BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1187 (Cy.135)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
25 Ebrill 2002 | |
|
Yn dod i rym ar |
26 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddo gan adrannau 6(4) a (5), 7(1) a (9) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: -
RHAN I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 26 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau llawn 2002 - 05 a chynlluniau dilynol (p'un ai llawn neu atodol) yn unig.
Diddymu ac arbed
2.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999[3].
(2) Ni fydd diddymu'r rheoliadau yn (1) uchod yn rhagfarnu dilysrwydd parhaus y cynlluniau sydd eisoes wedi'u gwneud o dan y rheoliadau hynny.
Dehongli
3.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
mae i "anghenion addysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special educational needs" gan adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr "atodiadau" ("annexes") yw atodiadau i ddatganiad o gynigion sy'n ffurfio rhan o gynllun strategol addysg;
ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;
ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Medi;
ystyr "cwrs byr TGAU" ("GCSE short course") yw cwrs TGAU a gynlluniwyd i gwmpasu cyfran yn unig (nid llai na hanner) o'r cwrs astudio TGAU llawn cyfatebol, ac y mae'r un safonau graddio yn berthnasol iddo, ac ystyr "arholiad cwrs byr TGAU" ("GCSE short course examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs byr TGAU;
ystyr "cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd" ("to achieve the Core Subject Indicator") yw -
(i) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol dau, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 4 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth,
(ii) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol tri, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 5 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a
(iii) mewn perthynas â disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol o dan sylw, fod y disgyblion hynny wedi ennill unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn arholiad TGAU mathemateg ac arholiad TGAU gwyddoniaeth;
ystyr "cyfnod allweddol dau" ("second key stage") a "cyfnod allweddol tri" ("third key stage") yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (b) ac (c) yn y drefn honno o adran 355(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "cyfnod y cynllun" ("period of the plan") yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 4;
ystyr "cymhwyster galwedigaethol" ("vocational qualification") yw -
(a) GNVQ Rhan Un,
(b) GNVQ Canolradd,
(c) GNVQ Sylfaen,
(ch) Uned Iaith GNVQ, neu
(d) NVQ,
a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
ystyr "cynllun atodol" ("supplementary plan") yw cynllun strategol addysg sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun atodol cyntaf" ("first supplementary plan") ac "ail gynllun atodol" ("second supplementary plan") mewn perthynas â chynllun llawn yw'r cynlluniau atodol a baratoir mewn perthynas â'r cyfnodau a bennir yn rheoliadau 4(3) a 4(4) yn ôl eu trefn;
ystyr "cynllun llawn" ("full plan") yw cynllun strategol addysg a baratoir gan awdurdod sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhannau II a III o'r rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun llawn 2002 - 05" ("2002 - 05 full plan") yw'r cynllun llawn y cyfeirir ato yn Rheoliad 4(1);
ystyr "cynllun strategol addysg" ("education strategic plan") yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod yn unol ag adran 6(1) o Ddeddf 1998;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996[4];
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i "derbyn gofal gan awdurdod lleol" mewn perthynas â phlentyn yr ystyr a roddir i "looked after by a local authority" yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989[5], a dehonglir "plant sy'n derbyn gofal" ("looked after children") yn unol â hynny;
mae i "disgybl" yr ystyr a roddir i "pupil" yn adran 3 o Ddeddf 1996;
ystyr "disgyblion cyfnod allweddol dau" ("second key stage pupils") a "disgyblion cyfnod allweddol tri" ("third key stage pupils") yw disgyblion sydd yng nghyfnodau allweddol dau a thri yn y drefn honno;
ystyr "disgyblion sy'n destun datganiad" ("statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig y gwnaed datganiad ar eu cyfer o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ac ystyr "disgyblion nad ydynt yn destun datganiad" ("non-statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig na wnaed datganiad o'r fath ar eu cyfer;
ystyr "diwrnod cyntaf y cynllun" ("the first day of the plan") mewn perthynas â chynllun strategol addysg yw diwrnod cyntaf y cyfnod y mae'r cynllun hwnnw yn ymwneud ag ef;
