BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021087w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1087 (Cy.114)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 15 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym 16 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 29(10) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1], ac sydd yn awr wedi eu breinio ynddo[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 16 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994
    
2.  - (1) Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Rhodder, yn lle paragraff (1)(b) - 

    (3) Mewnosoder, ar ôl paragraff (1) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

15 Ebrill 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Erthygl 16 o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2037/2000 ar sylweddau sy'n disbyddu'r haen osôn yn ei gwneud yn ofynnol i adennill sylweddau rheoledig sydd wedi'u defnyddio (fel y'u diffiniwyd yn Erthygl 2 o'r Rheoliad) sydd mewn cyfarpar rheweiddiad gwastraff, neu gyfarpar arall.

Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994 yn darparu bod rhai mathau o offer yn gallu cael eu trin fel offer symudol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12, mewn perthynas â Chymru, drwy ychwanegu math o offer ar gyfer casglu a storio sylwedd rheoledig o eitemau sy'n wastraff. Bydd hyn yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd i awdurdodi offer symudol ar gyfer adennill sylweddau sy'n disbyddu osôn o gyfarpar rheweiddiad sy'n wastraff, diffoddiaduron tân ac eitemau eraill.


Notes:

[1] 1990 p.43.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1994/1056; diwygiwyd rheoliad 12 gan O.S. 1995/288 ac O.S. 1996/634.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090487 7


  Prepared 15 May 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021087w.html