BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020152w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 152 (Cy.20)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 29 Ionawr 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I

CYFFREDINOL
1 Enwi a chychwyn
2 Dehongli
3 Dirprwyo swyddogaethau
4 Hysbysiadau
5 Cyflwyno dogfennau

RHAN II

ASESIADAU
6 Hysbysiadau sy'n ymwneud ag asesu
7 Y cyngor sydd i'w geisio
8 Cyngor addysgol
9 Cyngor meddygol
10 Cyngor seicolegol
11 Y materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad
12 Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig
13 Plant heb ddatganiadau mewn ysgolion arbennig

RHAN III

DATGANIADAU
14 Hysbysiadau i gyd-fynd â datganiad arfaethedig neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig
15 Hysbysiadau i gyd-fynd â hysbysiadau diwygio
16 Datganiad o anghenion addysgol arbennig
17 Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig
18 Adolygu datganiadau
19 Trosglwyddo rhwng cyfnodau
20 Adolygu datganiad plentyn sy'n mynychu'r ysgol (heblaw adolygiad mewn perthynas â phlentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol)
21 Adolygu datganiad os yw plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yn mynychu'r ysgol
22 Adolygu datganiad os nad yw'r plentyn yn mynychu'r ysgol
23 Trosglwyddo datganiadau
24 Cyfyngiad ar ddatgelu datganiadau

RHAN IV

DIDDYMU A DARPARIAETHAU TROSIANNOL
25 Diddymu Rheoliadau 1994
26 Darpariaethau trosiannol

ATODLENNI:

  Atodlen 1
 Rhan A -  Hysbysiad i Riant (datganiadau arfaethedig a datganiadau diwygiedig arfaethedig)
 Rhan B -  Hysbysiad i Riant (hysbysiadau diwygio)

  Atodlen 2 Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig

Mae Cynulliad Cenedlethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 316A(2), 322(4), 324(2), 325(2A) a (2B), 328(1), (3A), (3B) a (6), 329(2A), 329A(9), a 569(1), (2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996[
1], a pharagraffau 2, 3(1), (3) a (4) o Atodlen 26, a pharagraffau 2(3), 2B (3), 5(3), 6(3), 7(1) a (2), 8(3A) a (5), 11(2A) a (4) o Atodlen 27 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir gan y darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw (neu, yn ôl fel y digwydd, maent i'w dehongli yn unol â'r darpariaethau hynny):

"addysg feithrin berthnasol" ("relevant nursery education") Adran 509A(5) o'r Ddeddf
"athro neu athrawes gymwysedig" ("qualified teacher") Adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[8]
"blwyddyn ysgol" ("school year") Adran 579(1) o'r Ddeddf
"corff cyfrifol" ("responsible body") Adran 329A(13) o'r Ddeddf
"diwrnod ysgol" ("school day") Adran 579(1) o'r Ddeddf
"oedran ysgol gorfodol" ("compulsory school age") Adran 5 o'r Ddeddf
"rhiant"("parent") Adran 576 o'r Ddeddf
"sefydliad tramgwyddwyr ifanc" ("young offender institution") Adran 43 o Ddeddf Carchar 1952[9]
"ysgol a gynhelir" ("maintained school") Adran 312 o'r Ddeddf
"ysgol arbennig" ("special school") Adran 337 o'r Ddeddf

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, mewn perthynas â phlentyn penodol, yn gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae'r plentyn yn byw yn eu hardal.

    (4) Os yw'n ofynnol gwneud rhywbeth o dan y Rheoliadau hyn - 

    (5) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn - 

Dirprwyo swyddogaethau
     3. Os oes gan bennaeth unrhyw swyddogaethau neu ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn caiff ddirprwyo'r swyddogaethau neu'r dyletswyddau hynny - 

Hysbysiadau
    
4. Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi yn ysgrifenedig.

Cyflwyno dogfennau
    
5.  - (1) Os oes unrhyw ddarpariaeth yn Rhan IV o'r Ddeddf neu yn y Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu'n gofyn bod unrhyw ddogfen yn cael ei chyflwyno neu ei hanfon at berson neu fod unrhyw hysbysiad yn cael ei roi i berson, gall y ddogfen gael ei chyflwyno neu ei hanfon neu gall yr hysbysiad gael ei roi drwy i lythyr sy'n cynnwys y ddogfen neu'r hysbysiad gael ei gyfeirio'n iawn, ei dalu ymlaen llaw a'i bostio.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma gyfeiriad priodol person - 

    (3) Os defnyddir post dosbarth cyntaf, rhaid trin y ddogfen neu'r hysbysiad fel pe baent wedi'u cyflwyno, wedi'u hanfon neu wedi'u rhoi ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

    (4) Pan ddefnyddir post ail ddosbarth, rhaid trin y ddogfen neu'r hysbysiad fel pe baent wedi'u cyflwyno, wedi'u hanfon neu wedi'u rhoi ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

    (5) Oni ddangosir i'r gwrthwyneb, rhagdybir mai'r dyddiad a welir yn y marc postio ar yr amlen y cynhwysir y ddogfen ynddi yw'r dyddiad postio.



RHAN II

ASESIADAU

Hysbysiadau sy'n ymwneud ag asesu
    
6.  - (1) Mae paragraff (2) yn gymwys - 

    (2) Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r hysbysiad perthnasol - 

    (3) Os anfonir copi o hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i arnodiad ar y copi neu hysbysiad sy'n cyd-fynd â'r copi hwnnw hysbysu'r derbynnydd pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

    (4) Os - 

rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'i hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

    (5) Os bydd - 

rhaid i'r awdurdod rhoi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'u hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

    (6) Os pennaeth ysgol neu bennaeth AAA mewn perthynas â darparydd addysg gynnar yw'r corff cyfrifol y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(a), caiff yr awdurdod - 

Y cyngor sydd i'w geisio
    
7.  - (1) Er mwyn gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod geisio - 

    (2) Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyngor ysgrifenedig sy'n ymwneud â'r canlynol - 

    (3) Caiff person y ceisir y cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) oddi wrtho ymgynghori mewn cysylltiad â'r cyngor hwnnw ag unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddo ei bod yn hwylus ymgynghori â hwy; a rhaid iddo ymgynghori ag unrhyw bersonau, os oes rhai, a bennir yn yr achos penodol gan yr awdurdod fel personau sydd â gwybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn.

    (4) Wrth geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) i (dd), rhaid i'r awdurdod roi copïau o'r canlynol i'r person y ceisir y cyngor oddi wrtho - 

o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d) yn ôl fel y digwydd.

    (5) Nid oes angen i'r awdurdod geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), (c), (ch), (d) neu (dd) - 

Cyngor addysgol
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), rhaid i'r cyngor addysgol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1)(b) gael ei geisio - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid peidio â cheisio'r cyngor a geisir fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(a) i (c) oddi wrth unrhyw berson nad yw'n athro neu'n athrawes gymwysedig.

    (3) Os yw'r cyngor a geisir fel y darperir ym mharagraff (1)(c) i'w sicrhau mewn perthynas â phlentyn sy'n derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar ac nad oes person sy'n gyfrifol am ddarpariaeth addysgol y plentyn hwnnw sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig, rhaid ceisio cyngor oddi wrth berson sy'n gyfrifol am ddarpariaeth addysgol y plentyn nad yw'n athro neu'n athrawes gymwysedig.

