BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1400 (Cy.139)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'u gwneud |
21 Mai 2002 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Mai 2002.
Diwygio Rheoliadau
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), ar gyfer y diffiniadau o "NC tests" (yn y ddau le) a "NC tasks" amnewidiwch -
"
"NC tests" and "NC tasks" means, respectively, National Curriculum tests and National Curriculum tasks administered to pupils in accordance with the statutory arrangements;".
(3) Yn Atodlen 3, hepgorwch -
(a) ym mharagraff 18, yn is-baragraff (3) y geiriau "Subject to sub-paragraph (8)" a'r geiriau "and specifying the percentage of pupils who were absent from the NC tests";
(b) ym mharagraff 18, yn is-baragraff (5) y geiriau "Subject to sub-paragraph (8)"; ac
(c) ym mharagraff 18, is-baragraff (8).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mai 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 yn sgil diddymu "tasgau asesu safonol" (profion) yng Nghymru a wnaed yn effeithiol gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)).
Notes:
[1]
1996 p.56. Diwygiwyd adran 537(4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 537(1) gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) ac adran 537(7) gan baragraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/1812, wedi'i ddiwygio gan O.S. 2001/1111 (Cy.55) ac O.S. 2001/3710 (Cy. 306).back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090496 6
|
Prepared
5 June 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021400w.html