddiad y taliad ei hun.
(5) At ddibenion paragraff (4) o'r rheoliad hwn:
(6) Ni fydd llog yn daladwy nes bod yr hawl i gael consesiynau teithio gorfodol o dan adran 145(1) o'r Ddeddf wedi bod mewn grym am chwe mis nac mewn perthynas ag unrhyw gyfnod sy'n syrthio yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y chwe mis cyntaf ar ôl i'r hawl honno ddod i rym.
(7) Os yw swm unrhyw daliad ad-dalu a wneir yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu yn fwy na chyfanswm y taliad y ceir ei fod yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, rhaid gwneud darpariaeth i'r awdurdod hysbysu'r gweithredydd yn unol â hynny yn ysgrifenedig ac wedi hynny caiff yr awdurdod dynnu swm y gormodedd oddi ar y taliadau ad-dalu sy'n ddyledus i'r gweithredydd hwnnw mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu dilynol.
(8) Os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (7) o'r rheoliad hwn yn codi mewn perthynas â pherson nad yw'n weithredydd mwyach, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r person hwnnw yn unol â hynny ac, oni bai bod y person hwnnw'n dadlau yn erbyn bodolaeth neu swm y gormodedd, rhaid i'r person hwnnw dalu swm y gormodedd i'r awdurdod o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y daw'r hysbysiad i law.
(9) Gall darpariaeth gael ei gwneud ar gyfer gwneud unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus yn unol â pharagraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn heblaw yn unol â'r rheoliad hwn mewn unrhyw achos lle mae gweithredydd yn methu â rhoi gwybodaeth yn unol â'r trefniadau ad-dalu sy'n rhoi eu heffaith i'r Rheoliadau hyn -
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) o'r rheoliad hwn, rhaid gwneud darpariaeth i unrhyw daliad ad-dalu neu i unrhyw ran o daliad o'r fath sy'n ddyledus i weithredydd yn unol â chonsesiynau gorfodol a ddarparwyd yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis yn dechrau ar ddyddiad a bennir yn y trefniadau ond sydd heb gael ei dalu i gael ei dalu heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben.
Dull safonol ar gyfer darganfod nifer y siwrneiau, a gwerth y tocynnau ar eu cyfer
6.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, mewn perthynas â phob cynllun, rhaid i'r awdurdod fabwysiadu dull safonol i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i reoliad (4), i benderfynu -
(2) Rhaid i'r dull safonol ddarparu i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth unrhyw ddata sy'n dangos bod dull creu'r data hwnnw yn gywirach na'r dull safonol.
(3) Os nad yw'r dull safonol yn darparu ar gyfer cofnodi pob siwrnai a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y dull hwnnw ddarparu ar gyfer -
(4) Os yw symiau'r taliadau ad-dalu'n cael eu hamcangyfrif neu eu cyfrifo heblaw drwy gyfeirio at ddull safonol sy'n darparu ar gyfer cofnodi'r holl siwrneiau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r amcangyfrifon neu'r cyfrifiadau (ond nid y dull safonol) gael eu haddasu os dangosir bod yr wybodaeth y cawsant eu seilio arni yn anghywir mewn unrhyw ffordd berthnasol.
(5) Caiff awdurdod neu weithredydd y mae ganddynt reswm dros gredu bod y dull safonol a ddefnyddir ganddynt yn amhriodol mewn perthynas ag unrhyw weithredydd penodol, ar eu cost a'u traul eu hunain, wneud darpariaeth ar gyfer cyfrifiad cywirach o gyfanswm a gwerth tocynnau teithio siwrneiau mewn perthynas â'r gweithredydd hwnnw.
(6) Os bernir gan awdurdod y byddai cymhwyso'r dull safonol, oherwydd natur neu faint y gwasanaethau y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt gan weithredydd neu weithredwyr arbennig, yn gosod baich gweinyddol neu ariannol afresymol ar y cyfryw weithredydd neu weithredwyr, gall y trefniadau ad-dalu sy'n perthyn iddynt gynnwys esemtiad o'r dull safonol mewn unrhyw achos lle bo'r awdurdod a'r gweithredydd yn cytuno felly ac os bydd pob un o'r amodau canlynol wedi'i fodloni -
Adolygu cyfrifiadau'r dull safonol
7.
Rhaid gwneud darpariaeth i awdurdod adolygu'r cyfrifiadau a wneir yn unol â'r dull safonol nid llai nag unwaith pob tair blynedd.
Cyfrifo ad-daliadau
8.
