BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021877w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1877 (Cy.186)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 65, 69, 71, 73(3), 74, 77(4), 78, 79(4), 188, 193, 196(4) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a pharagraffau 5, 6, 7(6) ac 8(6) o Atodlen 1 iddi[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Gorchymyn 1995" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[3] ac mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yng Ngorchymyn 1995.

Diwygio Gorchymyn 1995
     3. Mewnosodwch yng Ngorchymyn 1995, ar ôl erthygl 5 - 

Darpariaethau trosiannol
     4. Nid yw'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i Orchymyn 1995 gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir cyn y daw'r Gorchymyn hwn i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 mewn perthynas â Chymru er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol bod datganiad ysgrifenedig bod y cyfarpar a gosodiad y mae'r cais yn perthyn iddynt wedi'u cynllunio fel y byddant, ar ôl cael eu hadeiladu neu'u hosod, yn gweithio yn y fath fodd ag i gydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd Anïoneiddio ar ddatguddio'r cyhoedd i amleddau radio yn cyd-fynd â phob cais i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu er mwyn gweithredu system delathrebu.

Mae llawer ffurf ar ddatblygu sy'n perthyn i gyfarpar telathrebu yn mwynhau hawliau datblygu a ganiateir o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Trwy ddiwygiad i'r Gorchymyn hwnnw, mae gofyniad yn cael ei gyflwyno hefyd fod datganiad tebyg yn cyd-fynd â cheisiadau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru am ddyfarniadau ynghylch a yw cymeradwyaeth o flaen llaw yn ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw lle bo gofyn am gais felly mewn cysylltiad â datblygu sy'n ymwneud ag adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu.


Notes:

[1] 1990 p.8.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 61(1), 65, 69, 71, 73(3), 74, 77(4), 78, 79(4), 188, 193, 196(4) a 333(7), a pharagraffau 5, 6, 7(6) ac 8(6) o Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S.1995/419.back

[4] 1984 p. 12; diwygiwyd adran 10 gan O.S. 1997/2930.back

[5] 1999/519/EC.back

[6] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090536 9


  Prepared 5 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021877w.html