BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021878w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1878 (Cy.187)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynlliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifenydd Gwladol gan adrannau 59, 60, 61(1) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], ac sydd bellach yn aferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Gorchymyn 1995" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995[3] ac mae unrhyw gyfeiriad at Ran 24 yn gyfeiriad at y rhan o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Diwygiadau i Ran 24: Datblygu gan weithredwyr systemau cod telathrebu
     3. Yn lle Rhan 24 rhowch y testun a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Diddymu a darpariaethau trosiannol
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) 1998[4] ac erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) 1999[5], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    (2) Nid yw'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i Orchymyn 1995 gan y Gorchymyn hwn yn gymwys ar gyfer ceisiadau am ddyfarniad ynghylch a yw'n ofynnol i gael cymeradwyaeth o flaen llaw gan yr awdurdod cynllunio lleol am leoliad ac ymddangosiad datblygiad a wnaed cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



ATODLEN
Erthygl 3







EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, mewn perthynas â hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai ffurfiau ar ddatblygu telathrebu. Lle bo'r hawliau hynny yn gymwys nid oes angen cais penodol am ganiatâd cynllunio.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen yn amnewid Rhan 24 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 â fersiwn sydd wedi'i ddiwygio a'i gydgrynhoi, sy'n gymwys i Gymru, ac yn rhoi'r hawliau datblygu hynny a ganiateir.

Y prif newidiadau yw:

Mae'r weithdrefn ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo o flaen llaw yn gymwys i ddatblygu ar dir erthygl 1(5) neu ar dir sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu sydd o fewn safle o'r fath, neu lle bo'r datblygu yn cynnwys adeiladu, gosod, newid neu amnewid: mast; neu antena ar adeilad neu strwythur lle byddai'r teimlydd yn 4 metr neu fwy yn uwch na'r adeilad neu strwythur; neu blwch ffôn cyhoeddus; neu amgaead cyfarpar radio y mae ei gyfaint yn fwy na 2.5 metr ciwbig; neu ddatblygu sy'n atodol i amgaead cyfarpar radio.

Mae'n ofynnol i'r datblygwr hysbysu perchennog y tir y mae'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef ac unrhyw denant amaethyddol, cyn gwneud cais am gymeradwyaeth o flaen llaw.

Mae'n ofynnol, hefyd, i'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl i gais o'r fath ddod i law, ymgynghori â phersonau ac awdurdodau penodol, i ddyroddi hysbysiadau penodol ac i ystyried, pan fyddant yn dyfarnu ar y cais, y sylwadau a gafwyd ganddynt.

Estynnir y cyfnod pryd y mae'n rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ddyfarnu ar y cais o 28 diwrnod i 56 diwrnod. Os methant wneud hynny cyn diwedd y cyfnod hwnnw (neu os dyfarnant nad oes angen cymeradwyaeth neu y dylid rhoi cymeradwyaeth) gall y datblygu fynd yn ei flaen.

Mae mân newidiadau eraill yn cael eu gwneud i Ran 24, a hynny'n bennaf at bwrpas eglurdeb.


Notes:

[1] 1990 p.8.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60, 61(1) a 337(7), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S.1995/418; O.S.1998/462 ac O.S.1999/1661 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[4] O.S.1998/462.back

[5] O.S.1999/1661.back

[6] 1998 p.38.back

[7] 1989 c. 22.back

[8] 1999/519/ECback

[9] 1981 c. 69.back

[10] S.I. 1995/419.back

[11] 1984 c. 12; section 10 was amended by S.I. 1997/2930.back



English version



ISBN 0 11090535 0


  Prepared 5 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021878w.html