Pan fydd awdurdod yn mabwysiadu dull safonol yn unol â rheoliad 6 a phan fydd yn cyfrifo taliadau ad-daliadau yn unol â'r dull hwnnw, rhaid iddo dalu sylw at unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdodau yn gyffredinol neu i'r awdurdod arbennig hwnnw at ddibenion y rheoliad hwn.
Cymhwyso rheoliadau 10 i 17
9.
Mae rheoliadau 10 i 17 yn gymwys i ddarpariaethau sydd i'w cynnwys neu (yn ôl fel y digwydd) a all gael neu na all gael eu cynnwys mewn trefniadau ad-dalu mewn perthynas â gweithredwyr.
Defnyddio gwybodaeth a roddir gan weithredwyr
10.
Dim ond ar gyfer cyfrifo ac mewn cysylltiad â chyfrifo taliadau ad-dalu y gall unrhyw wybodaeth a roddir gan weithredydd i awdurdod yn unol â threfniadau sy'n rhoi eu heffaith i'r rheoliad hwn a rheoliadau 11 i 17 gael eu defnyddio, a rhaid i'r awdurdod beidio â datgelu'r wybodaeth honno ac eithrio -
Gwahardd gofyn am wybodaeth benodol
11.
Ni ellir mynnu cael gwybodaeth am unrhyw un o'r pynciau canlynol -
Cyfyngu ar ofyn am wybodaeth benodol
12.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth am y pynciau canlynol neu yn eu cylch -
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, yr unig wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi y gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd ei rhoi yw gwybodaeth mewn perthynas â'r holl wasanaethau y mae'r gweithredydd hwnnw'n eu darparu ac y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt.
(3) Os oes trefniadau'n darparu ar gyfer rhannu ardal awdurdod consesiynau teithio yn wahanol rannau, gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd roi'r wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi mewn perthynas â phob rhan, ond nid os bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddatgelu niferoedd y teithwyr a gludwyd ar unrhyw wasanaeth penodol neu gr p o wasanaethau a ddarparwyd ganddo neu (yn ôl fel y digwydd) swm y prisiau tocynnau a gafodd oddi wrth y teithwyr hynny.
(4) Gellir gwneud darpariaeth, mewn unrhyw achos lle rhoddir gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi yn unol â threfniadau sy'n rhoi ei effaith i'r rheoliad hwn, i'r wybodaeth gael ei rhoi ynghyd â thystysgrif ei bod yn gywir ac yn gyflawn, sef tystysgrif a roddir gan berson cyfrifol.
(5) Ym mharagraff (4) o'r rheoliad hwn ystyr "person cyfrifol" yw person sy'n aelod o un neu fwy o'r cyrff canlynol -
(6) Os bydd awdurdod yn gofyn bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ynghyd â thystysgrif gan berson cyfrifol yn unol â pharagraff (4) rhaid i unrhyw gost ychwanegol resymol a dynnir gan weithredydd oherwydd y gofyn hwnnw gael ei ad-dalu gan yr awdurdod ac i'r perwyl hwnnw bernir ei bod yn rhan o'r balans sy'n daladwy o dan Reoliad 5(3) mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol y cyflenwyd yr awdurdod â manylion llawn y gost honno yn ei ystod.
Esemptio gweithredwyr penodol rhag rhoi gwybodaeth
13.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr y mae esemtiad o'r dull safonol yn cael ei gymhwyso iddynt o dan reoliad 6(6).
(2) Ni ellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi unrhyw wybodaeth y mae rheoliad 12 yn gymwys iddi.
Amlder rhoi gwybodaeth benodol
14.
Ni ellir ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth am unrhyw bwnc gael ei roi yn amlach nag unwaith ym mhob 28 diwrnod nac mewn perthynas â chyfnodau o lai nag 28 diwrnod.
Arolygon mewn gwasanaethau
15.
Gall awdurdod ei gwneud yn ofynnol i weithredydd ganiatáu i swyddogion, gweision neu asiantau'r awdurdod gael mynd yn rhesymol o aml at gerbydau'r gweithredydd y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt at y dibenion canlynol (gan gynnwys yr hawl i deithio'n ddi-dâl arnynt) -
Gosod offer a'u defnyddio
16.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o'r rheoliad hwn, gall awdurdod ei gwneud yn ofynnol i weithredydd gael offer yn ei gerbydau sy'n cyd-ymffurfio â manyleb a osodir gan yr awdurdod hwnnw er mwyn rhoi a dileu tocynnau neu gofnodi niferoedd a disgrifiadau teithwyr ar y cerbydau hynny fel arall yn ei gerbydau, a'u defnyddio.
(2) Yr awdurdod sydd i dalu costau a threuliau darparu a gosod unrhyw offer o'r fath.
