![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020917w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 28 Mawrth 2002 | ||
Yn dod i rym | |||
ac eithrio rheoliadau 2 a 5 | 1 Ebrill 2002 | ||
rheoliadau 2 a 5 | 9 Ebrill 2002 |
(3) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
2.
Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle "£71" rhowch "£72.20".
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
3.
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) -
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
4.
- (1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb - cyflenwi ac amnewid) yn ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.
TABL
(1)
(2)
Yr hen swm
Y swm newydd
£30.00
£30.50
£45.60
£46.40
£62.10
£63.20
£140.30
£142.70
£51.80
£52.70
£65.90
£67.00
£79.60
£81.00
£154.30 (yn y ddau fan lle y'i gwelir)
£157.00
£43.90
£44.60
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth) -
(a) ym mharagraff 1(1)(a) (prism - lens golwg sengl), yn lle "£6.30" rhowch "£9.90";
(b) ym mharagraff 1(1)(b) (prism - lens arall), yn lle "£7.20" rhowch "£11.90";
(c) ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle "£3.20" rhowch "£3.30";
(ch) ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle "£3.70" rhowch "£3.80";
(d) ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle "£49.90", "£43.90" a "£23.80", rhowch "£50.20", "£44.60" a "£24.20" yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle "£49.40" rhowch "£50.20";
(e) ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys golwg sengl), yn lle "£10.50" rhowch "£10.70";
(f) ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys eraill), yn lle "£26.50" rhowch "£27.00".
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
5.
Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg - cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2) (g) (cael credyd treth pobl anabl), yn lle "£71" rhowch "£72.20".
Defnyddio'r Rheoliadau hyn
6.
Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn union â rheoliadau 12 a 17 o Reoliadau 1997 ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2002
(1) | (2) | |||||||
Nature of repair | Letter Codes - Value | |||||||
A | B | C | D | E | F | G | H&I | |
£ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
Repair or replacement of one lens | 9.50 | 17.45 | 25.85 | 65.60 | 20.60 | 27.75 | 34.75 | 72.75 |
Repair or replacement of two lenses | 19.00 | 34.90 | 51.70 | 131.20 | 41.20 | 55.50 | 69.50 | 145.50 |
Repair or replacement of the front of a frame | 9.75 | 9.75 | 9.75 | 9.75 | 9.75 | 9.75 | 9.75 | 9.75 |
the side of a frame | 5.80 | 5.80 | 5.80 | 5.80 | 5.80 | 5.80 | 5.80 | 5.80 |
the whole frame | 11.50 | 11.50 | 11.50 | 11.50 | 11.50 | 11.50 | 11.50 | 11.50 |
[2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2000/3119 (Cy.198), 2001/1362 (Cy.90), 2001/1423 (Cy.98) a 2002/186 (Cy.25).back
[3] O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/486, 1989/395 a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693, 1999/2481 (Cy.21) a 2001/1362 (Cy.90).back