BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgol gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020432w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 432 (Cy.55)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgol gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002

  Wedi'u gwneud 22 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 5 o Atodlen 8 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad[2], a thrwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 152(5) a (6) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[3] a pharagraffau 20(2), 21, 22, 28(2), 29, 30, 39(2), 40, 41, 42(4) a 43(4) o Atodlen 7 iddi.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgol gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodlen 7 yn gyfeiriad at Atodlen 7 i Ddeddf 2000.

    (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn dyddiad cyhoeddi cynigion yw - 

Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i gynigion a gyhoeddir o dan baragraff 20 neu 28 o Atodlen 7 ei chynnwys at ddibenion paragraffau 20(2) a 28(2) o Atodlen 7.

    (2) Rhaid i'r cynigion hynny gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Dull cyhoeddi'r cynigion
    
4.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi dull cyhoeddi'r cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan baragraff 20 neu 28 o Atodlen 7 at ddibenion paragraffau 20(2) a 28(2) o Atodlen 7.

    (2) Os ysgol a gynhelir yw'r ysgol, rhaid cyhoeddi cynigion o'r fath - 

    (3) Pan fydd ysgol yn ysgol arbennig, rhaid cyhoeddi cynigion o'r fath - 

Yr wybodaeth sydd i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol
    
5.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion paragraffau 21(1)(b) a 29(1)(b) o Atodlen 7, yr wybodaeth y mae'n rhaid i'r Cyngor ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth a bennir yn Rhan II o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol prif-ffrwd, neu Ran III o'r Atodlen honno, os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, ynghyd â'r canlynol - 

    (3) Mae Rhan I o Atodlen 2 yn gymwys er mwyn dehongli'r termau a ddefnyddir yn Rhannau II i V o'r Atodlen honno.

Cyrff y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir atynt  -  ysgolion arbennig
    
6.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion paragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7, y cyrff neu'r personau, yn achos ysgol arbennig, y mae'n rhaid i'r Cyngor hefyd anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir atynt.

    (2) Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir - 

Gwrthwynebiadau i'r cynigion
    
7.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion paragraff 41 o Atodlen 7, y cyfnod pryd y gellir anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion at y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Rhaid anfon gwrthwynebiadau at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.

Cymeradwyaethau amodol
    
8.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi mathau o ddigwyddiadau at ddibenion paragraff 42(4) o Atodlen 7 (sy'n darparu y gall cymeradwyaeth i gynigion fod yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig sydd o fath rhagnodedig ac sy'n gorfod digwydd erbyn amser penodedig).

    (2) Y mathau o ddigwyddiadau yw unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol sy'n ymwneud ag unrhyw ysgol neu ysgol arfaethedig arall y cyhoeddwyd cynigion ynglyn â hi o dan adran 28 neu 31 o Ddeddf 1998 - 

Darparu gwybodaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol
     9.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r personau canlynol o bob penderfyniad a wneir o dan baragraff 42(1) neu 43(2) o Atodlen 7 - 

    (2) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (1), yn hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw o benderfyniad rhaid iddynt eu hysbysu hefyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

    (3) Os bydd gwrthwynebiadau i gynnig ar ffurf deiseb (sef dogfen sy'n cynnwys testun un gwrthwynebiad wedi'i llofnodi gan fwy nag un gwrthwynebydd) gall y Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1)(d) - 

Cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7
    
10. Mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â chynigion o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7 (cynigion a gafodd eu cyhoeddi a'u cymeradwyo'n flaenorol o dan Atodlen 7 nad ydynt i'w gweithredu).

Newid categori ysgol
    
11. Os bydd ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cyhoeddi o dan Atodlen 7 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, yn newid categori o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 o ysgol gymunedol neu ysgol gymunedol arbennig rhaid i'r cynigion (i'r graddau nad ydynt wedi cael eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol (er gwaethaf paragraff 44 o Atodlen 7).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8].


D. Elis - Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Chwefror 2002



ATODLEN 1
Rheoliad 3


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CYNIGION A GYHOEDDIR


     1. Datganiad bod y cynigion yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor.

     2. Y dyddiad y bwriedir gweithredu'r cynigion neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, y dyddiad y bwriedir gweithredu pob cam.