(3) Heb ragfarnu rheoliad 12, ni ellir ei gwneud yn ofynnol, onibai fod y dull safonol yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyfrifo gwerthoedd tocynnau teithio cyfartalog ar gyfer yr holl deithwyr ac at ddibenion hynny'n unig, i weithredydd rhoi gwybodaeth i'r awdurdod sy'n deillio o ddefnyddio unrhyw offer o'r fath sy'n ymwneud â siwrneiau gan deithwyr nad oes ganddynt hawl i gael consesiynau teithio gorfodol.
(4) Gall awdurdod, mewn perthynas ag unrhyw gerbyd y mae consesiynau teithio gorfodol ar gael arno, ei wneud hi'n ofynnol, ar draul y gweithredydd, i'r gweithredydd ddangos ar y cerbyd hwnnw arwydd sy'n gwneud y ffaith honno'n glir ac sy'n resymol ddarllendwy gan y rhai yn gyffredinol sy'n debyg o fod â hawl i'r consesiynau hynny.
Newidiadau mewn gwasanaethau a phrisiau tocynnau
17.
Gellir gwneud darpariaeth i weithredydd roi gwybod i'r awdurdod am unrhyw newidiadau yn y gwasanaethau y mae'r gweithredydd hwnnw'n eu gweithredu ac y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt, ac o unrhyw newidiadau yn y tabl prisiau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau hynny, yn y naill achos a'r llall pan fydd y newid yn effeithiol neu heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedyn.
Cyflogi asiantau gweinyddu
18.
Ni chaiff awdurdod gyflogi unrhyw berson sy'n ddeiliad trwydded gweithredydd PSV yn asiant iddo at ddibenion gweinyddu trefniadau ad-daliadau.
Cyfyngiad cyffredinol ar ymyrryd â dull darparu gwasanaethau
19.
Ac eithrio lle gwneir hynny i roi ei heffaith i'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, ni all y trefniadau gynnwys darpariaethau y byddai cydymffurfio â hwy yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredydd newid y dull sydd ganddo ar gyfer darparu'r gwasanaethau y darperir consesiynau arnynt.
Cyflwyno hysbysiadau
22.
- (1) Gall hysbysiadau y mae'n ofynnol eu cyflwyno neu eu rhoi o dan adran 150(4) neu (5) o'r Ddeddf gael eu traddodi â llaw neu eu hanfon drwy bost cofrestredig wedi'i dalu ymlaen llaw neu drwy ddosbarthiad cofnodedig.
(2) Bernir bod unrhyw hysbysiad a anfonir drwy'r post yn unol â pharagraff (1) o'r rheoliad hwn wedi dod i law pan ddylai gael ei ddosbarthu i'r cyfeiriad yr anfonwyd ef iddo yng nghwrs priodol y post.
Datganiad ysgrifenedig y ceisydd
23.
- (1) Gyda'r hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 150(4) o'r Ddeddf, rhaid i'r ceisydd gyflwyno datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o'r canlynol -
(2) Ar yr un pryd ag y bydd yn cyflwyno'r hysbysiad a'r datganiad uchod i'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r ceisydd anfon copi o'r hysbysiad hwnnw ac o'r datganiad hwnnw i'r awdurdod.
Datganiad ysgrifenedig y ceisydd
24.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 30, rhaid i'r awdurdod gyflwyno datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw faterion y mae'n credu eu bod yn berthnasol i'r cais.
(2) Ar yr un pryd ag y mae'n cyflwyno'r datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r awdurdod anfon copi ohono at y ceisydd.
(3) Oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu fel arall, rhaid i unrhyw ddatganiad o'r fath gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol a'i anfon at y ceisydd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad y mae'r ceisydd yn ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod i'r ceisydd ar unwaith os yw'n caniatáu cyfnod hirach i'r awdurdod gyflwyno'i ddatganiad.
Datganiadau ysgrifenedig a dogfennau pellach
25.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 30, ar ôl i'r awdurdod gyflwyno'u datganiad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r ceisydd neu'r awdurdod, neu'r ddau, gyflwyno unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig a dogfennau pellach iddo fel y bydd yn cyfarwyddo.
(2) Rhaid i unrhyw ddatganiadau a dogfennau pellach o'r fath gael eu cyflwyno o fewn unrhyw amser y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo, ond, oni bai bod y ceisydd a'r awdurdod yn cytuno fel arall, rhaid i'r amser hwnnw beidio â bod yn llai na 14 diwrnod yn dechrau â dyddiad cais y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r ceisydd neu'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) sy'n cyflwyno unrhyw ddatganiad neu ddogfen bellach i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi ar yr un pryd i'r awdurdod neu at y ceisydd (fel y bo'n briodol).
