BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cig (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021476w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1476 (Cy.148)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 30 Mai 2002 
  Yn dod i rym
  ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw sefydliad cig bach; ac 7 Mehefin 2002 
  ar i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw sefydliad cig bach 7 Mehefin 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(b) ac (f) a 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], (ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno);

a chan ei fod wedi'i ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[4]) mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno i'r graddau y maer'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Arifeiliaid) (Mewnforio ac Allforio) 1996 [5]; ac

Ar ôl ymgynghori yn unol â gofyniad erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewrop sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd[6];

yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso, dehongli a chwmpas
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (Cymru) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ladd-dy cig coch trwyddedig sy'n cael ei ddefnyddio i brosesu anifeiliaid buchol o dan y cynllun prynu a gyflwynwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 ac a fabwysiadodd fesurau cynnal eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig[9]

Cychwyn
     2.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Mehefin 2002.

    (2) Er gwaethaf paragraff (1) uchod, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Mehefin 2003, i'r graddau y maent yn gymwys i unrhyw sefydliad cig bach.

    (3) At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr "sefydliad cig bach" ("small meat establishment") yw - 

Diwygiadau i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995
    
3.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae'r Rheoliadau Cig Ffres yn cael eu diwygio yn unol â pharagrffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Mewnosodir yr is-baragraff canlynol rhwng is-baragraffau (aA) a (b) o baragraff (1) o reoliad 8 (goruchwylio safleoedd) - 

    (3) Ym mharagraff (1)(e) o reoliad 8, rhoddir yr ymadrodd ", 17, 17A, 17B, and 17C" yn lle'r ymadrodd "and 17".

    (4) Yn is-baragraff (d) o baragraff (1) o reoliad 20 (dyletswyddau meddiannydd) - 

    (5) Yn is-baragraff (e) o baragraff (1) o reoliad 20, rhoddir y geiriau "by virtue of" yn lle'r geiriau "pursuant to".

    (6) Mewnosodir yr is-baragraffau canlynol rhwng is-baragraffau (e) ac (f) o baragraff (1) o reoliad 20 - 

    (7) Mae'r paragraffau canlynol yn cael eu hychwanegu ar ôl paragraff (3) o reoliad 20 - 

    (8) Mewnosodir yr Atodlenni canlynol rhwng Atodlenni 17 a 18 - 



Diwygiadau i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod , (Hylendid ac Archwilio) 1995
    
4.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae'r Rheoliadau Cig Dofednod yn cael eu diwygio yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Mewnosodir yr is-baragraff canlynol rhwng is-baragraffau (aA)) a (b) o baragraff (1) o reoliad 8 (goruchwylio safleoedd) - 

    (3) Yn is-baragraff (d) o baragraff (1) o reoliad 18 (dyletswydd meddiannydd) - 

    (4) Rhoddir y testun canlynol yn lle paragraff (1)(e)(iv) o reoliad 18 - 

    (5) Ychwanegir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (3) o reoliad 18 - 

Diwygiadau canlyniadol
    
5. I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 yn gymwys i Gymru - 

"SI 2002/47 (W.6)

The Meat (Hazard Analysis and Critical Control Point) (Wales) Regulations 2002.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mai 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio - 

yn y ddau achos i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae O.S. 1995/539 ac O.S. 1995/540 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae OS 1995/539 yn cael ei ddiwygio gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac mae OS 1995/540 yn cael ei ddiwygio gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith yng Nghymru i Benderfyniad y Comisiwn 2001/471/EC sy'n gosod rheolau ar gyfer y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol sy'n cael eu cyflawni gan y gweithredwyr mewn sefydliadau yn unol â Chyfarwyddeb 64/433/EEC ar amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a marchnata cig ffres a Chyfarwyddeb 71/118/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (OJ Rhif L165, 21.6.2001, t. 48). Maent yn dod i rym ar 7 Mehefin 2002, ac eithrio mewn perthynas â "sefydliadau cig bach"  -  a ddiffinnir yn rheoliad 2(3)  -  ac yn yr achos hwnnw maent yn dod i rym ar 7 Mehefin 2003.

    
3. Effaith y diwygiadau sydd wedi'u gwneud i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 yw - 

     4. Effaith y diwygiadau sydd wedi'u gwneud i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod, (Hylendid ac Archwilio) 1995 yw bod meddiannydd unrhyw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cigydda dofednod, safle torri add-dy sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer torri cig dofednod ffres, storfa oer sy'n cael ei defnyddio ar gyfer storio cig dofednod ffres neu ganolfan ail-lapio sy'n cael ei defnyddio ar gyfer pacio, lapio neu ail-lapio cig dofednod ffres (sydd, ym mholo achos, wedi'u drwyddedu o dan y Rheoliadau hynny) yn gorfod gwneud y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny a'r rheiny'n wiriadau sydd eisoes yn ofynnol o dan reoliad 18(1)(d) o'r Rheoliadau hynny drwy weithredu a chynnal gweithdrefn barhaol sydd wedi'i llunio yn unol ag egwyddorion penodol DPPhRhC.

    
5. Mae Rheoliad 5 (a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (OS 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    
6. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1 EN.


Notes:

[1] 1990 p. 16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] OS 1999/2788.back

[4] 1972 (p.68).back

[5] OS 1996/3124 fel y'u diwygiwyd gan OS 1997/3023, OS 1998/994, OS 1999/683, OS 2000/656, OS 2000/1885 (Cy.131), OS 2000/2257 (Cy.150), OS 2001/2198 (Cy.158), OS 2001/2219 (Cy.159) a OS 2001/1660 (Cy.119).back

[6] OJ Rhif L31, 1.2.2001, t.1.back

[7] O.S. 1995/540, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/3205, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/343 (Cy.15) ac O.S. 2001/2198 (Cy.158).back

[8] O.S. 1995/539, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729, O.S. 1997/2074, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/343(Cy.15), 2001/1508 (Cy.105), 2001/1740 (Cy.123), 2001/1802 (Cy.131), 2001/2627 (Cy.216), O.S. 2001/3459 (Cy.279) ac O.S. 2002/129 (Cy.17).back

[9] OJ Rhif L99, 20.4.96, t.14.back

[10] The "ISO" is the International Organisation for Standardisation. All ISO Standards say that copies of them, and any subsequent revisions thereto, may be obtained from the Britiah Standards Institute (www.bsi-global.com).back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090512 1


  Prepared 3 July 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021476w.html