     3. Manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y gall disgyblion sydd yn yr ysgol y bwriedir cau'r ddarpariaeth ar eu cyfer fynychu, gan gynnwys unrhyw drefniadau dros dro.

     4. Y trefniadau arfaethedig i gludo'r disgyblion hynny i ysgolion eraill neu golegau addysg bellach.

     5. Manylion unrhyw fesurau eraill y bwriedir eu cymryd i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion neu golegau addysg bellach sydd ar gael yn sgil y bwriad i gau'r ddarpariaeth.

     6. Os cynigion ydynt i gau chweched dosbarth, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol ym mhob grwcircp oedran perthnasol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y mae'r cynigion wedi'u gweithredu neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y mae pob cam wedi'u gweithredu.

     7. Os cynigion ydynt i gau chweched dosbarth - 

     8. Os cynigion ydynt i gau - 

     9. Datganiad yn esbonio effaith paragraff 41 o Atodlen 7 a rheoliad 7 gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau at y Cynulliad Cenedlaethol.

     10. Cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau ato.



ATODLEN 2
Rheoliad 5


YR WYBODAETH SYDD I'W HANFON AT Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL




RHAN I

DEHONGLI

     1.  - (1) Yn yr Atodlen hon - 

    (2) At ddibenion yr Atodlen hon penderfynir ar faint o le sydd mewn ysgol yn unol ag Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgol) (Cymru) 1999[9].



RHAN II

YR WYBODAETH SYDD I'W HANFON YM MHOB ACHOS PAN FYDD YSGOL YN YSGOL PRIF-FFRWD

     2. Amcanion y cynnig.

     3. Manylion yr ymgynghori cyn i'r cynigion gael eu cyhoeddi gan gynnwys - 

     4. Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion a phob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol ac ysgol sefydledig arall o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol.

     5. Rhestr o bob ysgol uwchradd o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol sy'n destun y cynigion, sy'n datgan pa rai o'r ysgolion hynny a gynhelir gan awdurdod addysg lleol gwahanol, ynghyd â'r wybodaeth ganlynol ar gyfer pob ysgol o'r fath am y flwyddyn ysgol gyfredol, ac am y flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch));

a rhagolwg o'r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

     6. Y manylion canlynol addysg chweched dosbarth a ddarperir ar hyn o bryd yn yr ysgol - 

     7. Copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[10] y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol o'u plegid.



RHAN III

YR WYBODAETH SYDD I'W HANFON YM MHOB ACHOS PAN FYDD YSGOL YN YSGOL ARBENNIG

     8. Amcanion y cynnig.

     9. Manylion yr ymgynghori cyn i'r cynigion gael eu cyhoeddi gan gynnwys - 

     10. Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion.

     11. Rhestr o'r canlynol - 

yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

     12. Gwybodaeth o ran - 

yn y flwyddyn ysgol gyfredol a rhagolwg o'r nifer hwnnw am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

     13. Gwybodaeth o ran nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ag anghenion addysgol arbennig o bob un o'r mathau y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol gyfredol ar eu cyfer ynghyd â rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

     14. Copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol o'u plegid.



RHAN IV

YR WYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W HANFON PAN FYDD Y CYNIGION YN GYNIGION I GAU CHWECHED DOSBARTH

     15. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (c)), - 

a rhagolwg o'r materion hynny ym mhob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.

     16. Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r pedair blwyddyn ysgol flaenorol - 

a rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.

     17. Pan fydd y cynigion yn ymwneud ag ysgol wirfoddol, datganiad a fydd, o ganlyniad i'r cynigion, angen mwyach am y tir a'r adeiladau a ddefnyddir at ddibenion yr ysgol ac os na fydd angen - 

os trefnwyd bod yr wybodaeth honno ar gael i'r Cyngor.

     18. Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grwcircp blwyddyn sy'n aros yn yr ysgol sy'n destun cynigion yn y ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol gyfredol.

     19. Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grwcircp oedran sydd wedi trosglwyddo o'r ysgol sy'n destun y cynigion i sefydliad arall sy'n darparu addysg llawn amser neu ran-amser yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 18.

