BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020324w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 12 Chwefror 2002 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2002 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Sefydliadau sydd wedi'u heithrio |
4. | Datganiad o ddiben |
5. | Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth |
6. | Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth |
7. | Ffitrwydd y darparydd cofrestredig |
8. | Penodi rheolwr |
9. | Ffitrwydd y rheolwr cofrestredig |
10. | Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol |
11. | Hysbysu tramgwyddau |
12. | Iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth |
13. | Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles |
14. | Asesu defnyddwyr gwasanaeth |
15. | Cynllun defnyddiwr gwasanaeth |
16. | Cyfleusterau a gwasanaethau |
17. | Cofnodion |
18. | Staffio |
19. | Ffitrwydd y gweithwyr |
20. | Cyfyngiadau ar weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth |
21. | Barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofal |
22. | Gweithdrefn disgyblu'r staff |
23. | Cwynion |
24. | Ffitrwydd safleoedd |
25. | Adolygu ansawdd y gofal |
26. | Y sefyllfa ariannol |
27. | Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig |
28. | Cymhwyso'r Rhan hon |
29. | Dehongli |
30. | Datganiad o ddiben |
31. | Y person cofrestredig |
32. | Darpariaeth ar wahân ar gyfer plant |
33. | Lles a diogelwch plant |
34. | Ffitrwydd y gweithwyr |
35. | Gweithdrefn disgyblu'r staff |
36. | Adolygu ansawdd y gofal |
37. | Tramgwyddau |
38. | Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill |
39. | Hysbysu absenoldeb |
40. | Hysbysu newidiadau |
41. | Hysbysu terfynu llety |
42. | Penodi datodwyr etc. |
43. | Marwolaeth person cofrestredig |
44. | Tramgwyddau |
45. | Cydymffurfio â'r rheoliadau |
46. | Lleoliadau oedolion |
47. | Addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion |
48. | Pennu swyddfeydd priodol |
49. | Diddymu |
1. | Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben |
2. | Yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy'n rhedeg neu reoli cartref gofal neu weithio mewn cartref gofal |
3. | Y cofnodion sydd i'w cadw mewn cartref gofal mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth |
4. | Cofnodion eraill sydd i'w cadw mewn cartref gofal |
5. | Gwybodaeth ychwanegol sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben pan fydd plant yn cael eu lletya |
6. | Materion sydd i'w monitro mewn cartref gofal y mae plant yn cael eu lletya ynddo. |
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad -
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref gofal yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref gofal.
Sefydliadau sydd wedi'u heithrio
3.
- (1) At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn gartref gofal -
(d) os yw'n brifysgol;
(dd) os yw'n sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[9]; neu
(e) os yw'n ysgol.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae "prifysgol" yn cynnwys -
(3) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys -
Datganiad o ddiben
4.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben" ("the statement of purpose")) mewn perthynas â'r cartref gofal a fydd yn cynnwys -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio pan wneir cais amdano ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw gynrychiolydd i ddefnyddiwr gwasanaeth.
(3) Ni fydd dim yn rheoliad 16(1) neu 24(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol, neu i beidio â chydymffurfio â hwy -
Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
5.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r cartref gofal (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth" ("the service user's guide")) a fydd yn cynnwys -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig -
(3) Os oes awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer darparu llety nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cytundeb sy'n pennu'r trefniadau a wneir i'r defnyddiwr gwasanaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn mae "adroddiad arolygu diweddaraf" yn cynnwys adroddiad a gynhyrchir cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
6.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, pryd bynnag y mae'n ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y mae i fod i ddod yn weithredol.
(3) Dyma'r gofynion -
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997[10] wedi ei dwyn i rym.
(5) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal -
Penodi rheolwr
8.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cartref gofal -
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref gofal, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith -
(3) Os y darparydd cofrestredig yw'r person sy'n mynd i reoli'r cartref gofal rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
Ffitrwydd y rheolwr cofrestredig
9.
- (1) Rhaid i berson beidio â rheoli cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli cartref gofal oni bai -
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person -
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997[11] wedi ei dwyn i rym.