"dosbarth prif-ffrwd" ("mainstream class") yw dosbarth mewn ysgol brif-ffrwd, nas dynodwyd gan yr awdurdod yn ddosbarth arbennig;
ystyr "dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census enumeration date") yw'r dyddiad y cyfeirir ato yn flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y dyddiad y mae'n gofyn i wybodaeth gael ei darparu ar ei gyfer mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "ELQ" ("ELQ") yw cymhwyster a ddisgrifir ac sydd wedi'i gymeradwyo fel Cymhwyster Lefel Mynediad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[6];
ystyr "ffurflen Gyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census return") yw'r ffurflen y mae'n ofynnol i awdurdod ei llenwi bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "GNVQ" ("GNVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;
ystyr "lefel 4" ("level 4") a "lefel 5" ("level 5") yw lefelau 4 a 5 yn y drefn honno o raddfa lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fel y'u pennir drwy ganlyniadau profion y CC;
ystyr "NVQ" ("NVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol;
ystyr "plant i deithwyr" ("travellers' children"), mewn perthynas â chynllun, yw plant -
(a) sydd oherwydd dull o fyw eu rhieni, naill ai heb gartref sefydlog neu sy'n gadael eu prif breswylfan i fyw yn rhywle arall am gyfnodau arwyddocaol ym mhob blwyddyn; neu
(b) sy'n dod o fewn paragraff (a) uchod o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn union cyn diwrnod cyntaf y cynllun;
ystyr "profion y CC" ("NC tests") yw profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a weinyddir i ddisgyblion er mwyn asesu eu lefel cyrhaeddiad mewn Cymraeg, Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, sef profion a bennir mewn darpariaethau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y gorchymyn priodol a wnaed o dan adran 356(2) o Ddeddf 1996 sydd mewn grym pan weinyddir y profion hynny[7];
mae i "y pynciau craidd" yr ystyr a roddir i "the core subjects" yn adran 354(1) o Deddf 1996;
ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999[8];
ystyr "y Rheoliadau Cyllido" ("the Financing Regulations") yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999[9];
ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, ac ystyr "arholiad TGAU" ("GCSE examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs astudio TGAU llawn;
ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig;
"ysgol brif-ffrwd" ("mainstream school") yw ysgol nad yw'n ysgol arbennig;
nid yw "ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod" ("schools maintained by the authority") yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y diffinnir y rheiny yma.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad -
(a) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b) at baragraff â rhif mewn rheoliad neu Atodlen yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno;
onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddisgybl sy'n ennill -
(a) gradd mewn arholiad TGAU,
(b) cymhwyster galwedigaethol, neu
(c) gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,
erbyn diwedd blwyddyn ysgol, fel cyfeiriad at y disgybl hwnnw yn ennill y radd honno neu'r cymhwyster hwnnw yn ystod y flwyddyn ysgol y mae -
(i) yn sefyll yr arholiad hwnnw, neu
(ii) (yn ôl fel y digwydd) yn cwblhau'r cwrs sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster hwnnw,
hyd yn oed os yw'r penderfyniad i ddyfarnu'r radd neu'r cymhwyster yn cael ei wneud mewn blwyddyn ysgol ddiweddarach.
Y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion ymwneud ag ef
4.
- (1) Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn cyntaf a baratoir o dan y Rheoliadau hyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "cynllun llawn 2002 - 05") ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002.
(2) Raid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn dilynol ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol, sy'n dechrau pan ddaw cyfnod y cynllun llawn blaenorol mwyaf diweddar i ben.
(3) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol cyntaf ymwneud â chyfnod o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r flwyddyn ysgol gyntaf yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.
(4) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn ail gynllun atodol ymwneud â chyfnod -
(a) mewn perthynas yn unig â gosod targedau a bennir yn rheoliad 30, o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben;
(b) ym mhob cyswllt arall, un flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.
Y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau strategol addysg rhyngddynt a chyflwyno'r cynlluniau i'r Cynulliad Cenedlaethol
5.
- (1) Rhaid paratoi cynlluniau strategol addysg bob blwyddyn.
(2) Rhaid i bob awdurdod gyflwyno ei gynllun llawn 2002 - 05 i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y 31 Mai 2002.