     20. Manylion y sefydliadau y trosglwyddodd y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 19 iddynt gan ddangos faint o ddisgyblion a aeth i bob sefydliad felly.

     21. Nifer y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 18 a 19 ym mhob grwcircp blwyddyn hwnnw.

     22. Manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y bwriedir y gall disgyblion sy'n cael addysg chweched dosbarth ar hyn o bryd drosglwyddo iddynt os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.

     23. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau canlynol ar gyfer y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 20 - 

     24. Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 20 sydd yn ysgolion.

     25. Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 20 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 22 (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1).



RHAN V

YR WYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W HANFON PAN FYDD Y CYNIGION YN GYNIGION I GAU SEFYDLIAD 16 - 19 OED

     26. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch)), - 

     27. Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol a'r pedair blwyddyn ysgol flaenorol - 

     28. Yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ystafelloedd yn yr ysgol - 

     29. Manylion yr ysgolion a'r colegau addysg bellach y gellid yn rhesymol, ym marn y Cyngor, ddisgwyl i'r disgyblion a fyddai fel arall wedi mynychu'r ysgol allu eu mynychu ar ôl darfod oedran ysgol gorfodol os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.

     30. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 23 am y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 29.

     31. Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 29 sydd yn ysgolion.

     32. Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a bennir ym mharagraff 29 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1).



ATODLEN 3
Rheoliad 10


CYNIGION O DAN BARAGRAFF 43(4) O ATODLEN 7


     1. Yn yr Atodlen hon - 

     2. Rhaid i'r cynigion newydd - 

     3. Rhaid i'r cynigion newydd gynnwys - 

     4. Cyn cyhoeddi'r cynigion newydd rhaid i'r Cyngor, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghori â'r personau hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.

     5. Rhaid i'r Cyngor anfon - 

at y Cynulliad Cenedlaethol.

     6. Pan fydd yr ysgol sy'n destun y cynigion newydd yn ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd at y cyrff neu'r personau yr anfonwyd copi o'r cynigion gwreiddiol atynt o dan baragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7 a rheoliad 6.

     7. Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion newydd at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor") gyhoeddi cynigion i newid ysgol a gynhelir fel na fydd mwyach yn darparu addysg chweched dosbarth, neu i gau ysgol a gynhelir sy'n sefydliad 16 - 19 oed os oes, a siarad yn fras, ddau adroddiad olynol yn datgan bod y chweched dosbarth yn annigonol neu fod ar sefydliad 16 - 19 oed angen mesurau arbennig neu fod ganddo wendidau arwyddocaol.

Mae'r Atodlen yn nodi gweithdrefnau ar gyfer arfer y pwerau hyn gan y Cyngor. Yn benodol, rhaid i'r Cyngor gyhoeddi cynigion y mae arnynt angen cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Nodir y fframwaith ar gyfer y gweithdrefnau hyn yn yr Atodlen, ond mae llawer o'r manylion i'w rhagnodi mewn Rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r gweithdrefnau hynny.

Mae rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 gydag Atodlen 1 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi'r modd y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion.

Mae rheoliad 5 gydag Atodlen 2 yn rhagnodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n rhaid ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r cynigion a gyhoeddir.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi cyrff eraill y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion atynt yn achos ysgolion arbennig.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y terfynau amser i wrthwynebu cynigion.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi'r digwyddiadau y gellir eu pennu yn achos cymeradwyaeth amodol i'r cynigion.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybodaeth am ei benderfyniadau i'r personau a bennir yn y Rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 10 gydag Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynigion gan y Cyngor na ddylid gweithredu cynigion blaenorol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth arbennig i weithredu cynigion pan fydd ysgol yn newid categori o fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol arbennig gymunedol.


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 2000 p.21.back

[4] 1992 p.13.back

[5] 1996 p.56.back

[6] 1990 p.8.back

[7] O.S. 1997/319; a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/371.back

[8] 1998 p.38.back

[9] O.S. 1999/1671.back

[10] 1996 p.57.back



English version



ISBN 0 11090441 9


  Prepared 19 March 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020432w.html