Person cofrestredig - gofynion cyffredinol
10.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg y cartref gofal neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig -
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref gofal.
Hysbysu tramgwyddau
11.
Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal y maent i'w gael ac â'u hiechyd a'u lles.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cymryd i ystyriaeth er mwyn darparu gofal iddynt a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer eu hiechyd a'u lles.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg -
(5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un), mewn perthynas â rhedeg y cartref gofal -
Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles
13.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, anhwylderau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y cartref gofal.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau -
(5) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.
(8) Ar unrhyw achlysur pan gaiff defnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.
Asesu defnyddwyr gwasanaeth
14.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â darparu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal oni bai bod y camau canlynol wedi'u cwblhau, i'r graddau y bydd wedi bod yn ymarferol gwneud hynny -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth -
Cynllun defnyddiwr gwasanaeth
15.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig ("y cynllun defnyddiwr gwasanaeth" ("the service user's plan")), ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad, ynghylch sut y bwriedir diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig -
Cyfleusterau a gwasanaethau
16.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth yn unol â datganiad o ddiben y cartref gofal.
(2) O roi sylw i faint y cartref gofal ac i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig -
(b) darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a gwneud trefniadau i alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn breifat;
(c) darparu, yn yr ystafelloedd a feddiennir gan y defnyddwyr gwasanaeth, ddodrefn, dillad gwely a chelfi digonol eraill, gan gynnwys llenni a gorchuddion i'r llawr, ac offer sy'n addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a sgriniau os oes eu hangen;
(ch) annog y defnyddwyr gwasanaeth, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, i ddod â'u dodrefn a'u celfi eu hunain i'r ystafelloedd y maent yn eu meddiannu;
(d) trefnu ar gyfer golchi llieiniau a dillad yn rheolaidd;
(dd) darparu, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth olchi, sychu a smwddio'u dillad eu hunain os dymunant ac, at y diben hwnnw, gwneud trefniadau i'w dillad gael eu didoli a'u cadw ar wahân;
(e) darparu offer cegin, llestri, cytleri a theclynnau digonol ac addas, a chyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd;
(f) darparu cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth baratoi eu bwyd eu hunain a sicrhau bod cyfleusterau o'r fath yn ddiogel i gael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
(ff) darparu, mewn symiau digonol, fwyd addas, iachus a maethlon sy'n amrywiol ac wedi'i baratoi'n briodol ac ar gael ar unrhyw adeg y mae'n rhesymol i'r defnyddwyr gwasanaeth ofyn amdano;
(g) gwneud trefniadau addas ar gyfer cynnal safonau boddhaol o hylendid yn y cartref gofal ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny;
(ng) cadw'r cartref gofal yn rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol;
(h) darparu man lle y gall arian a phethau gwerthfawr y defnyddwyr gwasanaeth gael eu hadneuo i gael eu cadw'n ddiogel, a gwneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth gydnabod yn ysgrifenedig fod unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuwyd wedi'u dychwelyd iddynt;
(i) ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch eu diddordebau cymdeithasol, a gwneud trefniadau i'w galluogi i ymgymryd â gweithgareddau lleol, cymdeithasol a chymunedol ac ymweld â'u teuluoedd a'u cyfeillion, neu gadw cysylltiad neu gyfathrebu â hwy;
(j) ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch y rhaglen o weithgareddau a drefnir gan y cartref gofal neu ar ei ran, a darparu cyfleusterau hamdden, gan gynnwys gweithgareddau mewn perthynas â hamdden, ffitrwydd a hyfforddi, gan roi sylw i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol, fod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.
(4) Yn y rheoliad hwn mae "bwyd" yn cynnwys diod.
Cofnodion
17.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnodion yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu eu bod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn cael eu cadw yn gyfoes.
(4) Rhaid parhau i gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) am o leiaf dair blynedd ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddynt, ac eithrio cofnod a gedwir o dan baragraff 13 o Atodlen 4 y mae angen ei gadw am flwyddyn yn unig ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddo.
(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) neu reol gyfreithiol arall ynghylch cofnodion neu wybodaeth.