    (4) Os nad yw'r pennaeth ei hun wedi addysgu'r plentyn o fewn y 18 mis blaenorol, rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth bennaeth fel y darperir ym mharagraff (1)(a) fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori ag athro neu athrawes sydd wedi addysgu'r plentyn.

    (5) Rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth bennaeth fel y darperir ym mharagraff (1)(a) gynnwys cyngor ynghylch y camau sydd wedi'u cymryd gan yr ysgol i adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig y plentyn ac i wneud darpariaeth er mwyn diwallu'r anghenion hynny.

    (6) Rhaid i'r cyngor a geisir o dan baragraffau (1)(b) neu (1)(c) mewn perthynas â phlentyn sy'n derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar gynnwys cyngor ynghylch y camau sydd wedi'u cymryd gan y darparydd i adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig y plentyn ac i wneud darpariaeth ar gyfer diwallu'r anghenion hynny.

    (7) Os yw'n ymddangos i'r awdurdod, o ganlyniad i gyngor meddygol neu fel arall, fod gan y plentyn o dan sylw - 

ac nad yw unrhyw berson y ceisir cyngor oddi wrtho fel y darperir ym mharagraff (1) wedi'i gymhwyso i addysgu disgyblion a chanddynt nam o'r fath yna rhaid i'r cyngor a geisir fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â pherson sydd wedi'i gymhwyso felly.

    (8) At ddibenion paragraff (7), bernir bod person wedi'i gymhwyso i addysgu disgyblion a chanddynt nam ar y clyw neu nam ar y golwg neu a chanddynt nam ar y clyw ac ar y golwg os yw'r person hwnnw wedi'i gymhwyso i'w gyflogi mewn ysgol yn athro neu'n athrawes i ddosbarth o ddisgyblion â nam o'r fath heblaw i roi hyfforddiant mewn crefft, masnach, neu bwnc domestig.

    (9) Nid yw paragraffau (4) a (7) yn rhagfarnu rheoliad 7(3).

Cyngor meddygol
    
9. Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff 7(1)(c) gael ei geisio oddi wrth yr awdurdod iechyd, y mae'n rhaid iddynt sicrhau cyngor oddi wrth ymarferydd meddygol sydd wedi'i gofrestru'n llawn.

Cyngor seicolegol
    
10.  - (1) Rhaid i'r cyngor seicolegol y cyfeirir ato ym mharagraff 7(1)(ch) gael ei geisio oddi wrth berson - 

    (2) Os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu bod gan seicolegydd arall wybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn, rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth berson fel y darperir ym mharagraff (1) fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â'r seicolegydd arall hwnnw.

    (3) Nid yw paragraff (2) yn rhagfarnu rheoliad 7(3).

Y materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad
    
11. Wrth wneud asesiad rhaid i awdurdod gymryd i ystyriaeth - 

Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig
    
12.  - (1) Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad i riant plentyn, o dan adran 323(1), yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn ystyried a ddylid gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn - 

    (2) Os oes rhiant yn gofyn, o dan adrannau 328(2) neu 329(1), i'r awdurdod drefnu gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad derbyn y cais rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn - 

    (3) Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i'r corff hwnnw - 

    (4) Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i riant y plentyn - 

    (5) Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfynau amser y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (4) os yw'n anymarferol gwneud hynny - 

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes awdurdod wedi rhoi hysbysiad, o dan adrannau 323(4) neu 329A(7), i riant y plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad, rhaid iddynt gwblhau'r asesiad hwnnw o fewn 10 wythnos o'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

    (7) Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (6) os yw'n anymarferol gwneud hynny - 

    (8) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11), os oes awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno, rhaid i'r awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y maent yn cael y cais.

    (9) Nid oes angen i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os yw'n anymarferol gwneud hynny - 

    (10) Nid oes angen i awdurdod iechyd gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.

    (11) Nid oes angen i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.

Plant heb ddatganiadau mewn ysgolion arbennig
    
13. Os oes plentyn heb ddatganiad wedi'i dderbyn i ysgol arbennig at ddibenion asesiad, fel y darperir ar ei gyfer yn adran 316A(2), caiff aros yn yr ysgol honno - 



RHAN III

DATGANIADAU

Hysbysiadau i gyd-fynd â datganiad arfaethedig, neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig
     14. Rhaid i'r hysbysiad y mae'n rhaid i awdurdod ei gyflwyno i riant yn unol â pharagraff 2B(2) o Atodlen 27 i gyd-fynd - 

gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan A o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Hysbysiadau i gyd-fynd â hysbysiadau diwygio
    
15. Rhaid i'r hysbysiad y mae'n rhaid ei gyflwyno i riant yn unol â pharagraff 2B(2) o Atodlen 27 i gyd-fynd â hysbysiad diwygio (a gyflwynir o dan baragraff 2A(4) o Atodlen 27) gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan B o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Datganiad o anghenion addysgol arbennig
    
16. Rhaid i ddatganiad - 

Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig
    
17.  - (1) Os oes awdurdod wedi gwneud asesiad o blentyn nad oes datganiad yn cael ei gynnal ar ei gyfer, o fewn pythefnos o ddyddiad cwblhau'r asesiad, rhaid iddynt naill ai - 

    (2) Os oes awdurdod wedi gwneud asesiad o blentyn y mae datganiad yn cael ei gynnal ar ei gyfer, o fewn pythefnos o ddyddiad cwblhau'r asesiad, rhaid iddynt - 

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os oes awdurdod wedi cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig i riant y plentyn o dan baragraffau 2(1) neu 2A(2) o Atodlen 27, o fewn wyth wythnos i ddyddiad cyflwyno'r datganiad arfaethedig neu'r datganiad diwygiedig arfaethedig, rhaid iddynt gyflwyno copi o'r datganiad wedi'i gwblhau neu'r datganiad diwygiedig wedi'i gwblhau a hysbysiad ysgrifenedig i riant y plentyn o dan baragraffau 6(1) a 6(2) yn y drefn honno o Atodlen 27.

    (4) Nid oes angen i'r awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (3) os yw'n anymarferol gwneud hynny - 

    (5) Os yw rhiant y plentyn yn gofyn o dan baragraff 8(1) o Atodlen 27 i'r awdurdod roi enw ysgol arall a bennir gan y rhiant yn lle enw ysgol neu sefydliad a bennwyd mewn datganiad a bod yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8(1)(b) o Atodlen 27 wedi'u bodloni, o fewn wyth wythnos o ddyddiad cael y cais rhaid i'r awdurdod naill ai - 

    (6) Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad diwygio i riant y plentyn o dan baragraff 2A(4) o Atodlen 27 yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn bwriadu diwygio datganiad, rhaid iddynt ddiwygio'r datganiad cyn i wyth wythnos ddod i ben o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad.

    (7) Nid oes angen i'r awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser ym mharagraff (6) - 

    (8) Os oes awdurdod yn rhoi hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynnal datganiad, rhaid iddynt beidio â rhoi'r gorau i'w gynnal cyn i'r cyfnod rhagnodedig pryd y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ddod i ben[11].