(3) Rhaid i bob awdurdod gyflwyno cynllun dilynol (p'un ai llawn neu atodol) i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn 30 Ebrill cyn diwrnod cyntaf y cynllun hwnnw.
Cyhoeddi'r cynllun strategol addysg
6.
- (1) Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi copi llawn o'i gynllun a gymeradwywyd -
(a) drwy sicrhau fod copi electronig neu ysgrifenedig ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod, a
(b) drwy ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol,
ar neu cyn diwrnod cyntaf y cynllun, neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r cynllun gael ei gymeradwyo, os yw hynny'n ddiweddarach.
(2) Rhaid i bob awdurdod ddarparu copi o'i gynllun a gymeradwywyd, neu fersiwn cryno ohono -
(a) i bennaeth a chadeirydd corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a
(b) i unrhyw berson arall os bydd y person hwnnw yn gwneud cais yn ysgrifenedig.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "cynllun a gymeradwywyd" yw cynllun strategol addysg sy'n gynllun llawn, yn gynllun atodol, neu'n gynllun wedi'i addasu, lle mae'r datganiad o gynigion wedi cael ei gymeradwyo o dan adran 7(2) neu 7(8) o Ddeddf 1998, a rhaid dehongli "a gymeradwywyd" mewn perthynas â chynllun o'r fath yn unol â hynny.
(4) Bernir y bydd y gofyniad ym mharagraff (2)(a) wedi'i fodloni os bydd yr awdurdod wedi hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fod cynllun yr awdurdod a gafodd ei gymeradwyo neu fersiwn gryno ohono ar gael ar wefan y mae'r awdurdod yn ei chynnal neu ar y Rhyngrwyd.
RHAN II
CYNLLUNIAU LLAWN - DATGANIAD O GYNIGION
Blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion
7.
Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn -
(a) nodi'r blaenoriaethau a nodwyd gan yr awdurdod ar gyfer codi safonau'r addysg a ddarperir ar gyfer plant yn ardal yr awdurdod yn ystod cyfnod y cynllun ac ar gyfer gwella perfformiad yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw, ac unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal;
(b) pennu, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), ar ba sail y cafodd ei nodi a sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11;
(c) rhestru, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), y gweithgareddau y mae'r awdurdod yn bwriadu ymgymryd â hwy yn ystod cyfnod y cynllun er mwyn mynd i'r afael â'r flaenoriaeth honno;
(ch) cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro'r perfformiad yn ystod cyfnod y cynllun mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ac yn ei ardal;
(d) cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu nodi a chefnogi ysgolion sy'n achosi pryder;
(dd) gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraff (a); ac
(e) cynnwys datganiad yn nodi'r camau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.
Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig
8.
Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn -
(a) nodi polisi'r awdurdod ar ddarparu addysg i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig;
(b) nodi polisi'r awdurdod ar gyfer darparu addysg i ddisgyblion o'r fath mewn ysgolion prif-ffrwd;
(c) pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer darparu a gwella cefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn ystod cyfnod y cynllun;
(ch) pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer hybu ei bolisi ar gynnwys disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd yn ystod cyfnod y cynllun; a
(d) gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraffau (c) ac (ch).
Hybu ymwybyddiaeth hil
9.
Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn sy'n ymwneud â'r tair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2005 ac mewn cynlluniau llawn dilynol -
(a) nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hil mewn ysgolion; a
(b) nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.
Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol
10.
Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn -
(a) nodi polisi'r awdurdod ar y ddarpariaeth addysg i ddisgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal; a
(b) pennu safonau addysgol y dylai disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn ardal yr awdurdod fod yn eu cyrraedd yn yr ysgolion a gynhelir ganddo, ac wrth osod safonau o'r fath, rhaid i'r awdurdod roi sylw i dargedau cenedlaethol a osodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y safonau addysgol y mae disgyblion o'r fath i'w cyrraedd.
Targedau
11.