Staffio
18.
- (1) Gan roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y materion canlynol -
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael eu goruchwylio'n briodol.
(3) Os yw'r cartref gofal -
rhaid i'r person cofrestredig sicrhau fod nyrs gofrestredig a chanddi gymwysterau addas yn gweithio yn y cartref gofal bob amser.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i roi gwybodaeth briodol am unrhyw God Ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o'r Ddeddf i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal.
Ffitrwydd y gweithwyr
19.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig -
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai -
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997 wedi ei dwyn i rym.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau -
(5) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf paragraff (4)(b) -
(c) bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(ch) bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
(6) Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan 1 Ebrill 2003 mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson yn y cartref gofal nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob amser.
Cyfyngiadau ar weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth
20.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â thalu arian sy'n perthyn i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth i gyfrif banc oni bai -
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arian sy'n cael ei dalu i'r person cofrestredig mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy gan ddefnyddiwr gwasanaeth am lety neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y person cofrestredig yn y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y bo'n ymarferol nad yw'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn gweithredu fel asiant i ddefnyddiwr gwasanaeth.
Barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofal
21.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y cartref gofal i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.
Gweithdrefn disgyblu staff
22.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn disgyblu staff a fydd, yn benodol -
(2) At ddibenion paragraff (1), person priodol yw'r person cofrestredig, swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf neu swyddog o'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref ynddi, neu gwnstabl.
Cwynion
23.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ("y weithdrefn gwynion" ("the complaints procedure")) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gwyn a wneir o dan y weithdrefn gwynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gwyn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r weithdrefn gwynion i bob defnyddiwr gwasanaeth ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth os bydd y person hwnnw'n gofyn amdano.
(6) Pan fydd copi o'r weithdrefn gwynion i'w chyflwyno yn unol â pharagraff (5) i berson sy'n ddall neu berson â nam ar ei olwg, rhaid i'r person cofrestredig, os yw hynny'n ymarferol, gyflwyno copi o'r weithdrefn gwynion mewn ffurf sy'n addas i'r person hwnnw yn ogystal â chopi ysgrifenedig.
(7) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwynion gynnwys -
(8) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau -
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer y staff -
(b) llety ar gyfer cysgu, os oes ar y staff angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref gofal.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig -
(ch) gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
(d) sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y defnyddwyr gwasanaeth, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer arbed bywyd;
(dd) ymgynghori â'r awdurdod tân ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (d).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig ymgynghori yn briodol â'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd amgylchedd yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.
Y sefyllfa ariannol
26.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg y cartref gofal mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y cartref gofal yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt, unrhyw wybodaeth a dogfennau y gall ofyn amdanynt er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y cartref gofal, gan gynnwys -
(3) Rhaid i'r person cofrestredig -
(4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.
Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig
27.
- (1) Os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, ond nad yw'n rheoli'r cartref gofal, rhaid iddo ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn -
(3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith bob tri mis a gallant fod yn ddi-rybudd.
(4) Rhaid i'r person sy'n ymweld -
(5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c) -
Datganiad o ddiben
30.
Yn rheoliad 4, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw -
Y person cofrestredig
31.
- (1) Yn rheoliad 7, bydd paragraff (3) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw -
(2) Yn rheoliad 9, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw -
(3) Yn rheoliad 10, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth," wedi'u disodli gan y geiriau "nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a'r angen i ddiogelu a hybu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,".
Darpariaeth ar wahân ar gyfer plant
32.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau -
yn cael eu gwneud ar wahân i ddefnyddwyr gwasanaeth eraill i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn atal y person cofrestredig rhag gwneud darpariaeth ar y cyd ar gyfer plant a defnyddwyr gwasanaeth eraill nad yw eu hoedran yn arwyddocaol o wahanol i oedran y plant hynny.
Lles a diogelwch plant
33.