    (9) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn roi gwybod i'r rhiant y caiff ei gyflwyno iddo - 

Adolygu datganiadau
     18.  - (1) Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob tymor ysgol, rhaid i awdurdod gyflwyno hysbysiad i bennaeth pob ysgol yn rhestru'r disgyblion hynny sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol honno - 

    (2) Yn y rheoliad hwn ystyr "ysgol" yw

lle mae disgybl y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdano yn ddisgybl cofrestredig.

    (3) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) - 

    (4) Rhaid i'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gael ei baratoi gan y pennaeth - 

    (5) Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob blwyddyn ysgol rhaid i awdurdod gyflwyno i Wasanaeth Gyrfaoedd eu hardal, hysbysiad - 

    (6) Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob tymor ysgol rhaid i awdurdod gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod iechyd a'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol - 

Trosglwyddo rhwng cyfnodau
    
19.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys - 

    (2) Yn y rheoliad hwn ystyr trosglwyddo rhwng cyfnodau o addysg yw trosglwyddo - 

    (3) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys rhaid i awdurdod sicrhau bod datganiad y plentyn yn cael ei ddiwygio fel bod y datganiad, cyn 15 Chwefror yn y flwyddyn galendr y trosglwyddir y plentyn, yn enwi'r ysgol neu'r sefydliad arall y bydd y plentyn yn eu mynychu ar ôl y trosglwyddo hwnnw.

Adolygu datganiad plentyn sy'n mynychu ysgol (heblaw adolygiad mewn perthynas â phlentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol)
    
20.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i bennaeth ysgol y plentyn gyflwyno adroddiad iddynt o dan y rheoliad hwn erbyn dyddiad penodedig heb fod yn llai na dau fis o ddyddiad rhoi'r hysbysiad.

    (3) Os yw enw'r plentyn wedi'i gynnwys yn yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) o reoliad 18, nid oes angen cyflwyno hysbysiad pellach i'r pennaeth mewn perthynas â'r plentyn hwnnw o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn.

    (4) Er mwyn paratoi'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, rhaid i'r pennaeth geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (5) oddi wrth - 

    (5) Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn gyngor ysgrifenedig ynghylch - 

    (6) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu ym mharagraff (1) o reoliad 18 ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn cyflwyno'r adroddiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw - 

    (7) Heb fod yn fwy na phythefnos cyn dyddiad cynnal cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r pennaeth anfon at yr holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw ac sydd heb roi gwybod i'r pennaeth na fyddant yn bresennol ynddo gopïau o'r cyngor a gafwyd yn unol â'r cais o dan baragraff (4) a rhaid iddo ofyn, drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n cyd-fynd â'r copïau, i'r derbynwyr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddo cyn y cyfarfod neu yn y cyfarfod ynghylch y cyngor hwnnw ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.

    (8) Rhaid i'r cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6) ystyried - 

    (9) Rhaid i'r cyfarfod argymell - 

    (10) Os na all y cyfarfod gytuno ar yr argymhellion sydd i'w cyflwyno o dan baragraff (9), rhaid i'r personau a fu'n bresennol yn y cyfarfod gyflwyno argymhellion gwahanol yn ôl fel y mae'n ymddangos yn angenrheidiol i bob un ohonynt.

    (11) Rhaid i'r adroddiad sydd i'w gyflwyno o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18 gael ei gwblhau ar ôl cynnal y cyfarfod a rhaid iddo gynnwys asesiad y pennaeth o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) ac argymhellion y pennaeth o ran y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9), a rhaid iddo gyfeirio at unrhyw wahaniaeth rhwng asesiad ac argymhellion y pennaeth ac asesiad ac argymhellion y cyfarfod.

    (12) Pan fydd y pennaeth yn cyflwyno adroddiad i'r awdurdod o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, ar yr un pryd rhaid i'r pennaeth anfon copïau - 

    (13) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y maent yn credu eu bod yn berthnasol, cofnodi eu penderfyniadau ar y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9)(a) a (b) yn ysgrifenedig ac, os oes cynllun trosiannol yn bodoli, rhaid iddynt gyflwyno argymhellion ysgrifenedig ar gyfer diwygiadau i'r cynllun yn ôl fel y maent yn credu ei bod yn briodol.

    (14) O fewn wythnos o gwblhau'r adolygiad o dan adran 328 rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'u penderfyniadau a'u hargymhellion - 

    (15) Y pennaeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i'r cynllun trosiannol yn cael eu gwneud.

    (16) Yn y rheoliad hwn mae i "ysgol" yr un ystyr ag yn rheoliad 18.

Adolygu datganiad os yw plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yn mynychu ysgol
    
21.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig i bennaeth ysgol y plentyn gyflwyno adroddiad iddynt o dan y rheoliad hwn erbyn dyddiad penodedig heb fod yn llai na dau fis o ddyddiad rhoi'r hysbysiad.

    (3) Os yw enw'r plentyn wedi'i gynnwys yn yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) o reoliad 18, nid oes angen cyflwyno hysbysiad pellach i'r pennaeth mewn perthynas â'r plentyn hwnnw o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn.

    (4) At ddibenion yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, rhaid i'r pennaeth geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (5) oddi wrth - 

    (5) Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn gyngor ysgrifenedig ynghylch y canlynol - 

    (6) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (1) o reoliad 18 ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn ei bod yn ofynnol cyflwyno'r adroddiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw - 

    (7) Heb fod yn fwy na phythefnos cyn dyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r pennaeth gyflwyno i'r holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw ac sydd heb roi gwybod i'r pennaeth na fyddant yn bresennol ynddo gopïau o'r cyngor y cafwyd yn unol â'r cais o dan baragraff (4) a rhaid iddo ofyn, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i'r derbynwyr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddo cyn y cyfarfod neu yn y cyfarfod ynghylch y cyngor hwnnw ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.

    (8) Rhaid i'r cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6) ystyried - 

    (9) Rhaid i'r cyfarfod argymell - 

    (10) Os na all y cyfarfod gytuno ar yr argymhellion sydd i'w cyflwyno o dan baragraff (9), rhaid i'r personau a fu'n bresennol yn y cyfarfod gyflwyno argymhellion gwahanol yn ôl fel y mae'n ymddangos yn angenrheidiol i bob un ohonynt.

    (11) Rhaid i'r adroddiad sydd i'w gyflwyno o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18 gael ei gwblhau ar ôl cynnal y cyfarfod, rhaid iddo gynnwys asesiad y pennaeth o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) ac argymhellion y pennaeth o ran y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9), a rhaid iddo gyfeirio at unrhyw wahaniaeth rhwng asesiad ac argymhellion y pennaeth ac asesiad ac argymhellion y cyfarfod.

    (12) Pan fydd y pennaeth yn cyflwyno adroddiad i'r awdurdod o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, ar yr un pryd rhaid i'r pennaeth anfon copïau - 

    (13) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y maent yn credu eu bod yn berthnasol, cyflwyno argymhellion ysgrifenedig ynghylch y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (9)(a), (b) ac (c).

