BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021129w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 28 Mawrth 2002 | ||
Yn dod i rym | |||
at y dibenion sydd wedi'u disgrifio yn erthygl 1(2) | 30 Mawrth 2002 | ||
at bob diben arall | 2 Mai 2002 |
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedol
3.
- (1) Bydd cymuned Cynffig sy'n bodoli eisoes yn cael ei dileu.
(2) Bydd cymuned newydd yn cael ei chreu o'r enw Corneli sef yr ardal sy'n cael ei dangos ar y map ffiniau.
(3) Bydd cymuned newydd yn cael ei chreu o'r enw y Pîl sef yr ardal sy'n cael ei dangos ar y map ffiniau.
(4) Os yw ffin sy'n cael ei dangos ar y map ffiniau yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell y rheilffordd, troedffordd, dyfrffordd neu nodwedd ddaearyddol debyg, bydd y ffin yn cael ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd canol y nodwedd honNo.
(5) Naw fydd y nifer o gynghorwyr ar gyfer y naill a'r llall o gymunedau Corneli a'r Pîl.
Etholiadau i gynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl.
4.
- (1) Bydd yr etholiadau i gynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl yn cael eu cynnal ar yr un pryd ar y diwrnod penodedig a bydd y personau sy'n cael eu hethol yn ymgymryd â'i swyddogaethau ar 6 Mai 2002 ac yn ymddeol ar y pedwerydd dydd ar ôl yr etholiad cyffredin o gynghorwyr yn 2004.
(2) Bydd cyfarfod blynyddol cynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl yn cael ei galw gan y swyddog a apwyntiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont at y diben hwnnw.
(3) Bydd y cynghorwyr hynny sy'n dal swydd yng nghymuned Cynffig yn union cyn y diwrnod penodedig yn ymddeol ar y diwrnod hwnnw.
Costau a dynnir gan gynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl
5.
- (1) Yn yr erthygl hon -
(2) Bydd i adran 41 Deddf 1992 (cyhoeddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) effaith -
gan roi'r is-adran ganlynol yn lle is-adran (3) -
(3) Mewn perthynas â chyngorau'r cymunedau newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol -
(4) Mewn perthynas â'r swm sy'n cael ei gymryd i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, bydd i Bennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (gosod y dreth gyngor) effaith fel pe bai -
(5) Bydd cynghorau cymunedau newydd Corneli a'r Pîl yn gwneud y cyfrifiadau sydd eu hangen o dan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllidol gan awdurdodau bilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sichrau nad yw'r swm a gyfrifir fel eu hangenion cyllidol ar gyfer y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a bennir ym mharagraff (6) isod.
(6) Y swm a bennir yn y paragraff hwn mewn perthynas â'r naill a'r llall o gymunedau newydd Corneli a'r Pîl yw pymtheng mil o bunnoedd.
(7) Mewn perthynas â chynghorau'r cymunedau newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol, bydd i Reoliadau 1995 effaith fel pe bai -
wedi'u hepgor.
Deddfau lleol, gorchmynion ac is-ddeddfau lleol.
6.
Mae cymuned Cynffig sy'n bodoli eisoes wedi'i bennu mewn perthynas â rheoliad 41(4) (Deddfau Lleol, Gorchmynion ac Is-ddeddfau Lleol) y Rheoliadau a phennir drwy hyn gymunedau newydd Corneli a'r Pîl mewn perthynas a'r gymuned honno sy'n bodoli eisoes.
Eiddo, atebolrwydd, contractau, etc., hysbysiadau ac achosion.
7.
Ar y diwrnod penodedig, bydd holl eiddo ac atebolrwydd Cyngor Cymuned Cynffig a bennir yng Ngholofn (1) o'r tabl yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael ei freinio yn yr awdurdod a bennir yng Ngholofn (2).