- (1) Yn y datganiad o gynigion mewn cynllun llawn rhaid i'r awdurdod osod targedau ar gyfer y flwyddyn gyntaf a'r ail yng nghyfnod y cynllun mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
(2) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw -
(a) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12;
(b) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13;
(c) cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14;
(ch) canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15;
(d) nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16;
(dd) nifer y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'i nodir yn rheoliad 17; ac
(e) cyfradd yr absenoldebau diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18.
Disgyblion yng nghyfnod allweddol dau
12.
- (1) Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.
(2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(a) ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;
(b) canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;
(c) canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac
(ch) canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "y grp perthnasol o ddisgyblion o'r fath", mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno -
(a) yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a
(b) ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau.
Disgyblion yng nghyfnod allweddol tri
13.
- (1) Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.
(2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(a) ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 5 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;
(b) canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;
(c) canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac
(ch) canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "y grp perthnasol o ddisgyblion o'r fath", mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno -
(a) yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a
(b) ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri.
Disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed
14.
- (1) Cyraeddiadau'r disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) mewn perthynas â pherfformiad y grp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed mewn arholiadau erbyn diwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae targedau yn cael eu gosod mewn perthynas â hwy.
(2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(a) canran y disgyblion sydd i gyflawni'r dangosydd pynciau craidd;
(b) canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;
(c) canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;
(ch) canran y disgyblion a fydd yn ennill unrhyw radd o A* i C mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU;
(d) canran y disgyblion a fydd yn cyflawni unrhyw radd o A* i G mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU; ac
(dd) canran y disgyblion a fydd yn ymadael â'r ysgol heb naill ai ennill unrhyw radd o A* i G mewn arholiadau TGAU neu basio unrhyw arholiadau ELQ.
(3) O ran y cyfeiriadau at ddisgyblion -
(a) sy'n ennill graddau penodol mewn arholiadau TGAU ym mharagraff (2) (ch), (d) ac (dd), rhaid eu dehongli at ddibenion y darpariaethau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at ddisgyblion sy'n ennill dyfarniadau cyfatebol mewn nifer cyfatebol o gymwysterau galwedigaethol neu arholiadau cwrs byr TGAU; a
(b) sy'n ymadael â'r ysgol ym mharagraff 2(dd) nid ydynt yn cynnwys disgyblion sy'n trosglwyddo i sefydliad addysgol arall ar sail llawnamser.
(4) Bydd gan yr Atodlen effaith ar gyfer penderfynu, at ddibenion y rheoliad hwn, ar gwestiynau ynghylch -
(a) pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU;
(b) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol; ac
(c) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU.
(5) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 15, ystyr "y grp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed" mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant -
(a) ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ysgol honno yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a
(b) yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol honNo.
15.
Canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r ganran o'r grp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed, fel y'i diffinnir yn rheoliad 14, yn ardal yr awdurdod na fydd eu henwau yn cael eu cyflwyno i sefyll unrhyw arholiad TGAU, arholiad cwrs byr TGAU, dyfarniad cymhwyster galwedigaethol neu ELQ.
Targedau ar gyfer gwaharddiadau parhaol
16.
- (1) Nifer y gwaharddiadau parhaol y cyfeirir ato yn rheoliad 11 yw uchafswm nifer yr achlysuron y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd yn barhaol o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.
(2) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 17, dylid dehongli "gwahardd" yn unol ag "excluded" yn adran 64(4) o Ddeddf 1998.
Targedau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodedig
17.
Y gwaharddiadau cyfnod penodedig y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw -
(a) uchafswm nifer y diwrnodau, a
(b) uchafswm nifer yr achlysuron,
pryd y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd am gyfnod penodedig o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.
Targedau ar gyfer absenoldebau diawdurdod
18.
- (1) Y gyfradd absenoldeb diawdurdod y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r gyfradd absenoldeb diawdurdod ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed yn cael ei osod mewn perthynas â hi, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw am ysgolion arbennig ac unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.