    (14) O fewn wythnos o gwblhau'r adolygiad o dan adran 328 rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r argymhellion ac o'r cynllun trosiannol - 

    (15) Y pennaeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cynllun trosiannol yn cael ei lunio.

    (16) Yn y rheoliad hwn mae i "ysgol" yr un ystyr ag yn rheoliad 18.

Adolygu datganiad os nad yw plentyn yn mynychu ysgol
    
22.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os oes awdurdod yn adolygu datganiad o dan adran 328 ac nad yw'r plentyn o dan sylw yn mynychu ysgol.

    (2) Rhaid i'r awdurdod baratoi adroddiad sy'n rhoi sylw i'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5), gan gynnwys y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5)(dd) mewn unrhyw achos lle cychwynnir yr adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, ac at y diben hwnnw rhaid i'r awdurdod geisio cyngor ar y materion hynny oddi wrth riant y plentyn ac ar unrhyw rai o'r materion hynny oddi wrth unrhyw berson arall y maent yn credu bod eu cyngor yn briodol yn yr achos o dan sylw er mwyn gwneud adroddiad boddhaol.

    (3) Rhaid i'r awdurdod wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn ei bod yn ofynnol cwblhau'r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) - 

    (4) Heb fod yn hwyrach na phythefnos cyn dyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i'r awdurdod anfon at yr holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw gopi o'r adroddiad y maent yn bwriadu ei wneud o dan baragraff (2) a rhaid iddynt ofyn drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n cyd-fynd â'r copïau i'r derbynwyr gyflwyno i'r awdurdod sylwadau ysgrifenedig ynghylch yr adroddiad ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.

    (5) Rhaid i gynrychiolydd o'r awdurdod fod yn bresennol yn y cyfarfod.

    (6) Rhaid i'r cyfarfod ystyried y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5), ac mewn unrhyw achos lle cychwynnir yr adolygiad ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5)(dd), a rhaid iddo gyflwyno argymhellion yn unol â rheoliad 20(9), ac mewn unrhyw achos lle mae'r plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol argymhellion o ran y materion y mae'n casglu y dylid eu cynnwys mewn cynllun trosiannol.

    (7) Rhaid i'r adroddiad a baratoir gan yr awdurdod o dan baragraff (2) gael ei gwblhau ar ôl cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid iddo gynnwys asesiad yr awdurdod o'r materion y mae gofyn eu hystyried gan y cyfarfod a'u hargymhellion o ran y materion y mae gofyn i'r cyfarfod eu hargymell, a rhaid iddo gyfeirio at unrhyw wahaniaeth rhwng eu hasesiad a'u hargymhellion ac asesiad ac argymhellion y cyfarfod.

    (8) O fewn wythnos o ddyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r adroddiad a gwblheir o dan baragraff (7) - 

    (9) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y mae'n credu eu bod yn berthnasol, rhaid iddynt gyflwyno argymhellion ysgrifenedig o ran y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(9) ac mewn unrhyw achos lle'r adolygiad cyntaf i'w gychwyn ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad, baratoi cynllun trosiannol, ac mewn unrhyw achos lle mae cynllun trosiannol yn bodoli, ddiwygio'r cynllun fel y gwelant yn dda.

    (10) O fewn wythnos o gwblhau'r adolygiad o dan adran 328, rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r argymhellion ac o unrhyw gynllun trosiannol y cyfeirir ato ym mharagraff (9) at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8).

    (11) Yn y rheoliad hwn mae i "ysgol" yr un ystyr ag yn rheoliad 18.

Trosglwyddo datganiadau
    
23.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw plentyn y cynhelir datganiad mewn perthynas ag ef yn symud o ardal yr awdurdod sy'n cynnal y datganiad ("yr hen awdurdod") i ardal awdurdod arall ("yr awdurdod newydd").

    (2) Rhaid i'r hen awdurdod drosglwyddo'r datganiad i'r awdurdod newydd.

    (3) O ddyddiad y trosglwyddo - 

    (4) O fewn chwe wythnos o'r dyddiad trosglwyddo, rhaid i'r awdurdod newydd gyflwyno hysbysiad i riant y plentyn yn rhoi gwybod i'r rhiant - 

    (5) Rhaid i'r awdurdod newydd adolygu'r datganiad o dan adran 328(5)(b) cyn i'r hwyraf o'r ddau gyfnod canlynol ddod i ben - 

    (6) Pan ddaw'r awdurdod newydd, oherwydd y trosglwyddo, o dan ddyletswydd i drefnu bod y plentyn yn mynychu ysgol a bennir yn y datganiad ond nad yw'n ymarferol i'r plentyn ei mynychu mwyach yng ngoleuni'r symud, caiff yr awdurdod newydd drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall sy'n briodol ar gyfer y plentyn nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad yn unol â'r weithdrefn a nodir yn Atodlen 27.

    (7) Yn y rheoliad hwn, bydd "yr awdurdod newydd" yn cynnwys awdurdod addysg lleol yn Lloegr at ddibenion paragraffau (1) a (2) yn unig.

    (8) Rhaid i awdurdod y trosglwyddir datganiad iddo o awdurdod addysg lleol yn Lloegr drin y datganiad fel pe bai wedi'i drosglwyddo gan hen awdurdod at ddibenion paragraffau (3) i (6).

Cyfyngiad ar ddatgelu datganiadau
    
24.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a darpariaethau'r Rheoliadau hyn, rhaid peidio â datgelu datganiad mewn perthynas â phlentyn heb gydsyniad y plentyn ac eithrio - 

    (2) Caiff plentyn gydsynio i ddatgelu datganiad at ddibenion y rheoliad hwn os yw oedran a dealltwriaeth y plentyn yn ddigon i ganiatáu i'r plentyn ddeall natur y cydsyniad hwnnw.

    (3) Os nad yw oedran neu ddealltwriaeth plentyn yn ddigon i ganiatáu i'r plentyn gydsynio i ddatgelu ei ddatganiad, caiff rhiant y plentyn gydsynio ar ei ran.

    (4) Rhaid i'r trefniadau ar gyfer cadw datganiadau o'r fath fod yn drefniadau sy'n sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw personau diawdurdod yn cael eu gweld.

    (5) Yn y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad at ddatganiad yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw sylwadau, tystiolaeth, cyngor neu wybodaeth a nodir yn yr atodiadau i ddatganiad.



RHAN IV

DIDDYMU A DARPARIAETHAU TROSIANNOL

Diddymu Rheoliadau 1994
     25. Yn ddarostyngedig i reoliad 26, mae Rheoliadau 1994 drwy hyn wedi'u diddymu.

Darpariaethau trosiannol
    
26.  - (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r amserau, yr amgylchiadau neu'r dibenion yr oedd un o ddarpariaethau cyfatebol Rheoliadau 1994 yn effeithiol mewn perthynas â hwy ac i'r graddau y mae natur y cyfeiriad yn caniatáu hynny fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol honno.

    (2) Bydd rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad os yw'r awdurdod, cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 323(4), yn hysbysu'r rhiant eu bod wedi penderfynu gwneud asesiad, ac ni fydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad o'r fath.