Llofnodwyd
E.Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
28 Mawrth 2002
(1) Y Materion i'w Trosglwyddo | (2) Yr Awdurdod y Trosglwyddir y Materion iddo |
Hanner unrhyw arian sy'n cael ei ddal mewn cyfrif banc. | Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl. |
Hanner gwerth yr holl offer swyddfa. | Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl. |
Y rhent blynyddol o Randiroedd Maudlam, Corneli | Cyngor Cymuned Corneli |
Ffioedd dirprwyo blynyddol mewn perthynas â chae chwarae Meadow Street, Gogledd Corneli, Corneli | Cyngor Cymuned Corneli |
Ffioedd dirprwyo blynyddol mewn perthynas â chae chwarae Groft Goch, Mynyddcynffig, Y Pîl | Cyngor Cymuned y Pîl |
Y bathodyn swyddogaeth cyfredol | Cyngor Cymuned y Pîl |
Bathodyn swyddogaeth Cyngor Tref Cynffig gynt | Cyngor Cymuned Corneli |
Atebolrwydd am gynnal ac addurno Neuadd y Cyhoedd, Heol Las, Corneli. | Cyngor Cymuned Corneli |
Atebolrwydd i yswirio, Neuadd y Cyhoedd, Heol Las (Corneli), y Bathodyn swyddogaeth, y gofgolofn ryfel, Moriah Place, Mynyddcynffig (y Pîl), y llochesi bysus canlynol: Pyle Road (ger Hen Orsaf yr Heddlu) y Pîl, Ffald Road, y Pîl (ger y fynedfa i'r Co-operative Stores), Marlas Road, y Pîl, Pyle Road, y Pîl (ger y modurdy), Pyle Road, y Pîl (ger Margaret's Wool Shop), Cwrt Anghorfa, Pyle Road, y Pîl, Moriah Place, Mynyddcynffig, Eglwys St. Theodor, Mynyddcynffig Capel Pisgah, Mynyddcynffig, Hawthorne Drive, De Corneli, y Clwb Golff, Waun y Môr, Cynffig, dwy loches bysus wrth Eglwys Maudlam, Maudlam, Heol y Parc, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Ffordd yr Eglwys, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Broadlands, Gogledd Corneli, Heol Tydraw, y Pîl, Cornelly Cross, Ael y Bryn, Gogledd Corneli, Prince of Wales, Cynffig, Ton Kenfig, Heol Henfoes, Brynamlwg, Gogledd Corneli, Afon y Felin, Gogledd Corneli. | Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl ar yr amod bod y naill gyngor a'r llall, os yw'r atebolrwydd mewn perthynas ag adeiladau neu strwythurau yng Ngholofn (1), yn derbyn eu bod yn atebol mewn perthynas a'r fath adeiladau neu strwythurau sydd o fewn eu hardaloedd fel y'u dangosir ar y map ffiniau. |
Atebolrwydd i'r cyhoedd, gwarant cywirdeb ac yswiriant rhag damweiniau i'r person. | |
Atebolrwydd i gynnal hawliau tramwy i'r cyhoedd a gafodd eu cynnwys yn y map swyddogol a baratowyd gan Gyngor Sir Morgannwg Ganol gynt (ac a wnaethpwyd o dan ddarpariaethau Rhan IV o Ddeddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949) ac yn unol â chytundeb asiantaeth a gytunwyd rhwng Cyngor Cymuned Cynffig a Chyngor Sir Morgannwg Ganol gynt yn 1996 er mwyn cynnal yr hawliau tramwy hynny, y seddau ymyl ffordd canlynol: tair sedd wrth Marlas Road, y Pîl, un sedd yn Pandy Crescent, y Pîl, un sedd wrth Pyle Road, y Pîl, un sedd wrth Ffald Road, y Pîl, pedair sedd wrth School Road, Mynyddcynffig, un sedd wrth Penrhyn Gates, Mynyddcynffig, un sedd wrth New Road (ger llain las y ffordd), Mynyddcynffig, dwy sedd wrth Waunbant Road, Mynyddcynffig, un sedd wrth Collwyn, y Pîl, dwy sedd wrth Broadlands, Gogledd Corneli, un sedd wrth Heol Tydraw, un sedd wrth Cornelly Cross, un sedd wrth Ton Kenfig, dwy sedd ger yr Angel Inn, Maudlam a'r llochesi bysus canlynol (gan gynnwys glanhau'r rheini) Ffald Road, y Pîl (ger y fynedfa i'r Co-operative Stores), Pyle Road, Pyle (ger Margaret's Wool Shop), Cwrt Anghorfa, Pyle Road, y Pîl, Ffald Road, y Pîl, Moriah Place, Mynyddcynffig, Capel Pisgah, Mynyddcynffig, Hawthorne Drive, De Corneli, y Clwb Golff, Waun y Môr, Cynffig, dwy loches bysus wrth Eglwys Maudlam, Maudlam, Heol y Parc, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Ffordd yr Eglwys, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Broadlands, Gogledd Corneli, Heol Tydraw, y Pîl, Cornelly Cross, Ael y Bryn, Gogledd Corneli, Prince of Wales, Cynffig, Ton Kenfig, Heol Henfoes, Brynamlwg, Gogledd Corneli, Afon y Felin, Gogledd Corneli. | Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl ar yr amod bod y fath atebolrwydd yn perthyn i'r hawliau tramwy, seddau ymyl ffordd a llochesi bysus yng Ngholofn (1) ag sydd o fewn eu hardaloedd fel y'u dangosir ar y map ffiniau. |
Atebolrwydd dros gyflogau i dalu am y clerc ac ysgrifenyddion y caeau chwarae. | Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl. |
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back
[3] O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).back