BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1876 (Cy.185)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989[3].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Ffioedd ar gyfer rhai ceisiadau o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir
2.
- (1) Yn rheoliad 11A o Reoliadau 1989[4], yn lle paragraff (1), rhowch -
"
(1) Where an application is made to a local planning authority for their determination as to whether the prior approval of the authority will be required in relation to development under Schedule 2 to the General Permitted Development Order a fee shall be paid to the authority of the following amounts -
(a) for an application under Parts 6, 7 or 31, £35; and
(b) for an application under Part 24, £190".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r ffi sydd i'w dalu am wneud cais i awdurdod cynllunio lleol am ddyfarniad a fydd gofyn am gydsyniad o flaen llaw o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995 ar gyfer datblygiad telathrebu arfaethedig.
Cynyddir y ffi o £35 i £190 er mwyn adlewyrchu'r cynnydd yn y gofynion rhybuddio ac ymgynghori a osoidir ar awdurdodau cynllunio lleol mewn perthynas â datblygiadau o'r fath gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002, O.S. 2002/1878 (Cy.187).
Notes:
[1]
1990 p.8: diwygiwyd adran 303 gan baragraff 10 o Atodlen 13 i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), a chan adran 6(6) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991(p.34). Gweler adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back
[2]
Trosglwyddwyd cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 303, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
O.S.1989/193; 1991/2735, 1992/1817, 1993/3170 a 1997/37 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back
[4]
Mewnosodwyd Rheoliad 11A gan baragraff 3 o Atodlen 3 i O.S.1991/2735 ac fe'i hamnewidiwyd gan reoliad 4 o O.S.1992/3052.back
[5]
1998 p.38back
English
version
ISBN
0 11090537 7
|
Prepared
5 August 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021876w.html