Gwrandawiadau ac ymddangosiadau
26.
- (1) Ar ôl i'r datganiad ysgrifenedig neu'r ddogfen olaf y mae eu hangen o dan reoliadau 23 i 25 gael eu cyflwyno, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wahodd y ceisydd a'r awdurdod i ymddangos gerbron person a benodir ganddo.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi person yn unol â rheoliad 32 i benderfynu ar y cais ar ei ran, y person hwnnw fydd y person y gwahoddir y ceisydd a'r awdurdod i ymddangos ger ei fron.
(3) Rhaid i'r gwrandawiad yn unol â gwahoddiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn gael ei gynnal heb fod yn llai na 14 diwrnod ar ôl dyddiad y gwahoddiad hwnnw (neu, os rhoddir gwahoddiadau ar ddyddiadau gwahanol, ar ôl dyddiad yr ail wahoddiad neu'r gwahoddiad olaf).
(4) Caiff y ceisydd ymddangos yn bersonol neu gael ei gynrychioli gan gwnsler, cyfreithiwr neu unrhyw berson arall.
(5) Caiff yr awdurdod ymddangos drwy gyfrwng unrhyw swyddog neu berson arall sydd wedi'i benodi at y diben, neu drwy gyfrwng cwnsler, neu gyfreithiwr.
Methiannau wth gyflwyno datganiadau neu ddogfennau neu wrth ymddangos
27.
Os yw'r ceisydd neu'r awdurdod yn methu -
er hynny caiff y Cynulliad Cenedlaethol fwrw ymlaen i benderfynu ar y cais.
Y weithdrefn mewn gwrandawiadau
28.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 27, mewn unrhyw wrandawiad rhaid i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfle i'r ceisydd a'r awdurdod -
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw berson a benodir ganddo i gynnal gwrandawiad o dan y rheoliad hwn gymryd yn dystiolaeth unrhyw ddogfen neu wybodaeth er na fyddai'r ddogfen neu'r wybodaeth honno yn dderbyniol mewn llys barn.
(3) Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, bydd y weithdrefn mewn unrhyw wrandawiad yn cyd-fynd â'r hyn y bydd y person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei bennu yn ôl disgresiwn y person hwnnw.
Dyfarniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol
29.
- (1) Ar ôl ystyried adroddiad y person, os oes un, a benodir ganddo yn unol â rheoliad 26(1), bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ar y cais a chofnodir ei benderfyniad mewn dogfen a lofnodir ar ran y Cynulliad Cenedlaethol a'i dyddio pan gaiff ei llofnodi.
(2) Rhaid i'r ddogfen honno gynnwys crynodeb o'r rhesymau dros benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid anfon copi o'r ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol at y ceisydd ac i'r awdurdod.
(4) Trinnir y penderfyniad fel pe bai wedi'i wneud ar y dyddiad yr anfonir y copi o'r ddogfen uchod at y ceisydd.
Cyfyngu ar ddefnyddio gwybodaeth mewn cysylltiad â gwrandawiadau
30.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth sy'n ymwneud ag ad-dalu i weithredydd perthnasol y mae awdurdod yn ei chael oddi wrth y gweithredydd hwnnw yn unol â threfniadau ad-dalu.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr "gweithredydd perthnasol" yw gweithredydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus y ceir hawl arnynt i gael consesiynau teithio gorfodol.
(3) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth yn rheoliadau 24 i 28, rhaid i unrhyw ddatganiad neu ddogfen a gyflwynir neu a anfonir gan awdurdod, ac unrhyw ddatganiad a wneir ar ran awdurdod sy'n ymddangos gerbron person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol, beidio â chynnwys dim gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi oni bai bod y gweithredydd perthnasol wedi rhoi ei gydsyniad ysgrifenedig iddi gael ei chynnwys.
Ceisiadau gwacsaw neu flinderus
31.
Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn barnu bod cais yn un gwacsaw neu flinderus, gall y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig, wrthod y cais yn ddioed a bydd darpariaethau rheoliad 29 yn gymwys i benderfyniad felly.
Cymhwyso rheoliadau 23 i 25, 27 i 29 a 31 at enwebai'r Cynulliad Cendlaethol
32.
- (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penodi person yn unol ag adran 150(6)(b) o'r Ddeddf i benderfynu ar gais ar ei ran, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penodiad i'r ceisydd ac i'r awdurdod.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penodi person i benderfynu ar gais ar ei ran, rhaid darllen cyfeiriadau yn rheoliadau 23 i 25 a rheoliadau 27 i 29 at y Cynulliad Cenedlaethol fel cyfeiriadau at y person a benodir felly o ddyddiad y penodi ymlaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2001