(2) Yn y rheoliad hwn -
(a) ystyr "y gyfradd absenoldeb diawdurdod", mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw cyfanswm yr absenoldebau diawdurdod o'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno, wedi'i fynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn y cyfnod hwnnw;
(b) ystyr "absenoldeb diawdurdod" yw achlysur pan fo disgybl dydd perthnasol wedi'i gofrestru yn absennol o'r ysgol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995[10];
(c) ystyr "cyfanswm y presenoldebau posibl", mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw'r nifer a geir yn sgil lluosi nifer y disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gyda nifer y sesiynau ysgol yn y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno;
(ch) ystyr "disgybl dydd perthnasol", mewn perthynas ag ysgol a blwyddyn ysgol, yw disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol honno heblaw am -
(i) byrddiwr, neu
(ii) disgybl sydd, cyn dechrau'r flwyddyn ysgol honno, naill ai heb gyrraedd deg oed a chwe mis, neu sydd wedi cyrraedd un ar bymtheg oed;
(d) ystyr "y cyfnod perthnasol", mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r flwyddyn honno ac sy'n gorffen gyda diwedd y diwrnod ysgol sy'n disgyn ar y dydd Gwener cyn y dydd Llun olaf ym Mai yn y flwyddyn honno; ac
(dd) mae i "addysg uwchradd" yr ystyr a roddir i "secondary education" yn adran 2(2) o Ddeddf 1996.
Gwybodaeth a ddefnyddir gan awdurdod wrth osod targedau
19.
Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn -
(a) disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cyfatebol ar gyfer y flwyddyn honno a osodir gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yn rhinwedd Rheoliadau 1999;
(b) disgrifio sut y bydd yr awdurdod yn mynd ati gyda ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion o'r fath i osod y targedau y mae gofyn iddynt eu gosod yn rhinwedd Rheoliadau 1999, gan gynnwys disgrifiad o'r wybodaeth a roddir gan yr awdurdod i gyrff llywodraethu o'r fath er mwyn eu cynorthwyo i osod y targedau hynny;
(c) disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cenedlaethol a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru; ac
(ch) crynhoi'r wybodaeth a ddefnyddir gan yr awdurdod wrth osod y targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11.
RHAN III
ATODIADAU CYNLLUNIAU LLAWN
Cyd-destun yr awdurdod addysg lleol
20.
Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad gan yr awdurdod yn rhoi disgrifiad o nodweddion allweddol yr awdurdod sydd ym marn yr awdurdod yn berthnasol i wella ac i godi safonau ysgolion yn ei ardal.
Adnoddau
21.
Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos gwariant cynlluniedig awdurdod a gaiff ei ddidynnu o'i gyllideb ysgolion lleol, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae diwrnod cyntaf y cynllun yn disgyn ynddi, mewn perthynas â'r blaenoriaethau a nodir yn y datganiad o gynigion yn unol â rheoliad 7(a), wedi'i ddadansoddi, drwy gyfeirio at wariant, yn y categorïau canlynol -
(a) y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwariant a gefnogir gan grantiau penodol),
(b) y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 3 i 15 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (darpariaeth o natur arbennig), ac
(c) y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 20 i 23 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwella ysgolion).
Gwybodaeth ar ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig
22.
- (1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos -
(a) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer ym mhob un o'r tair blwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;
(b) nifer y disgyblion nad ydynt yn destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;
(c) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn dosbarthiadau prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(ch) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod, naill ai mewn dosbarth arbennig neu gyda darpariaeth adnoddau arbennig, yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(d) nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(dd) cyfanswm y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun a oedd wedi'u cofrestru fel disgyblion -
(i) mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau eraill, a
(ii) mewn ysgolion annibynnol.
(2) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys -
(a) disgrifiad o'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau partneriaeth rieni ar gael;
(b) disgrifiad o'r trefniadau mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn monitro a yw'r ddarpariaeth addysgol ac arall a nodir ym mhob datganiad a wneir o dan adran 324 o Ddeddf 1996 yn cael ei chyflwyno;
(c) datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod i fonitro'r safonau addysgol y mae'r disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn eu cyrraedd; ac
(ch) datganiad yn nodi mecanwaith ariannu'r awdurdod ar gyfer darpariaeth anghenion addysgol arbennig.
