BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021795w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1795 (Cy.170)

IECHYD CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 9 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Cymeradwyo codau ymarfer
    
2. Mae Codau Ymarfer canlynol y Sefydliad Safonau Prydeinig ("British Standards Institution") wedi'u cymeradwyo fel codau addas ar gyfer rhoi cyfarwyddyd ar leiafu swcirc n:

Diddymu
    
3. Mae Gorchymyn Rheoli Swcirc n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987[4] wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo codau ymarfer er mwyn rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leiafu swcirc n (sy'n cynnwys dirgryniad) a rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo cod ymarfer o'r fath ar gyfer cyflawni gweithfeydd y mae adran 60 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a thrwsio ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o weithfeydd adeiladu peirianyddol.

Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i gymeradwyo codau ymarfer wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo'r pedwar cod ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2. Mae'r cod ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli swcirc n a dirgryniad a grybwyllir yn Erthygl 2(a) yn gymwys i bob safle adeiladu a safle agored. Mae'r codau ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2(b), (c) a (ch) yn gymwys, yn ychwanegol, i echdynnu glo arwyneb, gwaith gosod pyst a safleoedd echdynnu mwynau arwyneb yn y drefn honNo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Rheoli Swcirc n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987 mewn perthynas â Chymru.

Gellir cael copiau o'r codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo, yn bersonol neu drwy'r post, oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig ("British Standards Institution"). Eu cyfeiriad yw Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.

Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo:

BS 5228: Rhan 1: 1997 (gyda Diwygiad 1) ISBN 0 580 26845 4
BS 5228: Rhan 3: 1997 ISBN 0 580 26874 8
BS 5228: Rhan 4: 1992 ISBN 0 580 20381 6
BS 5228: Rhan 5: 1997 ISBN 0 580 28306 2


Notes:

[1] 1974 p.40.back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1984/1992.back

[4] O.S. 1987/1730.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090526 1


  Prepared 29 July 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021795w.html