BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020431w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 431 (Cy.53)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002

  Wedi'u gwneud 26 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 27 Chwefror 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Chwefror 2002.

Diddymu Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 2002
    
2. Diddymir Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 2002[3].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

Dyddiad 26 Chwefror 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoddi effaith mewn perthynas â Chymru i erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/153/EC (OJ Rhif L50, 21.2.2002, t.98). Dileodd y Penderfyniad hwnnw Benderfyniad y Comisiwn 2001/740/EC, fel y'i diwygiwyd, a oedd yn ymwneud â darpariaethau penodol i ddiogelu rhag clwy'r traed a'r genau yn y Deyrnas Unedig (OJ Rhif L277, 20.10.2001, t.30). Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 2002 a roddodd ar waith y diwygiad olaf i Benderfyniad y Comisiwn 2001/740/EC.

Ni pharatowyd Arfarniad ar gyfer y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2002/130 (Cy.18).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091443 5


  Prepared 15 March 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020431w.html