    (3) Os yw rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad ond nad yw'r awdurdod, cyn 1 Medi 2002 - 

bydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas â'r asesiad o 1 Medi 2002 fel pe bai'r awdurdod wedi rhoi hysbysiad ar y dyddiad hwnnw i'r rhiant o dan adran 323(4) o'u penderfyniad i wneud asesiad.

    (4) Os yw rheoliadau 6 i 12 yn gymwys yn unol â pharagraff (3) uchod mewn perthynas ag asesiad, rhaid i'r awdurdod sicrhau cyngor yn unol â Rhan II, ond rhaid barnu bod cyngor a gafwyd yn unol â Rheoliadau 1994 wedi'i gael o dan Ran II os yw'r cyngor hwnnw'n briodol er mwyn gwneud asesiad boddhaol o dan y Rhan honno.

    (5) Os yw'r awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 323(1) i riant y plentyn eu bod yn bwriadu gwneud asesiad ond nad ydynt wedi hysbysu'r rhiant, cyn y dyddiad hwnnw, o dan adran 323(4) eu bod wedi penderfynu gwneud yr asesiad nac wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 323(6) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud yr asesiad, bydd rheoliad 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys at ddibenion unrhyw hysbysiad o'r fath o dan adran 323(4) neu 323(6) yn unig.

    (6) Os oes rhiant wedi gofyn cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 328 neu 329 i'r awdurdod drefnu i asesiad gael ei wneud o anghenion addysgol ei blentyn ond nad yw'r awdurdod, cyn y dyddiad hwnnw, wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 323(4) eu bod wedi penderfynu gwneud yr asesiad nac wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 328(3) neu 329(2) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud yr asesiad, bydd rheoliad 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys at ddibenion unrhyw hysbysiad o dan adran 323(4), 328(3) neu 329(2) yn unig.

    (7) Bydd rheoliadau 13 a 14 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer gwneud unrhyw ddatganiad os yw'r awdurdod wedi cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig i'r rhiant cyn 1 Ebrill 2002 yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 27.

    (8) Bydd rheoliad 14 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas â chynnig i ddiwygio neu i roi'r gorau i gynnal datganiad os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 10(1) neu 11(2) o Atodlen 27 cyn 1 Ebrill 2002.

    (9) Bydd rheoliad 15 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygu datganiad y mae awdurdod yn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef yn unol â gofynion rheoliad 15(2) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.

    (10) Bydd rheoliad 16 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygu datganiad y mae awdurdod yn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef yn unol â gofynion rheoliad 16(2) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.

    (11) Bydd rheoliad 17 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygiad y mae awdurdod wedi gwahodd y personau a bennir yn y rheoliad hwnnw i gyfarfod mewn perthynas ag ef yn unol â rheoliad 17(3) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.

    (12) Yr achlysur cyntaf cyn bod yn rhaid i awdurdod sicrhau bod datganiad plentyn wedi'i ddiwygio o dan reoliad 19 o'r Rheoliadau hyn yw 15 Chwefror 2003.


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2002



ATODLEN 1
Rheoliad 14



Rhan A

Hysbysiad i riant

Enw a chyfeiriad yr awdurdod

Dyddiad

Cyfeiriad y Rhieni

Annwyl [rhowch enw'r rhieni yma]

Mae'n dda gen i amgáu copi o (ddatganiad arfaethedig o anghenion addysgol arbennig/ddatganiad diwygiedig arfaethedig o anghenion addysgol arbennig) ar gyfer [enw/enwau'r plentyn]. Gydag ef rydym yn anfon copïau o'r holl gyngor sydd wedi'i roi i ni yn ystod asesiad [enw/enwau'r plentyn] ar gyfer y datganiad.

Os hoffech gyfarfod â ni i siarad am y datganiad, mae angen i chi ddweud wrthym o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr hwn. Nid dyma'r datganiad terfynol. Cewch ofyn iddo gael ei newid. Mae gweddill y llythyr yn dweud wrthych sut i fynd ati.

Fel y gwelwch, mae'r datganiad mewn chwe rhan:

Rhan 1 Rhagymadrodd

Rhan 2 Anghenion Addysgol Arbennig

Rhan 3 Darpariaeth Addysgol Arbennig gan gynnwys amcanion a threfniadau ar gyfer monitro

Rhan 4 Lleoliad

Rhan 5 Anghenion Anaddysgol

Rhan 6 Darpariaeth Anaddysgol

Mae rhan 4 wedi'i gadael yn wag er mwyn i chi ddweud ble rydych chi'n meddwl y dylai [enw'r plentyn] gael ei addysgu/ei haddysgu. Gallwch ddweud i ba ysgol sy'n cael ei chynnal (ysgol awdurdod addysg lleol), gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod, yr hoffech chi i [enw'r plentyn] fynd iddi, a dweud y rhesymau. I'ch helpu i benderfynu, mae rhestr o'r holl ysgolion [cynradd/uwchradd] sy'n cael eu cynnal yn yr ardal wedi'i chynnwys.

[Rhaid cynnwys rhestr o'r holl ysgolion cynradd neu uwchradd gyda'r llythyr hwn, yn dibynnu ai addysg gynradd neu addysg uwchradd y mae ar y plentyn ei hangen.]

Os ydych yn awgrymu enw ysgol sy'n cael ei chynnal, gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal, mae'n rhaid i ni enwi'r ysgol yn rhan 4 o'r datganiad, oni bai - 

Os ydych yn meddwl y dylai [enw'r plentyn] fynd i ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal neu i ysgol annibynnol, cewch awgrymu enw ysgol a dweud pam yr ydych yn meddwl y dylai'r ysgol honno gael ei henwi yn natganiad [enw'r plentyn]. Mae rhestr o'r ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal ac o'r ysgolion annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i chynnwys i'ch helpu.

[Rhaid cynnwys unrhyw restrau o ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal a gyhoeddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyda'r llythyr hwn.]

Os ydych am roi enw ysgol i ni yr hoffech i [enw'r plentyn] fynd iddi, rhaid i chi wneud hynny o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr hwn. Ond, os byddwch yn dod i gyfarfod â ni i drafod y datganiad hwn ar ôl cael y llythyr hwn, bydd gennych 15 diwrnod arall ar ôl y cyfarfod hwnnw i awgrymu enw. Cewch ddweud wrthym hefyd os ydych yn anghytuno â'r hyn y mae'r datganiad yn ei ddweud. Os ydych yn anghytuno â'r datganiad, rhaid i chi ddweud hynny hefyd o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr, neu o fewn 15 diwrnod ar ôl cyfarfod â ni i siarad am y datganiad. Os byddwch yn dal yn anghytuno â'r datganiad, neu ag unrhyw ran o'r cyngor sydd wedi'i roi yn ystod yr asesiad ar ôl i chi gyfarfod â ni, cewch ofyn i ni am gyfarfod arall i drafod y cyngor yr ydych yn anghytuno ag ef, ond mae'n rhaid i chi ofyn o fewn 15 diwrnod ar ôl y cyfarfod cyntaf. Byddwn yn trefnu i'r person a roddodd y cyngor ddod i'r cyfarfod newydd, neu rywun arall y maen nhw'n ei awgrymu. Gallwn drefnu mwy nag un cyfarfod os oes angen hynny, os byddwch yn anghytuno â mwy nag un rhan o'r cyngor.