- (1) Bydd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn yn effeithiol fel pe bai'r geiriau ", gan gynnwys darpariaeth ar gyfer diogelu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal" wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
(2) Bydd darpariaethau rheoliadau 12, 15 i 18, 23 a 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (cynlluniau lleoliadau plant; cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu; trefniadau ar gyfer amddiffyn plant; rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal; addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden; peryglon a diogelwch; digwyddiadau hysbysadwy), ac Atodlen 5 iddynt, yn gymwys i'r person cofrestredig fel pe bai -
(3) Os bydd y person cofrestredig yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol, sef -
ni fydd yn ofynnol iddo roi hysbysiad o'r digwyddiad hwnnw ar wahân i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 38 (hysbysu marwolaeth, etc.) o'r Rheoliadau hyn.
Ffitrwydd y gweithwyr
34.
Yn rheoliad 19, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw -
Gweithdrefn disgyblu'r staff
35.
Yn rheoliad 22, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "neu, mewn perthynas â phlentyn a letyir yn y cartref, swyddog o'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant." wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw.
Adolygu ansawdd y gofal
36.
Bydd rheoliad 25 yn effeithiol fel pe bai -
Tramgwyddau
37.
Bydd rheoliad 44 yn effeithiol fel pe bai'r paragraff canlynol yn disodli paragraff (1) -
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.
Hysbysu absenoldeb
39.
- (1) Os yw -
i fod yn absennol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu mewn perthynas â'r absenoldeb -
(3) Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(4) Os bydd -
wedi bod yn absenol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r perwyl hwnnw, gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.
Hysbysu newidiadau
40.
Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny -
(d) os oes unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol neu y bwriedir unrhyw newid o'r fath;
(dd) os yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar ei gyfer, neu fod cyfamod neu drefniant yn cael, neu'n debygol o gael ei wneud, gyda'i gredydwyr;
(e) os yw darparydd cofrestredig yn gwmni, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael, neu'n debygol o gael ei benodi;
(f) os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei fusnes yn cynnwys rhedeg cartref plant, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu
(ff) bod safle'r cartref yn cael ei newid neu ei estyn yn arwyddocaol, neu fod bwriad i'w newid neu i'w estyn, neu fod safle ychwanegol yn cael ei sicrhau, neu fod bwriad i'w sicrhau.
Hysbysu terfynu llety
41.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â therfynu'r trefniadau ar gyfer llety defnyddiwr gwasanaeth oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad rhesymol o'i fwriad i wneud hynny -
(2) Os nad yw'n ymarferol i'r person cofrestredig gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1) -
Penodi datodwyr etc
42.
- (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo -
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
Marwolaeth person cofrestredig
43.
- (1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.
(2) Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig -
(3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref gofal heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef -
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion paragraff (3)(b), a rhaid iddo hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref gofal yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref gofal yn unol â pharagraff (3) heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.
Tramgwyddau
44.
- (1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41 yn dramgwydd.
(2) Heb ragfarnu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 29 o'r Ddeddf i ddwyn achos yn erbyn personau a fu unwaith, ond nad ydynt mwyach, yn bersonau cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, gall y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17 a ddigwyddodd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ar ôl i'r person beidio â bod yn berson cofrestredig.
Cydymffurfio â'r rheoliadau
45.
Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.
Lleoliadau oedolion
46.
- (1) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 47, mae darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal -
(ch)
(d) os oes cytundeb lleoliad wedi'i wneud mewn perthynas â phob un o'r defnyddwyr gwasanaeth;
(dd) os yw pob defnyddiwr gwasanaeth dros 18 oed.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "cytundeb lleoliad" yw cytundeb sydd -
(b) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion canlynol -
Addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion
47.
- (1) Bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys os yw'r darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal.
(2) Ni fydd rheoliadau 4, 8, 18, 19, 21, 22, 25, 27 i 37 a 42 (datganiad o ddiben; penodi rheolwr; staffio; ffitrwydd y gweithwyr; barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofal; gweithdrefn disgyblu'r staff; adolygu ansawdd y cartref gofal; ymweliadau gan y darparydd cofrestredig; plant; penodi datodwyr) nac Atodlenni 1, 5 a 6 (yr wybodaeth sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben; gwybodaeth ychwanegol sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben pan fydd plant yn cael eu lletya; materion sydd i'w monitro mewn cartref gofal y mae plant yn cael eu lletya ynddo) yn gymwys.