(3) Yn y rheoliad hwn -
(a) ystyr "cyfanswm y disgyblion" yw cyfanswm y disgyblion y mae'r awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer;
(b) mae pob cyfeiriad at nifer o ddisgyblion mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn gyfeiriad at nifer y disgyblion hynny ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn honno; ac
(c) ystyr "gwasanaethau partneriaeth rieni", mewn perthynas â phob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002 - 05, yw'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 332A o Ddeddf 1996[11] i ddarparu cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig i rieni plant ag anghenion addysgol arbennig, ond ei ystyr mewn perthynas â chynllun llawn 2002 - 05 yw unrhyw drefniadau o'r fath a all fod wedi cael eu gwneud neu eu cynllunio gan yr awdurdod.
Gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig
23.
- (1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn ddisgrifio'r trefniadau ar gyfer darparu Saesneg fel iaith ychwanegol ar gyfer disgyblion nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, yn y flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw.
(2) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn, heblaw cynllun llawn 2002 - 05, gynnwys mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw -
(a) cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer,
(b) dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,
fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.
Gwybodaeth ar blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol
24.
Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod ar gyfer monitro'r safonau addysgol y mae disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn eu cyrraedd.
Gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr
25.
- (1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002 - 05, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw -
(a) pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,
(b) pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad y cyfryw ddisgyblion mewn ysgolion o'r fath, a
(c) nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.
(2) Rhaid i'r atodiadau ym mhob cynllun llawn mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu i gynorthwyo disgyblion sy'n blant i deithwyr.
Monitro a gwerthuso
26.
- (1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys -
(a) esboniad o sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso -
(i) ei gyraeddiadau mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7, gan gynnwys sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso cyraeddiadau'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal,
(ii) ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â gweithredu ei bolisïau a'i gynigion y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8 a 10,
(iii) ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyrraedd y safonau addysgol y cyfeirir atynt yn rheoliad 10,
(iv) ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11, a
(v) defnydd yr awdurdod o adnoddau i gefnogi'r cynllun;
(b) asesiad gan yr awdurdod -
(i) i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn lawn gyntaf y cynllun o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno, a
(ii) i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun atodol diweddaraf yr awdurdod;
(c) gwerthusiad gan yr awdurdod o'i weithgareddau a'i gyraeddiadau yn ystod cyfnod y cynllun llawn blaenorol -
(i) mewn perthynas â'r blaenoriaethau a ganfyddir ar gyfer codi safonau addysg, a
(ii) mewn perthynas â'r blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion a gweithgareddau sy'n ymwneud â hynny,
fel y cawsant eu gosod yn y cynllun llawn blaenorol; ac
(ch) ym mhob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002 - 05, i ba raddau y mae'r awdurdod wedi gweithredu'r polisi a'r strategaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.
(2) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun llawn yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.
Ymgynghori gan yr awdurdod
27.
Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad o'r ymgynghori a wnaed gan yr awdurdod wrth baratoi'r cynllun gan gynnwys, yn benodol -
(a) nifer y personau a'r math o bersonau yr ymgynghorwyd â hwy;
(b) crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori; ac
(c) sut y cafodd yr atebion hynny eu hadlewyrchu, os o gwbl, yn y cynllun.
Strwythur yr awdurdod
28.
Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad -
(a) o strwythur pwyllgorau yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg; a
(b) o strwythur trefniadol yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg a chefnogaeth ar gyfer gwella ysgolion.
RHAN IV
CYNLLUNIAU ATODOL
Gwella Ysgolion
29.
Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol gynnwys crynodeb gan yr awdurdod o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.
Targedau
30.
- (1) Yn y datganiad o gynigion a gynhwysir mewn cynllun atodol rhaid i'r awdurdod osod targedau mewn cysylltiad â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), fel a ganlyn -
(a) yn y cynllun atodol cyntaf, targedau ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn;
(b) yn yr ail gynllun atodol, targedau ar gyfer y drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn ac ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun llawn dilynol.
(2) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(a) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12,
(b) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13,
(c) cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14,
(ch) canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15,
(d) nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16,
(dd) y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'u nodir yn rheoliad 17, ac
(e) y gyfradd absenoldeb diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18,
heblaw bod y geiriau "rheoliad 11" yn cael eu hamnewid am y geiriau "rheoliad 30" ym mhob un o'r rheoliadau y cyfeirir atynt.