Pan fydd pob un o'r camau hyn wedi'u gorffen, byddwn yn anfon datganiad terfynol atoch gyda rhan 4 wedi'i llenwi.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses yma, neu os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o'r datganiad, efallai yr hoffech gael cyngor neu gymorth gan y gwasanaeth partneriaeth rhieni lleol. Gallwch gysylltu â nhw yn [cyfeiriad cyswllt a'r rhif ffôn].

Gallan nhw eich rhoi mewn cysylltiad hefyd â'r trefniadau anffurfiol sydd ar gael i helpu i ddatrys neu i atal unrhyw anghytundebau rhyngoch chi a'r awdurdod. Nid yw defnyddio'r naill wasanaeth neu'r llall yn eich atal rhag apelio at y Tribiwnlys AAA ynghylch rhannau 2, 3 neu 4 o'r Datganiad ar yr un pryd; nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau, a gall apêl i'r Tribiwnlys redeg ar yr un pryd ag unrhyw ddatrys anghytundeb.

Pan fyddwch yn cael y datganiad terfynol, os ydych yn anghytuno â rhannau 2, 3 neu 4, gallwch apelio at y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig. Gall y Tribiwnlys gynnal gwrandawiad i benderfynu ar yr hyn a ddylai gael ei gynnwys yn y rhannau hyn o ddatganiad [enw'r plentyn]. Mae'n rhaid i chi apelio at y Tribiwnlys o fewn dau fis ar ôl cael y datganiad terfynol. Cyfeiriad y Tribiwnlys yw 50 Victoria Street, Llundain SW1H 0HW.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, nawr neu ar unrhyw adeg, am y broses hon neu am y datganiad ei hun, gallwch gysylltu â'n swyddog achos [enw] yn [cyfeiriad a rhif ffôn]. Mae croeso i chi gysylltu.

Yn gywir

[Llofnod y swyddog cyfrifol]



RHAN B

Rheoliad 15

Enw a chyfeiriad yr awdurdod

Dyddiad

Cyfeiriad y Rhieni

Annwyl [rhowch enw'r rhieni yma]

Fel y gwyddoch, mae gan [enw'r plentyn] ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, dyddiedig [rhowch ddyddiad y datganiad yma].

Yr ydym yn bwriadu diwygio datganiad [enw'r plentyn] [rhowch y rhesymau, e.e. yn sgil adolygiad blynyddol]. Fe welwch fanylion y diwygiadau yn yr hysbysiad diwygio amgaeëdig.

Os nad ydych yn cytuno â'r newidiadau sydd wedi'u hawgrymu ac os ydych am gyfarfod â ni i siarad, byddwch cystal â dweud wrthym o fewn 15 diwrnod.

(pan argymhellir diwygio rhan 4)

Yr ydym [hefyd] am ddiwygio rhan 4 o'r datganiad [esboniwch y rhesymau pam, e.e. er mwyn i blentyn fynd i'r ysgol uwchradd].

Gallwch ddweud i ba ysgol sy'n cael ei chynnal (ysgol awdurdod addysg lleol), gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod, yr hoffech chi i [enw'r plentyn] fynd iddi, a dweud y rhesymau. I'ch helpu i benderfynu, mae rhestr o'r holl ysgolion [cynradd/uwchradd] sy'n cael eu cynnal yn yr ardal wedi'i chynnwys.

[Rhaid cynnwys rhestr o'r holl ysgolion cynradd neu uwchradd gyda'r llythyr hwn, yn dibynnu ai addysg gynradd neu addysg uwchradd y mae ar y plentyn ei hangen.]

Os ydych yn awgrymu enw ysgol sy'n cael ei chynnal, gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal, mae'n rhaid i ni enwi'r ysgol yn rhan 4 o'r datganiad, oni bai - 

     1. bod yr ysgol yn anaddas ar gyfer oedran, gallu neu gymhwysedd [enw'r plentyn] neu'n anaddas ar gyfer yr anghenion addysgol arbennig sydd ganddo/ganddi, neu

     2. y byddai presenoldeb [enw'r plentyn] yn yr ysgol yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y byddai'n cael ei addysgu/ei haddysgu gyda nhw neu'n anghydnaws â defnyddio adnoddau'n effeithlon.

Os ydych yn meddwl y dylai [enw'r plentyn] fynd i ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal neu i ysgol annibynnol, cewch awgrymu enw ysgol a dweud pam yr ydych yn meddwl y dylai'r ysgol honno gael ei henwi yn natganiad [enw'r plentyn]. Mae rhestr o'r ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal ac o'r ysgolion annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i chynnwys i'ch helpu.

[Rhaid cynnwys unrhyw restrau o ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal a gyhoeddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyda'r llythyr hwn.]

Os ydych am roi enw ysgol i ni yr hoffech i [enw'r plentyn] fynd iddi, rhaid i chi wneud hynny o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr hwn. Ond, os byddwch yn dod i gyfarfod â ni i drafod y newidiadau sydd wedi'u hawgrymu i'r datganiad ar ôl cael y llythyr hwn, bydd gennych 15 diwrnod arall ar ôl y cyfarfod hwnnw i ddweud wrthym. Cewch ddweud wrthym hefyd os ydych yn anghytuno â'r newidiadau i'r datganiad yr ydym yn eu hawgrymu. Os ydych yn anghytuno â'r newidiadau sydd wedi'u hawgrymu, rhaid i chi ddweud hynny hefyd o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr hwn.

Pan fydd pob un o'r camau hyn wedi'u gorffen, byddwn yn anfon datganiad diwygedig terfynol atoch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o'r datganiad diwygiedig terfynol, efallai yr hoffech gael cyngor neu gymorth gan y gwasanaeth partneriaeth rhieni lleol. Gallwch gysylltu â nhw yn [rhowch y cyfeiriad cyswllt a'r rhif ffôn yma]. Gallan nhw eich rhoi mewn cysylltiad hefyd â'r trefniadau anffurfiol sydd ar gael i helpu i ddatrys neu i atal unrhyw anghytundebau rhyngoch chi a'r awdurdod. Nid yw defnyddio'r naill wasanaeth neu'r llall yn eich atal rhag apelio at y Tribiwnlys AAA ynghylch rhannau 2, 3 neu 4 o'r Datganiad ar yr un pryd; nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau a gall apêl i'r Tribiwnlys redeg ar yr un pryd ag unrhyw ddatrys anghytundeb.

Pan fyddwch yn cael y datganiad diwygiedig terfynol, os ydych yn anghytuno â rhannau 2, 3 neu 4 o'r datganiad, gallwch apelio at y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig. Gall y Tribiwnlys gynnal gwrandawiad i benderfynu ar yr hyn a ddylai gael ei gynnwys yn y rhannau hyn o ddatganiad [enw'r plentyn]. Mae'n rhaid i chi apelio at y Tribiwnlys o fewn dau fis ar ôl cael y datganiad terfynol. Cyfeiriad y Tribiwnlys yw 50 Victoria Street, Llundain SW1H 0HW.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, nawr neu ar unrhyw adeg, am y broses hon neu am y datganiad ei hun, gallwch gysylltu â'n swyddog achos [enw] yn [cyfeiriad a rhif ffôn]. Mae croeso i chi gysylltu.