(3) Bydd rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor.
(4) Bydd rheoliad 6 (adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai -
(5) Bydd rheoliad 16 (cyfleusterau a gwasanaethau) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny" wedi'u hepgor yn is-baragraff (g) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw.
(6) Bydd rheoliad 24 (ffitrwydd safleoedd) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yn cael eu disodli â'r geiriau "bod y safle'n addas ar gyfer ei ddiben" ac fel pe bai is-baragraffau (a), (dd), (e), (f), (g), (ng) a (j) o baragraff (2) a pharagraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.
(7) Bydd rheoliad 26 (y sefyllfa ariannol) yn effeithiol fel pe bai -
(8) Bydd Atodlen 3 (y cofnodion sydd i'w cadw mewn cartref gofal mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (ff) o baragraff 3 o'r Atodlen honno wedi'i hepgor.
(9) Bydd Atodlen 4 yn effeithiol fel pe bai paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 a 12 i 16 o'r Atodlen honno wedi'u hepgor.
Pennu swyddfeydd priodol
48.
Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chartrefi gofal sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.
Diddymu
49.
Mae'r rheoliadau canlynol yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Chwefror 2002
gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[19].
3.
Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.
4.
Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5.
Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
6.
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
7.
Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol -
2.
Ffotograff diweddar o'r defnyddiwr gwasanaeth.
3.
Cofnod o'r materion canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth -
4.
Copïau o ohebiaeth y cartref gofal sy'n ymwneud â phob defnyddiwr gwasanaeth.
7.
Copi o roster dyletswyddau'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal, a chofnod i ddweud a gafodd y roster ei weithio mewn gwirionedd.
8.
Cofnod o'r ffioedd a godir gan y cartref gofal ar y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau ychwanegol nad yw'r ffioedd hynny'n talu amdanynt, a'r symiau a dalwyd gan pob defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef.
9.
Cofnod o'r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a adneuwyd gan ddefnyddiwr gwasanaeth i gael eu cadw'n ddiogel neu a dderbyniwyd ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo -
10.
Cofnod o bob dodrefnyn y daeth y defnyddiwr gwasanaeth ag ef i'r ystafell y mae'n lletya ynddi.
11.
Cofnod o bob cwyn a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gynrychiolwyr neu berthnasau i'r defnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal ynghylch gweithredu'r cartref gofal, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw g yn o'r fath.
12.
Cofnod o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol sy'n digwydd yn y cartref gofal -
13.
Cofnodion o'r bwyd a ddarparwyd ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, yn ddigon manwl i alluogi unrhyw berson sy'n archwilio'r cofnod i ganfod a yw'r ddeiet yn foddhaol, mewn perthynas â maethiad ac fel arall, ac unrhyw ddeiet arbennig sydd wedi'i pharatoi ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth unigol.
14.
Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf offer tân (gan gynnwys offer larymau tân) a gynhelir yn y cartref gofal ac unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.
15.
Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, neu os rhoddir larwm tân.
16.
Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff defnyddiwr gwasanaeth ar goll.
17.
Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref gofal, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr.
3.
Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).
4.
Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.
5.
Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.
6.
Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.
7.
Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.
8.
Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.
9.
Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.
10.
Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.
11.
Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.
12.
Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.
13.
Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.
14.
Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.
15.
Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.
16.
Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.
17.
Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.
18.
Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.
19.
Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.
[2] Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf ynghylch y gofyniad i ymgynghori.back
[8] Gweler adran 5 o Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ac adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).back
[10] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi eu dwyn i rym hyd yn hyn. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back
[11] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115 , fel y'u diwygiwyd, wedi eu dwyn i rym hyd yn hyn. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back
[12] Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu wedi bod yn sâl; sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau neu wedi bod yn dibynnol arnynt.back
[13] O.S. 2002/327 (Cy.40).back
[17] Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.back
[18] Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.back
[19] Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back
[21] O.S. 1975/1023. Ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; O.S. 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.back