Hybu ymwybyddiaeth hiliol
31.
Rhaid i'r datganiad o gynigion a gynhwysir yn y cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 -
(a) nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion; a
(b) nodi strategaeth yr awdurdod i atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.
Monitro a gwerthuso
32.
- (1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol gynnwys -
(a) asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno; a
(b) asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun diweddaraf yr awdurdod (p'un ai cynllun llawn neu atodol).
(2) Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys adroddiad ar weithgareddau'r awdurdod i hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion ac atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.
(3) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.
Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig
33.
Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol ddangos -
(a) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(b) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad naill ai a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth arbennig neu sy'n cael darpariaeth adnoddau arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun; ac
(c) nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun.
Disgyblion o leiafrifoedd ethnig
34.
Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 -
(a) cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun, a
(b) dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,
fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.
Disgyblion sy'n blant i deithwyr
35.
Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 -
(a) pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,
(b) pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad disgyblion sy'n blant i deithwyr mewn ysgolion o'r fath, a
(c) nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Ebrill 2002
YR ATODLEN(Rheoliad 14)
(Darpariaethau atodol ynghylch targedau perfformiad a chanlyniadau cyrhaeddiad disgyblion)
1.
- (1) At ddibenion rheoliad 14, bydd cwestiynau ynghylch -
(a) pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU,
(b) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol, ac
(c) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU,
yn cael eu penderfynu yn unol ag is-baragraffau (2) i (8).
(2) Caiff GNVQ Canolradd llawn, neu NVQ ar lefel 2, eu trin fel pe baent yn cyfateb i radd A* i C mewn pedwar pwnc TGAU.
(3) Caiff GNVQ Sylfaen llawn, neu NVQ ar lefel 1, eu trin fel pe baent yn cyfateb i radd D i G mewn pedwar pwnc TGAU.
(4) Caiff GNVQ Rhan Un (lefel Canolradd) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd A* i C mewn dau bwnc TGAU.
(5) Caiff GNVQ Rhan Un (lefel Sylfaen) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd D i G mewn dau bwnc TGAU.
(6) Caiff Uned Iaith GNVQ (lefel Ganolradd) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd A* mewn hanner pwnc TGAU.
(7) Caiff Uned Iaith GNVQ (lefel Sylfaen) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd D mewn hanner pwnc TGAU.
(8) Caiff gradd mewn arholiad sy'n gysylltiedig â chwrs byr TGAU ei drin fel pe bai'n cyfateb i'r radd honno mewn hanner pwnc TGAU.
2.
At ddibenion gosod y targedau a bennir yn rheoliad 11, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at ennill neu ddyfarnu -
(a) gradd mewn arholiad TGAU,
(b) cymhwyster galwedigaethol, neu
(c) gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,
fel pe bai'n gyfeiriad at ddyfarnu neu ennill gradd neu gymhwyster erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y mae gofyn gosod targedau o'r fath yn rhinwedd y rheoliad hwnnw mewn perthynas â hi.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999 heblaw am yr eithriad sy'n ymwneud â dilysrwydd y cynlluniau sydd eisoes yn bodoli, ac maent yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
Mae adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol baratoi cynllun datblygu addysg (a elwir yng Nghymru yn gynllun strategol addysg) ar gyfer eu hardal.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynlluniau llawn sy'n cwmpasu cyfnod o 3 blynedd a chynlluniau atodol ar gyfer ail a thrydedd flwyddyn y cynllun llawn, gan gynnwys y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion a gynhwysir yn y cynlluniau ymwneud ag ef (rheoliad 4), y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi'r cynlluniau rhyngddynt a'r dyddiad y mae'n ofynnol cyflwyno'r cynlluniau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 5) a darpariaethau ynghylch cyhoeddi'r cynlluniau a chyflenwi copïau (rheoliad 6).
Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn nodi materion y mae'n rhaid i'r datganiad o'r cynigion mewn cynllun llawn ymdrin â hwy. Mae'r rhain yn cynnwys blaenoriaethau'r awdurdod ar gyfer codi safonau a'r gweithgareddau y bydd yn ymgymryd â hwy er mwyn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny a gosod targedau cynnydd ar gyfer y blaenoriaethau hynny (rheoliad 7); polisi'r awdurdod ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a gweithgareddau i hybu'r polisïau hynny a gosod targedau cynnydd ar gyfer y blaenoriaethau hynny (rheoliad 8); polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol a'i strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion (yn y cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 9); polisi'r awdurdod ar addysg i blant sy'n derbyn gofal (rheoliad 10); pennu targedau ar gyfer blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn y cynllun (rheoliad 11); cyraeddiadau y mae'n rhaid pennu targedau mewn perthynas â hwy ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol dau a thri ac ar gyfer disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed (rheoliadau 12, 13 ac 14); targedau ar gyfer cyflwyno enwau disgyblion fydd yn 16 oed ar gyfer sefyll arholiadau (rheoliad 15); targedau ar gyfer gwahardd yn barhaol ac am gyfnod penodedig ac absenoldebau diawdurdod (rheoliadau 16, 17 a 18); a chrynodeb o'r wybodaeth a defnyddir gan yr awdurdod wrth bennu ei dargedau (rheoliad 19).
Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn nodi'r deunydd y mae'n rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn eu cynnwys. Mae'r rhain yn cynnwys disgrifiad o nodweddion allweddol yr awdurdod (rheoliad 20); tabl sy'n dangos defnydd yr awdurdod o adnoddau i gefnogi cynllun llawn (rheoliad 21); tabl sy'n dangos gwybodaeth atodol ar blant ag anghenion addysgol arbennig a disgrifiad o drefniadau'r awdurdod ar gyfer monitro safonau addysgol plant o'r fath (rheoliad 22); gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig (mewn cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 23); gwybodaeth atodol ar blant sy'n derbyn gofal (rheoliad 24); gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a threfniadau'r awdurdod i gynorthwyo disgyblion o'r fath (mewn cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 25); esboniad o gynigion yr awdurdod ar gyfer monitro ei berfformiad o dan y cynllun (rheoliad 26); disgrifiad o'r ymgynghori a wnaed gan yr awdurdod wrth baratoi'r cynllun (rheoliad 27); a disgrifiad o strwythur pwyllgorau a strwythur trefniadol yr awdurdod (rheoliad 28).
Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn nodi'r anghenion ar gyfer cynlluniau atodol. Mae'r rhain yn cynnwys crynodeb o'r camau a gynigir i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion wrth gyflawni targedau (rheoliad 29); datganiad o gynigion sy'n cynnwys diweddariad o holl dargedau'r awdurdod ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol (rheoliad 30); polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol a'i strategaeth ar fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion, mewn perthynas yn unig â'r cynllun atodol ar gyfer 2003 - 05 (rheoliad 31); atodiad sy'n cynnwys asesiad gan yr awdurdod o'r graddau y mae'r targedau wedi'u cyflawni (rheoliad 32); atodiad sy'n cynnwys gwybodaeth ystadegol ar ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig (rheoliad 33); gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig (yn y cynllun atodol ar gyfer 2003 - 05 yn unig) (rheoliad 34); a gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a threfniadau'r awdurdod i gynorthwyo'r cyfryw ddisgyblion (yn y cynllun atodol ar gyfer 2003 - 05 yn unig) (rheoliad 35).
Notes:
[1]
1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/1439.back
[4]
1996 p.56.back
[5]
1989 p.41.back
[6]
2000 p.21.back
[7]
Y gorchmynion priodol sydd mewn grym ar hyn o bryd yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997, O.S. 1997/2009, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1977 a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997, O.S. 1977/2010, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976 ac O.S. 2001/889 (Cy.40).back
[8]
O.S. 1999/1811.back
[9]
O.S. 1999/101 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy.40), O.S 2001/495 (Cy.22) ac O.S. 2002/136 (Cy.19).back
[10]
O.S. 1995/2089, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, O.S. 1999/2267 ac O.S. 2001/1109 (Cy.53).back
[11]
Mewnosodwyd adran 332A gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).back
[12]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11 090485 0
|
Prepared
10 May 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021187w.html