Yn gywir

[Llofnod y swyddog cyfrifol]



ATODLEN 2
Rheoliad 16


DATGANIAD O ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG




RHAN 1:

RHAGYMADRODD

Rhowch enw'r Awdurdod

     1. Yn unol ag Adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ("y Ddeddf"), a Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002, mae'r datganiad canlynol yn cael ei wneud ar [rhowch y dyddiad yma] gan [rhowch enw'r awdurdod yma] ("yr awdurdod addysg") mewn perthynas â [rhowch enw'r plentyn yma] y nodir ei manylion/ei fanylion isod.

Plentyn
Cyfenw:      Enwau Eraill:     

Cyfeiriad Cartref:     

     Rhyw:     

Dyddiad Geni:      Crefydd:     

     Iaith Gartref:     

Rhiant y plentyn neu'r person cyfrifol
Cyfenw:      Enwau Eraill:     

Cyfeiriad Cartref:      Y Berthynas â'r Plentyn:     

Rhif Ffôn:     

     2. Wrth asesu anghenion addysgol [enw'r plentyn] o dan Adran 323 o Ddeddf Addysg 1996, yn unol â rheoliad 11 o'r Rheoliadau, cymerodd yr awdurdod y dystiolaeth a'r cyngor a nodir yn Atodiadau A i DD i'r datganiad hwn i ystyriaeth.

Enw'r rhiant: Cyngor rhiant Dyddiad:
Enw'r pennaeth/pennaeth AAA neu'r person arall sy'n gyfrifol: Cyngor addysgol Dyddiad:
Enw'r Meddyg: Cyngor meddygol Dyddiad:
Enw'r Seicolegydd Addysgol: Cyngor seicolegol Dyddiad:
Enw'r Gweithiwr Cymdeithasol: Cyngor ar ran yr Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Dyddiad:
Enwau personau sy'n darparu cyngor arall Cyngor oddi wrth eraill Dyddiad:

(Wrth wneud y datganiad hwn mae'r awdurdod wedi cymryd i ystyriaeth y sylwadau ychwanegol, y dystiolaeth a'r cyngor a nodir yn Atodiad E i'r datganiad hwn).



RHAN 2:

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

[Nodwch yma anghenion addysgol arbennig y plentyn, yn nhermau anawsterau dysgu y plentyn sy'n galw am ddarpariaeth addysgol arbennig, yn ôl asesiad yr awdurdod.]



RHAN 3:

DARPARIAETH ADDYSGOL ARBENNIG

Amcanion
[Yma pennwch yr amcanion y dylai'r ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer y plentyn anelu at eu bodloni.]

Darpariaeth addysgol i fodloni anghenion ac amcanion
[Pennwch yma y ddarpariaeth addysgol arbennig sydd ym marn yr awdurdod yn briodol i fodloni'r anghenion a bennwyd yn Rhan 2 ac i fodloni'r amcanion a bennir yn y Rhan hon, ac yn benodol pennwch  - 

Monitro
[Yma pennwch y trefniadau sydd i'w gwneud ar gyfer  - 

Pennwch yma hefyd unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer adolygu'r datganiad hwn.]



RHAN 4:

LLEOLIAD

[Pennwch yma  - 



RHAN 5:

ANGHENION ANADDYSGOL

[Yma pennwch anghenion anaddysgol y plentyn y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol darparu ar eu cyfer os yw'r plentyn i gael lles priodol o'r ddarpariaeth addysgol arbennig a bennwyd yn Rhan 3.]



RHAN 6:

DARPARIAETH ANADDYSGOL

[Yma pennwch unrhyw ddarpariaeth anaddysgol y mae'r awdurdod yn bwriadu trefnu ei bod ar gael neu y maent wedi'u bodloni y bydd awdurdod iechyd, awdurdod gwasanaethau cymdeithasol neu ryw gorff arall yn trefnu ei bod ar gael, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer ei darparu. Pennwch hefyd yr amcanion ar gyfer y ddarpariaeth, a'r trefniadau ar gyfer monitro'r cynnydd wrth fodloni'r amcanion hynny.]

Dyddiad      Swyddog o'r awdurdod ag awdurdod priodol

Atodiad A: Cyngor Rhiant


[Nodwch yma

    (1) unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd wedi'u cyflwyno gan riant y plentyn o dan adran 323(1)(d) neu 329A(3)(d) i'r Ddeddf neu baragraff 4(1) o Atodlen 27 iddi a chrynodeb y mae'r rhiant wedi derbyn ei fod yn gywir o unrhyw sylwadau llafar sydd wedi'u cyflwyno felly neu cofnod nad oes dim sylwadau o'r fath wedi'u gwneud,

    (2) unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan riant y plentyn o dan adran 323(1)(d) neu 329A(3)(d) o'r Ddeddf, neu cofnod nad oes dim tystiolaeth o'r fath wedi'i chyflwyno, a

    (3) y cyngor a gafwyd o dan reoliad 7(1)(a).]

Atodiad B: Cyngor Addysgol
[Nodwch yma y cyngor a gafwyd o dan reoliad 7(1)(b).]

Atodiad C: Cyngor Meddygol
[Nodwch yma y cyngor a gafwyd o dan reoliad 7(1)(c).]

Atodiad CH: Cyngor Seicolegol
[Nodwch yma y cyngor a gafwyd o dan reoliad 7(1)(ch).]

Atodiad D: Cyngor oddi wrth yr Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol
[Nodwch yma y cyngor a gafwyd o dan reoliad 7(1)(d).]

Atodiad DD: Cyngor Arall a Gafwyd gan yr Awdurdod
[Nodwch yma y cyngor a gafwyd o dan reoliad 7(1)(dd).]

Atodiad E: Cyngor a gafwyd gan yr Awdurdod ers i asesiad diwethaf y plentyn o dan adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 gael ei wneud
[Nodwch yma y cyngor a gafwyd gan yr awdurdod ers i'r asesiad diwethaf ar gyfer y plentyn o dan adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 gael ei wneud.]



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag asesu anghenion addysgol arbennig ac â datganiadau o'r anghenion hynny o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Maent yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994, sy'n cael eu diddymu (rheoliad 25).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol ddirprwyo swyddogaethau o dan y Rheoliadau yn gyffredinol i athro neu athrawes gymwysedig, neu mewn achos penodol, i'r aelod o'r staff sy'n addysgu'r plentyn (rheoliad 3).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cydategu'r fframwaith gweithdrefnol ar gyfer gwneud asesiad a datganiad a gynhwysir yn Rhan IV o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlenni 26 a 27 iddi. Gwneir darpariaeth fanwl ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy'r post (rheoliad 5). Mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i gopïau o hysbysiadau o gynnig awdurdod addysg lleol i wneud asesiad, eu penderfyniad i wneud asesiad neu hysbysiadau o gais rhiant neu gorff cyfrifol am asesiad, gael eu cyflwyno i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod iechyd a phennaeth ysgol y plentyn neu'r pennaeth AAA os yw'r plentyn yn derbyn addysg feithrin berthnasol (rheoliad 6). Yn ddarostyngedig i eithriadau, maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol gymryd camau gwahanol, gan gynnwys darparu gwybodaeth ragnodedig, wrth wneud asesiad neu ddatganiad o fewn terfynau amser rhagnodedig (rheoliadau 12 a 17 yn y drefn honno).

