BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020047w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 47 (Cy.6)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 14 Ionawr 2002 
  Yn dod i rym
  (ac eithrio paragraffau (2), (3), (4) a (5), o reoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2002) 1 Chwefror 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(b), (c), (d), (e) ac (f), (3), 17(1), 19(1)(b), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraffau 5(1)(a) a (2)(a) a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], gan roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno;

A chan ei fod wedi'i ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[4]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[5];

mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2002, ac eithrio paragraffau (2), (3), (4) a (5) o reoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2002.

Diwygiadau i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995
    
2.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, caiff Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995[6] eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) caiff y diffinaidau canlynol eu mewnosod yn y lle priodol yn yr wyddor - 

    (3) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (esemptiadau ac eithriad ar gyfer trwyddedau presennol) - 

    (4) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (2) rhoddir y canlynol - 

    (5) Yn rheoliad 3(3) a (4), yn lle'r gair "slaughterhouse" rhoddir y gair "holding".

    (6) Yn rheoliad 13, ar ôl paragraff (3) ychwanegir y paragraff canlynol - 

    (7) Ym mhob un o baragraffau (1) a (2) o reoliad 15 (dogfennau cludo) diddymir yr ymadrodd "Subject to paragraph (3) below".

    (8) Diddymir paragraff (3) o reoliad 15.

    (9) Ym mharagraff (1)(a)(i) o reoliad 18 (dyletswyddau meddiannydd), mewnosodir y geiriau "and origin" ar ôl y gair "species".

    (10) Yn Rhan I o Atodlen 5 (adeiladwaith, cynllun, ac offer lladd-dai trwybwn isel a safleoedd torri trwybwn isel) yn lle paragraff 5 rhoddir y canlynol - 

    (11) Ym mharagraff 11(j) o Atodlen 8, yn lle'r gair "producer" rhoddir y gair "occupier".

    (12) Yn lle paragraff 1(a) o Atodlen 14 (cludiant) rhoddir y canlynol - 

Diwygiad Canlyniadol
     3. I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 yn gymwys i Gymru, diwygir paragraff 7 o Atodlen 2 iddynt (rheoliadau sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned) drwy osod y cyfeiriadau canlynol yn lle'r geiriau "The Meat (Disease Control) (Wales) Regulations 2000;":



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Ionawr 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 ("Rheoliadau 1995") i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae Rheoliadau diwygio tebyg yn cael eu gwneud ar gyfer Lloegr a'r Alban. Effaith y diwygiadau yw - 

     2. Daw'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2002 ac eithrio'r rhai ym mharagraffau (2), (3), (4) a (5) o reoliad 2 sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2002.

    
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yn rhannol, ddarpariaethau - 

     4. Mae Rheoliad 3 (a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    
5. Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Cafodd swyddogaethau "the Secretary of State" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] O.S. 1999/2788back

[4] 1972 p.68.back

[5] OS 1996/3124, fel y'i diwygiwyd gan OS 1997/3023, OS 1998/994, OS 1999/683, OS 2000/656, OS 2000/1885 (Cy. 131), OS 2000/2257 (Cy.150), OS 2001/1660 (Cy.119), OS 2001/2198 (Cy. 158) ac OS 2001/2219 (Cy. 159)back

[6] O.S. 1995/540, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656 ac O.S. 2001/2198 (Cy.158).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090413 3


  Prepared 6 February 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020047w.html