Mae'r Rheoliadau'n darparu bod rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, wrth wneud asesiad o anghenion addysgol arbennig plentyn, ofyn am gyngor rhiant y plentyn, cyngor addysgol, cyngor meddygol, cyngor seicolegol, cyngor gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol er mwyn gwneud asesiad boddhaol (rheoliad 7). Os oes cyngor o'r fath wedi'i sicrhau wrth wneud asesiad blaenorol o fewn y 12 mis diwethaf a bod personau penodol yn fodlon ei fod yn ddigonol, nid oes angen sicrhau cyngor newydd (rheoliad 7(5)). Gwneir darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid gofyn iddynt roi cyngor addysgol, meddygol a seicolegol (rheoliadau 8 i 10). Wrth wneud asesiad, darperir bod rhaid i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth sylwadau gan y rhiant, tystiolaeth a gyflwynir gan y rhiant, a'r cyngor sydd wedi'i sicrhau (rheoliad 11).

Gwneir darpariaeth i blentyn heb ddatganiad a dderbynnir i ysgol arbennig er mwyn cael ei asesu aros yno pan fydd yr asesiad wedi'i gwblhau (rheoliad 13).

Mae'r Rheoliadau'n rhagnodi'r drafft hysbysiad sydd i'w gyflwyno i riant ynghyd â datganiad drafft o anghenion addysgol arbennig neu ddatganiad diwygiedig, neu hysbysiad diwygio (rheoliadau 14 a 15 a Rhan A a B o Atodlen 1 yn y drefn honno). Rhagnodir ffurf a chynnwys datganiad hefyd (rheoliad 16 ac Atodlen 2).

Gwneir darpariaeth fanwl ynghylch sut mae adolygiad blynyddol o ddatganiad gan awdurdod addysg lleol o dan adran 328 o Ddeddf Addysg 1996 i gael ei gynnal (rheoliadau 18 i 22). Mae'n ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol anfon rhestrau cyfansawdd o ddisgyblion y mae arnynt angen adolygiadau blynyddol at benaethiaid ac at yr awdurdodau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn pob tymor ac at y Gwasanaeth Gyrfaoedd bob blwyddyn (rheoliad 18). Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer adolygiadau os yr adolygiad cyntaf ar ôl i'r plentyn ddechrau ar ei ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad. Mae rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau sicrhau bod datganiadau'n cael eu diwygio erbyn 15 Chwefror yn y flwyddyn y bydd y plentyn yn trosglwyddo rhwng cyfnodau yn ei addysg.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer trosglwyddo datganiad o un awdurdod addysg lleol i un arall (rheoliad 23). Mae dyletswyddau'r trosglwyddwr yn cael eu trosglwyddo i'r trosglwyddai, ac o fewn chwe wythnos ar ôl y trosglwyddo, rhaid i'r trosglwyddai gyflwyno hysbysiad i'r rhiant yn rhoi gwybod iddo neu iddi am y trosglwyddo, a ydynt yn bwriadu gwneud asesiad, a phryd y maent yn bwriadu adolygu'r datganiad (rheoliad 23(2), (3) a (4)). Pan na fyddai'n ymarferol ei gwneud yn ofynnol i'r trosglwyddai drefnu i'r plentyn fynychu ysgol a bennir yn y datganiad, darperir nad oes angen iddynt wneud hynny, ond y gallant drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad (rheoliad 23(6)).

Ceir cyfyngiadau ar ddatgelu datganiadau a rhaid cymryd camau i atal personau diawdurdod rhag cael eu gweld (rheoliad 24).

Gwneir darpariaeth ar gyfer trosi o'r gyfundrefn a osodwyd gan Reoliadau 1994 i'r gyfundrefn a osodir gan y Rheoliadau hyn (rheoliad 26). Yn fras, gall unrhyw gamau a gymerwyd o dan Reoliadau 1994 gael eu cwblhau o dan y rheoliadau hynny. Os oes asesiad wedi'i ddechrau cyn 1 Ebrill 2002, caiff yr awdurdod addysg lleol barhau i wneud yr asesiad o dan Reoliadau 1994. Er hynny, os nad yw'r asesiad wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 2002, fe fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r asesiad fel pe bai wedi'i ddechrau odanynt ar y dyddiad hwnnw (rheoliad 26(3)).


Notes:

[1] 1996 p.56. I gael ystyr "regualtions" gweler adran 579(1) o'r Ddeddf. Mewnosodwyd adrannau 316A(2), 325(2A) a 2(B), 328(3A) a (3B), 329(2A) a 329A(9) gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), adran 1, paragraff 6 o Atodlen 8, paragraff 7 o Atodlen 8, paragraff 8 o Atodlen 8 ac adran 8 yn y drefn honno. Mewnosodwyd paragraffau 2(3), 2B(3), 6(3), 8(3A), 11(2A) o Atodlen 27 gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, Atodlen 1, paragraffau 3 a 14 ac Atodlen 8, paragraffau 9(2) a 10(2) yn y drefn honnoback

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1970 p.42. Mewnosodwyd adran 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 102(3).back

[4] 1977 p.49. Fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a Deddf Iechyd 1999 (p.32).back

[5] 1971 p.80.back

[6] 1973 p.50. Amnewidiwyd adrannau 8, 9 a 10 gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), adran 45.back

[7] O.S. 1994/1047.back

[8] 1988 p.40.back

[9] 1952 p.52.back

[10] Pan fydd datganiad wedi'i wneud ar gyfer plentyn, bydd y datganiad hwnnw'n pennu a gaiff y plentyn ei addysgu mewn ysgol arbennig neu mewn man arall.back

[11] Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig 2001 (O.S. 2001/600) yn darparu bod rhaid i apêl gael ei gwneud heb fod yn hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i ddau fis ddod i ben o'r adeg y mae'r awdurdod yn hysbysu'r rhiant o'r hawl i apelio. O dan baragraff 11(5) o Atodlen 27 i Ddeddf Addysg 1996, ni chaiff awdurdod lleol roi'r gorau i gynnal datganiad os oes rhiant wedi apelio yn erbyn dyfarniad yr awdurdod i roi'r gorau i gynnal datganiad ac nad yw'r tribiwnlys wedi dyfarnu ar yr apêl honno neu nad yw wedi'i thynnu'n ôl.back

[12] 1974 p.7.back

[13] 1986 p.33; diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, paragraffau 16 i 18 o Atodlen 8.back

[14] 1989 p.41; mae diwygiad i adran 87(3) yn yr arfaeth yn sgil Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), adran105.back

[15] 1996 p.57; diwygiwyd adran 2(8) gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 42 ac Atodlen 6, a diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 3 gan Ddeddf Addysg 1997, adran 42 ac Atodlen 6, paragraff 12.back

[16] O.S. 2000/3371.back



English version



ISBN 0 11 090422 2


  Prepared 14 February 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020152w.html